Disgrifiad: Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Pwyllgor Busnes

Mawrth 2020

 

 

 

 

Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau sy’n deillio o newid enw’r sefydliad

Diben

1.    Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae’r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu eu diwygio.

2.        Mae’r adroddiad yn argymell diwygiadau i newid enw’r sefydliad trwy gydol Rheolau Sefydlog, yn unol â darpariaethau Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Mae’r cynigion ar gyfer Rheolau Sefydlog newydd i’w gweld yn Atodiad A.

Cefndir

3.        Cafodd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 Gydsyniad Brenhinol ar 15 Ionawr. Mae’r Ddeddf yn newid enw’r sefydliad o Gynulliad Cenedlaethol Cymru / National Assembly for Wales i Senedd Cymru neu Welsh Parliament. Mae darpariaethau newid enw y Ddeddf yn dod i rym ar 6 Mai 2020.

 

4.        Mae Rhan 2 ac Atodlen 1 o’r Ddeddf gyda’i gilydd yn diwygio adran 1 (1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i’r canlynol:

 

1       The Assembly

(1)     There is to be a parliament for Wales to be known as Senedd Cymru or the Welsh Parliament (referred to in this Act as “the Senedd”).

 

5.        Mae Rhan 2 hefyd yn nodi sut y bydd enwau, teitlau a disgrifiadau cysylltiedig yn newid, fel yr amlinellir yn nhabl 1.

 

Tabl 1

Ar hyn o bryd

Fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf

National Assembly for Wales

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Senedd Cymru neu Welsh Parliament

 

Senedd Cymru neu Welsh Parliament

Assembly Member (AM)

 

Aelod Cynulliad (AC)

Member of the Senedd (MS)

 

Aelod o’r Senedd (AS)

Assembly Members (AMs)

 

Aelodau Cynulliad (ACau)

Members of the Senedd (MSs)

 

Aelodau o’r Senedd (ASau)

Clerk of the National Assembly for Wales

 

Clerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Clerk of the Senedd

 

Clerc y Senedd

National Assembly for Wales Commission

 

Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Senedd Commission

 

Comisiwn y Senedd

Act of the National Assembly for Wales

 

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Act of Senedd Cymru

 

Deddf Senedd Cymru

National Assembly for Wales Commissioner for Standards

 

Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Senedd Commissioner for Standards

 

 

Comisiynydd Safonau y Senedd

National Assembly for Wales Remuneration Board

 

Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Independent Remuneration Board of the Senedd

 

 

Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd

 

6.        Yn ogystal, mae Atodlen 1 gysylltiedig yn diwygio terminoleg arall Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i adlewyrchu’r enw newydd fel y’i nodir yn nhabl 2: eto, gan ddefnyddio Senedd drwyddi draw.

Tabl 2

Ar hyn o bryd

Fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf

Assembly constituency

 

Senedd constituency

Assembly constituency member

 

Senedd constituency member

Assembly electoral region

 

Senedd electoral region

Assembly proceedings

 

Senedd proceedings

Assembly regional member

 

Senedd regional member

Assembly’s legislative competence

 

Senedd’s legislative competence

 

7.        Felly mae’n rhaid i unrhyw gyfeiriadau yn y Rheolau Sefydlog at yr enwau a’r teitlau sydd wedi’u cynnwys yn nhablau 1 a 2 ddefnyddio’r derminoleg newydd a nodir gan y Ddeddf yn y ddwy iaith.

8.        Er bod y ddeddfwriaeth yn darparu bod gan y sefydliad ddau enw o statws cyfartal, waeth beth fo’u hiaith – ‘Senedd Cymru neu Welsh Parliament’ – mae’r Ddeddf yn cyfeirio at ‘Senedd’ drwyddi draw yn y ddwy iaith. Mae’r Memorandwm Esboniadol hefyd yn defnyddio ‘Senedd’ i ddisodli ‘Cynulliad’ a ‘Cynulliad Cenedlaethol Cymru’ mewn rhai cyd-destunau. Bwriad hyn oedd normaleiddio’r defnydd bob dydd o’r gair 'Senedd' mewn perthynas â’r sefydliad.

Newid Rheolau Sefydlog

9.        Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cynnwys darpariaeth (a fewnosodwyd gan Ddeddf Cymru 2017) sy’n caniatáu darllen cyfeiriadau at yr hen enw, mewn dogfennau fel Rheolau Sefydlog, fel yr enw newydd at ddibenion cyfreithiol. Fodd bynnag, bydd angen gwneud unrhyw newidiadau gwirioneddol i’r testun ac yna cytuno arnynt yn y ffordd arferol, h.y. trwy gynnig yn y Cyfarfod Llawn, gyda dwy ran o dair o’r Aelodau sy’n bresennol yn pleidleisio o blaid os cymerir y cynnig i bleidlais (Rheolau Sefydlog 33.2 a 33.3).

Penderfyniadau Comisiwn y Cynulliad

10.     Cyfarfu Comisiwn y Cynulliad ar 27 Ionawr i gytuno ar ei ddull o newid yr enw. Gwnaeth nifer o benderfyniadau, yn seiliedig ar fwriad y Ddeddf i normaleiddio’r defnydd bob dydd o’r gair Senedd mewn perthynas â’r sefydliad.

 

11.     Yn fwyaf arwyddocaol, cytunodd y Comisiynwyr i newid datganiad pwrpas y Cynulliad fel a ganlyn:

Senedd Cymru yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl. Mae’r Senedd, fel y’i gelwir, yn deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi yng Nghymru, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

12.     Cytunwyd bod yr esboniad o ‘Senedd’ yn y datganiad o ddiben yn caniatáu i’r gair gael ei ddefnyddio ym mhob deunydd wedi hynny, gyda’r logo yn atgoffa rhywun o’r enw ffurfiol. Bydd angen diwygio’r datganiad o ddiben y tu mewn i glawr blaen y Rheolau Sefydlog yn unol â phenderfyniad y Comisiwn.

 

Penderfyniadau’r Pwyllgor Busnes

 

13.     Yn ei gyfarfod ar 25 Chwefror, penderfynodd y Pwyllgor Busnes mai teitl newydd y Rheolau Sefydlog fyddai:

 

Rheolau Sefydlog Senedd Cymru / Standing Orders of the Welsh Parliament

 

14.     Penderfynwyd ymhellach, lle mae’r gair ‘Cynulliad’ neu ‘Assembly’ yn digwydd ar ei ben ei hun, y tu allan i’r ymadroddion yn nhablau 1 a 2, dylid defnyddio ‘Senedd’ yn ei le yn Saesneg a Chymraeg. Cytunwyd hefyd i gynnwys cofnod newydd yn yr eirfa yn egluro bod ‘Senedd’ yn cael ei defnyddio i gyfeirio at Senedd Cymru / Welsh Parliament.

 

Cam i’w gymryd

15.     Cytunodd y Pwyllgor Busnes yn ffurfiol ar y newidiadau i Reolau Sefydlog ar 17 Mawrth 2020. Cytunwyd hefyd, er y bydd y newidiadau yn dod i rym ar 6 Mai, y dylid gwahodd y Cynulliad i gytuno arnynt cyn y dyddiad hwnnw. Gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo’r cynigion yn Atodiad A. 

 

 


Atodiad A

CYNNWYS

Dehongli

1 Aelodau

1.1                              Llw neu Gadarnhad Teyrngarwch

1.3                              Grwpiau Gwleidyddol

1.5                              Taliadau

1.8                              Ymddiswyddiadau a Swyddi Gwag

1.10                Rolau a Chyfrifoldebau Gwahanol Aelodau Etholaeth ac Aelodau Rhanbarthol

1 Aelodau: Atodiad

1                                   Disgrifio’r Aelodau

2                                   Ymdrin â Materion Etholaeth/Rhanbarth

3                                   Achosion Etholwyr Unigol

4                                   Codi Materion gydag Aelod o’r Llywodraeth

5                                   Aelodau yn Gweithredu yn eu Hardaloedd

6                                   Ymweliadau Ysgolion

7                                   Ymholiadau Ffôn

8                                   Staff yr Aelodau

9                                   Gorfodi

2 Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill yr Aelodau

2.1                  Cofrestru Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill

2.6                  Datgan Buddiannau Cofrestradwy cyn Cymryd Rhan mewn Unrhyw Drafodion yn y Senedd

2.8                  Lobïo am Dâl neu Gydnabyddiaeth

2.9                  Gwahardd Pleidleisio

2 Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill yr Aelodau: Atodiad

1                     Cyffredinol

5                     Y Buddiannau Cofrestradwy

3 Cofnodi Cyflogaeth Aelodau’r Teulu Gyda Chymorth Arian y Comisiwn

4 Cofnodi’r Amser y bydd Aelod yn Ymwneud â Gweithgarwch Cofrestradwy

4.1                  Cyffredinol

4.3                  Hysbysiad

4.7                  Cyhoeddi

4.8                  Ffurf yr Hysbysiada’r Cofnod

5 Cofnodi Aelodaeth o Gymdeithasau

6 Y Llywydd a’r Dirprwy

6.1                  Ethol y Llywydd a'r Dirprwy

6.15                Swyddogaethau’r Llywydd

6.22                Cadeiryddion Dros Dro yn y Cyfarfodydd Llawn

6.24                Llywydd Dros Dro

6.25                Ymddiswyddiadneu Ddiswyddiad y Llywydd neu'r Dirprwy

7 Comisiwn y Senedd

7.1                  Penodi’r Aelodau

7.7                  Ymddiswyddo neu Ddiswyddo

7.11                CyfarwyddiadauArbennig neu Gyffredinol i’r Comisiwn

8 Gweinidogion Cymru a Dirprwy Weinidogion Cymru

8.1                  Enwebu Prif Weinidog Cymru

8.4                  Ymddiswyddiad etc. Prif Weinidog Cymru neu Aelod arall o’r Llywodraeth

9 Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru

9.1                  Penodi

9.3                  Cymryd Rhan yn Nhrafodion y Senedd

9.5                  Diswyddo neu Ymddiswyddo

9.9                  Arfer Swyddogaethau Dros Dro

10 Penodiadau etc. i Swydd Gyhoeddus

10.1                Cymhwyso

10.5                Dull Penodi

10.6                Ystyriaeth y Pwyllgor

10.7                Diswyddo

10.9                Dim Gwelliannau i Gynigion

11 Trefn Busnes

11.1                Y Pwyllgor Busnes

11.9                Amserlen y Senedd

11.11              Busnes Wythnosol

11.17              Categorïau o Fusnes y Cyfarfodydd Llawn

11.22              Hysbysiad Busnes

12 Busnes yn y Cyfarfodydd Llawn

12.1                Cyfarfodydd Llawn

12.7                Cyfarfodydd Llawn yn dilyn Etholiad y Senedd

12.14              Trefn Busnes y Cyfarfodydd Llawn

12.19              Cynigion

12.29              Cynigion Gweithdrefnol

12.36              Penderfynu ar Gynigion a Gwelliannau

12.50              Datganiadau

12.52              Datganiadau Personol

12.54              Cwestiynau Llafar

12.67              Cwestiynau Brys

16.68A           Cwestiynau Amserol

12.69              Dadleuon Brys

12.72              Dadleuon Byr

13 Y Drefn yn y Cyfarfodydd Llawn

13.1                Rheolau’r Dadleuon

13.8A             Datgan Buddiannau Perthnasol

13.9                Cadw Trefn

13.15              Sub Judice

13.16              Cysylltiadau â’r Farnwriaeth

14 Cwestiynau Ysgrifenedig, Datganiadau Ysgrifenedig a Datganiadau Barn

14.1                Cwestiynau Ysgrifenedig

14.6                Datganiadau Ysgrifenedig

14.9                Datganiadau Barn

15 Gweithdrefnau Gosod a Chyflwyno

16 Sefydlu Pwyllgorau a’u Cylchoedd Gorchwyl

16.1                Cyffredinol

16.5                Pwyllgorau Eraill

16.6                Parhad Pwyllgorau

17 Gweithredu Pwyllgorau

17.1                Cyffredinol

17.2A             Cadeiryddion Pwyllgorau

17.2E              Ethol Cadeiryddion Pwyllgorau

17.2L              Cadeiryddion Pwyllgorau: Ymddiswyddo, Diswyddo a Swyddi Gwag

17.3                Aelodaeth Pwyllgorau

17.17              Is-bwyllgorau

17.21              Cadeiryddion

17.24A           Datgan Buddiannau Perthnasol

17.25              Ymddygiad mewn Pwyllgorau

17.28              Sub Judice

17.29              Cysylltiadau â’r Farnwriaeth

17.31              Cworwm

17.34              Pleidleisio

17.40              Natur Agored y Pwyllgorau

17.46              Cyfarfodydd

17.48              Dirprwyon mewn Cyfarfodydd

17.49              Presenoldeb mewn Cyfarfodydd

17.53              Cyfarfodydd â Phwyllgorau Eraill

17.55              Cynghorwyr Pwyllgorau

17.56              Adroddiadau Pwyllgorau

18 Cyfrifon Cyhoeddus a Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru

18.1                Cyffredinol

18.2                Swyddogaethau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

18.5                Aelodaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

18.10             Swyddogaethau Pwyllgor mewn Perthynas â Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru

18.12              Aelodaeth y pwyllgor cyfrifol

18A Trefniadau Goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

18A.1             Y Pwyllgor neu Bwyllgorau

18A.2             Swyddogaethau

19 Cyllid

19.1                Y Pwyllgor

19.2                Swyddogaethau

20 Gweithdrefnau Cyllid

20.1                Cyffredinol

20.2                Llywodraeth Cymru

20.7                Cynigion y Gyllideb Ddrafft

20.13              Y Comisiwn

20.21              Yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru

20.23              Yr Ombwdsmon

20.24A           Penderfyniadau ynghylch y gyradd Gymreig

20.25              Cynigion Cyllideb Blynyddol

20.30              Cynigion Cyllideb Atodol

20.38              Defnyddio Gormod o Adnoddau

21 Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

21.1                Y Pwyllgor neu Bwyllgorau

21.2                Swyddogaethau

22 Safonau Ymddygiad

22.1                Y Pwyllgor

22.2                Swyddogaethau

22.3                Aelodaeth

22.6                Cyfarfodydd

22.9                Adroddiadau

23 Deisebau’r Cyhoedd

23.1                Y Pwyllgor neu Bwyllgorau

23.2                Ffurf Deisebau

23.4                Derbyniadwyedd Deisebau

23.8                Gweithredu ar Ddeiseb

23.11              Cau Deisebau

24 Diffiniad o Aelod sy’n Gyfrifol am Ddeddfwriaeth

24.1                Cyffredinol

24.3                Deddfwriaeth Llywodraeth

24.6                Deddfwriaeth Pwyllgor

24.11              Deddfwriaeth Comisiwn

24.14              Biliau Aelod

25 Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor i’w gwneud o dan adran 109 o’r Ddeddf

25.1                Cyffredinol

25.4                Ffurf Gorchmynion Arfaethedig a Sut i’w Gosod

25.7                Ystyriaeth Fanwl ar Orchymyn Arfaethedig

25.12              Cyflwyno Gorchymyn Drafft

25.13              Y Memorandwm Esboniadol i Gyd-fynd â Gorchymyn Drafft

25.15              Yr Ystyriaeth Derfynol

25.20              Tynnu Gorchymyn Arfaethedig neu Orchymyn Drafft yn ôl

25.21              Gorchymyn Arfaethedig neu Orchymyn Drafft yn Methu

25.25              Gorchmynion Arfaethedig Pwyllgor a Gorchmynion Drafft Pwyllgor

25.26              Cynigion am Orchymyn gan Aelod heblaw aelod o’r Llywodraeth

26 Deddfau Senedd Cymru

26.1                Ffurf Biliau a Sut i’w Cyflwyno

26.6                Dogfennau i Gyd-fynd â Bil

26.7                Yr Amserlen ar gyfer Ystyried Bil

26.9                Cyfnod 1: Ystyried yr Egwyddorion Cyffredinol

26.16              Cyfnod 2: Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

26.29              Cyfnod 3: Ystyriaeth Fanwl gan y Senedd

26.45              Y Cyfnod Adrodd

26.47              Cyfnod 4: Y Cyfnod Terfynol

26.52              Ailystyried Biliau a Basiwyd

26.56C           Ailystyried Biliau a wrthodwyd

26.57              Darpariaethau Cyffredinol mewn Perthynas â Gwelliannau i Filiau

26.67              Cydsyniad Ei Mawrhydi a Dug Cernyw

26.68              Penderfyniadau Ariannol

26.75              Hysbysu ynghylch Cydsyniad Brenhinol i Ddeddfau’r  Senedd

26.76              Biliau yn Methu, yn Cael eu Gwrthod neu’n Cael eu Tynnu’n ôl

26.80              Biliau Pwyllgor

26.84              Biliau’r Comisiwn

26.85              Biliau Aelod

26.95              Biliau Brys Llywodraeth

26A Deddfau Preifat y Senedd

26A.1             Biliau Preifat

26A.3             Caniatâd i gyflwyno Bil Preifat

26A.6             Ffioedd

26A.7             Ffurf Biliau Preifat a sut i’w Cyflwyno

26A.13           Dogfennau i Gyd-fynd â Bil Preifat

26A.16           Hysbysiad bod Bil Preifat wedi’i gyflwyno

26A.20           Gwrthwynebu

26A.30           Datganiadau mewn perthynas ag ymgynghori

26A.32           Pwyllgorau Biliau Preifat

26A.44           Yr Ystyriaeth Gychwynnol

26A.52           Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

26A.81           Ystyriaeth Fanwl y Senedd

26A.94           Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor

26A.100         Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd

26A.102         Y Cyfnod Terfynol

26A.109         Ailystyried Biliau Preifat a Basiwyd

26A.115C       Ailystyried Biliau Preifat a Wrthodwyd

26A.116         Gwelliannau i Filiau Preifat

26A.126         Newid Hyrwyddwr

26A.133         Cydsyniad Ei Mawrhydi a Dug Cernyw

26A.134         Penderfyniadau Ariannol

26A.141         Hysbysu ynghylch Cydsyniad Brenhinol i Ddeddfau Preifat y Senedd

26A.142         BiliauPreifat yn Methu, yn Cael eu Gwrthod neu’n Cael eu Tynnu’n ôl

26B Deddfau Hybrid y Senedd

26B.1              Biliau Hybrid

26B.3              Ffurf Biliau Hybrid a Sut i’w Cyflwyno

26B.9              Dogfennau i Gyd-fynd â Bil Hybrid

26B.15            Hysbysiad bod Bil Hybrid wedi’i gyflwyno

26B.19            Gwrthwynebu

26B.28            Datganiadau mewn perthynas ag ymgynghori

26B.30            Pwyllgorau Biliau Hybrid

26B.42            Yr Ystyriaeth Gychwynnol

26B.50            Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

26B.54            Penodi asesydd i ystyried gwrthwynebiadau

26B.79            Ystyriaeth Fanwl y Senedd

26B.92            Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor

26B.98            Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd

26B.101          Y Cyfnod Terfynol

26B.108          Ailystyried Biliau Hybrid a Basiwyd

26B.117C        Ailystyried Biliau Hybrid a wrthodwyd

26B.118          Gwelliannau i Filiau Hybrid

26B.128          Cydsyniad Ei Mawrhydi a Dug Cernyw

26B.129          Penderfyniadau Ariannol

26B.136          Hysbysu ynghylch Cydsyniad Brenhinol i Ddeddfau Hybrid y Senedd

26B.137          Biliau Hybrid yn Methu, yn Cael eu Gwrthod neu’n Cael eu Tynnu’n ôl

27 Is-ddeddfwriaeth (ac eithrio Is-ddeddfwriaeth sy’n Ddarostyngedig i Weithdrefn Arbennig y Senedd)

27.1             Memoranda Esboniadol

27.2                Cynnig ar gyfer Dirymu (Gweithdrefn Penderfyniad Negyddol)

27.5                Cynnig ar gyfer Cymeradwyo (Gweithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol)

27.9A             Offerynnau Statudol Drafft y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn gymwys iddynt

27.10              Peidio â Diwygio Offerynnau

27.11              Tynnu Offerynnau yn ôl

27.12              Cyfrifo Dyddiau

27.13              Cynigion Eraill mewn Perthynas ag Offerynnau neu Offerynnau Drafft

27.14              Cymhwyso’r Rheol Sefydlog at Is-ddeddfwriaeth Arall

28 Gweithdrefn Arbennig y Senedd

29 Cydsyniad mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU

29.1             Biliau Senedd y DU sy’n Gwneud Darpariaeth y mae Angen Cydsyniad y Senedd ar ei chyfer

29.2                Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

29.6                Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol

30 Hysbysu mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU

30.1             Biliau Senedd y DU sy’n Gwneud Darpariaeth y mae Angen Hysbysu’r Senedd yn ei chylch

30.2                Datganiadau Ysgrifenedig mewn Perthynas â Biliau Perthnasol Senedd y DU

30A Cydsyniad mewn Perthynas ag Offerynnau Statudol a Wneir gan Weinidogion y DU

30A.1             Is-ddeddfwriaeth a Wneir gan Weinidogion y DU sy’n Gwneud Darpariaeth y mae Angen Cydsyniad y Senedd ar ei chyfer

30A.2             Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

30A.10           Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol

30A.13           Cydymffurfioâ Deddfau Seneddol

30B Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU o dan y Ddeddf sy'n cyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru dros dro

30B.1              Rheoliadau a wneir gan un o Weinidogion y Goron o dan adrannau 109A ac 80(8) o'r Ddeddf

30B.3              Memorandwm Penderfyniad Cydsynio

30B.6              Cynnig Penderfyniad Cydsynio

30B.9              Cyfrifo Dyddiau

30B.10            Datganiadau Ysgrifenedig

30B.11            Adroddiadau mewn Cysylltiad â Chyfyngiadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir

30C Hysbysu mewn perthynas ag Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 na chânt eu gosod gerbron y Senedd.

30C.1             Offerynnau Statudol y mae angen hysbysu'r Senedd yn eu cylch

30C.2             Datganiadau Ysgrifenedig mewn perthynas ag Offerynnau Statudol Perthnasol

31 Adroddiadau ar y Trafodion

32 Ymddygiad y Cyhoedd

33 Ail-wneud y Rheolau Sefydlog, eu Diwygio a’u Hatal

33.1                Ail-wneud y Rheolau Sefydlog a’u Diwygio

33.6                Atal y Rheolau Sefydlog


 

DEHONGLI

Yn y Rheolau Sefydlog hyn:

-        ystyr “Aelod” yw Aelod o’r Senedd a etholwyd naill ai dros un o etholaethau’r Senedd neu dros un o ranbarthau etholiadol y Senedd;

-        ystyr “aelod o’r llywodraeth” yw Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol neu un o Ddirprwy Weinidogion Cymru;

-        ystyr “Archwilydd Cyffredinol” yw Archwilydd Cyffredinol Cymru a benodir o dan baragraff 1 o Atodlen 8 i’r Ddeddf;

-        ystyr “Bil” yw Deddf arfaethedig y Senedd fel y’i diffinnir yn adran 107(2) o’r Ddeddf;

-        ystyr “blwyddyn Senedd” yw’r cyfnod rhwng 1 Mai yn y naill flwyddyn a 30 Ebrill yn y flwyddyn ganlynol;

-        ystyr “Clerc” yw Clerc y Senedd a benodir o dan adran 26(1) o’r Ddeddf;

-        ystyr “y Comisiwn” yw Comisiwn y Senedd fel y’i diffinnir yn adran 27 o’r Ddeddf;

-        ystyr “Cwnsler Cyffredinol” yw Cwnsler Cyffredinol y llywodraeth a benodir o dan adran 49 o’r Ddeddf;

-        ystyr “Deddfau’r Senedd” yw Deddf Senedd Cymru fel y’i diffinnir yn adran 107(1) o’r Ddeddf;

-        ystyr “Dirprwy” yw'r Dirprwy Lywydd a etholir o dan adran 25(1)(b) o'r Ddeddf;

-        ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio:

-        dydd Sadwrn neu ddydd Sul;

-        Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd Iau Cablyd neu Ddydd Gwener y Groglith;

-        diwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971; neu

-        diwrnod sydd wedi’i neilltuo ar gyfer diolchgarwch neu alar cyhoeddus.

-        ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006;

-        ystyr “etholiad y Senedd” yw etholiad cyffredinol a gynhelir o dan y Ddeddf;

-        ystyr “y Goruchaf Lys” yw Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig a sefydlwyd o dan adran 23(1) o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005;

-        mae “Gweinidogion Cymru” i’w ddehongli yn unol ag adran 45(2) o’r Ddeddf; 

-        ystyr “is-ddeddfwriaeth” yw Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor, gorchmynion, rheolau, rheoliadau, cynlluniau, gwarantau, is-ddeddfau ac offerynnau eraill a wnaed neu sydd i'w gwneud o dan unrhyw un o Ddeddfau Senedd y DU neu Ddeddf  y Senedd, neu a wnaed neu sydd i'w gwneud o dan is-ddeddfwriaeth;

-        ystyr “llywodraeth” yw Llywodraeth Cymru, fel y’i diffinnir yn adran 45(1) o’r Ddeddf; 

-        ystyr “Ombwdsmon” yw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) a benodir o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005;

-        ystyr “Prif Weinidog Cymru” yw'r Aelod a benodir o dan adran 46(1) o'r Ddeddf;

-        ystyr “Senedd yw’r cyfnod rhwng etholiad y Senedd a diddymu’r Senedd;

-        ystyr “y Senedd” yw Senedd Cymru neu Welsh Parliament;

-        ystyr “trafodion y Senedd” yw unrhyw drafodion i’r Senedd, i unrhyw un o bwyllgorau'r Senedd neu i is-bwyllgor pwyllgor o'r fath;

-        ystyr “un o Ddirprwy Weinidogion Cymru” yw Aelod a benodir o dan adran 50(1) o’r Ddeddf;

-        ystyr “un o Weinidogion Cymru” yw unrhyw Aelod a benodir yn un o Weinidogion Cymru o dan adran 48(1) o’r Ddeddf;

-        ystyr “wedi’u cyhoeddi” yw cyhoeddi ar wefan y Senedd o leiaf;

-        ystyr “wedi’u gosod” yw wedi’u gosod yn unol â Rheol Sefydlog 15;

-        ystyr “wythnos eistedd” yw wythnos pryd y bydd y Senedd yn eistedd mewn cyfarfod llawn;

-        ystyr “wythnos pan na fydd y Senedd yn eistedd” yw wythnos pan na fydd y Senedd yn eistedd mewn cyfarfod llawn.


 

1. RHEOL SEFYDLOG 1 – Aelodau

Llw neu Gadarnhad Teyrngarwch

1.1                 Pan dyngir y llw teyrngarwch, neu pan roddir y cadarnhad cyfatebol, o dan adran 23 o’r Ddeddf, rhaid iddo gael ei dyngu neu ei roi gerbron y Clerc, yn gyhoeddus neu yn breifat.

1.2                 Pan fydd aelod o’r llywodraeth:

(i)        yn tyngu’r llw swyddogol, neu yn rhoi’r cadarnhad cyfatebol;

(ii)      yn tyngu’r llw teyrngarwch, neu yn rhoi’r cadarnhad cyfatebol,

o dan adran 55 o’r Ddeddf, rhaid iddo hysbysu’r Clerc yn ysgrifenedig o fewn un diwrnod gwaith ei fod wedi gwneud hynny.

Grwpiau Gwleidyddol

1.3                 At ddibenion y Ddeddf, grŵp gwleidyddol yw:

(i)        grŵp o Aelodau sy’n perthyn i’r un blaid wleidyddol gofrestredig a chanddo o leiaf dri Aelod yn y Senedd; neu

(ii)      tri neu fwy o Aelodau sydd, a hwythau heb fod yn aelodau o blaid wleidyddol gofrestredig a gynhwysir yn Rheol Sefydlog 1.3(i), wedi hysbysu’r Llywydd eu bod yn dymuno cael eu trin fel grŵp gwleidyddol.

1.4                 Y Llywydd sydd i benderfynu ar unrhyw gwestiwn ynghylch a yw unrhyw Aelod yn perthyn i grŵp gwleidyddol neu i ba grŵp gwleidyddol y mae’n perthyn.

Taliadau

1.5                 Rhaid i’r Comisiwn benderfynu o dro i dro ar swm y gostyngiad i gyflog Aelod sy’n ofynnol yn ôl adran 21 o’r Ddeddf.

1.6                 Rhaid i’r Comisiwn osod gerbron y Senedd a chyhoeddi unrhyw benderfyniad a wneir o dan Reol Sefydlog 1.5 cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud.

1.7                 Ar gynnig a wneir gan y Comisiwn, rhaid i’r Senedd ethol Ymddiriedolwyr i Gynllun Pensiwn Aelodau y Senedd yn unol â Rheolau’r Cynllun.

Ymddiswyddiadau a Swyddi Gwag

1.8                 Caiff Aelod ymddiswyddo o’i sedd yn y Senedd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Llywydd.

1.9                 At ddibenion adran 10 o’r Ddeddf, mae swydd yn wag pan fydd y Llywydd yn cael hysbysiad o ymddiswyddiad yn unol â Rheol Sefydlog 1.8, neu fel arall pan fydd y Llywydd yn datgan bod y sedd wedi dod yn wag.

Rolau a Chyfrifoldebau Gwahanol Aelodau Etholaeth ac Aelodau Rhanbarthol

1.10              Rhaid i’r Senedd wneud cod neu brotocol, i’w ddrafftio gan y pwyllgor sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheol Sefydlog 22, yn unol ag adran 36(6) o’r Ddeddf, ynglŷn â rolau a chyfrifoldebau gwahanol Aelodau etholaeth ac Aelodau rhanbarthol. Rhaid i’r cod neu’r protocol gynnwys darpariaeth yn unol â’r pum egwyddor allweddol ganlynol a’r Atodiad i Reol Sefydlog 1:

(i)        mae pob Aelod o dan ddyletswydd i fod yn hygyrch i bobl yr ardaloedd y maent wedi’u hethol i’w gwasanaethu ac i gynrychioli eu buddiannau yn gydwybodol;

(ii)      wrth iddynt droi at eu dewis Aelod, dymuniadau’r etholwyr a/neu fuddiannau’r etholaeth neu’r ardal sydd o’r pwys pennaf;

(iii)     mae gan bob Aelod statws cyfartal;

(iv)     ni ddylai Aelodau gamliwio ar ba sail y maent wedi’u hethol na pha ardal y maent yn ei gwasanaethu; a

(v)       ni ddylai Aelod ymdrin ag achos etholaeth neu fater etholaeth nad yw o fewn ei etholaeth neu ei ranbarth (yn ôl fel y digwydd), oni bai y cytunwyd ar hynny ymlaen llaw.


 

RHEOL SEFYDLOG 1 – Aelodau: Atodiad

Y ddarpariaeth sydd i’w chynnwys yn y cod neu’r protocol a baratoir yn unol â Rheol Sefydlog 1.10 ac yn unol ag adran 36(6) o’r Ddeddf

Disgrifio’r Aelodau

1.                     Darpariaeth i’r Aelodau rhanbarthol a’r Aelodau etholaeth eu disgrifio’u hunain yn gywir ac ar gyfer gofynion ynglŷn â defnyddio adnoddau’r Senedd, er enghraifft, deunyddiau swyddfa.

Ymdrin â Materion Etholaeth/Rhanbarth

2.                     Darpariaeth i’r Aelodau ymgymryd â mater sy’n effeithio ar yr etholaeth neu’r rhanbarth y’u hetholwyd iddi neu iddo gan sicrhau cwrteisi ar yr un pryd o ran materion sy’n effeithio ar fwy nag un etholaeth.

Achosion Etholwyr Unigol

3.                     Darpariaeth i ddiogelu hawl etholwr i droi at ei Aelod etholaeth a/neu unrhyw un o’r pedwar Aelod rhanbarthol a etholwyd yn rhanbarth yr etholwr.

Codi Materion gydag Aelod o’r Llywodraeth

4.                     Darpariaeth i sicrhau bod gan unrhyw Aelod yr hawl i godi mater gyda’r aelod perthnasol o’r llywodraeth ar ran etholwr yn yr ardal (yr etholaeth neu’r rhanbarth) y’i hetholwyd iddi.

Aelodau yn Gweithredu yn eu Hardaloedd

5.                     Darpariaeth yn adlewyrchu’r disgwyliad y bydd yr Aelodau yn gweithio ledled yr ardal (yr etholaeth neu’r rhanbarth) y’i hetholwyd iddi.

Ymweliadau Ysgolion

6.                     Darpariaeth ar gyfer hysbysu’r Aelodau am yr ysgolion sy’n ymweld yn swyddogol â’r Senedd, a’r ymweliadau hynny wedi’u trefnu gan y Comisiwn.

Ymholiadau Ffôn

7.                     Darpariaeth i lywio sut yr ymdrinnir ag ymholiadau ffôn i switsfwrdd y Senedd gan aelodau o’r cyhoedd sy’n ceisio cysylltu ag Aelod.

Staff yr Aelodau

8.                     Darpariaeth y dylai’r Aelodau sicrhau bod y staff sy’n gweithio iddynt, yn y Senedd ac yn lleol, gan gynnwys eraill sy’n gweithio ar eu rhan gydag etholwyr, yn ymwybodol o Reol Sefydlog 1.10 ac unrhyw god neu brotocol a lunnir o ganlyniad iddi, a’u bod yn gweithredu yn unol â hwy.

Gorfodi

9.                     Darpariaeth i unrhyw gŵyn yn erbyn Aelod mewn perthynas â’r cod neu’r protocol gael ei chyfeirio at y pwyllgor sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheol Sefydlog 22.


 

2. RHEOL SEFYDLOG 2 – Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill yr Aelodau

Cofrestru Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill

2.1                 Rhaid i’r Llywydd gadw a chyhoeddi Cofrestr o Fuddiannau'r Aelodau, a rhaid bod copïau ar gael i'r Aelodau a'r cyhoedd eu harchwilio.

2.2                 Rhaid i’r buddiannau a nodir yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2 gael eu cofrestru yn y Gofrestr Fuddiannau drwy lenwi ffurflen a ragnodir gan y Llywydd.

2.3                 Cyn pen wyth wythnos ar ôl i Aelod dyngu’r llw teyrngarwch neu roi’r cadarnhad cyfatebol, rhaid iddo lenwi'r ffurflen a ragnodir gan y Llywydd, gan nodi holl fanylion y buddiannau y mae'n ofynnol eu cofrestru o dan Reol Sefydlog 2; a rhaid i’r Aelod lofnodi’r ffurflen a’i chyflwyno i’r Clerc.

2.4                 Cyn pen pedair wythnos ar ôl i unrhyw newid ddigwydd, rhaid i Aelod hysbysu'r Llywydd am y newid yn ei fuddiannau cofrestredig drwy lenwi'r ffurflen a ragnodir gan y Llywydd, a rhaid i’r Aelod lofnodi’r ffurflen a’i chyflwyno i’r Clerc.

2.5                 Caiff Aelod gyflwyno'r ffurflen y cyfeirir ati yn Rheol Sefydlog 2.3 neu 2.4 drwy fynd â hi at y Clerc neu drwy drefnu i berson arall wneud hynny neu ei hanfon drwy'r post, ond rhaid peidio â barnu bod y ffurflen wedi’i chyflwyno nes i’r Clerc ei chael.

Datgan Buddiannau Cofrestradwy cyn Cymryd Rhan mewn Unrhyw Drafodion yn y Senedd

2.6                 Yn yr amgylchiadau a bennir yn Rheol Sefydlog 2, cyn cymryd rhan mewn unrhyw drafodion yn y Senedd, rhaid i Aelod ddatgan ar lafar unrhyw fuddiant ariannol sydd ganddo, neu y gall fod yn disgwyl ei gael, neu, hyd y gŵyr yr Aelod, unrhyw fuddiant ariannol sydd gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol sydd gan yr Aelod, neu y gallant fod yn disgwyl ei gael, mewn unrhyw fater sy’n codi yn y trafodion hynny.

2.7                 Rhaid i ddatganiad llafar o dan Reol Sefydlog 2.6 gael ei wneud mewn perthynas ag unrhyw fuddiant a bennir ym mharagraff 5 o'r Atodiad i Reol Sefydlog 2 os gallai penderfyniad penodol yn y trafodion hynny arwain at fantais ariannol uniongyrchol i'r Aelod, neu, hyd y gŵyr yr Aelod, i bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol sydd gan yr Aelod, a fyddai'n fwy na’r fantais a allai ddod i ran etholwyr yn gyffredinol.

Lobïo am Dâl neu Gydnabyddiaeth

2.8                 Rhaid i Aelod beidio â chychwyn na dadlau o blaid unrhyw achos neu fater ar ran unrhyw gorff neu unigolyn mewn unrhyw drafodion yn y Senedd, nac annog unrhyw Aelod arall i gychwyn neu ddadlau o blaid unrhyw achos neu fater mewn unrhyw drafodion o’r fath, yn gyfnewid am unrhyw dâl neu fudd mewn da, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, y mae'r Aelod, neu, hyd y gŵyr yr Aelod, ei bartner neu unrhyw blentyn dibynnol sydd gan yr Aelod, wedi'i gael neu'n disgwyl ei gael.

Gwahardd Pleidleisio

2.9                 Os yw’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 2.6 i Aelod ddatgan buddiant mewn mater cyn cymryd rhan mewn unrhyw drafodion yn y Senedd, rhaid i’r Aelod hwnnw beidio â phleidleisio ar unrhyw gynnig sy'n ymwneud â'r mater hwnnw yn y trafodion hynny. Nid yw Rheol Sefydlog 2.9 yn gymwys mewn perthynas ag arfer pleidlais fwrw o dan Reol Sefydlog 6.20.

2.10              [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad y Senedd ar 02 Hydref 2013]

2.11              [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad y Senedd ar 02 Hydref 2013]

2.12              [Dilëwyd y Rheol Sefydlog drwy benderfyniad y Senedd ar 17.06.15 a ddaeth i rym ar 01.09.15]

2.13              [Dilëwyd y Rheol Sefydlog drwy benderfyniad y Senedd ar 17.06.15 a ddaeth i rym ar 01.09.15]


Rheol Sefydlog 2 – Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill yr Aelodau: Atodiad

Y buddiannau sydd i’w cofrestru yng Nghofrestr Buddiannau’r Aelodau ac sydd, at ddibenion Rheol Sefydlog 2.6, i’w datgan cyn cymryd rhan mewn unrhyw drafodion yn y Senedd.

Cyffredinol

1.                     Wrth restru eu buddiannau cofrestradwy, dylai’r Aelodau roi sylw i unrhyw benderfyniadau, codau ymarfer neu nodiadau cyfarwyddyd perthnasol y gall y Senedd fod wedi’u mabwysiadu yn hyn o beth.

2.                     Rhaid i unrhyw weithgarwch y ceir tâl amdano ym meysydd cysylltiadau cyhoeddus a chynghori ac ymgynghori gwleidyddol mewn perthynas â swyddogaethau’r Senedd, gael ei gynnwys yn y rhan honno o’r gofrestr sy’n ymwneud â chyflogaeth, swydd neu broffesiwn am dâl. Mae’r cyfryw weithgarwch yn cynnwys unrhyw weithgarwch sy'n gysylltiedig ag unrhyw rai o drafodion y Senedd, noddi digwyddiadau yn adeiladau’r Senedd, a chyflwyno sylwadau i’r llywodraeth neu i unrhyw aelod o’r llywodraeth honno neu i’w staff.

3.                     Mae mwyafrif y buddiannau a bennir yn y categorïau isod yn cynnwys cyfeiriad at fuddiannau y meddir arnynt yn annibynnol gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol sydd gan yr Aelod neu a roddir iddynt, a rhaid cofrestru’r rhain hefyd os yw'r buddiannau hynny yn hysbys i'r Aelod.

4.                     At ddibenion cofrestru a datgan buddiannau o dan Reol Sefydlog 2 a bennir yn yr Atodiad hwn:

                                 (i)             ystyr partner Aelod yw priod neu bartner sifil iddo neu un o gwpl, pa un ai o’r un rhyw neu o’r rhyw arall, sy’n byw gyda’i gilydd, er nad ydynt yn briod, ac sy’n trin ei gilydd fel dau briod; a

                                (ii)             ystyr plentyn dibynnol yw unrhyw berson sydd, pan gofrestrir y buddiant, yn iau nag un ar bymtheng mlwydd oed neu yn iau na phedair ar bymtheng mlwydd oed ac yn derbyn addysg llawn amser drwy fynychu sefydliad addysgol cydnabyddedig ac:

(a)       sy’n blentyn i’r Aelod;

(b)      sy’n llysblentyn i’r Aelod drwy briodas neu drwy bartneriaeth sifil;

(c)       sy’n blentyn a fabwysiadwyd yn gyfreithiol gan yr Aelod;

(ch)  sy’n blentyn y mae’r Aelod yn bwriadu ei fabwysiadu yn gyfreithiol; neu

(d)      sy’n blentyn y bu’r Aelod yn ei gefnogi yn ariannol am o leiaf y chwe mis calendr blaenorol.

Y Buddiannau Cofrestradwy

5.                     Dyma’r buddiannau cofrestradwy:

                                 (i)             swyddi cyfarwyddwyr am dâl a ddelir gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu gan unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, mewn cwmnïau cyhoeddus a phreifat gan gynnwys swyddi cyfarwyddwyr na thelir cyflog iddynt yn unigol ond lle telir cyflog drwy gwmni arall yn yr un grŵp;

                                (ii)             cyflogaeth, swydd, masnach, proffesiwn neu alwedigaeth (ac eithrio aelodaeth o’r Senedd) y mae’r Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, y mae partner yr Aelod yn cael tâl amdanynt, neu y mae gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, y mae gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod sy'n hŷn nag un ar bymtheg mlwydd oed, unrhyw fuddiant ariannol ynddynt, gan gynnwys derbyn unrhyw arian cyhoeddus;

                              (iii)             enwau cleientiaid pan fydd y buddiannau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (i) a (ii) uchod yn cynnwys gwasanaethau gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu gan unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod sy’n hŷn nag un ar bymtheng mlwydd oed, sy’n deillio o’i aelodaeth o’r Senedd, neu sy’n gysylltiedig â hynny mewn unrhyw fodd;

                              (iv)             rhoddion, lletygarwch, buddion materol neu fantais faterol y mae eu gwerth yn uwch na’r hyn a ragnodir mewn unrhyw benderfyniad gan y Senedd, a dderbynnir gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, oddi wrth gwmni, sefydliad neu berson ac sy'n deillio o aelodaeth o’r Senedd neu’n sy'n gysylltiedig â hynny mewn unrhyw fodd;

                                (v)             unrhyw dâl neu fudd materol arall y mae’r Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, y mae partner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod yn ei gael oddi wrth unrhyw gwmni preifat neu gyhoeddus neu unrhyw gorff arall, hyd y gŵyr yr Aelod, sydd wedi tendro, neu sy’n tendro, am gontract gyda Chomisiwn y Senedd neu Lywodraeth Cymru, neu sy'n meddu ar gontract o’r fath;

                              (vi)             nawdd ariannol (a) fel ymgeisydd i’w ethol i’r Senedd, pan fydd y nawdd mewn unrhyw achos, hyd y gŵyr yr Aelod, yn fwy na 25 y cant o gostau etholiad yr ymgeisydd, neu (b) fel Aelod o’r Senedd oddi wrth unrhyw unigolyn neu sefydliad. Wrth gofrestru buddiant o’r fath, rhaid i’r Aelod ddatgan a yw unrhyw nawdd o’r fath yn cynnwys unrhyw daliad i’r Aelod neu unrhyw fudd materol neu fantais faterol;

                             (vii)             yn ddarostyngedig i unrhyw benderfyniad gan y Senedd, ymweliadau tramor a wneir gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, sy’n deillio o’i aelodaeth o’r Senedd neu sy’n gysylltiedig â hynny mewn unrhyw fodd pan na fydd cost unrhyw ymweliad o’r fath wedi’i dalu’n llwyr gan yr Aelod neu ag arian a ddarparwyd gan y Senedd neu gan Senedd y Deyrnas Unedig neu unrhyw sefydliad y mae’r Senedd yn aelod ohono;

                           (viii)             unrhyw dir ac eiddo i'r Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, tir neu eiddo i bartner yr Aelod neu i unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, y mae iddo werth sylweddol fel y’i rhagnodwyd mewn unrhyw benderfyniad gan y Senedd neu y ceir incwm sylweddol ohono, ac eithrio unrhyw gartref a ddefnyddir at ddibenion preswylfa bersonol gan yr Aelod, partner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i’r Aelod;

                              (ix)             enwau cwmnïau neu gyrff eraill y mae gan yr Aelod, naill ai ar ei ben ei hun neu gyda phartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, neu ar eu rhan hwy, fuddiant llesiannol ynddynt, neu, hyd y gŵyr yr Aelod, y mae gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod fuddiant llesiannol ynddynt, mewn cyfranddaliadau y mae eu gwerth ar y farchnad yn fwy nag un y cant o’r cyfalaf cyfranddaliadol a ddyroddwyd, neu’n llai nag un y cant ond yn fwy na swm a ragnodwyd mewn unrhyw benderfyniad gan y Senedd;

                               (x)             aelodaeth neu gadeiryddiaeth gyda thâl neu’n ddi-dâl a ddelir gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, ar unrhyw gorff a ariennir yn llwyr neu’n rhannol â chyllid a ddarparwyd gan Gomisiwn y Senedd neu Lywodraeth Cymru, lle y mae'r Aelod yn gwybod, neu y dylai fod wedi gwybod, am y cyllid a ddarparwyd gan Gomisiwn y Senedd neu Lywodraeth Cymru.


3. RHEOL SEFYDLOG 3 – Cofnodi Cyflogaeth Aelodau’r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn.

[Sylwch: mae gofyniad bod yn rhaid hysbysu o dan Reol Sefydlog 3 yn ychwanegol at unrhyw ofyniad bod yn rhaid i gyflogaeth partner neu blentyn dibynnol Aelod gael ei chofrestru o dan Reol Sefydlog 2. Os yw Rheol Sefydlog 2 yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod gofrestru cyflogaeth priod neu blentyn dibynnol o dan y Rheol Sefydlog honno, rhaid i’r Aelod wneud hynny yn ychwanegol at unrhyw hysbysiad sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 3.]

3.1                 Rhaid i Aelod sydd ar unrhyw adeg, gyda chymorth arian y Comisiwn, yn cyflogi, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, berson y mae’r Aelod hwnnw’n gwybod ei fod yn aelod o deulu’r Aelod hwnnw neu’n aelod o deulu Aelod arall roi hysbysiad o dan Reol Sefydlog 3, a hynny heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn Rheol Sefydlog 3.4.

3.2                 Yn Rheol Sefydlog 3:

(i)        ystyr “aelod o deulu” yw:

(a)       partner Aelod;

(b)      plentyn, ŵyr neu wyres Aelod;

(c)       rhiant, taid neu nain Aelod;

(ch) brawd neu chwaer Aelod;

(d)      nai neu nith Aelod; neu

(dd) ewythr neu fodryb Aelod.

(ii)      ystyr “partner” yw priod, partner sifil neu un o gwpl pa un ai o’r un rhyw neu o’r rhyw arall sy’n byw gyda’i gilydd, er nad ydynt yn briod, ac sy’n trin ei gilydd fel dau briod;

(iii)     mae’r ymadroddion “plentyn”, “ŵyr”, “wyres”, “rhiant”, “taid”, “nain”, “brawd”, “chwaer”, “ewythr” a “modryb” yr un mor gymwys i hanner-perthnasau, llys-berthnasau, perthnasau maeth a pherthnasau mabwysiadol ac maent yn gymwys hefyd i bersonau sydd â’r berthynas o dan sylw â phartner yr Aelod;

(iv)     ystyr “arian y Comisiwn” yw symiau a delir gan y Comisiwn ar ffurf lwfansau o dan adrannau 20, 21 neu 53 o’r Ddeddf.

3.3                 Rhaid i’r hysbysiad sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 3 gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i)        enw’r Aelod;

(ii)      os yw’r cyflogai yn aelod o deulu Aelod arall neu Aelodau eraill, enw’r Aelod arall hwnnw neu enwau’r Aelodau eraill hynny;

(iii)     enw llawn y cyflogai;

(iv)     perthynas y cyflogai â’r Aelod (neu, os yw’n briodol, â’r Aelod neu’r Aelodau y cyfeirir atynt yn (ii));

(v)       ym mha swyddogaeth y mae’r cyflogai wedi’i gyflogi, gan gynnwys unrhyw deitl swydd;

(vi)     y dyddiad y dechreuodd y gyflogaeth;

(vii)    os yw’r gyflogaeth wedi dod i ben, y dyddiad y daeth i ben; ac

(viii)  yr oriau y mae’r cyflogai wedi’i gontractio i’w gweithio bob wythnos.

3.4                 Rhaid i’r hysbysiad gael ei roi:

(i)        cyn pen wyth wythnos ar ôl y dyddiad y bydd yr Aelod yn tyngu’r llw teyrngarwch neu’n rhoi’r cadarnhad teyrngarwch; neu

(ii)      cyn pen pedair wythnos ar ôl:

(a)       y tro cyntaf i’r aelod o deulu gael taliad gyda chymorth arian y Comisiwn;

(b)      y dyddiad y daw’r cyflogai yn aelod o deulu’r Aelod hwnnw neu’n aelod o deulu Aelod arall; neu

(c)       y dyddiad y daw’r Aelod yn ymwybodol am y tro cyntaf o’r ffaith bod y cyflogai yn aelod o deulu’r Aelod hwnnw neu’n aelod o deulu Aelod arall,

pa un bynnag yw'r olaf.

3.5                 Os:

(i)        oes hysbysiad wedi’i roi o dan Reol Sefydlog 3; a

(ii)      bod unrhyw newid wedi bod yn yr wybodaeth a gynhwyswyd yn yr hysbysiad hwnnw,

rhaid i’r Aelod, cyn pen pedair wythnos ar ôl dyddiad y newid hwnnw, roi hysbysiad ynglŷn â’r newid hwnnw.

3.6                 Rhaid i hysbysiad o dan Reol Sefydlog 3.1 neu o dan Reol Sefydlog 3.5 gael ei roi drwy lenwi a llofnodi’r ffurflen a ragnodir gan y Llywydd at y diben a’i chyflwyno i’r Clerc.

3.7                 Rhaid i’r Llywydd gadw cofnod o’r hysbysiadau a roddir gan yr Aelodau o dan Reol Sefydlog 3 a rhaid iddo gyhoeddi’r cofnod a threfnu bod copi ar gael i'w archwilio gan yr Aelodau a chan y cyhoedd.

3.8                 Mae’r Aelodau o dan ddyletswydd barhaus i sicrhau bod y cofnod o hysbysiadau yn cynnwys y manylion cywir a hysbyswyd ganddynt o dan Reolau Sefydlog 3.1 neu 3.5, a hynny drwy ei archwilio o dro i dro.


 

4. RHEOL SEFYDLOG 4 – Cofnodi’r Amser y bydd Aelod yn Ymwneud â Gweithgarwch Cofrestradwy

Cyffredinol

4.1                 Pan fydd yn ofynnol i Aelod gofrestru buddiant, yn unol â Rheol Sefydlog 2.2, rhaid i’r Aelod hwnnw ar yr un pryd, pan fydd y buddiant hwnnw hefyd yn weithgarwch cofrestradwy, roi hysbysiad o dan Reol Sefydlog 4.

4.2                 At ddibenion Rheol Sefydlog 4, mae “gweithgarwch cofrestradwy” yn fuddiant cofrestradwy sy’n dod o fewn naill ai:

(i)        baragraff 5 o’r Atodiad i Reol Sefydlog 2 (swyddi cyfarwyddwyr am dâl); neu

(ii)      is-baragraff (ii) o’r aragraff hwnnw (cyflogaeth, swyddi, masnachau, proffesiynau neu alwedigaethau),

ac sy’n ymwneud â’r Aelod ei hun (yn hytrach na phartner yr Aelod neu blentyn dibynnol i’r Aelod).

Hysbysiad

4.3                 Mae hysbysiad i’w roi drwy gyfeirio at y bandiau canlynol:

(i)        Band 1:      Llai na 5 awr yr wythnos;

(ii)      Band 2:      Rhwng 5 ac 20 awr yr wthnos;

(iii)     Band 3:      Mwy nag 20 awr yr wythnos.

4.4                 Rhaid i’r hysbysiad nodi i ba un o’r bandiau hynny y bydd cyfartaledd nifer yr oriau yr wythnos y bydd yr Aelod yn ei dreulio (neu y disgwylir iddo ei dreulio) yn gwneud pob gweithgarwch cofrestradwy yn berthnasol.

4.5                 Os (pa un ai o ganlyniad i newid mewn amgylchiadau neu am unrhyw reswm arall) nad yw’r hysbysiad a wneir gan Aelod mewn perthynas â gweithgarwch cofrestradwy bellach yn gywir, rhaid i’r Aelod, o fewn pedair wythnos, wneud hysbysiad arall o dan Reol Sefydlog 4.

4.6                 Rhaid rhoi hysbysiad drwy lenwi a llofnodi’r ffurflen a ragnodir gan y Llywydd at y diben hwnnw a’i roi i’r Clerc.

Cyhoeddi

4.7                 Rhaid i’r Llywydd gadw cofnod o’r hysbysiadau a wneir gan Aelodau o dan Reol Sefydlog 4 a rhaid iddo gyhoeddi’r cofnod a threfnu bod copi ar gael i’w archwilio gan yr Aelodau a’r cyhoedd.

Ffurf yr Hysbysiad a’r Cofnod

4.8                 Caniateir cyfuno’r ffurflen a ragnodir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 4.6 â’r ffurflen a ragnodir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 2.2.

4.9                 Caniateir cyfuno’r cofnod o hysbysiadau a gedwir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 4.7 â’r Gofrestr Fuddiannau a gedwir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 2.1.


 

5. RHEOL SEFYDLOG 5 – Cofnodi Aelodaeth o Gymdeithasau

5.1                 Rhaid i unrhyw Aelod roi hysbysiad ynglŷn ag unrhyw aelodaeth, neu safle o reolaeth neu ofalaeth gyffredinol, mewn cymdeithas breifat neu glwb preifat sydd â gofynion ynglŷn â derbyn aelodau.

5.2                 At ddibenion Rheol Sefydlog 5.1, nid yw “gofynion ynglŷn â derbyn aelodau” yn cynnwys:

(i)        y gofyniad bod yn rhaid talu tanysgrifiad; na

(ii)      cytuno â thelerau ac amodau aelodaeth yn y gymdeithas neu’r clwb a’u llofnodi (ac eithrio unrhyw deler ac amod sy’n ymwneud â dewis aelodau).

5.3                 Rhaid i’r Llywydd gadw a chyhoeddi cofnod o hysbysiadau’r Aelodau ynglŷn â’r materion a nodir yn Rheol Sefydlog 5.1 a rhaid trefnu bod copïau ar gael i'w harchwilio gan yr Aelodau a'r cyhoedd.

5.4                 Rhaid i’r hysbysiadau gael eu gwneud drwy lenwi ffurflen a ragnodir gan y Llywydd.

5.5                 Cyn pen wyth wythnos ar ôl i Aelod dyngu’r llw teyrngarwch neu roi’r cadarnhad cyfatebol, rhaid iddo lenwi'r ffurflen a ragnodir gan y Llywydd a llofnodi’r ffurflen a’i chyflwyno i’r Clerc.

5.6                 Cyn pen pedair wythnos ar ôl i aelodaeth neu newid aelodaeth ddigwydd, rhaid i Aelod hysbysu'r Llywydd drwy lenwi'r ffurflen ragnodedig a llofnodi’r ffurflen a’i chyflwyno i’r Clerc.

5.7                 Rhaid peidio â barnu bod y ffurflen y cyfeirir ati yn Rheolau Sefydlog 5.5 neu 5.6 wedi’i chyflwyno nes i’r Clerc ei chael.

5.8                 Mae’r Aelodau o dan ddyletswydd barhaus i sicrhau bod y cofnod o hysbysiadau yn cynnwys y manylion cywir a hysbyswyd ganddynt o dan Reolau Sefydlog 5.5 neu 5.6, a hynny drwy ei archwilio o dro i dro.


 

6. RHEOL SEFYDLOG 6 – Y Llywydd a’r Dirprwy

Ethol y Llywydd a'r Dirprwy

6.1                 Yn ei gyfarfod cyntaf ar ôl etholiad y Senedd, rhaid i’r Senedd ethol Llywydd a Dirprwy o blith ei Aelodau.

6.2                 Os daw swydd y Llywydd neu swydd y Dirprwy yn wag, rhaid i’r Senedd ethol Aelod cyn gynted â phosibl i lenwi'r swydd wag. Mae ethol Llywydd yn cymryd blaenoriaeth dros bob busnes arall.

6.3                 Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 6.4, mae’r trafodion ar gyfer ethol Llywydd yn y cyfarfod cyntaf ar ôl etholiad y Senedd i’w cadeirio gan y Llywydd a oedd yn dal y swydd yn union cyn etholiad y Senedd (“y cyn-Lywydd”).

6.4                 Os bydd:

(i)        y cyn-Lywydd yn anfodlon gweithredu neu’n methu gweithredu yn y cyfarfod cyntaf ar ôl etholiad y Senedd; neu

(ii)      y Dirprwy yn anfodlon gweithredu neu’n methu gweithredu mewn unrhyw etholiad ar gyfer Llywydd ar unrhyw adeg arall, neu os nad oes Dirprwy yn y swydd,

mae’r trafodion ar gyfer ethol Llywydd i gael eu cadeirio gan y Clerc.

6.5                 Ni chaniateir i Aelod sy’n cadeirio trafodion ar gyfer ethol Llywydd gael ei enwebu i’w ethol yn Llywydd yn y trafodion hynny.

6.6                 Wrth ethol Llywydd neu Ddirprwy, rhaid i’r cadeirydd wahodd enwebiadau. Yn y lle cyntaf, ni fydd enwebiad yn ddilys oni chaiff ei eilio gan Aelod nad yw'n aelod o'r grŵp gwleidyddol y mae'r Aelod sy'n enwebu yn perthyn iddo.

6.7                 Os yw'n ymddangos nad yw’r un Aelod yn debyg o gael ei enwebu a'i eilio gan aelodau o grwpiau gwleidyddol gwahanol, rhaid i’r cadeirydd ohirio'r trafodion, ac, wedi i’r trafodion ailddechrau, caiff y cadeirydd dderbyn enwebiadau sy'n cael eu heilio gan aelodau o'r un grŵp gwleidyddol â'r Aelod sy'n enwebu.

6.8                 Os un enwebiad yn unig a geir, rhaid i’r cadeirydd gynnig bod yr Aelod a enwebwyd yn cael ei ethol yn Llywydd (neu’n Ddirprwy yn ôl fel y digwydd). Os gwrthwynebir hynny, neu os ceir dau neu ragor o enwebiadau, rhaid i’r cadeirydd drefnu bod yr etholiad yn cael ei gynnal drwy bleidlais gyfrinachol.

6.9                 Os bydd dau Aelod wedi'u henwebu, rhaid i’r cadeirydd ddatgan mai’r Aelod sydd wedi sicrhau’r nifer mwyaf o’r pleidleisiau a fwriwyd yn y bleidlais gyfrinachol sydd wedi’i ethol.

6.10              Os bydd mwy na dau Aelod wedi’u henwebu ac na fydd yr un Aelod yn cael mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd mewn pleidlais gyfrinachol, mae’r ymgeisydd sydd wedi cael y nifer lleiaf o bleidleisiau yn cael ei hepgor ac mae rhagor o bleidleisiau cyfrinachol yn cael eu cynnal nes y bydd un ymgeisydd yn cael mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd; ac os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd sy’n weddill (neu'r unig ddau ymgeisydd) yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol arall.

6.11              Rhaid i’r Aelod a etholir yn Llywydd gymryd y llw neu roi cadarnhad ar unwaith os nad yw wedi gwneud hynny eisoes, ac wedyn cymryd y gadair.

6.12              Rhaid i’r Senedd beidio ag ethol Llywydd a Dirprwy sy’n perthyn:

(i)        i’r un grŵp gwleidyddol;

(ii)      i grwpiau gwleidyddol gwahanol y mae gan y ddau ohonynt rôl weithredol; neu

(iii)     i grwpiau gwleidyddol gwahanol nad oes gan y naill na’r llall ohonynt rôl weithredol.

6.13              Caniateir i Reol Sefydlog 6.12 gael ei datgymhwyso drwy benderfyniad gan y Senedd (ar yr amod, os caiff y cynnig ar gyfer y penderfyniad ei basio drwy bleidlais, nad yw’n dod i rym oni bai bod o leiaf ddwy ran o dair o’r rhai sy’n pleidleisio yn ei gefnogi); a chaiff unrhyw Aelod, heb roi hysbysiad, wneud cynnig ar gyfer penderfyniad o’r fath yn union cyn i’r Senedd fwrw ymlaen i ethol Llywydd neu Ddirprwy.

6.14              Os bydd y Llywydd a’r Dirprwy, yn ystod Senedd, yn dod yn aelodau:

(i)        o’r un grŵp gwleidyddol;

(ii)      o grwpiau gwleidyddol gwahanol y mae gan y ddau ohonynt rôl weithredol; neu

(iii)     o grwpiau gwleidyddol gwahanol nad oes gan y naill na’r llall ohonynt rôl weithredol,

ac na fydd y naill na’r llall yn ymddiswyddo, caiff unrhyw Aelod, heb roi hysbysiad, wneud cynnig yn y cyfarfod llawn nesaf fod y Llywydd a’r Dirprwy yn parhau yn eu swyddi. Os na wneir cynnig o’r fath, neu os na chaiff y cynnig ei basio drwy bleidlais a gefnogir gan o leiaf ddwy ran o dair o’r rhai sy’n pleidleisio, rhaid i’r Llywydd a’r Dirprwy ymddiswyddo.

Swyddogaethau’r Llywydd

6.15              Swyddogaethau’r Llywydd yw:

(i)        cadeirio cyfarfodydd llawn;

(ii)      penderfynu ar gwestiynau ynglŷn â dehongli’r Rheolau Sefydlog neu sut i’w cymhwyso;

(iii)     cynrychioli’r Senedd mewn trafodaethau ag unrhyw gyrff eraill, boed y tu mewn neu’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, mewn perthynas â materion sy’n effeithio ar y Senedd; a

(iv)     unrhyw swyddogaethau eraill a roddir gan unrhyw ddeddfiad, gan y Senedd neu gan y Rheolau Sefydlog hyn.

6.16              Mae penderfyniadau’r Llywydd ar ddehongli’r Rheolau Sefydlog neu sut i’w cymhwyso yn derfynol.

6.17              Ar ôl ymgynghori â’r Pwyllgor Busnes, caiff y Llywydd roi canllawiau ysgrifenedig i’r Aelodau ynglŷn â chynnal trafodion y Senedd yn y modd priodol.

6.18              Yn absenoldeb y Llywydd neu yn unol â chais ganddo, rhaid i’r Dirprwy arfer swyddogaethau’r Llywydd, cyhyd ag y caniateir hynny gan y Ddeddf.

6.19              Wrth gyflawni swyddogaethau’r Llywydd, rhaid i’r Llywydd a’r Dirprwy amlygu didueddrwydd bob amser.

6.20               Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 6.21, mewn cyfarfodydd llawn, dim ond wrth ddefnyddio pleidlais fwrw y caniateir i’r Llywydd neu’r Dirprwy bleidleisio.  Os bydd nifer y pleidleisiau yn gyfartal, rhaid i bleidlais fwrw gael ei rhoi:

(i)        yn gadarnhaol os oes rhagor o drafod ar y mater sydd gerbron y Senedd yn bosibl; a

(ii)      yn negyddol os nad oes rhagor o drafod yn bosibl neu os ceir pleidlais ar welliant.

6.21              Caiff y Llywydd a’r Dirprwy bleidleisio mewn cyfarfodydd llawn lle bo deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i basio penderfyniad neu gynnig drwy bleidlais lle bydd nifer yr Aelodau sy’n pleidleisio o blaid y penderfyniad neu’r cynnig yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau’r Senedd.

Cadeiryddion Dros Dro yn y Cyfarfodydd Llawn

6.22              Caiff unrhyw Aelod, ac eithrio aelod o’r llywodraeth, ar gais y Llywydd neu'r Dirprwy pan fo'r naill neu'r llall yn cadeirio cyfarfod llawn o'r Senedd, gadeirio dros dro.

6.23              Rhaid i Aelod sy'n gweithredu fel cadeirydd beidio ag arfer yr un o swyddogaethau'r Llywydd ac eithrio:

(i)        galw busnes yn y drefn y mae'n ymddangos ar yr agenda;

(ii)      gwneud trefniadau angenrheidiol i addasu'r amserlen ar gyfer busnes er mwyn hwyluso'r modd o gynnal busnes yn effeithiol;

(iii)     ar ddiwedd y trafodion ar eitem o fusnes, gwahodd y Senedd i gytuno ar unrhyw gwestiynau y mae angen cytuno arnynt neu ohirio unrhyw gwestiynau y mae angen cytuno arnynt er mwyn cwblhau'r busnes yn unol â Rheolau Sefydlog 12.36 a 12.37;

(iv)     cynnig y dylid grwpio cynigion neu welliannau yn unol â Rheol Sefydlog 12.40;

(v)       o dan unrhyw amgylchiadau pan fydd yn credu bod hynny'n briodol, gohirio'r trafodion neu atal y trafodion am gyfnod penodedig;

(vi)     y rhai a nodir yn Rheol Sefydlog 13 ac eithrio, os yw'r Aelod o'r farn bod ymddygiad Aelod yn cyfiawnhau ymneilltuo, fod yn rhaid i'r Aelod atal y cyfarfod dros dro nes y bydd y Llywydd neu'r Dirprwy wedi dychwelyd.

Llywydd Dros Dro

6.24              Bob tro y bydd y Llywydd a'r Dirprwy ill dau yn methu gweithredu (ac eithrio o dan Reol Sefydlog 6.22), rhaid i’r Clerc gymryd y gadair a hynny dim ond er mwyn trefnu bod Aelod yn cael ei ethol i weithredu fel Llywydd dros dro, a rhaid i Aelod a etholir felly arfer swyddogaethau’r Llywydd nes y bydd naill ai'r Llywydd neu'r Dirprwy yn gallu gweithredu.

Ymddiswyddiad neu Ddiswyddiad y Llywydd neu'r Dirprwy

6.25              Caiff y Llywydd neu'r Dirprwy ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc.

6.26              Os caiff cynnig:

(i)        y dylid diswyddo’r Llywydd; neu

(ii)      y dylid diswyddo’r Dirprwy,

ei gyflwyno gan o leiaf chwe Aelod, rhaid trefnu bod amser ar gael cyn gynted â phosibl i’r cynnig gael ei drafod; a rhaid i’r ddadl honno gael ei chynnal beth bynnag o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl i’r cynnig gael ei gyflwyno.

6.27              Os bydd y Senedd yn penderfynu diswyddo’r Llywydd neu’r Dirprwy, mae swydd y Llywydd neu’r Dirprwy, yn ôl fel y digwydd, yn wag ar unwaith.

7. RHEOL SEFYDLOG 7 – Comisiwn y Senedd

Penodi’r Aelodau

7.1                 Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl etholiad y Senedd, ond heb fod yn fwy na 10 diwrnod ar ôl penodi aelodau’r Pwyllgor Busnes, rhaid i’r Senedd ystyried cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i gynnig enwau’r pedwar Aelod sydd i’w penodi’n aelodau o’r Comisiwn o dan adran 27(2)(b) o’r Ddeddf.

7.2                 Cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, ni chaiff mwy nag un o aelodau’r Comisiwn (ac eithrio’r Llywydd) berthyn i unrhyw un grŵp gwleidyddol.

7.3                 Os oes pedwar neu fwy o grwpiau gwleidyddol yn y Senedd, mater i bob un o’r pedwar grŵp gwleidyddol mwyaf yw cyfleu i’r Pwyllgor Busnes enw aelod o’i grŵp gwleidyddol sydd i’w gynnwys yn y cynnig a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 7.1.

7.4                 Os oes llai na phedwar grŵp gwleidyddol yn y Senedd:

(i)        mater i’r grwpiau gwleidyddol yw cyfleu i’r Pwyllgor Busnes enw aelod o’i grŵp gwleidyddol; a

(ii)      mater i’r Pwyllgor Busnes yw penderfynu ar enw unrhyw Aelod neu Aelodau ychwanegol,

sydd i’w cynnwys yn y cynnig a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 7.1.

7.5                 At ddibenion Rheol Sefydlog 7.3, os oes dau neu fwy o grwpiau gwleidyddol a chanddynt yr un nifer o aelodau, rhaid i’r Llywydd benderfynu pa un o’r grwpiau gwleidyddol hynny sydd i’w gyfrif fel y mwyaf, a hynny drwy roi sylw i lefel y gefnogaeth etholiadol i bob un o’r grwpiau gwleidyddol o dan sylw.

7.6                 Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig o dan Reol Sefydlog 7.1.

Ymddiswyddo neu Ddiswyddo

7.7                 Mae aelod o’r Comisiwn yn ymddiswyddo o’r Comisiwn drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Clerc. Ni chaniateir i’r Llywydd ymddiswyddo o’r Comisiwn.

7.8                 Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig y dylai Aelod penodol (ac eithrio’r Llywydd) gael ei ddiswyddo o’r Comisiwn ac, os derbynnir unrhyw gynnig o’r fath yn y cyfarfod llawn, mae’r Aelod hwnnw yn cael ei ddiswyddo o’r Comisiwn ar unwaith.

7.9                 Pan fydd aelod o’r Comisiwn yn peidio â bod yn Aelod (ac eithrio drwy ddiddymu’r Senedd), neu’n ymddiswyddo neu’n cael ei ddiswyddo o’r Comisiwn, rhaid i’r Senedd ystyried cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i gynnig enw Aelod i gymryd lle’r Aelod hwnnw fel aelod o’r Comisiwn.

7.10              Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig o dan Reol Sefydlog 7.9.

Cyfarwyddiadau Arbennig neu Gyffredinol i’r Comisiwn

7.11              Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i roi cyfarwyddiadau arbennig neu gyffredinol i’r Comisiwn. Rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyflwyno adroddiad ynghylch a ddylid trefnu bod amser ar gael i drafod cynnig o’r fath.


8. RHEOL SEFYDLOG 8 – Gweinidogion Cymru a Dirprwy Weinidogion Cymru

Enwebu Prif Weinidog Cymru.

8.1                 Yn ddarostyngedig i adran 47(3) o’r Ddeddf, o fewn 28 diwrnod ar ôl digwyddiad a bennwyd yn adran 47(2) o’r Ddeddf, rhaid i’r Senedd enwebu Aelod i’w benodi’n Brif Weinidog Cymru (“yr enwebai”).

8.2                 Rhaid i’r Llywydd wahodd enwebiadau. Os un enwebiad yn unig a wneir, rhaid i’r Llywydd ddatgan mai’r Aelod hwnnw yw’r enwebai. Os gwneir mwy nag un enwebiad, rhaid i’r Llywydd, drwy alw cofrestr yr Aelodau yn nhrefn yr wyddor, wahodd pob Aelod sy’n bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd (ac eithrio na chaiff y Llywydd na'r Dirprwy bleidleisio). Os bydd dau Aelod wedi’u henwebu, rhaid i’r Llywydd ddatgan mai’r ymgeisydd a gafodd y nifer mwyaf o'r pleidleisiau a fwriwyd yw’r enwebai. Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais arall drwy alw’r gofrestr.

8.3                 Os bydd mwy na dau Aelod wedi’u henwebu ac na fydd yr un Aelod yn cael mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd drwy alw’r gofrestr, rhaid i’r ymgeisydd sydd wedi cael y nifer lleiaf o bleidleisiau gael ei hepgor a rhaid cynnal rhagor o bleidleisiau drwy alw’r gofrestr nes y bydd un ymgeisydd yn cael mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd; a rhaid i’r Llywydd ddatgan mai’r Aelod hwnnw yw’r enwebai. Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd sy'n weddill yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais arall drwy alw’r gofrestr.

Ymddiswyddiad etc. Prif Weinidog Cymru neu Aelod arall o’r Llywodraeth

8.4                 Pan hysbysir y Llywydd fod Prif Weinidog Cymru wedi cynnig ei ymddiswyddiad i’w Mawrhydi, os caiff yr ymddiswyddiad ei dderbyn, rhaid i’r Llywydd hysbysu’r Senedd.

8.5                 Pan hysbysir y Llywydd fod unrhyw alod arall o’r llywodraeth wedi ymddiswyddo, rhaid i’r Llywydd hysbysu’r Senedd.

8.6                 Os bydd y Llywydd yn dynodi person i arfer swyddogaethau Prif Weinidog Cymru o dan adran 46 o’r Ddeddf, rhaid i’r Llywydd hysbysu’r Senedd.

8.7                 Os caiff cynnig ei gyflwyno gan o leiaf chwe Aelod nad oes gan Weinidogion Cymru hyder y Senedd mwyach, rhaid trefnu bod amser ar gael cyn gynted â phosibl i’r cynnig gael ei drafod; a rhaid i’r ddadl honno gael ei chynnal beth bynnag o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl i’r cynnig gael ei gyflwyno.


 

9. RHEOL SEFYDLOG 9 – Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru

Penodi

9.1          Rhaid i gytundeb y Senedd ag argymhelliad Prif Weinidog Cymru i’w Mawrhydi ynglŷn â pherson i’w benodi’n Gwnsler Cyffredinol gael ei ddynodi drwy benderfyniad gan y Senedd.

9.2          Rhaid i unrhyw gynnig ar gyfer penderfyniad o’r fath gael ei wneud gan Brif Weinidog Cymru. Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i’r cynnig.

Cymryd Rhan yn Nhrafodion y Senedd

9.3          Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf, caiff y Cwnsler Cyffredinol wneud unrhyw beth o dan y Rheolau Sefydlog hyn y caniateir iddo gael ei wneud gan un o Weinidogion Cymru.

9.4          Os nad yw’r Cwnsler Cyffredinol yn Aelod, mae’r Rheolau Sefydlog yn gymwys i’r Cwnsler Cyffredinol fel y maent yn gymwys i Aelodau a chaiff y Cwnsler Cyffredinol gymryd rhan yn nhrafodion y Senedd ond ni chaiff bleidleisio.

Diswyddo neu Ymddiswyddo

9.5          Rhaid i gytundeb y Senedd ag argymhelliad Prif Weinidog Cymru i’w Mawrhydi y dylid diswyddo person o swydd y Cwnsler Cyffredinol gael ei ddynodi drwy benderfyniad gan y Senedd.

9.6          Rhaid i unrhyw gynnig ar gyfer penderfyniad o’r fath gael ei wneud gan Brif Weinidog Cymru. Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i’r cynnig.

9.7          Pan hysbysir y Llywydd fod y Cwnsler Cyffredinol wedi cynnig ei ymddiswyddiad i’w Mawrhydi, os caiff yr ymddiswyddiad ei dderbyn, rhaid i’r Llywydd hysbysu’r Senedd.

9.8          Mae’r Cwnsler Cyffredinol yn peidio â dal ei swydd os enwebir Aelod i’w benodi’n Brif Weinidog Cymru o dan adran 47(1) o’r Ddeddf.

Arfer Swyddogaethau Dros Dro

9.9          Pan hysbysir y Llywydd:

(i)        bod person wedi’i ddynodi gan Brif Weinidog Cymru o dan adran 49(6) o’r Ddeddf i arfer swyddogaethau’r Cwnsler Cyffredinol; neu

(ii)      bod dynodiad o’r fath wedi dod i ben,

rhaid i’r Llywydd hysbysu’r Senedd.

10. RHEOL SEFYDLOG 10 – Penodiadau etc. i Swydd Gyhoeddus

Cymhwyso

10.1              Bydd Rheol Sefydlog 10 yn gymwys (yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 10.2) mewn perthynas â swydd gyhoeddus os bydd yn ofynnol penodi rhywun i’r swydd honno, gan neu o dan unrhyw ddeddfiad:

(i)        gan y Senedd, neu

(ii)      ar sail enwebiad neu argymhelliad y Senedd, neu

(iii)     â chymeradwyaeth y Senedd.

10.2              Nid yw Rheol Sefydlog 10 yn gymwys i swydd os gwneir darpariaeth ar gyfer penodi rhywun i’r swydd honno rywle arall yn y Rheolau Sefydlog.

10.3              Cyfeirir at swydd y mae Rheol Sefydlog 10 yn gymwys iddi fel “swydd berthnasol”.

10.4              Bydd Rheol Sefydlog 10 yn dod i rym yn ddarostyngedig i unrhyw ofynion statudol mewn perthynas â’r penodiad.

Dull Penodi

10.5              Rhaid penodi rhywun i swydd berthnasol (neu enwebu, argymell neu gymeradwyo rhywun i gael ei benodi i swydd berthnasol) drwy benderfyniad gan y Senedd.

Ystyriaeth y Pwyllgor

10.6              Caiff pwyllgor y mae ei gylch gorchwyl yn ymwneud â swyddogaeth swydd berthnasol gyfarfod i gymryd tystiolaeth gan ymgeisydd i’w benodi i’r swydd honno er mwyn ystyried a yw’r pwyllgor yn cefnogi’r penderfyniad i benodi’r ymgeisydd hwnnw.

Diswyddo

10.7              Pan gaiff y Senedd, o dan unrhyw ddeddfiad, ddiswyddo deiliad swydd berthnasol, rhaid i’r diswyddiad hwnnw (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir gan y deddfiad hwnnw) gael ei wneud drwy benderfyniad gan y Senedd.

10.8              Os cyflwynir cynnig i ddiswyddo deiliad swydd berthnasol gan o leiaf chwe Aelod, rhaid neilltuo amser cyn gynted â phosibl er mwyn trafod y cynnig; a rhaid i’r ddadl honno gael ei chynnal beth bynnag o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl i’r cynnig gael ei gyflwyno.

Dim Gwelliannau i Gynigion

10.9              Ni chaniateir cyflwyno gwelliannau i gynigion o dan Reolau Sefydlog 10.5 a 10.8.


 

11. RHEOL SEFYDLOG 11 – Trefn Busnes

Y Pwyllgor Busnes

11.1              Bydd Pwyllgor Busnes, a hynny i hwyluso’r modd o drefnu trafodion y Senedd yn effeithiol.

11.2              Nid yw Rheolau Sefydlog 17.3 i 17.6 yn gymwys i’r Pwyllgor Busnes.

11.3              Cyn gynted â phosibl ar ôl etholiad y Senedd, rhaid i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth gyflwyno cynnig i benodi yn aelodau o’r Pwyllgor y Llywydd, un Aelod a enwebir gan bob grŵp gwleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd ac (os bydd unrhyw dri neu fwy o Aelodau nad ydynt yn aelodau o grŵp gwleidyddol yn penderfynu ffurfio grwpiad at ddibenion Rheol Sefydlog 11) Aelod a enwebir gan bob grwpiad o Aelodau. Ni chaniateir cyflwyno gwelliannau i gynnig o dan Reol Sefydlog 11.3.

11.4              Ni chaniateir pasio cynnig o dan Reol Sefydlog 11.3 (os yw’r cynnig yn cael ei basio drwy bleidlais) oni bai bod o leiaf ddwy ran o dair o’r Aelodau sy’n pleidleisio yn ei gefnogi.

11.5              Os caiff cynnig o dan Reol Sefydlog 11.3 ei basio:

(i)        rhaid i’r Pwyllgor gael ei gadeirio gan y Llywydd (nad yw’n cael pleidleisio ac eithrio i arfer pleidlais fwrw, yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 11.5(iii));

(ii)      bydd gan bob aelod arall o’r Pwyllgor un bleidlais am bob aelod o’r grŵp gwleidyddol (neu’r grwpiad gwleidyddol, yn ôl fel y digwydd) y mae’n ei gynrychioli (gan gynnwys ei hun a’r Llywydd a’r Dirprwy os ydynt hwythau’n aelodau o’i grŵp neu ei grwpiad gwleidyddol);

(iii)     os yw nifer yr Aelodau nad ydynt yn aelodau o grŵp gwleidyddol yn golygu (am y rheswm hwnnw yn unig) nad os modd iddynt ffurfio grŵp neu grwpiad gwleidyddol, bydd gan bob Aelod o’r fath hawl i fod yn bresennol yn nhrafodion y Pwyllgor a chaiff bleidleisio.

(iv)     wrth ymgymryd â’r swyddogaethau o dan Reol Sefydlog 11.7(ii) neu 11.7(iii), caiff aelod o’r Pwyllgor sy’n cynrychioli grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol ddefnyddio’r pleidleisiau sydd ganddo o dan Reol Sefydlog 11.5(ii), ond rhaid gostwng nifer y pleidleisiau yn ôl nifer sy’n gyfartal â nifer yr Aelodau sy’n aelodau o’i grŵp gwleidyddol ac sydd hefyd yn aelodau o’r llywodraeth;

(v)       nid yw Rheolau Sefydlog 17.21, 17.22 a 17.37 i 17.39 yn gymwys i’r Pwyllgor.

11.6              Os caiff cynnig o dan Reol Sefydlog 11.3 ei gynnig ond nid ei basio, mae Rheolau Sefydlog 17.7 i 17.10 yn gymwys i’r Pwyllgor gan osod y geiriau “o dan Reol Sefydlog 11.3 i benodi aelodau’r Pwyllgor Busnes” yn Rheol Sefydlog 17.7 yn lle’r geiriau “i gytuno aelodaeth pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.3”, a’r geiriau “Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth” yn lle “Pwyllgor Busnes”.

11.7              Rhaid i’r Pwyllgor:

(i)        cyflwyno sylwadau ar gynigion ar gyfer trefn busnes y llywodraeth yn y cyfarfodydd llawn (y mae’n rhaid penderfynu arni o dan Reol Sefydlog 11.12);

(ii)      penderfynu ar drefn busnes y Senedd yn y cyfarfodydd llawn, yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 11.5(iv);

(iii)     penderfynu ar y cynnig o ran teitlau a chylch gorchwyl y pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 11.5(iv);

(iv)     gwneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Senedd wrth gynnal ei fusnes (gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog, neu unrhyw ran ohonynt, neu eu diwygio);

(v)       ymgymryd â’r swyddogaethau a ddyrennir i’r Pwyllgor yn y Rheolau Sefydlog.

11.8              Rhaid i’r Pwyllgor gyfarfod o leiaf bob dwy wythnos eistedd.

Amserlen y Senedd

11.9              O dro i dro, rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyhoeddi amserlen am gyfnodau heb fod yn llai na chwe mis, a rhaid iddi gynnwys y canlynol:

(i)        amserlenni amlinellol y cyfarfodydd llawn;

(ii)      yr amseroedd a fydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd pwyllgor;

(iii)     yr amseroedd a fydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd grwpiau gwleidyddol;

(iv)     toriadau; a

(v)       dyddiadau ar gyfer cwestiynau i’w hateb ar lafar gan Brif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a’r Comisiwn.

11.10          Rhaid i amserlenni o dan Reol Sefydlog 11.9 roi sylw i gyfrifoldebau’r Aelodau tuag at y teulu a’r etholaeth neu’r rhanbarth etholiadol, ac i’w trefniadau teithio tebygol; ac fel rheol dylent geisio osgoi amserlennu busnes cyn 9.00am neu ar ôl 6.00pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith.

Busnes Wythnosol

11.11          Ym mhob wythnos y bydd y Senedd yn cynnal cyfarfod llawn, rhaid i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth:

(i)        gwneud datganiad ynghylch trefn busnes y llywodraeth yn y cyfarfodydd llawn; a

(ii)      ar yr un pryd, cyhoeddi trefn busnes y Senedd yn y cyfarfodydd llawn,

am yr wythnos gyntaf ar ôl yr wythnos y gwneir y datganiad, ynghyd â darpar drefn busnes y ddwy wythnos ddilynol.

11.12          Rhaid i drefn busnes y llywodraeth yn y cyfarfodydd llawn gael ei phennu gan y llywodraeth.

11.13          Rhaid i drefn busnes y Senedd yn y cyfarfodydd llawn gael ei phennu gan y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(ii).

11.14          Rhaid neilltuo amser penodedig i bob eitem o fusnes y cyfeirir ati yn y datganiad a’r cyhoeddiad.

11.15          Mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes y cyfeirir ati yn y datganiad neu’r cyhoeddiad (ac eithrio unrhyw eitem o fusnes pan fydd gwelliannau i ddeddfwriaeth i gael eu hystyried), caiff y llywodraeth (yn achos busnes y llywodraeth) neu’r Pwyllgor Busnes (yn achos busnes y Senedd):

(i)        pennu’r amser neu’r pwynt cynharaf posibl yn ystod busnes cyfarfod llawn yr un diwrnod hwnnw ar gyfer cynnal unrhyw bleidlais neu bleidleisiau sy’n angenrheidiol er mwyn cwblhau’r busnes, oni bai y penderfynir ar y busnes yn unol â Rheol Sefydlog 12.36; a

(ii)      penderfynu na ddylai Rheol Sefydlog 12.36 fod yn gymwys i eitem o fusnes a phennu amser neu bwynt yn ystod busnes cyfarfod llawn yr un diwrnod hwnnw ar gyfer cynnal unrhyw bleidlais sy’n angenrheidiol er mwyn cwblhau’r eitem honno o fusnes.

11.16          Y datganiad a’r cyhoeddiad yw’r amserlen ar gyfer busnes yn y cyfarfodydd llawn am yr wythnos gyntaf ar ôl yr wythnos y gwnaed y datganiad a’r cyhoeddiad.

Categorïau o Fusnes y Cyfarfodydd Llawn

11.17          Rhaid i gyfanswm yr amser a ddyrennir rhwng busnes y llywodraeth a busnes y Senedd yn y cyfarfodydd llawn mewn blwyddyn Senedd, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, fod yn y cyfrannedd 3:2.

11.18          At ddibenion Rheolau Sefydlog 11 a 12, mae busnes y llywodraeth yn cynnwys trafodion ar y canlynol:

(i)        cwestiynau llafar (ac eithrio cwestiynau llafar i’r Comisiwn), a chwestiynau amserol o dan Reol Sefydlog 12.68A)

(ii)      unrhyw ddadl frys a gynigir gan aelod o’r llywodraeth o dan Reol Sefydlog 12.69;

(iii)     datganiadau gan aelod o’r llywodraeth;

(iv)     deddfwriaeth lle mae’r Aelod sy’n gyfrifol am y ddeddfwriaeth yn aelod o’r llywodraeth;

(v)       unrhyw gynnig a gyflwynir gan aelod o’r llywodraeth

11.19          At ddibenion Rheolau Sefydlog 11 a 12, mae busnes y Senedd yn cynnwys pob eitem o fusnes ac eithrio’r rheini a restrir o dan Reol Sefydlog 11.18.

11.20          Rhaid i’r Llywydd benderfynu ar unrhyw gwestiwn ai busnes y Senedd, neu fusnes y llywodraeth yw mater.

11.21          Rhaid trefnu bod amser ar gael ym mhob blwyddyn Senedd ar gyfer dadleuon ar yr eitemau canlynol o fusnes:

(i)        [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y cyfarfod llawn ar 27 Medi 2017]

(ii)      amcanion polisi a rhaglen ddeddfu’r llywodraeth;

(iii)     cynigion a wneir ar ran grwpiau gwleidyddol nad ydynt yn grwpiau gwleidyddol a chanddynt rôl weithredol (a chyn belled ag y bo modd rhaid i’r amser a ddyrennir i bob grŵp gwleidyddol ar gyfer cynigion a wneir ganddo gyfateb i gynrychiolaeth y grŵp yn y Senedd);

(iv)     cynigion a wneir gan unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth;

(v)       dadleuon ar adroddiadau a osodir gan bwyllgorau;

(vi)     Dadleuon Byr; a

(vii)    deddfwriaeth pan nad yw’r Aelod sy’n gyfrifol am y ddeddfwriaeth yn aelod o’r llywodraeth.

Hysbysiad Busnes

11.22          Rhaid i’r Clerc gyhoeddi a chadw manylion busnes sydd i’w gynnal y mae’n rhaid iddo gynnwys yr hysbysiad ynglŷn ag agendâu'r cyfarfodydd llawn a’r pwyllgorau, ynghyd â gwybodaeth am unrhyw rai o’r canlynol sydd wedi’u cyflwyno neu wedi’u gosod gerbron y Senedd:

(i)        cwestiynau llafar ac ysgrifenedig;

(ii)      cynigion a gwelliannau i gynigion;

(iii)     gorchmynion arfaethedig a drafft yn y Cyfrin Gyngor i’w gwneud o dan adran 109 o’r Ddeddf;

(iv)     Biliau a gwelliannau i Filiau;

(v)       is-ddeddfwriaeth neu is-ddeddfwriaeth ddrafft; a

(vi)     unrhyw ddogfennau a osodwyd gerbron y Senedd.


 

12. RHEOL SEFYDLOG 12 – Busnes yn y Cyfarfodydd Llawn

Cyfarfodydd Llawn

12.1              Rhaid i gyfarfodydd llawn y Senedd gael eu cynnal yn gyhoeddus a rhaid caniatáu mynediad ar gyfer darlledu yn unol â'r trefniadau y bydd y Comisiwn yn cytuno arnynt.

12.2              Rhaid i’r Senedd gyfarfod yn llawn yn unol â Rheolau Sefydlog 11 a 12.

12.3              Os na fydd cyfarfod llawn wedi'i amserlennu ar gyfer dyddiad neu amser penodol caiff y Llywydd, ar gais Prif Weinidog Cymru, gynnull y Senedd i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys.

12.4              Cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, rhaid trefnu bod unrhyw ddogfen a ddarperir ar gyfer busnes yr ymdrinnir ag ef yn y cyfarfodydd llawn ar gael yn gyhoeddus.

12.5              [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y cyfarfod llawn ar 27 Medi 2017]

12.6              Rhaid i gyfarfodydd llawn fel arfer:

(i)        cael eu cynnal ar ddydd Mawrth a dydd Mercher a’u bod yn dechrau am 1.30pm;

(ii)      ystyried busnes y llywodraeth yn gyntaf.

Cyfarfodydd Llawn yn dilyn Etholiad y Senedd

12.7              Rhaid cynnal y cyfarfod llawn cyntaf ar ôl etholiad y Senedd ar adeg a bennir gan y Llywydd, ar ôl iddo ymgynghori â’r grwpiau gwleidyddol, (neu os yw’r Llywydd yn anfodlon gweithredu neu os nad oes modd iddo wneud, rhaid i’r Clerc bennu’r amser), a hynny yn unol ag adran 3 neu 5 o’r Ddeddf.

12.8              Rhaid i’r cyfarfodydd llawn dilynol fod ar ddyddiad ac ar amser a bennir gan y Llywydd, ar ôl iddo ymgynghori â’r grwpiau gwleidyddol, nes y cyfarfod cyntaf y gwnaed datganiad a chyhoeddiad busnes yn ei gylch o dan Reol Sefydlog 11.11.

12.9              Rhaid i’r Clerc hysbysu pob Aelod o ddyddiad ac amser y cyfarfodydd llawn a drefnwyd o dan Reolau Sefydlog 12.7 a 12.8 o leiaf 24 awr cyn y cyfarfod.

12.10          Yr unig fusnes sydd i’w ystyried mewn cyfarfodydd llawn a drefnwyd o dan Reolau Sefydlog 12.7 a 12.8 yw:

(i)        unrhyw fusnes o dan Reol Sefydlog 12.16;

(ii)      unrhyw fusnes arall y mae’r Senedd yn cytuno arno drwy benderfyniad.

12.11          Caniateir enwebiadau o dan Reol Sefydlog 8 mewn cyfarfodydd llawn a drefnwyd o dan Reolau Sefydlog 12.7 a 12.8 dim ond os bydd y Senedd, drwy benderfyniad, yn cytuno.

12.12          Nid yw Rheolau Sefydlog 11.12 a 11.13 yn gymwys i gyfarfodydd llawn a drefnwyd o dan Reolau Sefydlog 12.7 a 12.8.

12.13          Ni fydd y cyfnodau hysbysu a geir yn Rheolau Sefydlog 12.20 a 12.22 ar gyfer cyflwyno cynigion a gwelliannau yn gymwys i unrhyw gynigion a gyflwynwyd ar gyfer busnes yr ymdrinnir ag ef mewn cyfarfodydd llawn a drefnwyd o dan Reol Sefydlog 12.7 neu 12.8, nac i unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r fath gynigion.

Trefn Busnes y Cyfarfodydd Llawn

12.14          Rhaid i fusnes gael ei alw gan y Llywydd a rhaid ymdrin ag ef yn y drefn y mae’n ymddangos ar agenda’r cyfarfod llawn, yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 12.16.

12.15          Os daw’r trafodion ar eitem o fusnes i ben cyn diwedd yr amser a ddyrannwyd ar ei chyfer, rhaid ymdrin â’r busnes nesaf (os oes busnes nesaf).

12.16          Mae’r categorïau o fusnes y caniateir ymdrin â hwy mewn cyfarfod llawn heb hysbysiad, gyda chytundeb y Llywydd, yn cynnwys:

(i)        datganiadau gan y Llywydd, gan aelod o’r llywodraeth neu gan y Comisiwn am unrhyw fater sydd o fewn ei gyfrifoldebau;

(ii)      cyflwyno Aelodau newydd;

(iii)     teyrngedau coffa i gyn-Aelodau ac eraill;

(iv)     etholiadau, enwebiadau neu benodiadau gan y Senedd, , gan gynnwys cynigion o dan Reol Sefydlog 17.2A;

(v)       datganiadau personol;

(vi)     unrhyw ddadl frys a gynigir gan Aelod o dan Reol Sefydlog 12.69;

(vii)    cynigion gweithdrefnol o dan Reol Sefydlog 12.31;

(viii)  pwyntiau o drefn sy’n ymwneud â chynnal busnes; a

(ix)     unrhyw faterion eraill sy’n briodol ym marn y Llywydd.

12.17          Caiff y Llywydd wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol i addasu’r amserlen ar gyfer busnes ar y diwrnod hwnnw (gan gynnwys ymestyn hyd yr eisteddiad), er mwyn hwyluso’r modd o gynnal busnes yn effeithiol.

12.18          O dan unrhyw amgylchiad arall lle bydd y Llywydd yn credu bod hynny’n briodol, caiff y Llywydd ohirio’r trafodion heb gynnal pleidlais ar unrhyw gynnig, neu caiff atal y trafodion dros dro am gyfnod penodedig.

Cynigion

12.19          Rhaid i’r busnes yn y cyfarfodydd llawn fynd yn ei flaen ar sail y cynigion a wneir, ac eithrio’r canlynol:

(i)        datganiadau;

(ii)      cyflwyno Aelodau newydd;

(iii)     teyrngedau coffa i gyn-Aelodau ac eraill;

(iv)     cwestiynau llafar;

(v)       dadleuon brys o dan Reol Sefydlog 12.69; a

(vi)     pan fydd Aelod yn cynnig pwnc ar gyfer Dadl Fer o dan Reol Sefydlog 12.72.

12.20          Ac eithrio pan fydd y Rheolau Sefydlog yn darparu fel arall:

(i)        rhaid i gynnig gael ei gyflwyno o leiaf bum diwrnod gwaith cyn ei drafod;

(ii)      caniateir i gynnig gael ei wneud gan unrhyw Aelod; a

(iii)     rhaid i gynnig gael ei gyflwyno yn unol â Rheol Sefydlog 15.

12.21          Caiff unrhyw Aelod ychwanegu ei enw i gynnig drwy hysbysu’r Clerc ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd y diwrnod gwaith cyn bod y cynnig i fod i gael ei ystyried yn y cyfarfod llawn.

12.22          Ac eithrio pan fydd y Rheolau Sefydlog yn darparu fel arall:

(i)        caniateir i welliannau gael eu cynnig i unrhyw gynnig a rhaid iddynt gael eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith cyn bod y cynnig i’w drafod; a

(ii)      caniateir i unrhyw Aelod ychwanegu ei enw i welliant drwy hysbysu’r Clerc ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd y diwrnod gwaith cyn ei fod i gael ei ystyried yn y cyfarfod llawn.

12.23          Caiff y Llywydd:

(i)        grwpio gwelliannau cysylltiedig, a’i gwneud yn ofynnol iddynt gael eu cynnig fel grŵp;

(ii)      penderfynu ym mha drefn yr ymdrinnir â gwelliannau sy'n codi yn yr un lle yn y cynnig; a

(iii)     gwrthod dethol gwelliant pan fydd o'r farn bod y dull priodol o gynnal busnes yn ei gwneud yn briodol gwrthod.

12.24          Caiff y Llywydd gynnig bod cynigion yn cael eu trafod gyda’i gilydd, ond os bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu’r cynnig, rhaid i’r cynigion gael eu trafod ar wahân.

12.25          Ni chaniateir cyflwyno cynnig neu welliant sy'n cyfeirio at unrhyw ddogfen oni bai bod y ddogfen ar gael i bob Aelod.

12.26          Os yw’n ymddangos i’r Llywydd fod cynnig neu welliant wedi’i gyflwyno yn groes i ofynion Rheol Sefydlog 12.25, rhaid i’r Llywydd beidio â chaniatáu iddo gael ei drafod nes y trefnwyd bod y ddogfen ar gael i bob Aelod ac nes y bydd unrhyw amser pellach y mae’r Llywydd yn barnu ei fod yn briodol wedi mynd heibio.

12.27          Caniateir i gynnig neu welliant sydd wedi’i gynnig gael ei dynnu’n ôl dim ond os na fydd yr un Aelod yn gwrthwynebu.

12.28          Caiff y Llywydd, wedi ymgynghori â’r Pwyllgor Busnes, gynnal balot i bennu enw’r Aelod neu’r Aelodau, ac eithrio aelod o’r llywodraeth, y caiff amser ei neilltuo iddo neu iddynt er mwyn trafod cynnig a gyflwynwyd yn ei enw ef neu eu henwau hwy.

Cynigion Gweithdrefnol

12.29          Mae cynigion gweithdrefnol yn cymryd blaenoriaeth dros fusnes arall ac nid yw darpariaethau Rheol Sefydlog 12.20 sy'n ymwneud â'r cyfnod hysbysu ar gyfer cyflwyno cynigion yn gymwys.

12.30          Caiff y Llywydd ganiatáu i Aelod siarad yn gryno o blaid unrhyw gynnig gweithdrefnol, ac i Aelod arall siarad yn gryno yn ei erbyn, ac yna rhaid i’r Llywydd gynnal pleidlais ar y cynnig.

12.31          Caniateir i’r materion canlynol gael eu cynnig mewn cynigion gweithdrefnol:

(i)        gohirio eitem o fusnes yn unol â Rheol Sefydlog 12.32;

(ii)      cyfeirio mater at bwyllgor;

(iii)     dod â dadl i ben yn unol â Rheol Sefydlog 12.33;

(iv)     ymestyn yr amser a ddyrannwyd ar gyfer eitem o fusnes, yn unol â Rheol Sefydlog 12.34;

(v)       gohirio eitem o fusnes yn unol â Rheol Sefydlog 12.35; a

(vi)     unrhyw faterion eraill sy'n briodol ym marn y Llywydd.

12.32          Caniateir i gynnig i ohirio eitem o fusnes gael ei wneud gan y canlynol:

(i)        yr Aelod sy’n gyfrifol am yr eitem o fusnes;

(ii)      Aelod arall a enwebir i’r Llywydd ymlaen llaw gan yr Aelod sy’n gyfrifol am yr eitem o fusnes; neu

(iii)     yn achos busnes y llywodraeth, aelod o’r llywodraeth.

Os derbynnir y cynnig, rhaid i’r Llywydd drefnu i addasu’r amserlen busnes fel y gwêl yn dda.

12.33          Ar unrhyw adeg ar ôl i gynnig neu welliant gael ei wneud, caiff Aelod gynnig y dylid pleidleisio arno ar unwaith; ond rhaid i’r Llywydd beidio â chynnal pleidlais ar y cynnig hwnnw oni fydd o leiaf ddeg Aelod yn mynegi eu cefnogaeth ac os yw’r Llywydd yn fodlon na fyddai gwneud hynny yn camddefnyddio gweithdrefnau'r Senedd neu'n amharu ar hawliau lleiafrifoedd yn y Senedd.

12.34          Caniateir i gynnig i ymestyn yr amser a ddyrennir i eitem o fusnes yn ôl cyfnod penodedig gael ei wneud gan y canlynol:

(i)        yr Aelod sy’n gyfrifol am yr eitem o fusnes;

(ii)      Aelod arall a enwebir i’r Llywydd ymlaen llaw gan yr Aelod sy’n gyfrifol am yr eitem o fusnes; neu

(iii)     Yn achos busnes y llywodraeth, aelod o’r llywodraeth.

Os derbynnir y cynnig, bernir bod y cyfan o’r diwrnod busnes wedi’i ymestyn yn ôl y cyfnod penodedig o amser.

12.35          Caniateir i gynnig i ohirio eitem o fusnes (naill ai tan ddiwrnod penodedig neu tan ddiwrnod sydd heb ei enwi) gael ei wneud gan y canlynol:

(i)        yr Aelod sy’n gyfrifol am yr eitem o fusnes;

(ii)      Aelod arall a enwebir i’r Llywydd ymlaen llaw gan yr Aelod sy’n gyfrifol am yr eitem o fusnes; neu

(iii)     yn achos busnes y llywodraeth, aelod o’r llywodraeth.

Penderfynu ar Gynigion a Gwelliannau

12.36          Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 11.15(ii), ar ddiwedd trafodion ar eitem o fusnes, rhaid i’r Llywydd wahodd y Senedd i gytuno unrhyw gwestiwn y mae angen ei gytuno er mwyn cwblhau’r busnes. Os na fydd Aelod yn gwrthwynebu, bernir bod y Senedd wedi derbyn y cynnig neu’r gwelliant.

12.37          Os bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu o dan Reol Sefydlog 12.36, rhaid gohirio’r pleidleisio ar unrhyw gwestiynau y mae angen eu gohirio er mwyn cwblhau’r busnes tan amser neu bwynt a ragnodwyd o dan Reol Sefydlog 11.15(i), os oes amser neu bwynt wedi’i ragnodi.

12.38          Ar yr adeg (neu’r pwynt) a ragnodwyd o dan Reol Sefydlog 11.15, rhaid i’r Llywydd dorri ar draws y busnes a gwahodd y Senedd i bleidleisio ar unrhyw gwestiynau y mae angen pleidleisio arnynt er mwyn cwblhau’r busnes a ohiriwyd o dan Reol Sefydlog 12.37 neu unrhyw fusnes y mae Rheol Sefydlog 11.15(ii) yn gymwys iddo.

12.39          Os bydd y Llywydd yn torri ar draws y busnes ar adeg benodedig o dan Reol Sefydlog 12.38, nid yw’r amser a gymerir i bleidleisio ar y cwestiynau angenrheidiol ar yr adeg benodedig honno yn cyfrif yn erbyn yr amser a ddyrannwyd ar gyfer y busnes y torrwyd ar ei draws.

12.40          At ddibenion pleidleisio, caiff y Llywydd gynnig y caiff pleidleisiau ar gynigion neu welliannau eu grwpio a’u bod yn destun un bleidlais. Os bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, rhaid cynnal pleidlais ar bob cynnig a gwelliant ar wahân.

12.41          Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 12.41A-H, rhaid i’r Aelodau fwrw eu pleidlais yn unigol ac yn bersonol (ond nid yw’n ofynnol iddynt bleidleisio).

12.41A    Caiff Aelod, oherwydd absenoldeb o'r Senedd yn sgil absenoldeb rhiant, drefnu bod Aelod arall yn bwrw pleidlais ar ei ran fel dirprwy (pleidlais drwy ddirprwy).

12.41B    Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 12.41C, caniateir bwrw pleidlais drwy ddirprwy ar holl fusnes y Cyfarfod Llawn (gan gynnwys pleidleisiau cyfrinachol o dan Reol Sefydlog 6 a Rheol Sefydlog 17) a Phwyllgor o'r Senedd Gyfan.

12.41C    Ni chaniateir bwrw pleidlais drwy ddirprwy pan fo deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i basio penderfyniad neu gynnig drwy bleidlais lle bydd nifer yr Aelodau sy'n pleidleisio o blaid y penderfyniad neu'r cynnig ddim llai na dwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Senedd.

12.41D    Rhaid i bleidlais drwy ddirprwy beidio â chyfrif tuag at y niferoedd sy'n cymryd rhan mewn pleidlais at ddibenion Rheol Sefydlog 12.46.

12.41E    Dim ond os yw'r Llywydd wedi ardystio bod yr Aelod y mae'r bleidlais i’w bwrw ar ei ran yn gymwys o dan delerau Rheol Sefydlog 12.41A y caniateir bwrw pleidlais drwy ddirprwy.

12.41F    Rhaid dangos pleidlais a gafodd ei bwrw gan ddirprwy yn glir yn y cofnod o drafodion y Cyfarfod Llawn neu yng nghofnodion Pwyllgor o’r Senedd Gyfan.

12.41G    Rhaid i'r Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, gyhoeddi canllawiau ysgrifenedig i'r Aelodau o dan Reol Sefydlog 6.17 ar weithredu’r drefn pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant.

12.41H    Bydd Rheolau Sefydlog 12.41A – 12.41H, a'r cyfeiriadau atynt yn Rheolau Sefydlog 12.41 a 17.48, yn peidio â chael effaith ar 6 Ebrill 2021.

12.42          Os bydd deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i benderfyniad neu gynnig gael ei basio drwy bleidlais lle na fydd nifer yr Aelodau sy’n pleidleisio o’i blaid yn llai na dwy ran o dair o gyfanswm y seddau, rhaid cynnal pleislais wedi’i chofnodi.

12.43          Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 12.36, rhaid i’r Llywydd gynnal pleidlais ar gynnig neu ar welliant drwy gyfrwng electronig; neu yn niffyg hynny, naill ai:

(i)        os bydd y Llywydd yn penderfynu felly, drwy godi dwylo, ar yr amod na fydd mwy na dau Aelod yn gwrthwynebu penderfyniad y Llywydd; neu

(ii)      drwy alw cofrestr yr Aelodau, yn nhrefn yr wyddor.

12.44          Cyn i bleidlais gael ei chynnal, os bydd o leiaf dri Aelod yn gofyn am hynny, rhaid canu’r gloch. Os oes pleidleisiau i’w cynnal yn syth ar ôl ei gilydd, ni fydd angen canu’r gloch fwy nag unwaith. Bum munud ar ôl i’r gloch ddechrau canu, rhaid cynnal y bleidlais neu’r pleidleisiau.

12.45          Os bydd pob eitem o fusnes ar gyfer y diwrnod wedi dod i ben cyn yr amser (neu’r amseroedd) a bennwyd o dan Reol Sefydlog 11.15 a gohiriwyd eitemau tan yr amser hwnnw (neu’r amseroedd hynny), rhaid canu’r gloch (oni fydd y Llywydd yn fodlon bod pob Aelod yn bresennol). Bum munud ar ôl i’r gloch ddechrau canu, rhaid cynnal y bleidlais neu’r pleidleisiau.

12.46          Ni fydd pleidlais yn ddilys oni fydd o leiaf ddeg Aelod yn cymryd rhan. Os bydd llai na deg Aelod yn cymryd rhan, rhaid cadw’r busnes hwnnw tan y cyfarfod llawn nesaf (a rhaid i’r Llywydd drefnu i addasu'r amserlen ar gyfer busnes fel y gwêl yn dda) a rhaid i’r Senedd symud ymlaen i’r eitem nesaf o fusnes.

12.47          Wrth benderfynu ar nifer yr Aelodau sy’n cymryd rhan mewn pleidlais, rhaid cymryd bod y rhai sy’n nodi eu bod yn ymatal yn cymryd rhan.

12.48          Rhaid cynnwys enwau’r Aelodau sy’n pleidleisio, gan gynnwys y rhai sy’n nodi eu bod yn ymatal, mewn unrhyw adroddiad o drafodion y cyfarfodydd llawn.

12.49          Rhaid trefnu bod adroddiad ar y bleidlais ar gael cyn gynted â phosibl ar ôl i’r bleidlais gael ei chynnal.

Datganiadau

12.50          Caniateir i ddatganiadau gael eu gwneud gan:

(i)        y Llywydd;

(ii)      aelod o’r llywodraeth;

(iii)     aelod o’r Comisiwn ynghylch unrhyw fater sy’n dod o fewn cyfrifoldebau’r Comisiwn;

(iv)     unrhyw Aelod arall, lle mae pwnc y datganiad yn ymwneud â swyddogaeth y Senedd y mae’n gyfrifol amdani, gyda chytundeb y Llywydd.

12.51          Caiff y Llywydd ganiatáu i gwestiynau gael eu gofyn i Aelod sy’n gwneud datganiad.

Datganiadau Personol

12.52          Caiff y Llywydd ganiatáu i Aelod wneud datganiad personol, yn sgîl hysbysiad ysgrifenedig i’r Llywydd.

12.53          Rhaid i ddatganiad personol fod yn fyr ac yn ffeithiol a rhaid iddo beidio â bod yn destun dadl.

Cwestiynau Llafar

12.54          Caiff yr Aelodau gyflwyno cwestiynau llafar i Brif Weinidog Cymru, i bob un o Weinidogion Cymru neu i’r Cwnsler Cyffredinol, am unrhyw faterion sy’n ymwneud â chyfrifoldebau’r Gweinidog neu’r Cwnsler (ac eithrio mai dim ond cwestiynau llafar am faterion sy'n ymwneud â'i gyfrifoldebau (os oes rhai) heblaw am fusnes y llywodraeth y caniateir eu cyflwyno i'r Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth).

12.55          Caiff yr Aelodau gyflwyno cwestiynau llafar i’r Comisiwn am unrhyw fater sy’n ymwneud â chyfrifoldebau’r Comisiwn.

12.56          Rhaid trefnu bod amser ar gael yn y cyfarfodydd llawn er mwyn:

(i)        i Brif Weinidog Cymru ateb cwestiynau llafar unwaith, am hyd at 60 munud, ym mhob wythnos y bydd y Senedd yn cynnal cyfarfod llawn;

(ii)      i bob un o Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ateb cwestiynau llafar ynglŷn â’u cyfrifoldebau, o leiaf unwaith, am hyd at 45 munud, ym mhob pedair wythnos y bydd y Senedd yn cynnal cyfarfod llawn (ac eithrio mai dim ond os oes ganddo gyfrifoldebau am faterion heblaw busnes y llywodraeth y caniateir i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth ateb cwestiynau o dan Reol Sefydlog 12.56(ii)); a

(iii)     i’r Comisiwn ateb cwestiynau llafar o leiaf unwaith, am hyd at 30 munud, ym mhob pedair wythnos y bydd y Senedd yn cynnal cyfarfod llawn.

12.57          Ar gais Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol, caiff un o Ddirprwy Weinidogion Cymru ateb unrhyw gwestiwn llafar am unrhyw fater y mae’n cynorthwyo Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol (yn ôl fel y digwydd) ynglŷn ag ef.

12.58          Os nad yw’n rhesymol ymarferol i Brif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol ateb cwestiynau llafar ar ddiwrnod pan fyddai’n gwneud hynny fel rheol, caiff un arall o Weinidogion Cymru ateb y cwestiynau hynny, ar ôl hysbysu’r Llywydd ymlaen llaw.

12.59          Rhaid i gwestiynau i’r Prif Weinidog gael eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith cyn eu bod i gael eu hateb; rhaid i gwestiynau i Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a’r Comisiwn gael eu cyflwyno o leiaf bum diwrnod gwaith cyn eu bod i gael eu hateb.

12.60          Derbynnir cwestiynau yn ôl disgresiwn y Llywydd, a rhaid iddo roi sylw i unrhyw ganllawiau ysgrifenedig a gyhoeddwyd yn unol â Rheol Sefydlog 6.17.

12.61          Rhaid i’r Llywydd gynnal balot er mwyn dethol enwau’r Aelodau y caniateir iddynt gyflwyno cwestiynau llafar i Brif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, a'r Cwsnler Cyffredinol (os yw'r Cwnsler Cyffredinol yn ateb cwestiynau llafar am faterion sy'n ymwneud yn unig â chyfrifoldebau sydd ganddo ef neu hi ac eithrio cyfrifoldebau swyddog y gyfraith y llywodraeth).

12.62          Rhaid cynnal balot o dan Reol Sefydlog 12.61 o leiaf un diwrnod gwaith cyn y diwrnod olaf y caniateir cyflwyno cwestiynau.

12.63          Dim ond unwaith y caiff Aelod gyflwyno ei enw i’r balot o dan Reol Sefydlog 12.61 ar gyfer cwestiynau llafar i’r Prif Weinidog, i un o Weinidogion Cymru yn benodol neu'r Cwnsler Cyffredinol (os yw'r Cwnsler Cyffredinol yn ateb cwestiynau llafar am faterion sy'n ymwneud yn unig ag unrhyw gyfrifoldebau sydd ganddo ef neu hi ac eithrio cyfrifoldebau swyddog y gyfraith y llywodraeth).

12.63A    Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 12.63B, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cwestiynau llafar i’r Cwnsler Cyffredinol (oni bai ei fod ef neu hi yn ateb cwestiynau llafar am faterion sy'n ymwneud yn unig ag unrhyw gyfrifoldebau sydd ganddo ef neu hi ac eithrio cyfrifoldebau swyddog y gyfraith y llywodraeth, lle bydd Rheol Sefydlog 12.61 yn gymwys) a'r Comisiwn.

12.63B    Ni chaiff Aelod gyflwyno mwy na dau gwestiwn llafar i’r Cwnsler Cyffredinol, ac un cwestiwn llafar i’r Comisiwn, ar gyfer unrhyw wythnos y byddant yn ateb cwestiynau.

12.64          Yn achos cwestiynau a dderbynnir cyn yr amser cau y cytunir arno gan y Pwyllgor Busnes, rhaid penderfynu ar drefn cwestiynau drwy hapddull ar y diwrnod olaf y caniateir iddynt gael eu cyflwyno.

12.65          Rhaid i’r Llywydd alw ar yr Aelod sy’n gofyn y cwestiwn i ofyn cwestiwn llafar atodol ac wedyn caiff alw ar Aelodau eraill i ofyn cwestiynau llafar atodol cysylltiedig.

12.66          Pan na chyrhaeddir unrhyw gwestiwn llafar, rhaid i’r Aelod gael ateb ysgrifenedig ar yr un diwrnod. Rhaid i’r ateb ysgrifenedig gael ei gyhoeddi yng nghofnod trafodion y cyfarfod llawn.

Cwestiynau Brys

12.67          Ar unrhyw adeg y penderfynir arno gan y Llywydd, caiff y Llywydd alw ar Aelod i ofyn cwestiwn na roddwyd hysbysiad amdano o dan Reol Sefydlog 12.59:

(i)        os yw’r Llywydd a’r aelod o’r llywodraeth o dan sylw, neu’r Comisiwn, yn ôl fel y digwydd, wedi cael o leiaf ddwy awr o hysbysiad ymlaen llaw cyn bod y cwestiwn i gael ei ofyn; a

(ii)      os yw’r Llywydd yn fodlon bod y cwestiwn yn un o arwyddocâd cenedlaethol brys.

12.68          Os bydd y Llywydd wedi cael hysbysiad ymlaen llaw fod cais am gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.67 yn ymwneud â swyddogaethau’r Comisiwn, caiff y swyddogaeth a ddyrennir i’r Llywydd yn 12.67(ii) ei haseinio i’r Dirprwy Lywydd.

Cwestiynau Amserol

12.68A    Caiff y Pwyllgor Busnes drefnu bod amser ar gael i Aelodau ofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru neu'r Cwnsler Cyffredinol, na roddwyd hysbysiad amdanynt o dan Reol Sefydlog 12.59.

12.68B    Rhaid i'r Llywydd ddethol unrhyw gwestiynau sydd i'w cymryd yn ystod amser y trefnwyd iddo fod ar gael o dan Reol Sefydlog 12.68A, o blith y rhai a gyflwynir yn unol ag unrhyw ganllawiau ar gwestiynau amserol a gyhoeddir o dan Reol Sefydlog 6.17.

Dadleuon Brys

12.69          Mewn unrhyw gyfarfod llawn, caiff Aelod gynnig mewn araith heb fod yn fwy na thair munud y dylai’r Senedd ystyried mater penodol, ar yr amod:

(i)        bod yr Aelod wedi hysbysu’r Llywydd ei fod yn dymuno gwneud hynny ac wedi’i hysbysu am y mater o leiaf awr cyn dechrau’r cyfarfod;

(ii)      os nad yw’r mater yn ymwneud â swyddogaethau’r Comisiwn, os Aelod heblaw aelod o’r llywodraeth sydd wedi rhoi’r hysbysiad, bod y Llywydd wedi rhoi cyfle i aelod o’r llywodraeth gyflwyno sylwadau iddo am y mater yn breifat;

(iii)     os yw’r mater yn ymwneud â swyddogaethau’r Comisiwn, os Aelod heblaw aelod o’r Comisiwn sydd wedi rhoi’r hysbysiad, bod y Dirprwy Lywydd wedi rhoi cyfle i’r Comisiwn gyflwyno sylwadau iddo am y mater yn breifat; a

(iv)     bod y Llywydd (neu’r Dirprwy Lywydd os bydd y ddadl yn methu o dan Reol Sefydlog 12.69(iii)) yn fodlon bod y mater yn un o bwys cyhoeddus brys, a’i fod wedi hysbysu’r Aelod (ac, os oes angen hynny, yr aelod o’r llywodraeth neu’r Comisiwn, fel y bo’n briodol) yn unol â hynny.

12.70          Os nad yw’r mater yn ymwneud â swyddogaethau’r Comisiwn, os Aelod heblaw aelod o’r llywodraeth sy’n gwneud y cynnig, rhaid i’r Llywydd ganiatáu i aelod o’r llywodraeth ateb mewn araith heb fod yn fwy na thair munud. Rhaid i’r Llywydd gynnal pleidlais ar y cynnig ar unwaith ar ôl iddo gael ei wneud neu, os bydd aelod o’r llywodraeth yn ateb, ar ôl yr ateb hwnnw. Os bydd y Senedd yn penderfynu ystyried y mater, rhaid iddo wneud hynny yn y cyfarfod hwnnw neu (os bydd y Llywydd yn penderfynu hynny) yn y cyfarfod yn union ar ei ôl, a rhaid i’r Llywydd drefnu i addasu’r amserlen ar gyfer busnes fel y gwêl yn dda.

12.71          Os yw’r mater yn ymwneud â swyddogaethau’r Comisiwn, os Aelod heblaw aelod o’r Comisiwn sy’n gwneud y cynnig, rhaid i’r Llywydd ganiatáu i aelod o’r Comisiwn ateb mewn araith heb fod yn fwy na thair munud. Rhaid i’r Llywydd gynnal pleidlais ar y cynnig ar unwaith ar ôl iddo gael ei wneud neu, os bydd aelod o’r Comisiwn yn ateb, ar ôl yr ateb hwnnw. Os bydd y Senedd yn penderfynu ystyried y mater, rhaid iddo wneud hynny yn y cyfarfod hwnnw neu (os bydd y Llywydd yn penderfynu hynny) yn y cyfarfod yn union ar ei ôl a rhaid i’r Llywydd drefnu i addasu’r amserlen ar gyfer busnes fel y gwêl yn dda.

Dadleuon Byr

12.72          Rhaid i’r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod neu Aelodau, heblaw aelod o’r llywodraeth, a gaiff gynnig pwnc ar gyfer Dadl Fer.

12.73          Rhaid i’r Aelod sydd wedi llwyddo yn y balot hysbysu’r Llywydd am y pwnc o leiaf bum diwrnod gwaith cyn ei fod i gael ei drafod.

12.74          Yn y ddadl:

(i)        caiff yr Aelod a lwyddodd yn y balot siarad;

(ii)      caiff aelod o’r llywodraeth (neu, os yw'r mater o fewn cyfrifoldebau’r Comisiwn, aelod o'r Comisiwn) ymateb; a

(iii)     ni chaiff yr un Aelod arall siarad oni bai bod ganddo ganiatâd yr Aelod a lwyddodd yn y balot neu oni chaniateir ymyrryd gan yr Aelod sy'n ymateb.

13. RHEOL SEFYDLOG 13 – Y Drefn yn y Cyfarfodydd Llawn

Rheolau’r Dadleuon

13.1              Rhaid i’r Aelodau sy'n cael eu galw i siarad gan y Llywydd annerch y cadeirydd.

13.2              Caiff yr Aelodau siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg a rhaid darparu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gyfer areithiau a draddodir yn Gymraeg.

13.3              Caiff y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, wahodd unrhyw berson i gymryd rhan mewn Cyfarfod Llawn at ddiben penodol. Caniateir i berson a wahoddwyd siarad, ond ni chaniateir iddo bleidleisio.

13.4              Rhaid i’r areithiau fod yn berthnasol i'r busnes sydd gerbron y Senedd, ac osgoi ailadrodd diflas.

13.5              Caiff y Llywydd gyhoeddi terfyn amser ar areithiau’r Aelodau a chaiff gyfarwyddo Aelod sydd wedi siarad yn rhy hir i roi’r gorau i siarad.

13.6              Ac eithrio’r sawl sy’n gwneud cynnig neu’n cynnig gwelliant ac sy’n arfer hawl i ateb, ni chaiff Aelod siarad fwy nag unwaith ar unrhyw fater ac eithrio, gyda chaniatâd y Llywydd, er mwyn esbonio yn fyr ryw bwynt perthnasol yn ei araith wreiddiol.

13.7              Caiff Aelod sy'n siarad ganiatáu i Aelodau eraill ymyrryd er mwyn egluro cyn ailddechrau ar ei araith.

13.8              Ni chaiff Aelod siarad ar ôl i’r sawl sy’n gwneud y cynnig arfer ei hawl i ateb.

Datgan Buddiannau Perthnasol

13.8A          Cyn cymryd rhan mewn unrhyw drafodion yn y cyfarfod llawn, rhaid i Aelod ddatgan unrhyw fuddiant, boed yn ariannol neu fel arall, sydd gan yr Aelod, neu hyd y gŵyr yr Aelod, sydd gan aelod o'i deulu, neu y mae'r Aelod neu aelod o'i deulu yn disgwyl ei gael sy'n berthnasol i'r trafodion hynny, ac y gellid ystyried yn rhesymol gan eraill ei fod yn dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod.

13.8B           Nid yw Rheol Sefydlog 13.8A yn effeithio ar y gofynion o ran datgan buddiannau cofrestradwy ar lafar o dan Reol Sefydlog 2.6.

Cadw Trefn

13.9              Y Llywydd sydd i gadw trefn yn y cyfarfodydd llawn a rhaid galw i drefn unrhyw Aelod:

(i)        sy'n ymddwyn mewn ffordd a fyddai, ym marn y Llywydd, yn gyfystyr â thramgwydd troseddol neu ddirmyg llys;

(ii)      sy'n rhwystro busnes y Senedd;

(iii)     sy'n ceisio codi mater sydd y tu hwnt i gwmpas y ddadl neu'r cynnig;

(iv)     sy'n euog o ymddygiad anghwrtais neu amhriodol;

(v)       sy'n defnyddio iaith sy'n groes i’r drefn, iaith sy'n gwahaniaethu neu sy'n peri tramgwydd, neu iaith sy'n amharu ar urddas y Senedd;

(vi)     sy'n gwrthod cydymffurfio ag unrhyw Reol Sefydlog neu ag unrhyw ofyniad arall ynglŷn ag ymddygiad Aelodau; neu

(vii)    sy'n anwybyddu awdurdod y cadeirydd.

13.10          Rhaid i Aelod gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Llywydd ynghylch unrhyw ymddygiad sydd wedi peri ei alw i drefn.

13.11          Caiff y Llywydd ei gwneud yn ofynnol i Aelod ymneilltuo o drafodion y Senedd am weddill y dydd os yw’r Llywydd o’r farn bod yr ymddygiad yn cyfiawnhau ymneilltuo.

13.12          Pan fydd y Llywydd wedi’i gwneud yn ofynnol i Aelod ymneilltuo o drafodion y Senedd ac nad yw'r Aelod wedi gwneud hynny, rhaid i gynnig i wahardd yr Aelod o drafodion y Senedd gael ei wneud gan y Llywydd a rhaid pleidleisio arno ar unwaith.

13.13          Mae gwaharddiad Aelod o dan Reol Sefydlog 13.12 yn dod i rym ar unwaith a rhaid i’r gwaharddiad hwnnw bara:

(i)        y tro cyntaf yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis, tan ddiwedd y diwrnod gwaith yn union ar ôl diwrnod y gwaharddiad;

(ii)      yr ail dro yn ystod yr un cyfnod o 12 mis, am bum diwrnod gwaith yn union ar ôl diwrnod y gwaharddiad; a

(iii)     y trydydd tro neu ar unrhyw dro wedi hynny yn ystod yr un cyfnod o 12 mis, am 20 diwrnod gwaith yn union ar ôl diwrnod y gwaharddiad.

13.14          Yn ystod cyfnod gwaharddiad Aelod o dan Reolau Sefydlog 13.12 ac 13.13, ni fydd gan yr Aelod hawl i gael dim cyflog gan y Senedd ac ni chaniateir i’r Aelod fynychu unrhyw un o drafodion y Senedd.

Sub Judice

13.15          Yn ddarostyngedig i hawl y Senedd i ddeddfu ar unrhyw fater neu i drafod is-ddeddfwriaeth, rhaid i Aelod beidio â chodi unrhyw fater na mynd ar drywydd unrhyw fater yn y cyfarfodydd llawn sy’n ymwneud ag achosion sydd ar waith (fel y’u diffinnir yn Atodlen 1 i Ddeddf Dirmygu Llys 1981) neu os bydd Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru neu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi penderfynu cynnal archwiliad o achos, tan yr adeg pan fydd dyfarniad wedi’i roi neu pan fydd adroddiad wedi’i wneud gan y naill Gomisiynydd neu’r llall neu’r Ombwdsmon, oni bai bod y Llywydd yn fodlon:

(i)        bod gan y mater berthynas glir â mater o bwys cyhoeddus cyffredinol neu fod penderfyniad gweinidogol o dan sylw;

(ii)      nad yw’r mater yn ymwneud ag achos sydd i’w wrando, neu sy’n cael ei wrando, gerbron llys troseddau neu gerbron rheithgor neu ag achos sydd i’w wrando, neu sy’n cael ei wrando, mewn achos teuluol; a

(iii)     nad yw’r Aelod, yn ei sylwadau, yn creu risg real a sylweddol o ragfarnu achos llys, naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas ag achos penodol.

Cysylltiadau â’r Farnwriaeth

13.16          Oni bai bod y mater yn destun cynnig gwreiddiol, rhaid i’r Aelodau beidio yn y cyfarfodydd llawn â beirniadu ymddygiad barnwyr llysoedd y Deyrnas Unedig wrth iddynt gyflawni eu swyddogaeth farnwrol; (yn Rheol Sefydlog 13.16 mae “barnwr” yn cynnwys personau sy’n dal swydd barnwr, yn llawn amser neu’n rhan-amser).

13.17          Rhaid i’r Senedd beidio â thrafod penodiadau barnwrol unigol.


 

14. RHEOL SEFYDLOG 14 – Cwestiynau Ysgrifenedig, Datganiadau Ysgrifenedig a Datganiadau Barn

Cwestiynau Ysgrifenedig

14.1              Caiff Aelodau gyflwyno cwestiynau i’w hateb yn ysgrifenedig gan y canlynol:

(i)        Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol, am unrhyw fater sy'n ymwneud â’i gyfrifoldebau; neu

(ii)      y Comisiwn, am unrhyw fater sy’n ymwneud â chyfrifoldebau’r Comisiwn.

14.2              Ar gais Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol, caiff un o Ddirprwy Weinidogion Cymru ateb unrhyw gwestiwn ysgrifenedig am unrhyw fater y mae’n cynorthwyo Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol (yn ôl fel y digwydd) ynglŷn ag ef.

14.3              Rhaid i gwestiwn gael ei gyflwyno o leiaf bum diwrnod gwaith cyn ei fod i gael ei ateb.

14.4              Derbynnir cwestiynau yn ôl disgresiwn y Llywydd, y mae’n rhaid iddo roi sylw i unrhyw ganllawiau ysgrifenedig a gyhoeddwyd yn unol â Rheol Sefydlog 6.17.

14.5              Rhaid i’r atebion i’r cwestiynau sydd wedi’u derbyn gael eu cyhoeddi yng nghofnod trafodion y cyfarfodydd llawn.

Datganiadau Ysgrifenedig

14.6              Caiff Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol wneud datganiad ysgrifenedig am unrhyw fater sy'n ymwneud â’i gyfrifoldebau.

14.7              Caiff y Comisiwn wneud datganiad ysgrifenedig am unrhyw fater sy'n ymwneud â chyfrifoldebau’r Comisiwn.

14.8              Rhaid i unrhyw ddatganiad ysgrifenedig gael ei gyhoeddi yn y cofnod o drafodion y cyfarfodydd llawn.

Datganiadau Barn

14.9              Caniateir i Ddatganiad Barn heb fod yn fwy na 100 o eiriau am fater sy'n effeithio ar Gymru gael ei gyflwyno gan unrhyw Aelod heblaw aelod o’r llywodraeth; a chaniateir i unrhyw Ddatganiad o’r fath gael ei ategu, ei wrthwynebu neu fel arall fod yn destun sylwadau ysgrifenedig gan unrhyw Aelod arall.

14.10          Os yw'r Llywydd o'r farn bod Datganiad Barn yn ddilys, rhaid iddo gael ei gyhoeddi, ynghyd ag unrhyw air o gefnogaeth neu wrthwynebiad a gyflwynwyd gan unrhyw Aelod arall.


 

15. RHEOL SEFYDLOG 15 – Gweithdrefnau Gosod a Chyflwyno

15.1              Caniateir i’r dogfennau canlynol neu’r categorïau canlynol o ddogfennau gael eu gosod gerbron y Senedd:

(i)        dogfen y mae unrhyw ddeddfiad yn pennu bod yn rhaid ei gosod gerbron y Senedd neu y caniateir ei gosod gerbron y Senedd neu ddogfen sy’n dod o fewn telerau adran 86 o’r Ddeddf neu baragraffau 36 neu 37 o Atodlen 11 iddi;

(ii)      deddfwriaeth neu ddeddfwriaeth arfaethedig neu ddrafft y mae'n ofynnol ei gosod o dan Reolau Sefydlog 25, 26, 26A, 27 neu 28;

(iii)     unrhyw adroddiad a wneir gan un o bwyllgorau'r Senedd ac y mae'r pwyllgor hwnnw wedi cytuno y dylid ei gyflwyno i'r Senedd, ac eithrio unrhyw adroddiad y mae (iv) isod yn gymwys iddo;

(iv)     unrhyw ddogfen arall a bennir mewn man arall yn y Rheolau Sefydlog y mae'n ofynnol ei gosod yn unol â'r gofynion penodol mewn Rheol Sefydlog; a

(v)       unrhyw ddogfen arall, neu unrhyw gategori arall o ddogfen, y mae'r Senedd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu gosod, drwy benderfyniad mewn cyfarfod llawn.

15.2              Caiff aelod o’r llywodraeth neu’r Llywydd osod dogfennau priodol eraill.

15.3              Os yw unrhyw ddogfen yn cael ei gosod neu os yw unrhyw gynnig, gwelliant, cwestiwn neu fusnes arall yn cael ei gyflwyno o dan Reol Sefydlog 15 neu unrhyw Reol Sefydlog arall, rhaid iddo gael ei osod neu ei gyflwyno yn unol â chanllawiau ysgrifenedig a gyhoeddir gan y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 6.17.

15.4              Rhaid i unrhyw ddogfen a osodir neu unrhyw fusnes a gyflwynir gan y Llywydd, y Comisiwn, y llywodraeth, unrhyw bwyllgor neu’r Clerc gael ei gosod neu ei gyflwyno yn Gymraeg a Saesneg, cyn belled ag y bo’n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol.

15.5              Mae derbyn unrhyw ddogfen neu fusnes gan y Clerc ar ddiwrnod gwaith yn ystod oriau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes yn gyfystyr â gosod y ddogfen neu gyflwyno’r busnes (yn ôl fel y digwydd).


 

16. Rheol Sefydlog 16 – Sefydlu Pwyllgorau a’u Cylchoedd Gorchwyl

Cyffredinol

16.1              Rhaid i’r Senedd sefydlu pwyllgorau a chanddynt bŵer yn eu cylchoedd gorchwyl i:

(i)        archwilio gwariant, trefniadau cyllido, gweinyddiaeth a pholisi’r llywodraeth a’r cyrff cyhoeddus sy’n gysylltiedig â hi;

(ii)      archwilio deddfwriaeth;

(iii)     ymgymryd â swyddogaethau eraill a bennir yn y Rheolau Sefydlog; a

(iv)     ystyried unrhyw fater sy’n effeithio ar Gymru.

16.2              Cyn gynted â phosibl ar ôl pob etholiad y Senedd, rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig neu gynigion yn unol â Rheol Sefydlog 16.1 i gynnig teitlau a chylch gorchwyl y pwyllgorau.

16.3              Os yw’n ymddangos i’r Pwyllgor Busnes yn ystod Senedd fod angen newid nifer, teitl neu gylch gorchwyl un neu fwy o bwyllgorau (gan gynnwys drwy ddarparu y dylai unrhyw bwyllgor presennol ddod i ben), caiff y Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig bod y newid yn digwydd.

16.4              Wrth gyflwyno unrhyw gynnig o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau’r canlynol:

(i)        bod pob un o feysydd cyfrifoldeb y llywodraeth a’r cyrff cyhoeddus sy’n gysylltiedig â hi yn destun gwaith craffu gan bwyllgor neu bwyllgorau;

(ii)      bod pob mater sy’n ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a swyddogaethau Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn destun gwaith craffu gan bwyllgor neu bwyllgorau; a

(iii)     pan fo’n rhesymol ymarferol, fod cydbwysedd eang rhwng cyflawni’r cyfrifoldebau a ragnodwyd yn Rheolau Sefydlog 16.1(i) a 16.1(ii).

Pwyllgorau Eraill

16.5              Caiff y Senedd sefydlu unrhyw bwyllgor arall drwy gynnig a gyflwynir gan unrhyw Aelod. Rhaid i gynnig i sefydlu pwyllgor o’r fath gynnig ei deitl a’i gylch gorchwyl.

Parhad Pwyllgorau

16.6              Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 16.3, bydd pob pwyllgor a sefydlir gan Reol Sefydlog 16 yn cael ei sefydlu i barhau drwy gydol y Senedd oni nodir yn wahanol yn y cynnig i sefydlu’r pwyllgor.

17. RHEOL SEFYDLOG 17 – Gweithredu Pwyllgorau

Cyffredinol

17.1        Mae Rheol Sefydlog 17 yn gymwys i bob un o bwyllgorau’r Senedd ac eithrio pan fydd wedi’i datgymhwyso gan Reol Sefydlog arall.

17.2        Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i roi cyfarwyddiadau penodol neu gyffredinol i unrhyw bwyllgor.

Cadeiryddion Pwyllgorau

17.2A      Rhaid i’r Senedd ystyried cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i gytuno ar y grŵp gwleidyddol y mae’r cadeirydd sydd i’w ethol yn perthyn iddo ar gyfer pob pwyllgor a sefydlir drwy benderfyniad gan y Senedd.

17.2B      Wrth gyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A, rhaid i’r Pwyllgor Busnes roi sylw i’r angen i sicrhau bod cydbwysedd y cadeiryddion ar draws y pwyllgorau yn adlewyrchu’r grwpiau gwleidyddol y mae’r Aelodau yn perthyn iddynt.

17.2C      Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A.

17.2D      Ni chaniateir pasio cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A (os caiff y cynnig ei basio drwy bleidlais) oni bai fod o leiaf ddwy ran o dair o’r Aelodau sy’n pleidleisio yn ei gefnogi.

Ethol Cadeiryddion Pwyllgorau

17.2E      Rhaid i’r Senedd ethol Aelod yn gadeirydd ar gyfer pob pwyllgor a sefydlir drwy benderfyniad gan y Senedd.

17.2F      Yn un o gyfarfodydd llawn y Senedd, rhaid i'r Llywydd wahodd enwebiadau. Dim ond Aelod o'r grŵp gwleidyddol a nodir yn y cynnig perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.2A y caniateir iddo gael ei enwebu, a dim ond Aelod o'r un grŵp y caniateir iddo wneud yr enwebiad.

17.2G      Rhaid i enwebiad gan grŵp gwleidyddol sydd â mwy nag 20 aelod gael ei eilio gan aelod o’r grŵp hwnnw.

17.2H      Os cyflwynir enwebiadau ar gyfer cadeiryddion mwy nag un pwyllgor yn yr un cyfarfod o'r Senedd, ni chaniateir i Aelod gael ei enwebu i fod yn gadeirydd mwy nag un o'r pwyllgorau hynny.

17.2I       Os enwebir un Aelod yn unig, rhaid i’r Llywydd gynnig bod yr Aelod a enwebwyd yn cael ei ethol yn gadeirydd y pwyllgor. Os gwrthwynebir hynny neu os ceir dau neu ragor o enwebiadau, rhaid i’r Llywydd drefnu bod yr etholiad yn cael ei gynnal drwy bleidlais gyfrinachol.

17.2J       Os bydd dau Aelod wedi'u henwebu, rhaid i’r Llywydd ddatgan mai’r Aelod sydd wedi sicrhau’r nifer mwyaf o’r pleidleisiau a fwriwyd yn y bleidlais gyfrinachol sydd wedi’i ethol. Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol arall.

17.2K      Os bydd mwy na dau Aelod wedi'u henwebu, rhaid i'r Aelodau bleidleisio drwy nodi faint bynnag o ymgeiswyr a fynnant yn nhrefn blaenoriaeth. Os na chaiff yr un Aelod fwy na hanner y pleidleisiau dewis cyntaf a fwriwyd, rhaid hepgor yr ymgeisydd sydd â'r nifer lleiaf o bleidleisiau dewis cyntaf ac ailddosbarthu ei bleidleisiau rhwng yr ymgeiswyr sy'n weddill yn nhrefn blaenoriaeth. Rhaid ailadrodd y broses hon o hepgor ymgeiswyr ac ailddosbarthu eu pleidleisiau tan y bydd un ymgeisydd yn sicrhau mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd. Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd sy'n weddill yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol arall.

Cadeiryddion Pwyllgorau: Ymddiswyddo, Diswyddo a Swyddi Gwag

17.2L      Caiff cadeirydd pwyllgor ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Pwyllgor Busnes.

17.2M     Caiff unrhyw bwyllgor benderfynu y dylid diswyddo ei gadeirydd, ond ni ddaw'r cyfryw benderfyniad i rym oni bai ei fod:

(i)        yn cael ei gefnogi gan fwyafrif yr Aelodau sy'n pleidleisio yn y pwyllgor, yn cynnwys aelodau nad ydynt oll yn perthyn i'r un grŵp gwleidyddol;

(ii)      yn cael ei gymeradwyo'n ddilynol gan y Senedd drwy gynnig a gyflwynir gan aelod o'r pwyllgor.

17.2N      Ni chaiff cadeirydd pwyllgor gymryd rhan mewn pleidlais ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.2M, ac nid yw Rheol Sefydlog 17.37 yn gymwys i'r cyfryw gynigion.

17.2O      Rhaid i'r pwyllgor ystyried unrhyw gynnig a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 17.2M(i) cyn gynted â phosibl, a rhoi blaenoriaeth i gynnig o'r fath dros unrhyw fusnes arall. 

17.2P      Daw swydd y cadeirydd yn wag pan fo'r Aelod dan sylw:

(i)        yn ymddiswyddo yn unol â Rheol Sefydlog 17.2L;

(ii)      yn cael ei ddiswyddo yn unol â Rheol Sefydlog 17.2M;

(iii)     yn cael ei ethol yn gadeirydd pwyllgor arall;

(iv)     yn peidio â bod yn Aelod; neu

(v)       yn ymuno â grŵp gwleidyddol neu'n gadael grŵp gwleidyddol.

17.2Q      Daw swydd y cadeirydd yn wag os bydd y Senedd yn cytuno ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A i newid y grŵp gwleidyddol y caniateir ethol cadeirydd y pwyllgor ohono, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2R.

17.2R      Pan fydd swydd cadeirydd yn dod yn wag:

(i)        rhaid i'r Pwyllgor Busnes ystyried effaith y swydd wag honno ar gydbwysedd cadeiryddion y pwyllgorau o ran y grwpiau gwleidyddol;

(ii)      caiff y Pwyllgor Busnes, gan roi sylw i’r ystyriaeth honno, gyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A i newid y grŵp gwleidyddol y caniateir ethol cadeirydd y pwyllgor lle y cododd y swydd wag ohono;

(iii)     caiff y Pwyllgor Busnes, gan roi sylw i’r ystyriaeth honno, hefyd gyflwyno un neu fwy o gynigion o dan Reol Sefydlog 17.2A i newid y grŵp gwleidyddol y caniateir ethol cadeirydd unrhyw bwyllgor arall ohono. 

17.2S      Rhaid llenwi swydd wag cadeirydd pwyllgor drwy gynnal etholiad o dan Reolau Sefydlog 17.2E hyd at 17.2K.

17.2T      Caniateir i Reolau Sefydlog 17.2A hyd at 17.2S gael eu datgymhwyso drwy benderfyniad gan y Senedd (ar yr amod, os caiff y cynnig ar gyfer y penderfyniad ei basio drwy bleidlais, nad yw’n dod i rym oni bai bod o leiaf ddwy ran o dair o’r rhai sy’n pleidleisio yn ei gefnogi) mewn perthynas â phwyllgor a nodir drwy gynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes. Os caiff y Rheolau Sefydlog eu datgymhwyso, mae Rheolau Sefydlog 17.3 hyd at 17.16 yn gymwys i bob aelod o'r pwyllgor a nodir a rhaid i'r cynnig perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.3 hefyd gynnig y cadeirydd.

Aelodaeth Pwyllgorau

17.3        Rhaid i’r Senedd ystyried cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i gytuno ar weddill aelodaeth pob pwyllgor a sefydlir drwy benderfyniad gan y Senedd, ac eilyddion ar gyfer y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 22.

17.4        [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y cyfarfod llawn ar 28 Mehefin 2016]

17.5        Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig o dan Reol Sefydlog 17.3.

17.6        Ni chaniateir i gynnig i gytuno ar weddill aelodaeth pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.3 gael ei basio oni bai:

(i)     bod cyfanswm yr aelodaeth (cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol) yn adlewyrchu cydbwysedd y grwpiau gwleidyddol y mae’r Aelodau yn perthyn iddynt; a

(ii)    (os caiff y cynnig ei basio drwy bleidlais), fod o leiaf ddwy ran o dair o’r Aelodau sy’n pleidleisio yn ei gefnogi.

17.7        Os nad yw cynnig i gytuno ar weddill aelodaeth pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.3 yn cael ei basio, rhaid i’r Senedd ystyried cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i bennu maint y pwyllgor, a rhaid i’r lleoedd ar y pwyllgor hwnnw gael eu dyrannu yn unol â gweithredu adrannau 29(3) i (7) o’r Ddeddf fel y’u haddaswyd yn unol â Rheol Sefydlog 17.8.

17.8        Mewn perthynas ag unrhyw le ar bwyllgor sydd i’w ddyrannu yn unol ag adrannau 29(3) i (7) o’r Ddeddf:

(i)     os yw nifer yr Aelodau sy’n perthyn i ddau neu fwy o grwpiau gwleidyddol yr un fath a’i fod yn fwy na’r nifer sy’n perthyn i unrhyw grŵp gwleidyddol arall; neu

(ii)    os yw’r nifer a geir drwy ddefnyddio adran 29(6) o’r Ddeddf yr un fath ar gyfer dau neu fwy o grwpiau gwleidyddol a’i fod yn fwy na’r nifer a geir fel hyn ar gyfer unrhyw grŵp gwleidyddol arall,

rhaid i’r Llywydd benderfynu i ba grŵp gwleidyddol y mae’r lle hwnnw i’w ddyrannu.

17.9        Os yw’r lleoedd ar unrhyw bwyllgor i’w dyrannu i grŵp gwleidyddol yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 neu 17.7, mater i’r grŵp gwleidyddol hwnnw yw pennu enwau’r Aelodau a ddyrennir o’r grŵp ac eithrio'r cadeirydd.

17.10      Rhaid i unrhyw gynnig o dan Reol Sefydlog 17.3 neu 17.7 (cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol o roi sylw i gyfanswm y lleoedd ar bwyllgorau) sicrhau:

(i)     bod pob Aelod nad yw’n perthyn i grŵp gwleidyddol yn cael cynnig lle ar un pwyllgor o leiaf; a

(ii)    bod cyfanswm y lleoedd ar bwyllgorau a ddyrennir i Aelodau sy’n perthyn i bob grŵp gwleidyddol o leiaf yr un mor fawr â nifer yr Aelodau sy’n perthyn i’r grŵp gwleidyddol.

17.11      Mae swydd wag yn codi ar bwyllgor pan fydd Aelod, ac eithrio'r cadeirydd:

(i)     yn ymddiswyddo o’r pwyllgor drwy hysbysu’r Pwyllgor Busnes;

(ii)    yn cael ei ddiswyddo o’r pwyllgor drwy benderfyniad gan y Senedd;

(iii)   yn cael ei ethol yn gadeirydd y pwyllgor hwnnw gan y Senedd;

(iv)     yn peidio â bod yn Aelod; neu

(v)       yn peidio â bod yn aelod o’r pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 17.12.

17.12      Mae Aelod yn peidio â bod yn aelod o bwyllgor os yw’n ymuno â grŵp gwleidyddol neu’n ymadael ag ef.

17.13      Pan fydd swydd wag yn codi ar bwyllgor, mae’r Pwyllgor Busnes:

(i)        yn gorfod ystyried effaith y swydd wag honno ar aelodaeth y pwyllgor hwnnw ac unrhyw bwyllgor arall;

(ii)      o roi sylw i’r ystyriaeth honno, yn gorfod cyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 17.3 i gynnig newid aelodaeth y pwyllgor y cododd y swydd wag arno;

(iii)     o roi sylw i’r ystyriaeth honno, yn cael cyflwyno hefyd un neu fwy o gynigion o dan Reol Sefydlog 17.3 i gynnig newid aelodaeth unrhyw bwyllgor arall; a

(iv)     os yw o’r farn bod hynny’n briodol, yn cael cyflawni unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan Reol Sefydlog 17.2R mewn perthynas ag effaith y swydd wag honno ar gydbwysedd cadeiryddion y pwyllgorau o ran eu grwpiau gwleidyddol.

17.14      Os bydd grŵp gwleidyddol yn hysbysu’r Pwyllgor Busnes ei fod yn dymuno newid ei gynrychiolaeth ar bwyllgor, rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig er mwyn gweithredu hynny.

17.15      Os llenwi’r swydd wag ag Aelod o’r un grŵp gwleidyddol yw unig effaith cynnig y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 17.13(ii) neu 17.14, nid yw Rheol Sefydlog 17.6(ii) yn gymwys.

17.16      Rhaid i unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan Reolau Sefydlog 17.6 a 17.10 gael ei benderfynu gan y Llywydd.

Is-bwyllgorau

17.17          Caiff unrhyw bwyllgor benderfynu sefydlu un neu fwy o is-bwyllgorau. Rhaid i benderfyniad i sefydlu is-bwyllgor nodi ei aelodaeth, ei gadeirydd, ei gylch gorchwyl a’i barhad.

17.18          Ni chaiff yr un is-bwyllgor gynnwys dim ond Aelodau o’r grŵp neu’r grwpiau gwleidyddol sydd â rôl weithredol, a rhaid i bob is-bwyllgor gynnwys o leiaf un Aelod o grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol.

17.19          Rhaid i is-bwyllgor adrodd i’r pwyllgor a’i sefydlodd.

17.20          Mae is-bwyllgor yn cael ei reoleiddio, fel y bo’n briodol, gan y Rheolau Sefydlog sy’n ymwneud â’r pwyllgor y mae’n is-bwyllgor iddo.

Cadeiryddion

17.21          Rhaid i bob pwyllgor, yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 17.22, gael ei gadeirio gan yr Aelod a benodwyd i’r rôl honno yn unol â Rheolau Sefydlog 17.2E neu 17.2T.

17.22          Mae gan bob pwyllgor y pŵer i benodi cadeirydd dros dro yn absenoldeb ei gadeirydd.

17.23          Ac eithrio pan fydd Rheolau Sefydlog yn darparu fel arall, rhaid i gadeirydd pwyllgor benderfynu ar weithdrefnau’r pwyllgor, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau ysgrifenedig y caiff y Llywydd eu cyhoeddi yn unol â Rheol Sefydlog 6.17.

17.24          O ran busnes is-bwyllgor, mae gan gadeirydd yr is-bwyllgor bwerau cadeirydd y pwyllgor y mae’n is-bwyllgor iddo.

Datgan Buddiannau Perthnasol

17.24A       Cyn cymryd rhan mewn unrhyw drafodion pwyllgor, rhaid i Aelod ddatgan unrhyw fuddiant, boed yn ariannol neu fel arall, sydd gan yr Aelod, neu hyd y gŵyr yr Aelod, sydd gan aelod o'i deulu, neu y mae'r Aelod neu aelod o'i deulu yn disgwyl ei gael sy'n berthnasol i'r trafodion hynny, ac y gellid ystyried yn rhesymol gan eraill ei fod yn dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod.

17.24B       Nid yw Rheol Sefydlog 17.24A yn effeithio ar y gofynion o ran datgan buddiannau cofrestradwy ar lafar o dan Reol Sefydlog 2.6.

Ymddygiad mewn Pwyllgorau

17.25          Rhaid i’r cadeirydd gadw trefn mewn cyfarfodydd pwyllgor a rhaid galw i drefn unrhyw Aelod:

(i)        sy'n ymddwyn mewn ffordd a fyddai, ym marn y cadeirydd, yn gyfystyr â thramgwydd troseddol neu ddirmyg llys;

(ii)      sy'n rhwystro busnes y Senedd;

(iii)     sy'n ceisio codi mater sydd y tu hwnt i gwmpas y mater sydd gerbron y pwyllgor;

(iv)     sy'n euog o ymddygiad anghwrtais neu amhriodol;

(v)       sy'n defnyddio iaith sy'n groes i’r drefn, iaith sy'n gwahaniaethu neu sy'n peri tramgwydd, neu iaith sy'n amharu ar urddas y Senedd;

(vi)     sy'n gwrthod cydymffurfio ag unrhyw Reol Sefydlog neu ag unrhyw ofyniad arall ynglŷn ag ymddygiad Aelodau; neu

(vii)    sy'n anwybyddu awdurdod y cadeirydd.

17.26          Rhaid i Aelod gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y cadeirydd ynghylch unrhyw ymddygiad sydd wedi peri ei alw i drefn.

17.27          Caiff y cadeirydd ei gwneud yn ofynnol i Aelod ymneilltuo o weddill y cyfarfod os yw’r cadeirydd o’r farn bod yr ymddygiad yn cyfiawnhau hynny. Os bydd Aelod yn gwrthod ymneilltuo pan ofynnir iddo wneud hynny, caiff y cadeirydd ohirio’r cyfarfod neu ei atal dros dro am gyfnod penodol a hysbysu’r Llywydd am y mater. Wedi sicrhau caniatâd y Llywydd ymlaen llaw, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig heb hysbysiad yn y cyfarfod llawn fel bod yr Aelod hwnnw’n cael ei wahardd o drafodion y Senedd am gyfnod yn unol â Rheol Sefydlog 13.13.

Sub Judice

17.28          Yn ddarostyngedig i hawl y Senedd i ddeddfu ar unrhyw fater neu i drafod is-ddeddfwriaeth, rhaid i Aelod beidio â chodi unrhyw fater na mynd ar drywydd unrhyw fater mewn cyfarfodydd pwyllgor sy’n ymwneud ag achosion sydd ar waith (fel y’u diffinnir yn Atodlen 1 i Ddeddf Dirmygu Llys 1981) neu pan fydd Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru neu Ombwsdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi penderfynu cynnal archwiliad o achos, a hynny tan yr adeg pan fydd dyfarniad wedi’i roi neu pan fydd adroddiad wedi’i wneud gan y naill Gomisiynydd neu’r llall neu’r Ombwdsmon, oni bai bod y cadeirydd yn fodlon:

(i)        bod gan y mater berthynas glir â mater o bwys cyhoeddus cyffredinol neu fod penderfyniad gweinidogol o dan sylw;

(ii)      nad yw’r mater yn ymwneud ag achos sydd i’w wrando, neu sy’n cael ei wrando, gerbron llys troseddau neu gerbron rheithgor neu ag achos sydd i’w wrando, neu sy’n cael ei wrando, mewn achos teuluol; a

(iii)     nad yw’r Aelod, yn ei sylwadau, yn creu risg real a sylweddol o ragfarnu achos llys, naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas ag achos penodol.

Cysylltiadau â’r Farnwriaeth

17.29          Oni bai bod y mater yn destun cynnig o sylwedd, rhaid i’r Aelodau beidio, mewn cyfarfodydd pwyllgor, â beirniadu ymddygiad barnwyr llysoedd y Deyrnas Unedig wrth iddynt gyflawni eu swyddogaeth farnwrol; (yn Rheol Sefydlog 17.29, mae “barnwr” yn cynnwys personau sy’n dal swydd barnwr, yn llawn amser neu’n rhan amser).

17.30          Rhaid i bwyllgorau beidio â thrafod penodiadau barnwrol unigol.

Cworwm

17.31          Rhaid datgan nad oes cworwm i gyfarfod pwyllgor os bydd llai na thri Aelod neu lai na thraean o nifer aelodau’r pwyllgor, pa un bynnag yw'r mwyaf, yn bresennol.

17.32          Rhaid datgan nad oes cworwm i gyfarfod pwyllgor os un grŵp gwleidyddol yn unig a gynrychiolir gan yr Aelodau sy'n bresennol ar ddechrau’r cyfarfod.

17.33          Wrth ddatgan nad oes cworwm i gyfarfod o dan Reol Sefydlog 17.31 neu 17.32, rhaid i’r cadeirydd, neu, yn absenoldeb y cadeirydd, rhaid i glerc y pwyllgor, atal y cyfarfod dros dro nes bod cworwm. Ond os nad oes cworwm o fewn 20 munud, bydd y cyfarfod yn parhau i fod wedi’i ohirio. Pan fydd yn rhesymol ac yn briodol gwneud hynny, caiff y cadeirydd, neu, yn absenoldeb y cadeirydd, glerc y pwyllgor, ohirio’r cyfarfod cyn y terfyn amser hwnnw os yw’n glir na fydd cworwm yn y pwyllgor o fewn yr amser hwnnw.

Pleidleisio

17.34          Os bydd pleidlais yn angenrheidiol er mwyn cwblhau’r busnes, rhaid i’r cadeirydd wahodd y pwyllgor i dderbyn y cynnig neu’r gwelliant. Os:

(i)        na fydd Aelod yn gwrthwynebu, bernir fod y cynnig neu’r gwelliant wedi’i dderbyn gan y pwyllgor; neu

(ii)      bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, rhaid cynnal pleidlais yn unol â’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 17.35.

17.35          Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 17.34(i), pleidleisir mewn pwyllgorau drwy godi dwylo, a phan fydd unrhyw un o aelodau’r pwyllgor yn gofyn i’r bleidlais gael ei chofnodi, rhaid i enwau'r rhai sy'n pleidleisio (gan gynnwys y rhai sy'n ymatal) gael eu cofnodi yng nghofnodion trafodion y pwyllgor.

17.36          At ddibenion pleidleisio, caiff y cadeirydd gynnig grwpio’r pleidleisiau ar gynigion neu welliannau fel eu bod yn destun un bleidlais. Os bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, rhaid cynnal pleidlais ar wahân ar gyfer pob cynnig a phob gwelliant.

17.37          Caiff cadeiryddion pwyllgorau bleidleisio. Os bydd nifer y pleidleisiau yn gyfartal, rhaid i’r cadeirydd ddyfarnu ynglŷn â chwblhau’r busnes yn unol â Rheol Sefydlog 6.20.

17.38          Ni fydd yr un bleidlais mewn unrhyw bwyllgor yn ddilys os bydd llai na thraean o’i aelodau wedi pleidleisio. Rhaid ystyried bod aelodau sy'n ymatal wedi pleidleisio.

17.39          Os nad yw pleidlais yn ddilys o dan Reol Sefydlog 17.38, rhaid i’r cadeirydd ohirio'r eitem o fusnes yr oedd yn rhan ohoni tan gyfarfod nesaf y pwyllgor.

Natur Agored y Pwyllgorau

17.40          Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 17.42, rhaid i bwyllgorau gyfarfod yn gyhoeddus, a rhaid caniatáu mynediad ar gyfer darlledu cyfarfodydd cyhoeddus yn unol â'r trefniadau y bydd y Comisiwn yn cytuno arnynt.

17.41          O ran deunydd a gyflwynir i bwyllgor gan aelodau o’r cyhoedd mewn perthynas â thrafodion y pwyllgor, gan gynnwys tystiolaeth a gyflwynwyd neu ddogfennau a gynhyrchwyd mewn ymateb i wahoddiad o dan Reol Sefydlog 17.50, ac a gyhoeddir ar ran y pwyllgor, dylid ei ystyried yn ddeunydd a gyhoeddwyd:

(i)        o dan awdurdod y Senedd (at ddiben adran 42(1)(b) o’r Ddeddf Difenwi); a

(ii)      at ddibenion trafodion y Senedd (at ddiben adran 43(1)(b) o’r Ddeddf Dirmygu Llys).

17.42          Caiff pwyllgor benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod neu unrhyw ran o gyfarfod:

(i)        lle mae cysylltiadau rhyngwladol, diogelwch gwladol, ymchwiliad i anghyfreithlondeb honedig, effeithiolrwydd gwaith gorfodi'r gyfraith neu weinyddu cyfiawnder yn briodol yn ei gwneud yn ofynnol i’r trafodion gael eu cynnal yn breifat;

(ii)      lle nad oes modd trafod eitem benodol o fusnes heb ddatgelu gwybodaeth bersonol am unigolion penodol sydd wedi'u hadnabod neu y gellir eu hadnabod ac na ddylid ei datgelu;

(iii)     lle byddai trafod eitem benodol o fusnes yn gyhoeddus yn debyg o achosi niwed i fuddiannau masnachol neu economaidd;

(iv)     lle byddai trafod eitem benodol o fusnes yn gyhoeddus yn debyg o achosi niwed i iechyd neu ddiogelwch unigolyn, y cyhoedd, neu'r amgylchedd;

(v)       lle nad oes modd trafod eitem benodol o fusnes heb gyfeirio at ddeunydd a fyddai, yn ôl pob tebyg, yn cael ei ystyried yn ddeunydd sy’n difenwi unrhyw berson;

(vi)     lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson;

(vii)    lle nad oes modd trafod eitem benodol o fusnes heb ddatgelu naill ai cyngor cyfreithiol a roddwyd yn gyfrinachol, neu wybodaeth a roddwyd yn gyfrinachol gan berson neu gorff (gan gynnwys awdurdod cyhoeddus) neu mewn gohebiaeth gyfrinachol ag ef nad oedd o dan unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu’r wybodaeth honno ac nad yw wedi cydsynio i’w datgelu i’r cyhoedd;

(viii)  lle nad oes modd trafod eitem benodol o fusnes heb gyfeirio at ddogfen neu ddogfennau a gâi eu gwahardd neu eu hesemptio rhag cael eu datgelu o dan ddeddfwriaeth; neu

(ix)     lle mae unrhyw fater sy’n ymwneud â busnes mewnol y pwyllgor, neu fusnes mewnol y Senedd, i gael ei drafod.

17.43          Rhaid i gynnig a wneir o dan Reol Sefydlog 17.42 nodi ar ba sail y mae'r Aelod sy'n ei wneud yn credu y dylai arwain at wahardd y cyhoedd.

17.44          Cyn belled ag y bo’n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol, rhaid trefnu bod hysbysiadau ynglŷn â chynigion a dogfennau sy'n ymwneud â busnes y bwriedir ymdrin ag ef mewn unrhyw bwyllgor ar gael i holl aelodau'r pwyllgor hwnnw yn Gymraeg a Saesneg o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y cyfarfod y maent yn berthnasol iddo.

17.45          Caiff aelodau pwyllgorau a phersonau eraill sy’n annerch pwyllgorau, siarad Cymraeg neu Saesneg a rhaid bod cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer trafodion Cymraeg. Caiff personau heblaw Aelodau annerch pwyllgorau mewn ieithoedd eraill drwy gytuno ymlaen llaw gyda'r cadeirydd.

Cyfarfodydd

17.46          Ar ôl ymgynghori â’r Llywydd, caiff cadeirydd pwyllgor alw cyfarfod o’r pwyllgor mewn wythnos nad yw’n wythnos eistedd.

17.47          Caiff y cadeirydd ohirio cyfarfod neu atal y cyfarfod dros dro am gyfnod penodedig o dan unrhyw amgylchiad lle bydd y cadeirydd yn credu bod hynny’n briodol

Dirprwyon mewn Cyfarfodydd

17.48          Caniateir i aelod o bwyllgor sydd wedi rhoi hysbysiad ymlaen llaw i’r cadeirydd gael ei gynrychioli mewn cyfarfod, neu ran o gyfarfod, gan Aelod arall o’r un grŵp gwleidyddol sydd wedi’i enwi ymlaen llaw. Caiff y cynrychiolydd a enwebwyd gymryd rhan yng nghyfarfod y pwyllgor ym mhob ffordd fel pe bai’n aelod ohono. Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 12.41A-H ar gyfer Pwyllgor o'r Senedd Gyfan, ni chaniateir i Aelod gynrychioli mwy nag un aelod o bwyllgor mewn cyfarfod.

Presenoldeb mewn Cyfarfodydd

17.49          Gyda chaniatâd y cadeirydd, caiff Aelodau nad ydynt yn aelodau o bwyllgor gymryd rhan mewn cyfarfod pwyllgor ond ni chânt bleidleisio.

17.50          Caiff pwyllgorau wahodd unrhyw berson i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd er mwyn rhoi tystiolaeth, neu roi cyngor a chânt wahodd unrhyw berson neu gorff o’r fath i gyflwyno tystiolaeth a dangos dogfennau.

17.51          Yn ddarostyngedig i adrannau 38 a 40 o’r Ddeddf, caiff unrhyw bwyllgor arfer y pwerau yn adran 37 o’r Ddeddf, i’w gwneud yn ofynnol i bersonau fod yn bresennol yn eu trafodion neu ddangos dogfennau.

17.52          Caiff cadeiryddion ei gwneud yn ofynnol i berson y gofynnwyd iddo fod yn bresennol mewn pwyllgor dyngu llw (neu roi cadarnhad), sydd i’w weinyddu gan glerc y pwyllgor.

Cyfarfodydd â Phwyllgorau Eraill

17.53          Caiff pwyllgorau gydredeg â phwyllgorau eraill y Senedd.

17.54          Caiff pwyllgorau gydredeg ag unrhyw bwyllgor neu gyd-bwyllgor o unrhyw ddeddfwrfa yn y DU.

Cynghorwyr Pwyllgorau

17.55          Caiff pwyllgorau benodi cynghorwyr yn unol â chanllawiau a gyhoeddir gan y Comisiwn er mwyn iddynt roi cyngor arbenigol.

Adroddiadau Pwyllgorau

17.56          Caiff unrhyw bwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Senedd ar faterion o fewn ei gylch gorchwyl.


 

18. RHEOL SEFYDLOG 18 – Cyfrifon Cyhoeddus a Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru

Cyffredinol

18.1              Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau:

(i)        bod pwyllgor (y cyfeirir ato fel “y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus” yn unol ag adran 30 o’r Ddeddf) sydd â chyfrifoldeb dros y swyddogaethau a ragnodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 a 18.3; a

(ii)      bod y cyfrifoldeb dros y swyddogaethau a bennir yn Rheolau Sefydlog 18.10 a 18.11 mewn perthynas â Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cael ei aseinio i bwyllgor (y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 18 fel “pwyllgor cyfrifol”).

Swyddogaethau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

18.2              Rhaid i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (“y Pwyllgor”):

(i)        cyflwyno sylwadau i’r Archwilydd Cyffredinol o dro i dro ar sut mae’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer ei bwerau i gynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd; a

(ii)      ystyried unrhyw ddefnydd ar adnoddau y tu hwnt i’r hyn a awdurdodwyd neu y bernir ei fod wedi’i awdurdodi ac a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig Gweinidogion Cymru, y Comisiwn, neu’r Ombwdsmon, a chyflwyno adroddiad i’r Senedd ar y defnydd hwnnw, gan argymell a ddylai’r Senedd awdurdodi’r gormodeddau yn ôl-weithredol drwy gyfrwng penderfyniad cyllideb atodol.

18.3              Caiff y Pwyllgor: 

(i)        ystyried dogfennau a osodir gerbron y Senedd gan yr Archwilydd Cyffredinol a chyflwyno adroddiadau i’r Senedd ar y dogfennau hynny yn unol ag adran 143(1) o’r Ddeddf;

(ii)      ystyried unrhyw ddogfen arall sy’n ymwneud â rheolaeth ariannol, cyfrifyddu ac archwilio mewn perthynas â gwariant cyhoeddus (ac eithrio’r rhai sy’n ymwneud â llywodraethu mewnol Swyddfa Archwilio Cymru) a chyflwyno adroddiad i’r Senedd ar y ddogfen honno; a

(iii)     cymryd tystiolaeth a chyflwyno adroddiadau i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin os bydd y Pwyllgor hwnnw yn gofyn iddo wneud hynny.

18.4              Wrth gyflawni ei gyfrifoldebau o dan Reol Sefydlog 18.3(i) neu 18.3(ii), rhaid i’r Pwyllgor beidio ag amau rhagoriaethau amcanion polisi y llywodraeth, nac amcanion polisi unrhyw gorff neu berson arall sy'n destun adroddiad y Pwyllgor.

Aelodaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

18.5              Mae Rheolau Sefydlog 17.3 a 17.7 yn gymwys i’r Pwyllgor, ac eithrio bod yn rhaid iddo gynnwys o leiaf 5 aelod a dim mwy na 10 aelod ac na chaniateir i’r un person a bennir yn adran 30(3) o’r Ddeddf gael ei gynnig yn aelod o’r Pwyllgor.

18.6              Mae Rheol Sefydlog 17.21 yn gymwys i’r Pwyllgor, ac eithrio bod yn rhaid iddo beidio â chael ei gadeirio gan Aelod sy’n aelod o grŵp gwleidyddol a chanddo rôl weithredol.

18.7              Mae Rheol Sefydlog 17.48 yn gymwys i’r Pwyllgor, ac eithrio na chaniateir i’r un person a bennir yn adran 30(3) o’r Ddeddf gael ei enwebu yn gynrychiolydd.

18.8              Ni chaiff aelod o’r Pwyllgor gymryd rhan yn ystyriaeth y Pwyllgor ar unrhyw fater os mai ef neu hi oedd yr aelod o’r llywodraeth a oedd yn uniongyrchol gyfrifol am y mater hwnnw ar yr adeg berthnasol.

18.9              Ni chaiff aelod o’r Pwyllgor gymryd rhan yn ystyriaeth y Pwyllgor ar unrhyw fater a oedd o fewn cyfrifoldeb Pwyllgor y Tŷ (fel yr oedd wedi’i gyfansoddi rhwng 18 Rhagfyr 2002 a 2 Mai 2007), neu sydd o fewn cyfrifoldeb y Comisiwn, os oedd yr aelod ar yr adeg berthnasol yn aelod o Bwyllgor y Tŷ neu o’r Comisiwn.

Swyddogaethau Pwyllgor mewn Perthynas â Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru

18.10          Rhaid i bwyllgor cyfrifol:

(i)        arfer y swyddogaethau a nodir yn adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ynglŷn â’r amcangyfrif o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru a osodir ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer pob blwyddyn ariannol;

(ii)      ystyried unrhyw gynigion cyllideb atodol a gyflwynir o dan adran 126 o’r Ddeddf ac sy’n ceisio diwygio symiau a awdurdodwyd o’r blaen drwy benderfyniad cyllideb neu benderfyniad cyllideb atodol mewn perthynas â Swyddfa Archwilio Cymru;

(iii)     ystyried unrhyw ddefnydd ar adnoddau y tu hwnt i’r hyn a awdurdodwyd neu y bernir ei fod wedi’i awdurdodi ac a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig Swyddfa Archwilio Cymru, a chyflwyno adroddiad i’r Senedd ar y defnydd hwnnw, gan argymell a ddylai’r Senedd awdurdodi’r gormodeddau yn ôl-weithredol drwy gyfrwng penderfyniad cyllideb atodol;

(iv)     yn unol â Rheol Sefydlog 10, cynghori’r Senedd wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phenodi a diswyddo’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru;

(v)       arfer y swyddogaethau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phenodi a diswyddo aelodau anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru ac eithrio’r cadeirydd, a dynodi Archwilydd Cyffredinol dros dro.  Nid yw Rheol Sefydlog 10 yn gymwys i’r penodiadau hyn;

(vi)     arfer y swyddogaethau o dan baragraff 34 o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phenodi archwilydd cyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru. Nid yw Rheol Sefydlog 10 yn gymwys i’r penodiad hwn;

(vii)    arfer y swyddogaethau a nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ynglŷn â gwneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth o ran yr Archwilydd Cyffredinol, ac o ran y cadeirydd ac aelodau anweithredol eraill Swyddfa Archwilio Cymru;

(viii)  arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraffau 8 a 9 o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phennu telerau penodi eraill ar gyfer penodiad i Swyddfa Archwilio Cymru;

(ix)     arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraff 1(4) o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â chymeradwyo Cod Ymarfer sy’n ymdrin â’r berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru;

(x)      arfer y swyddogaethau a nodir yn adran 24(7) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â chymeradwyo cynllun ar gyfer codi ffioedd gan Swyddfa Archwilio Cymru

(xi)     arfer y swyddogaethau a nodir yn adran 5(3) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â chyhoeddi rhestr o swyddi, cytundebau a threfniadau eraill a bennir at ddibenion adran 5(2) o’r Ddeddf honno.

18.11          Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried materion ynghylch llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru ac ynghylch goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru a’r Archwilydd Cyffredinol, gan gynnwys:

(i)        ystyried y Cynllun Blynyddol a osodir ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru gerbron y Senedd o dan adran 26 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, a chyflwyno adroddiad i’r Senedd ar y cynllun hwnnw;

(ii)      cynghori archwilydd Swyddfa Archwilio Cymru ar yr ymchwiliadau sydd i’w cynnal o dan baragraff 35(7) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013;

(iii)     ystyried dogfennau a osodir gerbron y Senedd gan archwilydd cyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru o dan baragraffau 35(2) a 35(7) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, a chyflwyno adroddiadau i’r Senedd ar y dogfennau hynny;

(iv)     ystyried yr Adroddiad Blynyddol ac unrhyw adroddiadau interim a osodir ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru gerbron y Senedd o dan baragraff 3(6) o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, a chyflwyno adroddiadau i’r Senedd ar yr adroddiadau hynny;

(v)       pennu dyddiadau i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru osod adroddiadau interim ar y cyd gerbron y Senedd, yn unol â Pharagraff 3(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013;

(vi)     nodi cyfrifoldebau ar gyfer swyddog cyfrifyddu Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â chyfrifon a chyllid Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â Pharagraff 33(6) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

Aelodaeth y pwyllgor cyfrifol

18.12          Mae Rheolau Sefydlog 17.3 a 17.7 yn gymwys i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.1(ii), ac eithrio na chaniateir i’r un person a bennir ym mharagraff 2(2C)(a) o Ran 2 o Atodlen 7 i’r Ddeddf gael ei gynnig yn aelod ohono.

18.13          Mae Rheol Sefydlog 17.21 yn gymwys i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.1(ii), ac eithrio bod yn rhaid iddo beidio â chael ei gadeirio gan Aelod sy’n aelod o grŵp gwleidyddol a chanddo rôl weithredol.

18.14          Mae Rheol Sefydlog 17.48 yn gymwys i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.1(ii), ac eithrio na chaniateir i’r un person a bennir yn adran 30(3) o’r Ddeddf gael ei enwebu yn gynrychiolydd.


 

18A. RHEOL SEFYDLOG 18A - Trefniadau Goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Y Pwyllgor neu Bwyllgorau

18A.1         Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau bod y cyfrifoldeb dros y swyddogaethau a ragnodir yn Rheol Sefydlog 18A yn cael ei aseinio i bwyllgor neu bwyllgorau (y cyfeirir ato neu atynt yn Rheol Sefydlog 18A fel “pwyllgor cyfrifol”).

Swyddogaethau

18A.2     Rhaid i bwyllgor cyfrifol:

(i)        arfer y swyddogaethau a nodir yn adran 73 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 mewn perthynas ag adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf honno;

(ii)      arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 mewn perthynas â phenderfynu ar delerau penodiad a wneir o dan baragraff 1 neu baragraff 4(1) o'r Ddeddf honno;

(iii)    arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 mewn perthynas â gwahardd;

(iv)    arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraff 16 o Atodlen 1 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 mewn perthynas ag amcangyfrif incwm a threuliau swyddfa'r Ombwdsmon ar gyfer pob blwyddyn ariannol;

(v)      ystyried unrhyw gynigion cyllideb atodol a gyflwynir o dan adran 126 o'r Ddeddf ac sy'n ceisio diwygio symiau a awdurdodwyd o'r blaen drwy benderfyniad cyllideb neu benderfyniad cyllideb atodol mewn perthynas â'r Ombwdsmon;

(vi)     yn unol â Rheol Sefydlog 10, cynghori'r Senedd i arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 sy'n ymwneud â phenodi a diswyddo Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dros dro.

19. RHEOL SEFYDLOG 19 – Cyllid

Y Pwyllgor

19.1              Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau bod pwyllgor (y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 19 fel “y pwyllgor cyfrifol”) sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheol Sefydlog 19.

Swyddogaethau

19.2              Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol ystyried a chyflwyno adroddiad ar unrhyw adroddiad neu ddogfen arall a osodwyd gerbron y Senedd gan Weinidogion Cymru neu gan y Comisiwn ac sy’n cynnwys cynigion ar gyfer trefniadau cyllido, neu defnyddio adnoddau.

19.3              Caiff y pwyllgor cyfrifol hefyd ystyried a chyflwyno adroddiad ar unrhyw fater arall sy’n ymwneud â threfniadau cyllido neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, neu sy’n effeithio ar drefniadau cyllido neu’r gwariant hwnnw.

19.4              Mae cyfeiriad at ddefnyddio adnoddau yn gyfeiriad at eu gwario, eu defnyddio neu eu lleihau o ran eu gwerth ac mae’n cynnwys gwariant sy’n daladwy o Gronfa Gyfunol Cymru ac unrhyw wariant arall sy’n cael ei dalu o drethi, taliadau a ffynonellau refeniw eraill.

19.5              Mae cyfeiriad at drefniadau cyllido yn gyfeiriad at ffynonellau cyllid gan gynnwys refeniw a geir o drethi, grant bloc Cymru a thrwy fenthyciadau, ond heb fod yn gyfyngedig i'r ffynonellau hynny.


 

20. RHEOL SEFYDLOG 20 – Gweithdrefnau Cyllid

Cyffredinol

20.1              Ystyr cyfeiriadau at “y pwyllgor cyfrifol” yn Rheol Sefydlog 20 yw pwyllgor sydd â’r cyfrifoldeb dros y swyddogaethau a bennir yn Rheol Sefydlog 19.

20.1A      Rhaid i'r pwyllgor cyfrifol a'r llywodraeth gytuno ar brotocol ar y trefniadau gweinyddol ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft flynyddol a materion eraill sy'n gysylltiedig â'r gyllideb.

Llywodraeth Cymru

20.2              Ym mhob blwyddyn, rhaid i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth hysbysu’r Pwyllgor Busnes am y canlynol:

(i)        erbyn pa ddyddiad y bydd un o Weinidogion Cymru yn gosod cynigion cyllideb amlinellol y llywodraeth, yn unol â Rheol Sefydlog 20.7;

(ii)      erbyn pa ddyddiad y bydd un o Weinidogion Cymru yn gosod cynigion cyllideb manwl y llywodraeth; a

(iii)     erbyn pa ddyddiad y bydd un o Weinidogion Cymru yn cyflwyno’r cynnig cyllideb blynyddol yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, a chan ystyried Rheol Sefydlog 20.5.

20.3              Rhaid i’r Gweinidog wneud yr hysbysiad sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 20.2 o leiaf ddwy wythnos cyn toriad yr haf bob blwyddyn.

20.4              Ar ôl cael hysbysiad o dan Reol Sefydlog 20.2 ac ar ôl ymgynghori â’r pwyllgor cyfrifol, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sefydlu a chyhoeddi amserlen ar gyfer ystyried y gyllideb, a rhaid iddi gynnwys:

(i)        y dyddiadau a hysbyswyd yn unol â Rheol Sefydlog 20.2;

(ii)      y dyddiad cau erbyn pryd y bydd yn rhaid i’r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad i’r Senedd ar gynigion cyllideb amlinellol y llywodraeth; a

(iii)     y dyddiad cau erbyn pryd y bydd yn rhaid i bwyllgorau gwblhau eu hystyriaeth o’r cynigion  cyllideb manwl.

20.5              Wrth bennu’r dyddiadau cau o dan Reol Sefydlog 20.4 neu 20.6;

(i)        rhaid rhoi o leiaf wyth wythnos fel arfer i’r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar gynigion cyllideb amlinellol y llywodraeth, a rhaid iddo bob amser gael o leiaf bum wythnos i gyflwyno adroddiad; a

(ii)      rhaid rhoi o leiaf bum wythnos i bwyllgorau ystyried cynigion cyllideb manwl y llywodraeth.

20.6              Ar gais y Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth, caiff y Pwyllgor Busnes wneud newidiadau dilynol i’r amserlen a gyhoeddwyd o dan Reol Sefydlog 20.4, yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 20.5. Rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyhoeddi’r amserlen ddiwygiedig.

Cynigion y Gyllideb Ddrafft

20.7              Yn unol â Rheol Sefydlog 20.2 (neu Reol Sefydlog 20.6), rhaid i un o Weinidogion Cymru osod gerbron y Senedd gynigion cyllideb amlinellol sy’n nodi’r cynlluniau cyllido a’r symiau o adnoddau ac arian parod y mae’r llywodraeth yn bwriadu eu defnyddio ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol a darpar symiau ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol neu ar gyfer unrhyw gyfnod arall sy’n briodol ym marn y Gweinidog.

20.7A      Ar yr un pryd ag y bydd un o Weinidogion Cymru yn gosod cynigion cyllideb amlinellol gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.7, rhaid iddo hefyd osod y cyfryw wybodaeth ategol a nodir yn y protocol a gytunwyd o dan Reol Sefydlog 20.1A.

20.7B      Yn unol â Rheol Sefydlog 20.2 (neu Rheol Sefydlog 20.6), rhaid i un o Weinidogion Cymru osod cynigion cyllideb manwl gerbron y Senedd, gan gynnwys y dyraniadau arfaethedig ar gyfer pob portffolio gweinidogol. 

20.8              Caiff un o Weinidogion Cymru wneud datganiad am y gyllideb ddrafft yn y cyfarfod llawn cyn gynted â phosibl ar ôl i’r cynigion cyllideb amlinellol gael eu gosod yn unol â Rheol Sefydlog 20.7. Caiff yr Aelodau drafod y datganiad.

20.9              Ni chaniateir gwneud cynnig yn y cyfarfod llawn mewn perthynas â chyllideb ddrafft y llywodraeth nes bydd y dyddiad a ganlyn wedi mynd heibio:

(i)        y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n ofynnol i’r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar y cynigion cyllideb amlinellol o dan Reol Sefydlog 20.4(ii) (neu Reol Sefydlog 20.6); a

(ii)      y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n rhaid i bwyllgorau eraill gwblhau eu hystyriaeth o’r cynigion cyllideb manwl o dan Reol Sefydlog 20.4(iii) (neu Reol Sefydlog 20.6).

20.10          [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y cyfarfod llawn ar 21 Mehefin 2017]

20.11          Caiff adroddiad y pwyllgor cyfrifol argymell newidiadau yn y symiau a gynigiwyd yn y cynigion cyllideb amlinellol ar yr amod;

(i)        na fyddai effaith net y newidiadau hynny’n cynyddu neu’n gostwng y cyfansymiau gynigiwyd yng nghynigion cyllideb amlinelloly llywodraeth; neu

(ii)      bod cynnig ar gyfer cynnydd cymesur yn lefel y cyllid perthnasol yn cyd-fynd ag unrhyw argymhelliad i gynyddu cyfanswm arfaethedig y gwariant; neu

(iii)     y dylai unrhyw argymhelliad i ostwng lefel y cyllid egluro sut y bydd y gostyngiad hwnnw yn cael ei wrthbwyso gan ostyngiad yng nghyfanswm arfaethedig y gwariant.

20.12          Yn unol â’r amserlen a sefydlwyd ac a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Busnes o dan Reol Sefydlog 20.4 neu 20.6, rhaid i’r Senedd ystyried cynnig a gyflwynwyd gan un o Weinidogion Cymru fod y Senedd yn nodi cyllideb ddrafft y llywodraeth. Dim ond o dan yr amodau a ganlyn y caniateir i unrhyw welliant gael ei gyflwyno i gynnig o’r fath:

(i)        na fyddai effaith net unrhyw newidiadau yn cynyddu neu’n gostwng cyfansymiau’r adnoddau neu’r arian parod a gynigiwyd yng nghyllideb ddrafft y llywodraeth; neu

(ii)      bod cynnig ar gyfer cynnydd cymesur yn lefel y cyllid perthnasol yn cyd-fynd ag unrhyw gynnig i gynyddu cyfanswm arfaethedig y gwariant; neu

(iii)     y dylai unrhyw gynnig i ostwng lefel y cyllid egluro sut y bydd y gostyngiad hwnnw yn cael ei wrthbwyso gan ostyngiad yng nghyfanswm arfaethedig y gwariant.

Y Comisiwn

20.13          Heb fod yn hwyrach na 1 Hydref ym mhob blwyddyn ariannol, rhaid i un o aelodau’r Comisiwn osod gerbron y Senedd gyllideb ddrafft ar gyfer y Comisiwn sy’n nodi’r symiau o adnoddau ac arian parod y mae’r Comisiwn yn bwriadu eu defnyddio ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol a darpar symiau ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol neu ar gyfer unrhyw gyfnod arall y mae’r Comisiwn wedi cytuno arno gyda Gweinidogion Cymru.

20.14          Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol ystyried cyllideb ddrafft y Comisiwn a chyflwyno adroddiad i’r Senedd amdani erbyn 22 Hydref. Caiff adroddiad y pwyllgor cyfrifol argymell amrywiadau yn y symiau a gynigiwyd yn y gyllideb ddrafft ar yr amod na fyddai effaith net yr amrywiadau hynny’n cynyddu cyfansymiau’r adnoddau neu’r arian parod a gynigiwyd yng nghyllideb ddrafft y Comisiwn.

20.15          Rhaid i un o aelodau’r Comisiwn osod gerbron y Senedd gyllideb ar gyfer y Comisiwn. Ni chaniateir gosod y gyllideb tan ar ôl y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n ofynnol i’r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar gyllideb ddrafft y Comisiwn.

20.16          Rhaid i un o aelodau’r Comisiwn gyflwyno cynnig y dylid cytuno ar y gyllideb a osodir o dan Reol Sefydlog 20.15 a’i hymgorffori yn y cynnig cyllideb blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i’r cynnig a rhaid i’r cynnig gael ei drafod cyn pen pum diwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei gyflwyno (heb gyfrif dyddiau gwaith mewn wythnos pan na fydd y Senedd yn eistedd).

20.17          Os na chytunir ar gyllideb derfynol y Comisiwn, rhaid i un o aelodau’r Comisiwn osod gerbron y Senedd gyllideb ddiwygiedig ar gyfer y Comisiwn, ynghyd â chynnig y dylid cytuno arni a’i hymgorffori yn y cynnig cyllideb blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i’r cynnig a rhaid i’r cynnig gael ei drafod cyn pen pum diwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei gyflwyno (heb gyfrif dyddiau gwaith mewn wythnos pan na fydd y Senedd yn eistedd).

20.18          Caniateir cyflwyno rhagor o gynigion o dan Reol Sefydlog 20.17 nes y ceir cytundeb ond ni chaniateir i’r Senedd ystyried cynnig o’r fath ar ôl 27 Tachwedd.

20.19          Os na chytunwyd ar gyllideb y Comisiwn erbyn 27 Tachwedd, mae cyllideb y Comisiwn sydd i’w hymgorffori yn y cynnig cyllideb blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii) i gynnwys, ar gyfer pob gwasanaeth neu ddiben yr awdurdodwyd defnyddio adnoddau neu arian parod ar eu cyfer gan y Comisiwn yn y flwyddyn ariannol flaenorol, 95% o’r swm a awdurdodwyd felly.

20.20          Pan gynhelir Adolygiad o Wariant Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU, caiff aelod o’r Comisiwn, gyda chytundeb y Pwyllgor Busnes, ragnodi dyddiadau gwahanol i’r rhai a geir yn Rheol Sefydlog 20.13 erbyn pryd y mae’n rhaid iddo osod cyllideb ddrafft y Comisiwn, ac, yn dilyn hynny, y dyddiad y cyfeirir ato yn Rheolau Sefydlog 20.18 ac 20.19. Os bydd y Pwyllgor Busnes yn cytuno, rhaid iddo hysbysu’r Senedd drwy osod adroddiad.

Yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru

20.21          Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru osod yr amcangyfrif o incwm a gwariant sy’n ofynnol o dan adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 gerbron y Senedd, a hynny ar y cyd, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ond heb fod yn hwyrach na 1 Tachwedd ym mhob blwyddyn ariannol beth bynnag.

20.22          Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(i) ystyried adroddiad sy’n cynnwys yr amcangyfrif a’i osod gerbron y Senedd heb fod yn hwyrach na 22 Tachwedd, gydag unrhyw ddiwygiadau sy’n briodol ym marn y pwyllgor cyfrifol, ar ôl iddo ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ac ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ganddynt.

Yr Ombwdsmon

20.23          Rhaid i’r Ombwdsmon gyflwyno’r amcangyfrif o incwm a gwariant sy’n ofynnol o dan baragraff 16 o Atodlen 1 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18A.2(iv) cyn gynted ag y bo’n ymarferol ond heb fod yn hwyrach na 1 Tachwedd ym mhob blwyddyn ariannol beth bynnag.

20.24          Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18A.2(iv) ystyried yr amcangyfrif a’i osod gerbron y Senedd heb fod yn hwyrach na 22 Tachwedd, gydag unrhyw ddiwygiadau sy’n briodol ym marn y Pwyllgor, ar ôl iddo ymgynghori â’r Ombwdsmon ac ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ganddo.

Penderfyniadau ynghylch y gyfradd Gymreig

20.24A    Penderfyniad gan y Senedd o dan adran 116D o’r Ddeddf yw penderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig.

20.24B    O ran penderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig

(i)        rhaid iddo nodi’r flwyddyn dreth y mae’n berthnasol iddi;

(ii)      rhaid iddo gael ei wneud cyn dechrau’r flwyddyn dreth honno; ac

(iii)     ni chaniateir iddo gael ei wneud fwy na 12 mis cyn dechrau’r flwyddyn honno.      

20.24C    Dim ond Prif Weinidog Cymru neu un o Weinidogion Cymru a gaiff wneud cynnig am benderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig, neu gynnig i ganslo penderfyniad o'r fath.  Ni chaniateir gwneud gwelliannau i benderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig. 

20.24D    Ni chaniateir gwneud cynnig am benderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig tan ar ôl i’r cynnig cyllideb blynyddol gael ei gyflwyno yn unol â Rheol Sefydlog 20.25.

Cynigion Cyllideb Blynyddol

20.25          Rhaid i gynnig cyllideb blynyddol sy’n ofynnol o dan adran 125 o’r Ddeddf gael ei gyflwyno gan un o Weinidogion Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.2 (neu Reol Sefydlog 20.6).

20.26          Rhaid i gynnig cyllideb blynyddol ymgorffori:

(i)        cyllideb derfynol y llywodraeth;

(ii)      cyllideb derfynol y Comisiwn fel y cytunwyd arni gan y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.16 neu 20.17, neu fel y’i pennwyd o dan Reol Sefydlog 20.19;

(iii)     amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru, fel y’i gosodwyd gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.22; a

(iv)     amcangyfrif yr Ombwdsmon, fel y’i gosodwyd gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.24.

20.27          Caiff cynnig cyllideb blynyddol ymgorffori hefyd unrhyw gynnig ar gyfer penderfyniad sydd i’w wneud ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol o dan adran 120(2)(a) o’r Ddeddf.

20.28          Rhaid i’r wybodaeth a gynhyrchir i ategu cynnig cyllideb blynyddol gynnwys y canlynol o leiaf:

(i)        y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o’r Ddeddf;

(ii)      yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan Drysorlys y DU ar gyfer cyllideb y bloc Cymreig am y flwyddyn ariannol sydd o dan sylw yn y cynnig;

(iii)     cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb y bloc Cymreig gan Drysorlys y DU a’r adnoddau sydd i’w hawdurdodi i’w defnyddio yn y cynnig;

(iv)     cysoniad rhwng yr amcangyfrif o’r symiau sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o’r Gronfa yn y cynnig;

(v)       cysoniad rhwng yr adnoddau sydd i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi)     manylion am unrhyw ddiwygiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 i 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodir yn y protocol a gytunwyd o dan Reol Sefydlog 20.1A.

20.29          Dim ond un o Weinidogion Cymru a gaiff wneud cynnig cyllideb blynyddol. Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig cyllideb blynyddol.

20.29A    Ni chaniateir gwneud dim penderfyniad ar gynnig cyllideb blynyddol nes bod y Senedd wedi cytuno ar y penderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd o dan sylw yn y cynnig.       

Cynigion Cyllideb Atodol

20.30          Caiff un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol o dan adran 126 ar unrhyw adeg ar ôl i’r cynnig cyllideb blynyddol gael ei basio.

20.31          Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir i ategu cynnig cyllideb atodol gynnwys unrhyw amrywiadau ar yr hyn a ddarparwyd yn unol â Rheol Sefydlog 20.28.

20.32          Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb y Comisiwn, rhaid i aelod o’r Comisiwn osod memorandwm esboniadol yn nodi pam mae angen yr amrywiad.

20.33          Ni chaniateir i gynnig cyllideb atodol a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 20.30 gael ei wneud naill ai:

(i)        nes bod y pwyllgor cyfrifol wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig; neu

(ii)      nes bod tair wythnos wedi mynd heibio ar ôl iddo gael ei gyflwyno, os nad yw’r pwyllgor cyfrifol wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig.

20.34          Caiff adroddiad y pwyllgor cyfrifol argymell newidiadau yn y symiau a gynigiwyd yn y cynnig cyllideb atodol ar yr amod na fyddai effaith net yr amrywiadau hynny’n cynyddu neu’n gostwng cyfansymiau’r adnoddau neu’r arian parod a gynigiwyd yn y cynnig cyllideb atodol.

20.35          Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb Swyddfa Archwilio Cymru:

(i)        rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ddarparu memorandwm esboniadol ar y cyd i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii) yn nodi pam mae angen amrywio’r gyllideb;

(ii)      caiff y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii) gyflwyno adroddiad ar yr amrywiad arfaethedig o fewn tair wythnos ar ôl i’r cynnig cyllideb atodol gael ei gyflwyno. Caiff yr adroddiad gynnig unrhyw ddiwygiadau i’r amrywiad arfaethedig sy’n briodol ym marn y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii), ar ôl iddo ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddynt.

20.36          Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb yr Ombwdsmon:

(i)        rhaid i’r Ombwdsmon ddarparu memorandwm esboniadol i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18A.2(v) yn nodi pam mae angen amrywio’r gyllideb;

(ii)      caiff y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18A.2(v) gyflwyno gerbron y Senedd adroddiad ar yr amrywiad arfaethedig o fewn tair wythnos ar ôl i’r cynnig cyllideb atodol gael ei gyflwyno. Caiff yr adroddiad gynnig unrhyw ddiwygiadau i’r amrywiad arfaethedig sy’n briodol ym marn y pwyllgor cyfrifol, ar ôl iddo ymgynghori â’r Ombwdsmon ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddo.

20.37          Dim ond un o Weinidogion Cymru a gaiff wneud cynnig cyllideb atodol. Ni chaniateir i welliannau gael eu cyflwyno na’u cynnig ac eithrio gan un o Weinidogion Cymru.

Defnyddio Gormod o Adnoddau

20.37A    Os bydd cyfrifon archwiliedig Llywodraeth Cymru ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol yn cofnodi bod gormod o adnoddau wedi’u defnyddio o gymharu â’r symiau a awdurdodwyd neu y barnwyd o dan y Ddeddf eu bod wedi’u hawdurdodi gan benderfyniadau cyllideb y Senedd, caiff un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol yn gofyn am awdurdodiad ôl-weithredol ar gyfer gormodeddau a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig Llywodraeth Cymru.

20.38          Mae Rheol Sefydlog 20.39 yn gymwys os bydd cyfrifon archwiliedig y Comisiwn, Swyddfa Archwilio Cymru neu’r Ombwdsmon ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol yn cofnodi bod gormod o adnoddau wedi’u defnyddio o gymharu â’r symiau a awdurdodwyd neu y barnwyd o dan y Ddeddf eu bod wedi’u hawdurdodi gan benderfyniadau cyllideb y Senedd.

20.39          Os bydd y Comisiwn, Swyddfa Archwilio Cymru neu’r Ombwdsmon yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol yn gofyn am awdurdodiad ôl-weithredol ar gyfer gormodeddau a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig y person hwnnw.

20.40          Ni chaniateir i gynnig cyllideb atodol a gyflwynir o dan Reolau Sefydlog 20.37A neu 20.39 gael ei wneud naill ai:

(i)        nes bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, neu’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(iv) os yw’n ymwneud â Swyddfa Archwilio Cymru, wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig; neu

(ii)      nes bod chwe mis wedi mynd heibio ar ôl iddo gael ei gyflwyno, os nad yw’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus neu’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(iv) os yw’n ymwneud â Swyddfa Archwilio Cymru, wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig.

20.41          Nid yw Rheolau Sefydlog 20.30 i 20.36 yn gymwys i gynigion a gyflwynir o dan Reolau Sefydlog 20.37A neu 20.39.

21. RHEOL SEFYDLOG 21 – Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Y Pwyllgor neu Bwyllgorau

21.1              Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau bod y cyfrifoldeb dros y swyddogaethau a ragnodir yn Rheol Sefydlog 21 yn cael ei aseinio i bwyllgor neu bwyllgorau (y cyfeirir ato neu atynt yn Rheol Sefydlog 21 fel “pwyllgor cyfrifol”).

Swyddogaethau

21.2              Rhaid i bwyllgor cyfrifol ystyried pob offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Senedd a chyflwyno adroddiad ar a ddylai’r Senedd roi sylw arbennig i'r offeryn neu’r drafft ar unrhyw un o'r seiliau canlynol:

(i)        ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires;

(ii)      ei bod yn ymddangos ei fod yn gwneud defnydd anarferol neu annisgwyl ar y pwerau a roddwyd gan y deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i'w wneud odano;

(iii)     bod y deddfiad sy'n rhoi'r pŵer i’w wneud yn cynnwys darpariaethau penodol sy'n ei eithrio rhag cael ei herio yn y llysoedd;

(iv)     ei bod yn ymddangos bod iddo effaith ôl-weithredol lle nad yw'r deddfiad sy’n ei awdurdodi yn rhoi awdurdod pendant ar gyfer hyn;

(v)       bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol;

(vi)     ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol;

(vii)    ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft;

(viii)  bod yr offeryn neu’r drafft yn defnyddio iaith ryw-benodol;

(ix)     nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg;

(x)      ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod wrth ei gyhoeddi neu wrth ei osod gerbron y Senedd; neu

(xi)     ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod wrth anfon hysbysiad o dan adran 4(1) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, (fel y’i haddaswyd).

21.3              Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried a chyflwyno adroddiad ar a ddylai’r Senedd roi sylw arbennig i unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Senedd ar unrhyw un o’r seiliau canlynol:

(i)        ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath;

(ii)      ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd;

(iii)     ei fod yn amhriodol oherwydd newid yn yr amgylchiadau ers i’r deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i’w wneud odano gael ei basio neu ei wneud ei hun;

(iv)     ei fod yn rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith yn amhriodol; neu

(v)       nad yw’n gwireddu ei amcanion polisi yn berffaith.

21.3A      Nid yw Rheolau Sefydlog 21.2 na 21.3 yn gymwys i unrhyw offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Senedd y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn gymwys iddo.

21.3B      Rhaid i bwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar y weithdrefn briodol i'w chymhwyso i unrhyw offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Senedd y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn gymwys iddo.

21.3C      Rhaid i'r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 21.3B gyflwyno adroddiad ar y weithdrefn briodol gan ddefnyddio'r meini prawf a ganlyn:

(i)     a yw'r memorandwm yn ddigon clir a thryloyw ynghylch pam y mae'r llywodraeth o'r farn y dylai'r weithdrefn penderfyniad negyddol fod yn gymwys;

(ii)    a yw'r memorandwm yn ddigon clir a thryloyw ynghylch y newidiadau sy'n cael eu gwneud gan y rheoliadau;

(iii)   a fu ymgynghoriad digonol ar y rheoliadau;

(iv)   a yw'r memorandwm yn ddigon clir a thryloyw ynghylch effaith bosibl y rheoliadau ar gydraddoldeb a hawliau dynol;

(v)    a yw'r rheoliadau'n codi materion o bwys cyhoeddus, gwleidyddol neu gyfreithiol; a

(vi)   unrhyw fater arall sy’n briodol ym marn y pwyllgor.

21.4              Rhaid i bwyllgor cyfrifol gyflwyno unrhyw adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft heb fod yn fwy nag 20 diwrnod ar ôl i'r offeryn neu'r drafft gael ei osod.

21.4A      Os bydd y deddfiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r offeryn statudol neu'r offeryn statudol drafft gael ei osod gerbron y Senedd yn pennu amserlen mewn perthynas ag ystyriaeth y Senedd o'r offeryn statudol neu'r offeryn statudol drafft, yna:

(i)        ni fydd y terfyn amser yn Rheol Sefydlog 21.4 yn gymwys;

(ii)      caiff y Pwyllgor Busnes sefydlu a chyhoeddi amserlen i'r pwyllgor cyfrifol neu'r pwyllgorau cyfrifol gyflwyno adroddiad arno.

21.4B      Rhaid i bwyllgor cyfrifol gyflwyno unrhyw adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3B mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol drafft heb fod yn hwyrach na 14 diwrnod ar ôl i'r offeryn drafft gael ei osod. Nid yw Rheol Sefydlog 21.4A(ii) yn gymwys i'r offerynnau statudol drafft hynny.

21.5              Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o ddyddiau at ddibenion Rheol Sefydlog 21.4 neu 21.4B, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Senedd wedi'i ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

21.6              Nid yw Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3 yn gymwys i Orchmynion arfaethedig na drafft yn y Cyfrin Gyngor i’w gwneud, yn unol â Rheol Sefydlog 25, o dan adran 109 o’r Ddeddf nac i is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i Weithdrefn Arbennig y Senedd o dan Reol Sefydlog 28.

21.7              Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried y canlynol a chyflwyno adroddiadau arnynt:

(i)        unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a osodir gerbron y Senedd ac eithrio is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i Weithdrefn Arbennig y Senedd o dan Reol Sefydlog 28;

(ii)      pa mor briodol yw darpariaethau mewn Biliau’r Senedd ac mewn Biliau ar gyfer Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig sy’n rhoi pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth i Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol;

(iii)     unrhyw femorandwm cydsyniad offeryn statudol a osodir mewn perthynas ag offeryn statudol perthnasol o dan Reol Sefydlog 30A;

(iv)     defnydd Gweinidogion Cymru ar bwerau cychwyn;

(v)       unrhyw fater deddfwriaethol cyffredinol ei natur sy’n ymwneud â chymhwysedd y Senedd neu gymhwysedd Gweinidogion Cymru; neu

(vi)     deddfwriaeth ddrafft sy’n destun ymgynghoriad.

21.8              Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried deddfwriaeth ddrafft yr Undeb Ewropeaidd sy’n ymwneud â materion o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd neu â swyddogaethau Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol er mwyn ystyried a yw’n cydymffurfio ag egwyddor sybsidiaredd.

21.9              Os bydd pwyllgor cyfrifol yn credu nad yw deddfwriaeth ddrafft yr Undeb Ewropeaidd yn cydymffurfio ag egwyddor sybsidiaredd, caiff wneud sylwadau ysgrifenedig, ar ran y Senedd, i bwyllgor perthnasol Tŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi, a hynny er mwyn cynnwys y sylwadau hynny mewn  resymedig i’w chyflwyno gan y pwyllgor hwnnw i awdurdodau perthnasol yr Undeb Ewropeaidd.

21.10          Os bydd pwyllgor cyfrifol yn gwneud sylwadau ysgrifenedig yn unol â Rheol Sefydlog 21.9, rhaid iddo osod copi o’r sylwadau ysgrifenedig hynny gerbron y Senedd.

21.11          Caiff pwyllgor cyfrifol, at ddiben galluogi arfer ei swyddogaethau o dan Reol Sefydlog 21.9 yn ystod unrhyw wythnos pan na fydd y Senedd yn cwrdd, ddirprwyo’r swyddogaethau hynny i gadeirydd y pwyllgor cyfrifol, a rhaid i’r cadeirydd hwnnw, os caiff y swyddogaethau hynny eu harfer, hysbysu’r pwyllgor cyfrifol am y ffaith honno cyn gynted â phosibl.


22. RHEOL SEFYDLOG 22 – Safonau Ymddygiad

Y Pwyllgor

22.1              Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau bod pwyllgor (y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 22 fel “y pwyllgor cyfrifol”) sydd â chyfrifoldeb dros y swyddogaethau a bennir yn Rheol Sefydlog 22.

Swyddogaethau

22.2              Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol:

(i)        mewn perthynas ag unrhyw gŵyn a gyfeirir ato gan y Comisiynydd Safonau bod Aelod heb gydymffurfio:

(a)       â Rheol Sefydlog 2;

(b)      ag unrhyw benderfyniad gan y Senedd ynglŷn â buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill yr Aelodau;

(c)       â Rheol Sefydlog 5;

(ch)  ag unrhyw benderfyniad gan y Senedd ynglŷn â safonau ymddygiad yr Aelodau;

(d)      ag unrhyw god neu brotocol a wnaed o dan Reol Sefydlog 1.10 ac yn unol ag adran 36(6) o’r Ddeddf;

(dd)  â Rheol Sefydlog 3; neu

(e)       â Rheol Sefydlog 4,

ymchwilio i’rgŵyn, cyflwyno adroddiad arni ac, os yw’n briodol, argymell camau mewn perthynas â hi;

(ii)      ystyried unrhyw faterion o egwyddor ynglŷn ag ymddygiad yr Aelodau yn gyffredinol;

(iii)     goruchwylio’r trefniadau ar gyfer llunio Cofrestr Buddiannau’r Aelodau, y Cofnod o Gyflogaeth Aelodau’r Teulu Gyda Chymorth Arian y Comisiwn, y Cofnod o Amser y bydd Aelodau yn Ymwneud â Gweithgarwch Cofrestradwy a’r Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau, a ffurf a chynnwys y Gofrestr a’r Cofnodion, a’r trefniadau ar gyfer cadw’r Gofrestr a’r Cofnodion a sicrhau eu bod yn hygyrch;

(iv)     sefydlu a gosod gerbron y Senedd weithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gŵynion o dan Reol Sefydlog 22.2(i).

Aelodaeth

22.3              Rhaid i’r Llywydd beidio â bod yn aelod o’r pwyllgor cyfrifol, ond mae gan y Llywydd hawl i gyflwyno papurau iddo, er mwyn tynnu sylw’r Pwyllgor at unrhyw ystyriaethau y mae’r Llywydd yn credu eu bod yn briodol.

22.4              Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 22.5, ni chaniateir i Reol Sefydlog 17.48 fod yn gymwys i’r pwyllgor cyfrifol.

22.4A      Rhaid i'r Senedd ethol eilydd o'r un grŵp gwleidyddol ar gyfer pob aelod o'r pwyllgor cyfrifol, at ddibenion Rheol Sefydlog 22.5.

22.5              Os bydd aelod o’r pwyllgor cyfrifol yn destun cwyn o dan Reol Sefydlog 22.2(i), neu os bydd wedi’i gysylltu’n uniongyrchol fel arall â chwyn o’r fath, ni chaiff gymryd rhan yn ystyriaeth y pwyllgor cyfrifol ar y gŵyn. O dan amgylchiadau o’r fath, ac mewn perthynas â’r ystyriaeth ar y gŵyn o dan sylw yn unig, caiff yr eilydd a etholwyd yn unol â Rheol Sefydlog 22.4A gymryd lle’r aelod hwnnw. Caiff yr eilydd gymryd rhan yng nghyfarfodydd y pwyllgor cyfrifol i ystyried y gŵyn fel pe bai’n aelod o’r Pwyllgor.

Cyfarfodydd

22.6              Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol gyfarfod cyn gynted â phosibl ar ôl i gŵyn gael ei chyfeirio ato gan y Comisiynydd Safonau; ac ar adegau eraill fel y bydd y cadeirydd yn ei gynnull.

22.7              Caiff y pwyllgor cyfrifol gyfarfod yn gyhoeddus neu’n breifat, ond wrth ystyried cwyn, rhaid i’r Pwyllgor gyfarfod yn breifat oni bai ei fod yn penderfynu fel arall.

22.8              Rhaid caniatáu i unrhyw Aelod sy’n destun ymchwiliad gan y pwyllgor cyfrifol gyflwyno sylwadau i’r Pwyllgor ar lafar neu mewn ysgrifen a chaniateir i’r Aelod gael cwmni person arall mewn gwrandawiadau llafar (a gaiff gymryd rhan yn y trafodion gyda chaniatâd y cadeirydd, ond ni chaiff bleidleisio).

Adroddiadau

22.9              Os yw’r pwyllgor cyfrifol wedi ymchwilio i gŵyn a gyfeiriwyd ato gan y Comisiynydd Safonau, rhaid iddo gyflwyno adroddiad i’r Senedd cyn gynted â phosibl ar ôl cwblhau’r ymchwiliad.

22.10          Caiff adroddiad o dan Reol Sefydlog 22.9 gynnwys argymhelliad i:

(i)        ceryddu Aelod;

(ii)      tynnu unrhyw hawliau neu freintiau Aelod yn ôl fel y nodir yn y gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion a sefydlwyd o dan Reol Sefydlog 22.2(iv);

(iii)     gwahardd Aelod o unrhyw drafodion y Senedd am gyfnod penodedig;

neu unrhyw gyfuniad o’r hyn a nodir uchod, am fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o’r materion a gynhwysir yn Rheol Sefydlog 22.2(i).

22.10A    Os caiff Aelod ei wahardd yn dilyn argymhelliad o dan Reol Sefydlog 22.10, ni fydd gan yr Aelod yr hawl i gael dim cyflog gan y Senedd ac ni chaniateir i’r Aelod fynychu unrhyw drafodion yn y Senedd yn ystod cyfnod ei waharddiad.

22.11          Os caiff cynnig i ystyried adroddiad o dan Reol Sefydlog 22.9 ei gyflwyno gan aelod o’r pwyllgor cyfrifol, rhaid trefnu bod amser ar gael cyn gynted â phosibl i’r cynnig gael ei drafod. Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig o’r fath.


23. RHEOL SEFYDLOG 23 – Deisebau’r Cyhoedd

Y Pwyllgor neu Bwyllgorau

23.1              Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau bod y cyfrifoldeb dros y swyddogaethau a bennir yn Rheol Sefydlog 23 yn cael ei aseinio i bwyllgor neu bwyllgorau (y cyfeirir ato neu atynt yn Rheol Sefydlog 23 fel “pwyllgor cyfrifol”).

Ffurf Deisebau

23.2              Rhaid i ddeiseb nodi’n glir:

(i)        enw’r deisebydd, a gaiff fod yn berson unigol (heblaw Aelod) sy'n preswylio yng Nghymru, neu yn gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig o bersonau â safle yng Nghymru;

(ii)      cyfeiriad y deisebydd y dylai pob gohebiaeth ynghylch y ddeiseb gael ei hanfon iddo; a

(iii)     enwau a chyfeiriadau unrhyw berson sy’n cefnogi’r ddeiseb.

23.3              Rhaid i’r Llywydd benderfynu ar briod ffurf deisebau a rhaid iddo gyhoeddi ei benderfyniadau.

Derbyniadwyedd Deisebau

23.4              Nid yw deiseb yn dderbyniadwy:

(i)        os yw’n cynnwys llai na 50 o lofnodion;

(ii)      os yw’n methu â chydymffurfio â Rheol Sefydlog 23.2 neu os nad yw yn y briod ffurf mewn ffordd arall;

(iii)     os yw’n cynnwys iaith sy’n peri tramgwydd;

(iv)     os yw’n gofyn i’r Senedd wneud unrhyw beth y mae’n eglur nad oes gan y Senedd bŵer i’w wneud; neu

(v)       os yw yr un fath, neu i raddau helaeth yr un fath, â deiseb a gaewyd lai na blwyddyn yn gynt.

23.5              [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad y Senedd ar 8 Mawrth 2017]

23.6              Rhaid i’r Llywydd ystyried a phenderfynu mewn anghydfod a yw deiseb yn dderbyniadwy a rhaid iddo hysbysu’r deisebydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, am ei benderfyniad a’r rhesymau drosto.

23.7              Rhaid i’r Llywydd gyhoeddi cofrestr o’r penderfyniadau a wnaed o dan Reol Sefydlog 23.6.

Gweithredu ar Ddeiseb

23.8              Os yw deiseb yn dderbyniadwy, rhaid i’r Llywydd gyfeirio’r ddeiseb honno at bwyllgor cyfrifol.

23.9              Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol:

(i)        cyfeirio’r ddeiseb at y llywodraeth, unrhyw un arall o bwyllgorau’r Senedd neu unrhyw berson neu gorff arall iddynt hwythau gymryd unrhyw gamau y credant eu bod yn briodol;

(ii)      cyflwyno adroddiad i’r Senedd; neu

(iii)     cymryd unrhyw gamau eraill y mae’r pwyllgor yn credu eu bod yn briodol.

23.10          Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol hysbysu’r deisebydd am unrhyw gamau a gymerwyd o dan Reol Sefydlog 23.9.

Cau Deisebau

23.11          Caiff pwyllgor cyfrifol gau deiseb ar unrhyw adeg.

23.12          Pan fydd pwyllgor cyfrifol yn cau deiseb, rhaid iddo hysbysu’r deisebydd fod y ddeiseb wedi’i chau a’i hysbysu am y rhesymau dros ei chau.


 

24. RHEOL SEFYDLOG 24 – Diffiniad o Aelod sy’n Gyfrifol am Ddeddfwriaeth

Cyffredinol

24.1              Mae Rheol Sefydlog 24 yn rhoi diffiniad o “Aelod sy’n gyfrifol” am eitem o ddeddfwriaeth.

24.2              Yn Rheol Sefydlog 24, ystyr “deddfwriaeth” yw

(i)        Gorchmynion arfaethedig o dan Reol Sefydlog 25; neu

(ii)      Gorchmynion drafft o dan Reol Sefydlog 25; neu

(iii)     Biliau o dan Reol Sefydlog 26, a 26B.

Deddfwriaeth Llywodraeth

24.3              Cyfeirir at ddeddfwriaeth a osodir neu a gyflwynir gan aelod o’r llywodraeth fel “deddfwriaeth llywodraeth”.

24.4              Yr Aelod sy’n gyfrifol am eitem o ddeddfwriaeth llywodraeth yw:

(i)        yr aelod o’r llywodraeth a osododd neu a gyflwynodd y ddeddfwriaeth (neu, yn achos Gorchymyn drafft o dan Reol Sefydlog 25, yr aelod o’r llywodraeth a gyflwynodd y Gorchymyn arfaethedig y mae’r Gorchymyn drafft yn ymwneud ag ef);

(ii)      aelod o’r llywodraeth sydd wedi’i awdurdodi gan Brif Weinidog Cymru;

(iii)     aelod o’r llywodraeth sydd wedi’i awdurdodi yn rhinwedd Rheol Sefydlog 24.9 neu 24.16.

24.5              Ni chaiff Aelod sy’n peidio â bod yn aelod o’r llywodraeth barhau yn Aelod sy’n gyfrifol am ddeddfwriaeth llywodraeth.

Deddfwriaeth Pwyllgor

24.6              Cyfeirir at ddeddfwriaeth a osodir neu a gyflwynir gan bwyllgor fel “deddfwriaeth pwyllgor”.

24.7              Yr Aelod sy’n gyfrifol am eitem o ddeddfwriaeth pwyllgor yw:

(i)        yr aelod o’r pwyllgor sydd wedi’i awdurdodi gan y pwyllgor a osododd neu a gyflwynodd y ddeddfwriaeth (neu, yn achos Gorchymyn drafft, yr aelod o’r pwyllgor sydd wedi’i awdurdodi gan y pwyllgor a gyflwynodd y Gorchymyn arfaethedig y mae’r Gorchymyn drafft yn ymwneud ag ef); neu

(ii)      os nad yw’r pwyllgor hwnnw yn bodoli mwyach a bod y Pwyllgor Busnes wedi pennu pwyllgor arall i fod yn gyfrifol am yr eitem honno o ddeddfwriaeth pwyllgor, aelod o’r pwyllgor arall hwnnw sydd wedi’i awdurdodi gan y pwyllgor arall hwnnw.

24.8              Nid yw awdurdodiad o dan Reol Sefydlog 24.7(i) na (ii) mewn grym mwyach os yw’r Aelod a awdurdodwyd felly yn peidio â bod yn aelod o’r pwyllgor.

24.9              Caiff pwyllgor, gyda chytundeb y llywodraeth, drosglwyddo eitem o ddeddfwriaeth pwyllgor i aelod o’r llywodraeth sydd wedi’i awdurdodi gan Brif Weinidog Cymru, ond dim ond â chytundeb (drwy benderfyniad unfrydol y sawl sy’n pleidleisio) y pwyllgor y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 24.7(i) neu, os nad yw’r pwyllgor hwnnw’n bodoli mwyach, y pwyllgor a bennwyd gan y Pwyllgor Busnes o dan Reol Sefydlog 24.7(ii).

24.10          Pan fydd pwyllgor yn trosglwyddo eitem o ddeddfwriaeth pwyllgor i aelod o’r llywodraeth (yn unol â Rheol Sefydlog 24.9), mae’r eitem honno i’w hystyried, o hynny allan, fel eitem o ddeddfwriaeth llywodraeth.

Deddfwriaeth Comisiwn

24.11          Cyfeirir at ddeddfwriaeth a osodir neu a gyflwynir gan y Comisiwn fel “deddfwriaeth y Comisiwn”.

24.12          Yr Aelod sy’n gyfrifol am eitem o ddeddfwriaeth Comisiwn yw’r aelod o’r Comisiwn sydd wedi’i awdurdodi gan y Comisiwn.

24.13          Nid yw awdurdodiad o dan Reol Sefydlog 24.12 mewn grym mwyach os yw’r Aelod a awdurdodwyd felly yn peidio â bod yn aelod o’r Comisiwn.

Biliau Aelod

24.14          Cyfeirir at Filiau nad ydynt naill ai’n Filiau llywodraeth, yn Filiau pwyllgor nac yn Filiau’r Comisiwn, fel “Biliau Aelod”.

24.15          Yr Aelod sy’n gyfrifol am Fil Aelod yw:

(i)        yr Aelod a gafodd gytundeb i gyflwyno Bil o dan Reol Sefydlog 26.91;

(ii)      Aelod arall sydd wedi’i awdurdodi gan yr Aelod o dan Reol Sefydlog 24.15(i), drwy gyfrwng datganiad i’r perwyl hwnnw a osodwyd gan yr Aelod hwnnw; neu

(iii)     os na wneir awdurdodiad o’r fath, unrhyw Aelod sydd wedi’i awdurdodi gan y Senedd.

24.16          Caiff Aelod drosglwyddo Bil i aelod o’r llywodraeth sydd wedi’i awdurdodi gan Brif Weinidog Cymru, drwy gyfrwng datganiad i’r perwyl hwnnw a osodwyd gan yr Aelod hwnnw.

24.17          Pan fydd Aelod yn trosglwyddo Bil i aelod o’r llywodraeth (yn unol â Rheol Sefydlog 24.16), mae’r Bil hwnnw i’w gyfrif, o hynny allan, fel Bil llywodraeth.


24.18           

25. RHEOL SEFYDLOG 25 – Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor i’w gwneud o dan adran 109 o’r Ddeddf

Cyffredinol

25.1              Mae Rheol Sefydlog 25 yn gymwys i Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor o fewn ystyr adran 109 o’r Ddeddf yn unig. Nid yw Rheol Sefydlog 27 yn gymwys i Orchmynion o'r fath.

25.2              Mae “Gorchymyn arfaethedig” yn gynnig ar gyfer Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor sydd i fod yn destun gwaith craffu o dan Reolau Sefydlog 25.4 i 25.11.

25.3              Mae “Gorchymyn drafft” yn Orchymyn drafft yn y Cyfrin Gyngor sydd i fod yn destun cymeradwyaeth y Senedd o dan Reol Sefydlog 25.15.

Ffurf Gorchmynion Arfaethedig a Sut i’w Gosod

25.4              Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 25.25 i 25.34, caniateir i Orchymyn arfaethedig gael ei osod ar unrhyw ddiwrnod gwaith yn ystod wythnos eistedd.

25.5              Ar yr un pryd ag y bydd yr Aelod sy’n gyfrifol yn gosod Gorchymyn arfaethedig o dan Reol Sefydlog 25.4, rhaid iddo osod Memorandwm Esboniadol hefyd.

25.6              Rhaid peidio â gosod Gorchymyn arfaethedig oni bai ei fod ar y ffurf briodol yn unol ag unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Llywydd.

Ystyriaeth Fanwl ar Orchymyn Arfaethedig

25.7              Rhaid i’r Pwyllgor Busnes naill ai:

(i)        cyfeirio’r Gorchymyn arfaethedig i gael ei ystyried yn fanwl at bwyllgor cyfrifol sydd i’w sefydlu yn unol â Rheol Sefydlog 16.1 (y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 25 fel “y pwyllgor cyfrifol”); neu

(ii)      cynnig yn y cyfarfod llawn na ddylid cael ystyriaeth fanwl ar y Gorchymyn arfaethedig.

25.8              Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol ystyried y Gorchymyn arfaethedig a chyflwyno adroddiad arno.

25.9              Rhaid i’r Pwyllgor Busnes sefydlu a chyhoeddi amserlen ar gyfer ystyriaeth y pwyllgor cyfrifol ar Orchymyn arfaethedig a chaiff wneud newidiadau wedyn yn yr amserlen honno fel y gwêl yn dda ond rhaid iddo roi rhesymau dros y newidiadau hynny.

25.10          Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 25.7(ii), caiff yr Aelod sy’n gyfrifol am Orchymyn arfaethedig gyflwyno Gorchymyn drafft, sydd ym marn y Llywydd, yn cyfeirio at y Gorchymyn arfaethedig, o dan Reol Sefydlog 25.12.

25.11          Os gwneir cynnig o dan Reol Sefydlog 25.7(ii) ond y’i gwrthodir, rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyfeirio’r Gorchymyn arfaethedig i gael ei ystyried yn fanwl at bwyllgor cyfrifol sydd i’w sefydlu yn unol â Rheol Sefydlog 16.1 (y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 25 fel “y pwyllgor cyfrifol”).

Cyflwyno Gorchymyn Drafft

25.12          Caniateir i Orchymyn drafft gael ei gyflwyno drwy gael ei osod ar ddiwrnod gwaith yn ystod wythnos eistedd, ar yr amod:

(i)        bod y Gorchymyn drafft yn cael ei gyflwyno yn unol â Rheol Sefydlog 25.10;

(ii)      bod pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad ar Orchymyn arfaethedig y mae’r Gorchymyn drafft yn ymwneud ag ef yn unol â Rheol Sefydlog 25.8; neu

(iii)     nad oes pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad felly o fewn yr amserlen a osodwyd gan y Pwyllgor Busnes yn unol â Rheol Sefydlog 25.9.

Y Memorandwm Esboniadol i Gyd-fynd â Gorchymyn Drafft

25.13          Ar yr un pryd ag y bydd yr Aelod sy’n gyfrifol amdano yn cyflwyno Gorchymyn drafft, rhaid gosod Memorandwm Esboniadol.

25.14          Rhaid i’r Memorandwm Esboniadol gynnwys:

(i)        esboniad o sut yr ystyriwyd yr argymhellion a wnaed gan unrhyw bwyllgor yn y Senedd, unrhyw bwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi, neu unrhyw gyd-bwyllgor rhwng dau Dŷ Senedd San Steffan; a

(ii)      y rhesymau am unrhyw wahaniaethau arwyddocaol rhwng y Gorchymyn drafft a’r Gorchymyn arfaethedig y mae’n ymwneud ag ef.

Yr Ystyriaeth Derfynol

25.15          Heb fod yn hwyrach na 40 diwrnod gwaith ar ôl i Orchymyn drafft gael ei gyflwyno, rhaid i’r Senedd ystyried cynnig gan yr Aelod sy’n gyfrifol amdano y dylai’r Gorchymyn drafft gael ei gymeradwyo.

25.16          Caiff cynnig a wneir o dan Reol Sefydlog 25.15 ei ystyried heb fod yn gynharach na deg diwrnod gwaith ar ôl i’r Gorchymyn drafft gael ei gyflwyno (heb gyfrif dyddiau gwaith mewn wythnos pan na fydd y Senedd yn eistedd), oni bai bod y Pwyllgor Busnes yn cytuno fel arall ar ôl ymgynghori â’r pwyllgor cyfrifol.

25.17          Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig o dan Reol Sefydlog 25.15:

(i)        os na fyddai’n glir ar sail penderfyniad gan y Senedd i gymeradwyo’r cynnig fel y’i diwygiwyd gan welliant o’r fath fod y Senedd wedi cymeradwyo’r Gorchymyn drafft; neu

(ii)      os yw’n ceisio diwygio’r Gorchymyn drafft.

25.18          Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Orchymyn drafft.

25.19          [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad y Senedd ar 13 Gorffennaf 2011]

Tynnu Gorchymyn Arfaethedig neu Orchymyn Drafft yn ôl

25.20          Caniateir i Orchymyn arfaethedig neu Orchymyn drafft gael ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg gan yr Aelod sy’n gyfrifol amdano, ac eithrio yn achos Gorchymyn arfaethedig pwyllgor neu Orchymyn drafft pwyllgor, pryd y mae’n rhaid yn gyntaf i’r Aelod sy’n gyfrifol amdano sicrhau cytundeb (drwy benderfyniad unfrydol y sawl sy’n pleidleisio) y pwyllgor cyn tynnu’r Gorchymyn yn ôl.

Gorchymyn Arfaethedig neu Orchymyn Drafft yn Methu

25.21          Mae Gorchymyn arfaethedig neu Orchymyn drafft yn methu pan gaiff y Senedd ei ddiddymu.

25.22          [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y cyfarfod llawn ar 20 Mehefin 2012]

25.23          Mae Gorchymyn arfaethedig yn methu os yw’r Gorchymyn drafft y mae’n ymwneud ag ef yn methu neu’n cael ei gymeradwyo.

25.24          Mae Gorchymyn drafft yn methu os na chaiff ei gymeradwyo gan y Senedd.

Gorchmynion Arfaethedig Pwyllgor a Gorchmynion Drafft Pwyllgor

25.25          Caiff unrhyw bwyllgor:

(i)        gosod Gorchymyn arfaethedig pwyllgor sy’n ymwneud â’i gylch gorchwyl; neu

(ii)      yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 25.12, gyflwyno Gorchymyn drafft sy’n ymwneud â’i gylch gorchwyl.

Cynigion am Orchymyn gan Aelod heblaw aelod o’r Llywodraeth

25.26          Caiff unrhyw Aelod, heblaw aelod o’r llywodraeth, gyflwyno cynnig sy’n galw ar y llywodraeth i gyflwyno Gorchymyn arfaethedig o dan adran 109 o’r Ddeddf.

25.27          Ar yr un pryd ag y bydd Aelod yn cyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 25.26, rhaid iddo hefyd gyflwyno memorandwm esboniadol a rhaid i’r memorandwm hwnnw gynnwys y wybodaeth a ganlyn:

(i)        yr effaith fyddai cynnig am Orchymyn yn ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd;

(ii)      esboniad o pam, ym marn yr Aelod, mae’r Gorchymyn yn angenrheidiol

(iii)     manylion unrhyw gefnogaeth a gafwyd i’r cynnig, gan gynnwys manylion unrhyw ymgynghori a wnaed.

25.28          Os bydd o leiaf ddeg Aelod, sy’n perthyn i dri grŵp gwleidyddol gwahanol neu fwy, gan gynnwys o leiaf un Aelod o grŵp sydd â rôl weithredol, yn cefnogi’r cynnig a gyflwynwyd o dan Reol Sefydlog 25.26, rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyfeirio’r cynnig a’r memorandwm esboniadol at bwyllgor neu bwyllgorau i’w hystyried.

25.29          Os bydd cynnig o dan Reol Sefydlog 25.26 yn cael ei gyfeirio at bwyllgor neu bwyllgorau i’w ystyried yn unol â Rheol Sefydlog 25.28, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sefydlu a chyhoeddi amserlen i’r pwyllgor neu’r pwyllgorau ystyried y cynnig a chyflwyno adroddiad arno.

25.30          Rhaid trefnu bod amser ar gael i drafod cynnig a gyfeiriwyd at bwyllgor neu bwyllgorau o dan Reol Sefydlog 25.28, ac ni chaniateir gwneud cynnig o’r fath naill ai:

(i)        nes bod y pwyllgor neu’r pwyllgorau wedi cyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 25.29; neu

(ii)      nes y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n ofynnol i’r pwyllgor neu’r pwyllgorau gyflwyno adroddiad arno yn unol â Rheol Sefydlog 25.29.

25.31          Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig o dan Reol Sefydlog 25.26 os na fyddai’n glir, yn sgil penderfyniad gan y Senedd i gymeradwyo’r cynnig fel y’i diwygiwyd gan welliant o’r fath, sut y byddai’r Senedd am weld ei gymhwysedd deddfwriaethol yn cael ei addasu.

25.32          Ni chaniateir pasio cynnig o dan Reol Sefydlog 25.26 (os caiff y cynnig ei basio drwy bleidlais) oni bai fod o leiaf ddwy ran o dair o’r Aelodau sy’n pleidleisio yn ei gefnogi.

25.33          Os gwrthodir cynnig o dan Reol Sefydlog 25.26, ni chaiff Aelod gyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 25.26 am gyfnod o chwe mis ar ôl gwrthod y cynnig os yw’r cynnig, ym marn y Llywydd, yn ceisio rhoi yr un cymhwysedd deddfwriaethol, neu yr un cymhwysedd deddfwriaethol i raddau helaeth.


 

26. RHEOL SEFYDLOG 26 – Deddfau’r Senedd

Ffurf Biliau a Sut i’w Cyflwyno

26.1              Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 26.80 i 26.94 caniateir i Fil gael ei gyflwyno ar ddiwrnod gwaith mewn wythnos eistedd.

26.2              Rhaid i Fil gael ei gyflwyno drwy gael ei osod.

26.3              Rhaid peidio â gosod Bil oni bai ei fod ar y ffurf briodol yn unol ag unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Llywydd.

26.4              Pan gyflwynir Bil, rhaid cael datganiad Cymraeg a Saesneg gan y Llywydd i gyd-fynd ag ef a rhaid i’r datganiad hwnnw:

(i)        nodi a fyddai darpariaethau’r Bil, ym marn y Llywydd, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd; a

(ii)      nodi unrhyw ddarpariaethau na fyddent, ym marn y Llywydd, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a’r rhesymau dros y farn honno.

26.5              Rhaid i Fil gael ei gyflwyno yn Gymraeg a Saesneg ac eithrio yn yr achosion canlynol:

(i)        os yw’r Aelod sy’n gyfrifol amdano yn datgan mewn ysgrifen, mewn perthynas â Bil llywodraeth, na fyddai, am resymau penodedig, yn briodol o dan yr amgylchiadau neu yn rhesymol ymarferol i’r Bil gael ei gyflwyno yn y ddwy iaith; neu

(ii)      os nad yw gwneud hynny yn cyd-fynd â phenderfyniadau a gyhoeddwyd gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 26.3.

Dogfennau i Gyd-fynd â Bil

26.6              Ar yr un pryd ag y bydd yr Aelod sy’n gyfrifol yn cyflwyno Bil, rhaid iddo osod Memorandwm Esboniadol y mae’n rhaid iddo:

(i)        datgan y byddai darpariaethau’r Bil, ym marn yr Aelod, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd;

(ii)      nodi amcanion polisi y Bil;

(iii)     nodi a gafodd ffyrdd eraill o wireddu’r amcanion polisi eu hystyried ac, os felly, pam y cafodd yr ymagwedd a gymerir yn y Bil ei mabwysiadu;

(iv)     nodi’r ymgynghori a gafwyd, os cafwyd unrhyw ymgynghori o gwbl, ar y canlynol:

(a)       amcanion polisi y Bil a’r ffyrdd o’u gwireddu;

(b)      manylion y Bil, ac

(c)       Bil drafft, naill ai yn llawn neu’n rhannol (ac os yn rhannol, pa rannau);

(v)       nodi crynodeb o ddeilliant yr ymgynghori hwnnw, gan gynnwys sut a pham y mae unrhyw Fil drafft wedi cael ei ddiwygio;

(vi)     os na chyhoeddwyd y Bil, neu ran o'r Bil, yn flaenorol fel drafft, datgan y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw;

(vii)    crynhoi yn wrthrychol yr hyn y bwriedir i bob un o ddarpariaethau’r Bil ei wneud (i’r graddau y mae angen esbonio hynny neu y mae angen cyflwyno sylwadau ar hynny) a rhoi’r wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i esbonio effaith y Bil;

(viii)  nodi’r amcangyfrifon gorau o’r canlynol:

(a)       y costau gweinyddol gros, y costau cydymffurfio gros a’r costau gros eraill y byddai darpariaethau’r Bil yn arwain atynt;

(b)      yr arbedion gweinyddol y byddai'r Bil yn arwain atynt;

(c)       costau gweinyddol net darpariaethau'r Bil;

(d)      dros ba gyfnodau amser y disgwylid i'r holl gostau ac arbedion hynny godi; ac

(e)       ar bwy y byddai’r costau’n syrthio;

(ix)     nodi unrhyw fanteision ac anfanteision amgylcheddol a chymdeithasol sy'n deillio o'r Bil na ellir eu mesur yn ariannol;

(x)      os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, nodi mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath:

(a)       y person neu’r corff y rhoddir y pwer iddo ac ym mha fodd y mae’r pŵer i gael ei arfer;

(b)      pam y bernir ei bod yn briodol dirprwyo’r pŵer; ac

(c)       gweithdrefn y Senedd (os oes un) y mae’r is-ddeddfwriaeth a wnaed neu sydd i’w gwneud wrth arfer y pŵer i ddod oddi tani, a pham y barnwyd ei bod yn briodol ei gosod o dan y weithdrefn honno (ac nid ei gosod o dan unrhyw weithdrefn arall); 

(xi)     os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru, ymgorffori adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol sy’n nodi ei farn ef ar a yw’r tâl yn briodol neu beidio; a

(xii)   nodi'r effaith bosibl (os o gwbl) ar y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr yn sgil darpariaethau'r Bil ("asesiad effaith ar gyfiawnder"), yn unol ag adran 110A o'r Ddeddf.

26.6A      Rhaid i'r Memorandwm Esboniadol i'r Bil ddatgan lle ynddo yn union y gellir dod o hyd i bob un o ofynion Rheol Sefydlog 26.6, drwy gyfrwng mynegai neu mewn rhyw ffordd arall.

26.6B      Pan fo darpariaethau'r Bil yn deillio o ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol, boed at ddibenion diwygio neu gydgrynhoi, rhaid darparu tabl tarddiadau i gyd-fynd â'r Memorandwm Esboniadol er mwyn esbonio'n glir beth yw'r berthynas rhwng y Bil a'r fframwaith cyfreithiol presennol.

26.6C      Pan fo'r Bil yn cynnig diwygio deddfwriaeth sylfaenol bresennol yn sylweddol, rhaid darparu atodlen i gyd-fynd â'r Memorandwm Esboniadol, yn nodi geiriad deddfwriaeth bresennol sy’n cael ei diwygio gan y Bil, ac yn nodi’n eglur sut y caiff y geiriad hwnnw ei ddiwygio gan y Bil.

Yr Amserlen ar gyfer Ystyried Bil

26.7              Rhaid i’r Pwyllgor Busnes sefydlu a chyhoeddi amserlen ar gyfer ystyried Bil, ac eithrio unrhyw gyfnod a gymerir yn y cyfarfod llawn (y mae’n rhaid ei drefnu o dan ddarpariaethau Rheolau Sefydlog 11.12 neu 11.7(ii), yn ôl fel y digwydd)

26.8              Caiff y Pwyllgor Busnes wneud unrhyw newidiadau dilynol mewn amserlen a sefydlwyd o dan Reol Sefydlog 26.7 ag y gwêl yn dda ond rhaid iddo roi rhesymau dros y newidiadau hynny.

Cyfnod 1: Ystyried yr Egwyddorion Cyffredinol

26.9              Pan fydd Bil wedi’i gyflwyno, rhaid i’r Pwyllgor Busnes benderfynu a ddylid cyfeirio’r ystyriaeth ar yr egwyddorion cyffredinol at bwyllgor cyfrifol (y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26 fel “y pwyllgor cyfrifol”) a sefydlwyd o dan Reol Sefydlog 16.1 neu beidio.

26.10          Os bydd y Pwyllgor Busnes yn cytuno o dan Reol Sefydlog 26.9 i gyfeirio’r Bil at bwyllgor cyfrifol, rhaid i’r pwyllgor cyfrifol hwnnw ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chyflwyno adroddiad arnynt.

26.10A    Os bydd y Pwyllgor Busnes o dan Reol Sefydlog 26.9 yn penderfynu peidio â chyfeirio'r Bil at bwyllgor cyfrifol, rhaid iddo gyhoeddi'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw o fewn dau ddiwrnod gwaith.

26.11          Heb fod yn gynharach na phum diwrnod gwaith ar ôl naill ai:

(i)        i bwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Bil; neu

(ii)      y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n ofynnol i’r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad,

caiff yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil gynnig y dylai’r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

26.12          Os bydd y Pwyllgor Busnes yn penderfynu peidio â chyfeirio’r ystyriaeth ar yr egwyddorion cyffredinol at bwyllgor cyfrifol, caiff yr Aelod sy’n gyfrifol amdano gynnig y dylai’r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

26.13          Os bydd y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil o dan Reolau Sefydlog 26.11, 26.12, neu 26.102, mae’r Bil yn symud ymlaen i Gyfnod 2.

26.14          Os na fydd y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil o dan Reolau Sefydlog 26.11, 26.12, neu 26.102, mae’r Bil yn methu.

26.15          Mae Cyfnod 1 ar ben pan gytunir ar egwyddorion cyffredinol y Bil neu pan fydd y Bil yn methu o dan Gyfnod 1.

Cyfnod 2: Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

26.16          Mae Cyfnod 2 yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i Gyfnod 1 ddod i ben.

26.17          Yng Nghyfnod 2, rhaid i’r Pwyllgor Busnes:

(i)        cyfeirio’r Bil yn ôl at y pwyllgor cyfrifol ar gyfer trafodion Cyfnod 2;

(ii)      cyfeirio’r Bil at bwyllgor cyfrifol ar gyfer trafodion Cyfnod 2 os cytunodd y Pwyllgor Busnes o dan Reol Sefydlog 26.9 i beidio â chyfeirio’r ystyriaeth ar yr egwyddorion cyffredinol at bwyllgor cyfrifol; neu

(iii)     cynnig, drwy gyfrwng cynnig yn y cyfarfod llawn, y dylai trafodion Cyfnod 2 gael eu hystyried gan Bwyllgor o’r Senedd gyfan i’w gadeirio gan y Llywydd. Dim ond er mwyn arfer pleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20 y caniateir i’r Llywydd neu’r Dirprwy bleidleisio mewn trafodion o’r fath.

26.18          Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng dechrau Cyfnod 2 a dyddiad cyfarfod cyntaf y bydd y pwyllgor cyfrifol yn ystyried gwelliannau i’r Bil.

26.19          Caniateir i Fil gael ei ddiwygio yn nhrafodion Cyfnod 2.

26.20          Caniateir i welliannau i’w hystyried yn nhrafodion Cyfnod 2 gael eu cyflwyno gan unrhyw Aelod o’r diwrnod cyntaf y bydd Cyfnod 2 yn dechrau.

26.21          Mae’r gwelliannau i’w gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil, oni bai bod y pwyllgor sy’n ystyried trafodion Cyfnod 2 wedi penderfynu fel arall.

26.22          Dim ond Aelod sy’n aelod o’r pwyllgor sy’n ystyried trafodion Cyfnod 2 a gaiff gymryd rhan yn y trafodion hynny er mwyn:

(i)        cynnig gwelliant neu ofyn am gytundeb i dynnu gwelliant yn ôl; neu

(ii)      pleidleisio.

26.23          Caniateir i welliant, a gyflwynir gan Aelod nad yw’n aelod o’r pwyllgor sy’n ystyried trafodion Cyfnod 2, gael ei gynnig gan aelod o’r pwyllgor.

26.24          Os cyflwynir gwelliant i adran o’r Bil neu atodlen iddo, pan fydd y gwelliant olaf i’r adran neu’r atodlen honno wedi’i waredu, bernir bod y pwyllgor wedi cytuno ar yr adran neu’r atodlen honno fel y’i diwygiwyd at ddibenion trafodion Cyfnod 2.

26.25          Os na chyflwynir gwelliant i adran o’r Bil neu atodlen iddo, bernir bod y pwyllgor wedi cytuno ar yr adran neu’r atodlen honno at ddibenion trafodion Cyfnod 2.

26.26          Mae Cyfnod 2 ar ben pan fydd y gwelliant olaf wedi’i gwblhau neu pan fernir bod yr adran neu’r atodlen olaf wedi’i chytuno, pa un bynnag yw’r olaf.

26.27          Os caiff Bil ei ddiwygio yn nhrafodion Cyfnod 2 rhaid i’r Aelod sy’n gyfrifol amdano baratoi Memorandwm Esboniadol diwygiedig, oni bai bod y pwyllgor sy'n ystyried trafodion Cyfnod 2 yn penderfynu nad oes angen Memorandwm Esboniadol diwygiedig.

26.28          Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol diwygiedig a gaiff ei baratoi o dan Reol Sefydlog 26.27 gael ei osod o leiaf pum niwrnod gwaith cyn dyddiad cyfarfod cyntaf y Senedd sy’n ystyried trafodion Cyfnod 3.

Cyfnod 3: Ystyriaeth Fanwl gan y Senedd

26.29          Mae Cyfnod 3 yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i Gyfnod 2 ddod i ben.

26.30          Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng dechrau Cyfnod 3 a dyddiad cyfarfod cyntaf y Senedd sy’n ystyried trafodion Cyfnod 3.

26.31          Rhaid i drafodion Cyfnod 3 ar Fil gael eu hystyried gan y Senedd mewn cyfarfod llawn.

26.32          Caniateir i Fil gael ei ddiwygio yn nhrafodion Cyfnod 3.

26.33          Caniateir i welliannau i’w hystyried yn nhrafodion Cyfnod 3 gael eu cyflwyno gan unrhyw Aelod o’r diwrnod cyntaf y bydd Cyfnod 3 yn dechrau.

26.34          Caiff y Llywydd ddethol y gwelliannau hynny yr ymdrinnir â hwy yn nhrafodion Cyfnod 3.

26.35          O dan amgylchiadau eithriadol, caiff y Llywydd dderbyn gwelliant yn nhrafodion Cyfnod 3 y rhoddwyd llai o hysbysiad ohono na’r hyn sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 26.59. Cyfeirir at welliant o’r fath fel “gwelliant hwyr”.

26.36          Mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil, oni bai bod y Senedd wedi penderfynu fel arall drwy gynnig gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth neu’r Pwyllgor Busnes (yn unol â Rheolau Sefydlog 11.12 neu 11.7(ii) yn ôl fel y digwydd).

26.37          Drwy gynnig gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth neu gan y Pwyllgor Busnes (yn unol â Rheolau Sefydlog 11.12 neu 11.7(ii) yn ôl fel y digwydd), caiff y Senedd gytuno ar un neu fwy o derfynau amser sydd i fod yn gymwys mewn dadleuon ar welliannau (fel y maent wedi’u grwpio gan y Llywydd).

26.38          Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26.37, rhaid i’r dadleuon ar y grwpiau hynny o welliannau gael eu gorffen erbyn y terfynau amser a bennwyd yn y cynnig, ac eithrio i’r graddau y mae’r Llywydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol:

(i)        am fod peidio â chynnig gwelliant wedi arwain at newid trefn trafod y grwpiau; neu

(ii)      i atal unrhyw ddadl ar grŵp o welliannau sydd eisoes wedi dechrau pan gyrhaeddir y terfyn amser rhag cael ei chwtogi’n afresymol.

26.39          Pan fydd yr holl welliannau a ddetholwyd yng Nghyfnod 3 wedi’u gwaredu, caiff yr Aelod sy’n gyfrifol, neu unrhyw aelod o’r llywodraeth, heb hysbysiad, gynnig bod y Senedd yn ystyried rhagor o welliannau mewn trafodion Cyfnod 3 pellach. Ni chaniateir trafod cynnig o’r fath na’i ddiwygio.

26.40          Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26.39, caiff yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, neu unrhyw aelod o’r llywodraeth, gyflwyno gwelliannau i’r Bil i’w cynnig yn y trafodion Cyfnod 3 pellach.

26.41          Yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26.61, dim ond os ydynt wedi’u bwriadu i egluro darpariaeth mewn Bil (gan gynnwys sicrhau cysondeb rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg) neu i weithredu ymrwymiadau a roddwyd yn nhrafodion cynharach Cyfnod 3 y mae gwelliannau o dan Reol Sefydlog 26.40 yn dderbyniadwy.

26.42          Os cyflwynir gwelliant i adran o’r Bil neu atodlen iddo, pan fydd y gwelliant olaf i’r adran neu’r atodlen honno wedi’i waredu, bernir bod y Senedd wedi derbyn yr adran neu’r atodlen honno fel y’i diwygiwyd neu fel arall at ddibenion trafodion Cyfnod 3.

26.43          Os na chyflwynir gwelliant i adran o’r Bil neu atodlen iddo, bernir bod y Senedd wedi derbyn yr adran neu’r atodlen honno at ddibenion trafodion Cyfnod 3.

26.44          Mae Cyfnod 3 ar ben pan fydd y gwelliant olaf wedi’i waredu neu pan fernir bod yr adran neu’r atodlen olaf wedi’i derbyn, pa un bynnag yw’r olaf.

Y Cyfnod Adrodd

26.45          Pan fydd Cyfnod 3 ar ben yn unol â Rheol Sefydlog 26.44, caiff yr Aelod sy’n gyfrifol, heb hysbysiad, gynnig bod y Senedd yn ystyried gwelliannau yn y Cyfnod Adrodd. Caniateir trafod cynnig o’r fath ond ni chaniateir ei ddiwygio.

26.45A    Mae'r Cyfnod Adrodd yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i gynnig o dan Reol Sefydlog 26.45 gael ei dderbyn gan y Senedd.

26.46          Mae Rheolau Sefydlog 26.30 i 26.44 yn gymwys i drafodion y Cyfnod Adrodd. Dylid dehongli cyfeiriadau at “Cyfnod 3” a “Cyfnod 3 pellach” yn gyfeiriadau at “y Cyfnod Adrodd” a “y Cyfnod Adrodd pellach” yn unol â hynny.

26.46A    Os caiff Bil ei ddiwygio yn nhrafodion Cyfnod 3, ac os bydd y Senedd yn cytuno i ystyried gwelliannau yn y Cyfnod Adrodd, rhaid i’r Aelod sy’n gyfrifol baratoi Memorandwm Esboniadol diwygiedig, oni bai bod y Senedd yn penderfynu nad oes angen Memorandwm Esboniadol diwygiedig.

26.46B    Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol diwygiedig a gaiff ei baratoi o dan Reol Sefydlog 26.46A gael ei osod o leiaf pum niwrnod gwaith cyn dyddiad cyfarfod cyntaf y Senedd sy’n ystyried trafodion y Cyfnod Adrodd.

Cyfnod 4: Y Cyfnod Terfynol

26.47          Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i basio Bil, ac ni chaiff ei ystyried hyd nes bydd o leiaf bum niwrnod gwaith wedi mynd heibio ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 3, neu drafodion y Cyfnod Adrodd, os cawsant eu cynnal.

26.47A    Rhaid cyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 26.47 o leiaf un diwrnod gwaith cyn y caiff ei drafod.

26.48          Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 26.50 a 26.50A, yn union ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 3, neu drafodion y Cyfnod Adrodd os y’u cynhaliwyd, caiff unrhyw Aelod, gyda chytundeb y Llywydd, gynnig heb hysbysiad bod y Bil yn cael ei basio.

26.49          Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig y dylai Bil gael ei basio.

26.50          Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil yn cael ei basio oni bai bod testun y Bil ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

26.50A    Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil yn cael ei basio nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

26.50B    Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil ei basio oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Senedd.

26.50C    Rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynnig bod y Bil yn cael ei basio.

26.51          Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 12.31(ii) mewn unrhyw drafodion Cyfnod 4.

Ailystyried Biliau a Basiwyd

26.52          Yn unol ag adran 113 o’r Ddeddf, ar ôl i'r Bil gael ei basio, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Senedd ailystyried y Bil, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo:

(i)        os oes cwestiwn wedi'i gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 o'r Ddeddf; a

(ii)      os oes cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol gan Lys Ewrop (o fewn ystyr adran 113(1)(b) o'r Ddeddf) wedi'i wneud gan y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â'r cyfeiriad hwnnw; a

(iii)     os nad yw'r naill gyfeiriad na'r llall wedi'i benderfynu neu wedi'i waredu fel arall.

26.52A    Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26.52 gan y Senedd, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Cwnsler Cyffredinol a'r Twrnai Cyffredinol am y ffaith honno.

26.52B    Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26.52, bydd y Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl tynnu'r cyfeiriad a wnaed mewn perthynas â'r Bil o dan adran 112 yn ôl yn dilyn cais am dynnu'r cyfeiriad yn ôl o dan adran 113(2)b o'r Ddeddf.

26.53          Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Senedd ailystyried y Bill

(i)        os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynglŷn â chyfeiriad a wnaed mewn perthynas â’r Bil o dan adran 112 o’r Ddeddf na fyddai'r Bil neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd;

(ii)      os gwneir gorchymyn mewn perthynas â'r Bil o dan adran 114 o'r Ddeddf; neu

(iii)      os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynglŷn â chyfeiriad a wnaed o dan adran 111B(2)b o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil a basiwyd gan y Senedd, fod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

26.53A    Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26.53, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Senedd.  

26.54          Mae Rheolau Sefydlog 26.30 i 26.34 a 26.36 i 26.44 yn gymwys i drafodion y Cyfnod Ailystyried. Dylid dehongli cyfeiriadau at “Cyfnod 3” a “Cyfnod 3 pellach” yn gyfeiriadau at “y Cyfnod Ailystyried” a “y Cyfnod Ailystyried pellach” yn unol â hynny. 

26.55          Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26.61, ac ym marn y Llywydd, wedi'u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy'n destun y canlynol:

(i)        y cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol;

(ii)      penderfyniad y Goruchaf Lys; neu

(iii)     y Gorchymyn o dan adran 114 o'r Ddeddf.

26.56          Ar ôl gwaredu'r holl welliannau yn nhrafodion y Cyfnod Ailystyried, ac yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26.56A, caiff unrhyw Aelod gynnig heb hysbysiad fod y Senedd yn cymeradwyo Bil a ailystyriwyd. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o'r fath a rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig.

26.56A      Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil a ailystyriwyd yn cael ei gymeradwyo nes y bydd y Llywydd  wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

26.56B      Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil ar ôl y cyfnod ailystyried, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil hwnnw ei gymeradwyo oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Senedd.

Ailystyried Biliau a wrthodwyd

26.56C      Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig bod y Senedd yn ailystyried Bil os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynglŷn â chyfeiriad a wnaed o dan adran 111B(2)a o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil a wrthodwyd gan y Senedd, nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y Bil sy'n destun y cyfeiriad yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

26.56D      Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26.56C, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Senedd. 

26.56E      Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil a ailystyriwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26.56C.

26.56F      Yn y Cyfnod Ailystyried yn unol â Rheol Sefydlog 26.56C, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i gymeradwyo'r Bil. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o'r fath a rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig.

26.56G      Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 26.56F nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

 

Darpariaethau Cyffredinol mewn Perthynas â Gwelliannau i Filiau

26.57          Mae Rheolau Sefydlog 26.58 i 26.66 yn gymwys i welliannau yn nhrafodion Cyfnod 2, trafodion Cyfnod 3, trafodion y Cyfnod Adrodd, neu yn y Cyfnod Ailystyried.

26.58          Rhaid i’r Llywydd benderfynu ar ffurf briodol gwelliannau i Fil.

26.59          Ni chaniateir ystyried gwelliant, ac eithrio gwelliant hwyr, oni bai ei fod wedi’i gyflwyno o leiaf bum diwrnod gwaith cyn iddo gael ei ystyried.

26.60          Caiff unrhyw Aelod ychwanegu ei enw i welliant (ac eithrio gwelliant hwyr) drwy hysbysu’r Clerc ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd y diwrnod gwaith cyn bod y gwelliant i fod i gael ei ystyried.

26.61          Nid yw gwelliant yn dderbyniadwy:

(i)        os nad yw ar ei ffurf briodol yn unol â Rheol Sefydlog 26.58;

(ii)      os nad yw’n berthnasol i’r Bil neu ddarpariaethau’r Bil y byddai’n ei ddiwygio;

(iii)     os yw’n anghyson ag egwyddorion cyffredinol y Bil fel y cytunwyd arnynt gan y Senedd; neu

(iv)     os yw’n anghyson â phenderfyniad sydd eisoes wedi’i wneud yn y Cyfnod pryd y mae’r gwelliant yn cael ei gynnig.

26.62          Caniateir cyflwyno gwelliant i welliant ac, o’i ddethol, rhaid iddo gael ei waredu cyn y gwelliant y byddai’n ei ddiwygio, a rhaid i Reolau Sefydlog 26.57 i 26.66 fod yn gymwys yn unol â hynny.

26.63          Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26.22, caniateir i welliant (ac eithrio gwelliant hwyr) gael ei dynnu'n ôl gan yr Aelod a’i cyflwynodd ar unrhyw adeg cyn y diwrnod y mae’n cael ei ystyried ond dim ond gyda chytundeb unfrydol unrhyw Aelodau sydd wedi ychwanegu eu henwau i’r gwelliant. Os na sicrheir cytundeb o’r fath, daw’r gwelliant yn welliant yn enw’r Aelod cyntaf a ychwanegodd ei enw i’r gwelliant ac nad yw’n cytuno i’r gwelliant gael ei dynnu'n ôl.

26.64          Caiff cadeirydd pwyllgor sy’n ystyried trafodion Cyfnod 2 neu’r Llywydd, yn ôl fel y digwydd, grwpio gwelliannau at ddibenion dadleuon fel y gwêl yn dda. Ni chaniateir i welliant a drafodwyd fel rhan o grŵp gael ei drafod eto pan ddaw’n amser ei waredu.

26.65          Os na fydd Aelod a gyflwynodd welliant yn cynnig y gwelliant pan ddaw’n amser trafod y gwelliant hwnnw, caniateir i’r gwelliant gael ei gynnig:

(i)        mewn pwyllgor sy’n ystyried trafodion Cyfnod 2, gan aelod o’r pwyllgor hwnnw; neu

(ii)      mewn trafodion Cyfnod 3, trafodion y Cyfnod Adrodd, neu yn y Cyfnod Ailystyried, gan unrhyw Aelod arall.

26.66          Caniateir i welliant sydd wedi’i gynnig gael ei dynnu'n ôl gan yr Aelod a’i cynigiodd, ond dim ond:

(i)        mewn pwyllgor sy’n ystyried trafodion Cyfnod 2, os na fydd aelod o’r pwyllogr hwnnw yn gwrthwynebu; neu

(ii)      mewn trafodion Cyfnod 3, trafodion y Cyfnod Adrodd, neu yn y Cyfnod Ailystyried, os na fydd Aelod yn gwrthwynebu.

Cydsyniad Ei Mawrhydi a Dug Cernyw

26.67          Os yw Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth, neu’n cael ei ddiwygio i gynnwys unrhyw ddarpariaeth a fyddai, pe bai’n cael ei chynnwys mewn Bil ar gyfer Deddf Senedd y Deyrnas Unedig, yn gofyn cydsyniad Ei Mawrhydi neu gydsyniad Dug Cernyw, rhaid i’r Senedd beidio â thrafod y cwestiwn a ddylai’r Bil gael ei basio (neu ei gymeradwyo yn dilyn y Cyfnod Ailystyried) nes bod y cydsyniad hwnnw ar gyfer y ddarpariaeth honno wedi’i ddynodi gan aelod o’r llywodraeth mewn cyfarfod o’r Senedd.

Penderfyniadau Ariannol

26.68          Rhaid i’r Llywydd benderfynu ym mhob achos a oes angen penderfyniad ariannol ar gyfer Bil o dan Reolau Sefydlog 26.69 i 26.74.

26.69          Os yw Bil yn cynnwys darpariaeth:

(i)        sy’n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru; neu

(ii)      y byddai ei heffaith debygol yn arwain at:

(a)       cynnydd arwyddocaol yn y gwariant a godir ar y Gronfa honno;

(b)      gwariant arwyddocaol sy’n daladwy o’r Gronfa honno ar wasanaeth neu ddiben newydd; neu

(c)       cynnydd arwyddocaol yn y gwariant sy’n daladwy o’r Gronfa honno ar wasanaeth neu ddiben presennol,

ni chaniateir cymryd dim trafodion ar y Bil mewn unrhyw Gyfnod ar ôl Cyfnod 1 oni bai bod y Senedd wedi cytuno, drwy benderfyniad ariannol, y caniateir i’r gwariant neu’r cynnydd yn y gwariant gael ei godi o’r Gronfa honno neu, yn ôl fel y digwydd, ei dalu ohoni.

26.70          Os yw:

(i)        Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n gosod neu’n cynyddu (neu sy’n rhoi pŵer i osod neu i gynyddu) unrhyw dâl, neu fel arall yn ei gwneud yn ofynnol (neu’n rhoi pwer i’w gwneud yn ofynnol) i unrhyw daliad gael ei wneud; a

(ii)      yn ofynnol, gan neu o dan adran 120(1) o’r Ddeddf, i’r person y mae’r tâl neu’r taliad yn daladwy iddo dalu symiau a dderbynnir i Gronfa Gyfunol Cymru (neu os byddai’n ofynnol gwneud hynny heblaw am unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan adran 120(2)),

ni chaniateir cymryd dim trafodion ar y Bil mewn unrhyw Gyfnod ar ôl Cyfnod 1 oni bai bod y Senedd, drwy benderfyniad ariannol, wedi cytuno ar y tâl, y cynnydd neu’r taliad.

26.71          Mewn perthynas â Rheol Sefydlog 26.70:

(i)        bydd yn gymwys dim ond os yw’r tâl, y cynnydd yn y tâl neu’r taliad yn arwyddocaol; a

(ii)      ni fydd yn gymwys os yw’r tâl, y cynnydd yn y tâl neu’r taliad:

(a)       yn ymwneud â darparu nwyddau ac yn rhesymol o’i gymharu â’r nwyddau a ddarperir; neu

(b)      wedi’i gyfeirio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at adennill cost darparu unrhyw wasanaeth y mae’r tâl yn cael ei osod ar ei gyfer neu y mae’n ofynnol gwneud y taliad ar ei gyfer.

26.72          Os byddai gwelliant (neu welliannau) i Fil, o’i dderbyn (neu o’u derbyn), yn golygu y byddai angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwnnw na fyddai ei angen fel arall, ni chaniateir cymryd dim trafodion ar y gwelliant (neu’r gwelliannau) oni bai bod y Senedd wedi derbyn cynnig ar gyfer penderfyniad ariannol o’r fath.

26.73          Dim ond aelod o’r llywodraeth a gaiff wneud cynnig ar gyfer penderfyniad ariannol. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o’r fath.

26.74          Oni bai:

(i)        bod hysbysiad ynglŷn â chynnig ar gyfer unrhyw benderfyniad ariannol y gofynnir amdano mewn perthynas â Bil gan Reol Sefydlog 26.69 neu 26.70 yn cael ei gyflwyno o fewn chwe mis ar ôl cwblhau Cyfnod 1; a

(ii)      bod y cynnig yn cael ei dderbyn,

mae’r Bil yn methu.

Hysbysu ynghylch Cydsyniad Brenhinol i Ddeddfau’r Senedd

26.75          Rhaid i’r Clerc hysbysu’r Senedd ynglŷn â’r dyddiad y bydd Deddf y Senedd yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

Biliau yn Methu, yn Cael eu Gwrthod neu’n Cael eu Tynnu’n ôl

26.76          Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26.56C, os bydd Bil yn methu neu’n cael ei wrthod gan y Senedd, rhaid peidio â chymryd dim trafodion pellach ar y Bil hwnnw a rhaid peidio â chyflwyno Bil sydd, ym marn y Llywydd, yn yr un telerau neu delerau tebyg, yn yr un Senedd o fewn y cyfnod o chwe mis ar ôl y dyddiad y methodd y Bil neu y cafodd ei wrthod.

26.77          Mae Bil yn methu os nad yw wedi’i basio neu wedi’i gymeradwyo gan y Senedd cyn diwedd y Senedd y’i cyflwynwyd ynddo.

26.78          Bydd cymeradwyaeth i gyflwyno Bil yn unol â Rheol Sefydlog 26.91 yn peidio â bod pan gaiff y Senedd ei ddiddymu.

26.79          Caniateir i Fil gael ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg gan yr Aelod sy’n gyfrifol amdano ond rhaid peidio â’i dynnu'n ôl ar ôl i Gyfnod 1 gael ei gwblhau ac eithrio gyda chytundeb y Senedd.

Biliau Pwyllgor

26.80          [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y cyfarfod llawn ar 27 Medi 2017]

26.81          Caiff unrhyw bwyllgor gyflwyno Bil pwyllgor sy’n ymwneud â chylch gorchwyl y pwyllgor.

26.82          [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y cyfarfod llawn ar 27 Medi 2017]

26.83          [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y cyfarfod llawn ar 27 Medi 2017]

Biliau’r Comisiwn

26.84          Caiff y Comisiwn gyflwyno Bil sy’n ymwneud â swyddogaethau’r Comisiwn.

Biliau Aelod

26.85          Mae Rheolau Sefydlog 26.86 i 26.94 yn gymwys i Filiau Aelod yn unig.

26.86          [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad y Senedd ar 16 Tachwedd 2011]

26.87          O bryd i’w gilydd, rhaid i’r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod heblaw aelod o’r llywodraeth a gaiff ofyn am gytundeb i gyflwyno Bil Aelod.

26.88          Rhaid i’r Llywydd gynnwys yn y balot enwau’r holl Aelodau hynny sydd wedi gwneud cais am gael eu cynnwys ac sydd wedi cyflwyno’r wybodaeth cyn y balot sy’n angenrheidiol o dan Reol Sefydlog 26.90.

26.89          Ni chaiff Aelod sydd wedi ennill y balot o’r blaen yn y Senedd hwnnw wneud cais o’r fath.

26.90          Yr wybodaeth sy’n angenrheidiol cyn y balot yw:

(i)        teitl arfaethedig y Bil; a

(ii)      amcanion polisi arfaethedig y Bil.

26.91          O fewn 25 diwrnod gwaith i ddyddiad y balot, caiff Aelod sy’n llwyddo mewn balot gyflwyno cynnig sy’n gofyn i’r Senedd gytuno iddo gyflwyno Bil Aelod.

26.91A    Rhaid darparu Memorandwm Esboniadol i gyd-fynd â'r cynnig, a rhaid i'r Memorandwm Esboniadol hwnnw nodi :

i)       teitl arfaethedig y Bil;

ii)      amcanion polisi arfaethedig y Bil;

iii)    manylion unrhyw gefnogaeth a gafwyd i’r Bil, gan gynnwys manylion unrhyw ymgynghori a wnaed; a

iv)     asesiad cychwynnol o unrhyw gostau a/neu arbedion sy'n deillio o'r Bil.

26.91B    Rhaid i'r amcanion polisi a'r teitl arfaethedig a nodir o dan Reol Sefydlog 26.91A (i) a (ii) fod yn gyson, yn fras, â'r rhai a ddarperir o dan Reol Sefydlog 26.90. Rhaid nodi'r rhesymau dros unrhyw newidiadau yn y Memorandwm Esboniadol o dan Reol Sefydlog 26.91A.

26.92          Rhaid trefnu bod amser ar gael i drafod cynnig a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 26.91 o fewn 35 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad y balot (heb gyfrif dyddiau gwaith mewn wythnos pan na fydd y Senedd yn eistedd).

26.93          Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91, caiff yr Aelod sydd wedi cael cytundeb i gyflwyno Bil, o fewn tri mis ar ddeg i dderbyn y cynnig, gyflwyno Bil er mwyn i’r amcanion polisi arfaethedig a nodwyd yn y Memorandwm Esboniadol a amlinellwyd yn Rheol Sefydlog 26.91A gael eu rhoi ar waith.

26.94          Os gwrthodir cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91, ni chaiff Aelod ymuno ag unrhyw falot a gynhelir o dan Reol Sefydlog 26.87 am gyfnod o chwe mis ar ôl gwrthod y cynnig os yw amcanion polisi y Bil y mae’n ceisio cytundeb i’w gyflwyno yr un fath i raddau helaeth ag amcanion polisi y Bil y cyfeiriwyd ato yn y cynnig a wrthodwyd.

26.94A    Ni chaniateir i Filiau Aelod geisio diwygio trethi presennol, na chyflwyno trethi newydd.

Biliau Brys Llywodraeth

26.95          Os yw’n ymddangos i aelod o’r llywodraeth fod angen Bil Brys, caiff gynnig bod Bil llywodraeth, a gyflwynir yn y Senedd, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.

26.95A    Rhaid i'r Aelod sy'n gyfrifol ddarparu datganiad i gyd-fynd â chynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 a rhaid i'r datganiad hwn egluro: 

i)      pam y dylid ymdrin â'r Bil fel Bil Brys; a

ii)     amcangyfrif o'r costau a’r canlyniadau eraill os na wneir hynny.

26.96          Caiff cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 gynnig hefyd y caiff Bil Brys llywodraeth gael ei gyflwyno heb y Memorandwm Esboniadol sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 26.6.

26.97          Pan gyflwynir Bil Brys llywodraeth, rhaid cael datganiad gan yr Aelod sy’n gyfrifol amdano i gyd-fynd ag ef, sef datganiad y byddai darpariaethau’r Bil ym marn yr Aelod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

26.98          Os yw’r Senedd yn cytuno ar gynnig o dan Reol Sefydlog 26.95:

(i)        rhaid i ddarpariaethau Rheolau Sefydlog 26.99 i 26.104 fod yn gymwys i Fil o’r fath; a

(ii)      rhaid i’r Aelod sy’n gyfrifol amdano gynnig yr amserlen ar gyfer ystyried Cyfnodau 1 i 4 (neu unrhyw Gyfnod Ailystyried) ar gyfer y Bil Brys arfaethedig llywodraeth.

26.99          Caiff cynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) gynnig ymdrin â’r holl gyfnodau mewn un diwrnod mewn wythnos eistedd.

26.100        Caiff yr Aelod sy’n gyfrifol wneud unrhyw newidiadau dilynol mewn amserlen a sefydlwyd o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) ag y gwêl yn dda, ond rhaid rhoi rhesymau dros y newidiadau hynny.

26.101       Nid yw Rheolau Sefydlog 26.7 i 26.12, 26.16 i 26.18, 26.27 i 26.30, 26.45 i 26.46B, 26.50 a 26.59 yn gymwys mewn perthynas â Bil Brys llywodraeth.

26.102       Yng Nghyfnod 1, rhaid i’r Aelod sy’n gyfrifol amdano gyflwyno cynnig bod y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Brys llywodraeth.

26.103       Rhaid i Gyfnod 2 gael ei ystyried gan bwyllgor o’r Senedd gyfan a’i gadeirio gan y Llywydd. Caiff y Llywydd a’r Dirprwy bleidleisio mewn trafodaethau o’r fath dim ond wrth ddefnyddio pleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20.

26.104       Os yw Aelod yn bwriadu cyflwyno gwelliant i Fil Brys llywodraeth, rhaid i’r Aelod roi unrhyw hysbysiad ynglŷn â’r gwelliant hwnnw y bydd y Llywydd yn penderfynu arno ar gyfer y Cyfnod hwnnw.


 


26A.            RHEOL SEFYDLOG 26A – Deddfau Preifat y Senedd

Biliau Preifat

26A.1          At ddibenion Rheol Sefydlog 26A, mae Bil Preifat yn Fil a gyflwynir er mwyn sicrhau i berson unigol, corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig o bersonau (“yr hyrwyddwr”) bwerau neu fanteision penodol sy’n fwy na’r gyfraith gyffredinol, neu sy’n gwrthdaro â hi, ac mae'n cynnwys Bil sy'n ymwneud ag ystâd, eiddo, statws neu ddull yr hyrwyddwr, neu sy'n ymwneud fel arall â buddiannau preifat yr hyrwyddwr.

26A.2          Mae Bil Preifat y mae Rheol Sefydlog 26A.2 yn gymwys iddo yn Fil Preifat sy'n ceisio awdurdodi neu hwyluso unrhyw waith adeiladu neu awdurdodi prynu’n orfodol unrhyw ystâd neu fuddiant mewn tir neu dros dir.

Caniatâd i gyflwyno Bil Preifat

26A.3          Cyn cael eu cyflwyno yn unol â Rheol Sefydlog 26A.8, rhaid i Fil Preifat a’r dogfennau sy’n cyd-fynd ag ef y mae Rheolau Sefydlog 26A.13 i 26A.15 yn gofyn amdanynt gael eu hanfon gan yr hyrwyddwr at y Llywydd er mwyn i’r Llywydd benderfynu a ddylai ganiatáu i’r Bil gael ei gyflwyno.

26A.4          Rhaid i’r Llywydd roi gwybod i’r hyrwyddwr am ei benderfyniad o dan Reol Sefydlog 26A.3 ac, os na fydd caniatâd yn cael ei roi, rhaid i’r Llywydd roi rhesymau i’r hyrwyddwr dros y penderfyniad hwnnw.

26A.5          Rhaid i Fil Preifat beidio â chael ei gyflwyno heb gytundeb y Llywydd ymlaen llaw.

Ffioedd

26A.6          Caiff y Comisiwn bennu ffioedd sy’n daladwy gan hyrwyddwyr wrth gyflwyno Biliau Preifat ac mewn perthynas â chyfnodau ystyried Biliau Preifat a nodir yn Rheol Sefydlog 26A. Caiff y Comisiwn beidio â chodi ffi neu ostwng ffi a fyddai’n daladwy fel arall.

Ffurf Biliau Preifat a sut i’w Cyflwyno

26A.7          Caniateir i Fil Preifat gael ei gyflwyno ar ddiwrnod gwaith mewn wythnos eistedd.

26A.8          Rhaid i Fil Preifat gael ei gyflwyno drwy gael ei osod gan yr hyrwyddwr neu ar ei ran.

26A.9          Rhaid peidio â gosod Bil Preifat oni bai ei fod ar y ffurf briodol yn unol ag unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Llywydd.

26A.10       Pan gyflwynir Bil Preifat, rhaid cael datganiad Cymraeg a Saesneg gan y Llywydd i gyd-fynd ag ef a rhaid i’r datganiad hwnnw:

(i)        nodi a fyddai darpariaethau’r Bil, ym marn y Llywydd, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd; a

(ii)      nodi unrhyw ddarpariaethau na fyddent, ym marn y Llywydd, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a’r rhesymau dros y farn honno.

26A.11       Rhaid i Fil Preifat gael ei gyflwyno yn Gymraeg a Saesneg ac eithrio pan na wneir hynny yn unol ag unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 26A.9.

26A.12       Rhaid i Fil Preifat y mae Rheol Sefydlog 26A.2 yn gymwys iddo beidio â chael ei gyflwyno oni bai bod yr hyrwyddwr wedi cyflawni unrhyw ymgynghoriad neu hysbysiad sy'n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth, ac wedi cydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol eraill, ynghyd ag unrhyw ofynion ymgynghori neu hysbysu ychwanegol a nodir mewn unrhyw benderfyniad neu benderfyniadau a wnaed gan y Llywydd.

Dogfennau i Gyd-fynd â Bil Preifat

26A.13       Ar yr un pryd ag y bydd yr hyrwyddwr yn cyflwyno Bil Preifat, rhaid hefyd iddo osod Memorandwm Esboniadol yn Gymraeg a Saesneg y mae’n rhaid iddo:

(i)        datgan y byddai darpariaethau’r Bil Preifat, ym marn yr hyrwyddwr, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd;

(ii)      nodi’r rhesymau pam y mae darpariaethau’r Bil yn ei gwneud yn briodol iddo fynd rhagddo fel Bil Preifat, gan roi sylw penodol i’r meini prawf yn Rheol Sefydlog 26A.45;

(iii)     nodi amcanion y Bil Preifat;

(iv)     nodi a gafodd ffyrdd eraill o wireddu’r amcanion eu hystyried ac, os felly, pam y cafodd yr ymagwedd a gymerir yn y Bil Preifat ei mabwysiadu;

(v)       nodi’r ymgynghori a gafwyd ar y canlynol:

(a)       amcanion y Bil Preifat a’r ffyrdd o’u gwireddu; a

(b)      manylion y Bil Preifat,

ynghyd â chrynodeb o ddeilliant yr ymgynghori hwnnw; 

(vi)     crynhoi yn wrthrychol yr hyn y bwriedir i bob un o ddarpariaethau’r Bil Preifat ei wneud (i’r graddau y mae angen esbonio hynny neu y mae angen cyflwyno sylwadau ar hynny) a rhoi’r wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i esbonio effaith y Bil; a

(vii)    nodi'r effaith bosibl (os o gwbl) ar y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr yn sgil darpariaethau'r Bil ("asesiad effaith ar gyfiawnder"), yn unol ag adran 110A o'r Ddeddf.

26A.14       Yn achos Bil Preifat y mae Rheol Sefydlog 26A.2 yn gymwys iddo, rhaid i'r Memorandwm Esboniadol hefyd gynnwys:

(i)     manylion llawn am sut y cydymffurfiwyd â'r gofynion a nodir yn Rheol Sefydlog 26A.12;

(ii)    Datganiad Amcangyfrif o Dreuliau a Chyllid sy'n nodi amcangyfrif o gyfanswm cost y prosiect a gynigir yn y Bil Preifat a'r ffynonellau cyllid a ragwelir er mwyn talu am gost y prosiect ac unrhyw fanylion ariannol eraill y penderfynir arnynt gan y Llywydd;

(iii)   unrhyw fapiau, cynlluniau, trawsluniau a llyfrau o gyfeiriadau fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth neu gan unrhyw benderfyniad neu benderfyniadau a wneir gan y Llywydd; a

(iv)   Datganiad Amgylcheddol sy'n nodi gwybodaeth am yr effaith amgylcheddol y rhagwelir y bydd y Bil yn ei chael fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth ac unrhyw benderfyniad neu benderfyniadau a wneir gan y Llywydd.

26A.14A  Rhaid i'r Memorandwm Esboniadol i'r Bil ddatgan lle ynddo yn union y gellir dod o hyd i bob un o ofynion Rheol Sefydlog 26A.13 a Rheol Sefydlog 26A.14, lle y bo’n berthnasol, drwy gyfrwng mynegai neu mewn rhyw ffordd arall.

26A.14B Pan fo darpariaethau'r Bil yn deillio o ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol, boed at ddibenion diwygio neu gydgrynhoi, rhaid darparu tabl tarddiadau i gyd-fynd â'r Memorandwm Esboniadol er mwyn esbonio'n glir beth yw'r berthynas rhwng y Bil a'r fframwaith cyfreithiol presennol.

26A.14C Pan fo'r Bil yn cynnig diwygio deddfwriaeth sylfaenol bresennol yn sylweddol, rhaid darparu atodlen i gyd-fynd â'r Memorandwm Esboniadol, yn nodi geiriad deddfwriaeth bresennol sy’n cael ei diwygio gan y Bil, ac yn nodi’n eglur sut y caiff y geiriad hwnnw ei ddiwygio gan y Bil.

26A.15       Ynghyd â'r memorandwm esboniadol rhaid darparu Datganiad Hyrwyddwr sy’n nodi:

(i)     yn achos Bil Preifat sy’n cynnwys darpariaeth a fydd yn effeithio ar eiddo, ystâd neu fuddiant mewn tir, neu ar hawliau neu ddyletswyddau contractiol eraill unrhyw berson heblaw’r hyrwyddwr, fanylion unrhyw hysbysiad ynglŷn â’r ddarpariaeth arfaethedig a roddwyd gan yr hyrwyddwr i unrhyw bersonau neu ddosbarthiadau o berson yr effeithir ar ei eiddo, ei ystâd neu ei fuddiant mewn tir, neu ar ei hawliau neu ei ddyletswyddau contractiol eraill a manylion unrhyw ymateb a gafwyd;

(ii)    yn achos Bil Preifat lle mae’r hyrwyddwr yn gorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig o bersonau, fanylion penderfyniad ffurfiol y corff hwnnw neu’r gymdeithas honno i hyrwyddo’r Bil Preifat a chadarnhad bod y penderfyniad o dan sylw wedi’i wneud yn unol â chyfansoddiad y corff hwnnw neu’r gymdeithas honno;

(iii)   yn achos Bil Preifat sy’n cynnwys darpariaeth i roi pwerau i unrhyw gorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig o bersonau, heblaw’r hyrwyddwr, neu i ddiwygio’u cyfansoddiad, fanylion unrhyw hysbysiad ynglŷn â’r ddarpariaeth arfaethedig a roddwyd gan yr hyrwyddwr i’r corff corfforaethol neu’r gymdeithas anghorfforedig o bersonau a manylion unrhyw ymateb a gafwyd;

(iv)   datganiad yn rhestru'r mangreoedd lle y caniateir archwilio neu brynu unrhyw ddogfennau ategol sy'n berthnasol i'r Bil Preifat, ond nad ydynt yn ddogfennau ategol a gyhoeddir gan y Senedd;

(v)    ymrwymiad i anfon copi o'r Bil Preifat a'r holl ddogfennau ategol perthnasol i'r mangreoedd y cyfeirir atynt yn Rheol Sefydlog 26A.15(iv) ac, yn achos Bil Preifat y mae Rheol Sefydlog 26A.2 yn gymwys iddo, at y rhai y mae'n ofynnol ymgynghori â hwy neu eu hysbysu yn unol â Rheol Sefydlog 26A.12.

(vi)   ymrwymiad i dalu unrhyw gostau y gall y Comisiwn eu hysgwyddo yn ystod hynt y Bil Preifat mewn perthynas ag unrhyw faterion y bydd y Comisiwn yn penderfynu arnynt;

(vii) os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy'n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru, ymgorffori adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol sy’n nodi ei farn ef ar a yw’r tâl yn briodol neu beidio.

Hysbysiad bod Bil Preifat wedi’i gyflwyno

26A.16       Cyn gynted ag y bydd Bil Preifat wedi’i gyflwyno, rhaid i’r hyrwyddwr gyhoeddi hysbysiad sy’n datgan:

(i)        effaith gyffredinol y Bil Preifat;

(ii)      y gall y Bil Preifat a'r holl ddogfennau ategol gael eu harchwilio yn y Senedd ac mewn un neu ragor o fannau yng Nghymru gan gynnwys, yn achos Bil Preifat sy’n effeithio ar un ardal yn unig yng Nghymru, fan yn yr ardal honno;

(iii)     y caiff personau sy’n credu y byddai’r Bil Preifat yn effeithio’n andwyol ar eu buddiannau wneud gwrthwynebiad i’r Llywydd yn ystod y cyfnod o 40 diwrnod gwaith sy’n dechrau ar y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysid gyntaf mewn papur newydd (“y cyfnod gwrthwynebu”);

(iv)     sut i gyflwyno gwrthwynebiad a’r wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y gwrthwynebiad hwnnw, gan roi sylw i Reol Sefydlog 26A.23;

(v)       y caiff gwrthwynebiad ofyn naill ai i’r Bil Preifat beidio â chael ei gymeradwyo neu i newidiadau gael eu gwneud i’r Bil Preifat cyn iddo gael ei gymeradwyo;

(vi)     bod rhaid i’r person sy’n gwneud gwrthwynebiad gydymffurfio ag unrhyw benderfyniad neu benderfyniadau a wneir gan y Llywydd ynghylch gwneud gwrthwynebiad.

26A.17       Wrth gyfrifo'r cyfnod gwrthwynebu o dan Reol Sefydlog 26.16(iii), ni roddir ystyriaeth i unrhyw gyfnod sy'n dechrau ar ddiwrnod diddymu'r Senedd ac yn gorffen ar ddyddiad ailgyflwyno Bil Preifat yn y Senedd nesaf.

26A.18       Rhaid i hysbysiad o dan Reol Sefydlog 26A.16 gael ei gyhoeddi:

(i)        mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg ledled Cymru (neu, os yw’r Bil Preifat yn effeithio ar un ardal yn unig yng Nghymru, ledled yr ardal honno); a

(ii)      drwy ba fodd arall bynnag sy’n briodol, yn unol ag unrhyw benderfyniad neu benderfyniadau a wneir gan y Llywydd, i’w ddwyn i sylw’r rhai y mae’r Bil Preifat yn debyg o effeithio ar eu buddiannau.

26A.19       Cyn gynted ag y bydd yr hyrwyddwr wedi cydymffurfio â gofynion Rheol Sefydlog 26A.16, rhaid i’r hyrwyddwr roi hysbysiad ysgrifenedig o’r ffaith honno i’r Llywydd, gan roi manylion y canlynol:

(i)        sut y cydymffurfiwyd â’r gofynion hynny; a

(ii)      y trefniadau a wnaeth yr hyrwyddwr i sicrhau y gallai’r Bil Preifat gael ei archwilio (heblaw yn y Senedd) yn unol â Rheol Sefydlog 26A.16(ii). 

Gwrthwynebu

26A.20       Caiff person unigol, corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig o bersonau sydd o’r farn y byddai Bil Preifat a gyflwynid yn y Senedd yn effeithio’n andwyol ar eu buddiannau (“gwrthwynebydd”) wneud gwrthwynebiad i’r Llywydd mewn ysgrifen, yn unol â hysbysiad a roddir o dan Reol Sefydlog 26A.16, yn ystod y cyfnod gwrthwynebu a bennir yn Rheol Sefydlog 26A.16(iii).

26A.21       At ddibenion Rheol Sefydlog 26A.20, caiff aelod o’r llywodraeth fod yn wrthwynebydd hefyd.

26A.22       Rhaid i’r Llywydd ddyfarnu a yw gwrthwynebiad yn dderbyniadwy.

26A.23       Dim ond:

(i)        os yw’n cydymffurfio ag unrhyw benderfyniad neu benderfyniadau a wneir gan y Llywydd ynglŷn â gwneud gwrthwynebiad;

(ii)      os yw’n nodi natur y gwrthwynebiad;

(iii)     os yw’n nodi’r darpariaethau yn y Bil Preifat sy’n arwain at y gwrthwynebiad;

(iv)     os yw’n pennu sut y byddai’r Bil Preifat yn effeithio’n andwyol ar fuddiannau’r gwrthwynebydd

y bydd gwrthwynebiad yn dderbyniadwy.

26A.24       Rhaid i’r Llywydd roi gwybod i’r hyrwyddwr am ei benderfyniad o dan Reol Sefydlog 26A.22 ac, os dyfernir nad yw gwrthwynebiad yn dderbyniadwy, rhaid i’r Llywydd roi rhesymau i’r hyrwyddwr dros y penderfyniad hwnnw.

26A.25       Ar ôl i’r cyfnod gwrthwynebu ddod i ben, rhaid i’r Clerc gyhoeddi pob gwrthwynebiad derbyniadwy.

26A.26       Os caiff y Llywydd wrthwynebiad ar ôl i’r cyfnod gwrthwynebu ddod i ben ond cyn y cyfarfod cyntaf ar gyfer Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, ac os ceir gyda’r gwrthwynebiad hwnnw ddatganiad gan y gwrthwynebydd sy’n esbonio’r oedi cyn cyflwyno’r gwrthwynebiad, rhaid i’r Llywydd benderfynu a yw wedi’i fodloni:

(i)        bod y gwrthwynebiad yn dderbyniadwy, yn unol â Rheol Sefydlog 26A.23;

(ii)      bod gan y gwrthwynebydd reswm da dros beidio â gwneud y gwrthwynebiad o fewn y cyfnod gwrthwynebu;

(iii)     bod y gwrthwynebydd wedi gwneud y gwrthwynebiad cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben; a

(iv)     na fyddai’n afresymol ystyried y gwrthwynebiad hwnnw o gofio hawliau a buddiannau’r gwrthwynebwyr a'r hyrwyddwr.

26A.27       Os yw’r Llywydd wedi’i fodloni felly:

(i)        rhaid iddo roi gwybod i’r gwrthwynebydd am ei benderfyniad;

(ii)      rhaid i’r Clerc gyhoeddi’r gwrthwynebiad; a

(iii)     rhaid i’r pwyllgor a sefydlir yn unol â Rheol Sefydlog 32A.32 roi ystyriaeth i’r gwrthwynebiad.

26A.28       Os nad yw’r Llywydd wedi’i fodloni felly, rhaid iddo:

(i)        rhoi gwybod i’r gwrthwynebydd am ei benderfyniad, a

(ii)      rhoi rhesymau dros y penderfyniad hwnnw i’r gwrthwynebydd.

26A.29       Caniateir i wrthwynebiad gael ei dynnu’n ôl gan y gwrthwynebydd, yn unol ag unrhyw benderfyniad neu benderfyniadau a wneir gan y Llywydd.

Datganiadau mewn perthynas ag ymgynghori

26A.30       Caiff unrhyw berson yr ymgynghorwyd ag ef neu unrhyw berson a hysbyswyd, neu unrhyw berson y dylid bod wedi ymgynghori ag ef neu ei hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 26A.12 yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, ddwyn unrhyw ddiffyg yn y broses ymgynghori neu hysbysu i sylw'r Llywydd drwy gyflwyno datganiad ysgrifenedig.

26A.31       Ni chaniateir trin datganiad o'r fath fel gwrthwynebiad o dan Reol Sefydlog 26A.20 ond caiff Pwyllgor Bil Preifat ei ystyried yn unol â Rheol Sefydlog 26A.45(ii).

Pwyllgorau Biliau Preifat

26A.32       Pan fydd Bil Preifat wedi’i gyflwyno, rhaid i’r Senedd ystyried cynnig i sefydlu Pwyllgor Bil Preifat, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5.

26A.33       Mae Rheolau Sefydlog 17.3 a 17.7 yn gymwys i Bwyllgor Bil Preifat ac eithrio bod rhaid iddo gynnwys dim llai na phedwar o aelodau.

26A.34       Rhaid i unrhyw Aelod y mae ganddo, neu y mae’n disgwyl y bydd ganddo, neu hyd y gŵyr yr Aelod, y mae gan ei bartner neu y mae gan unrhyw blentyn dibynnol iddo, neu y mae’n disgwyl y bydd ganddo, fuddiant y mae’n ofynnol ei gofrestru o dan Reol Sefydlog 2 y gellid barnu ei fod yn rhagfarnu ystyriaeth ddiduedd ar Fil Preifat, beidio â bod yn aelod o’r pwyllgor a sefydlir i ystyried y Bil hwnnw.

26A.35       Rhaid i unrhyw Aelod y cynigir ei enw i fod yn aelod o Bwyllgor Bil Preifat roi gwybod i’r Pwyllgor Busnes am unrhyw fuddiant o’r math y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26A.34 a hefyd am unrhyw fuddiant personol, etholaethol neu ranbarthol perthnasol arall sydd ganddo neu, hyd y gŵyr yr Aelod, sydd gan aelod o'i deulu, neu y mae’n disgwyl y bydd ganddo, y gallai eraill ystyried yn rhesymol ei fod yn rhagfarnu ystyriaeth ddiduedd ar y Bil Preifat.

26A.36       At ddibenion Rheol Sefydlog 26A.34, mae ystyron “partner” a “plentyn dibynnol” fel y’u diffiniwyd ym mharagraff 4 o’r Atodiad i Reol Sefydlog 2.

26A.37       Rhaid i unrhyw wybodaeth a roddir yn unol â Rheol Sefydlog 26A.35 ynglŷn ag Aelod y cynigir ei enw i fod yn aelod o Bwyllgor Bil Preifat gael ei gyhoeddi yr un pryd â’r cynnig i sefydlu’r pwyllgor hwnnw.

26A.38       Rhaid i bob aelod o Bwyllgor Bil Preifat, cyn cyfarfod cyntaf y pwyllgor hwnnw, fod wedi cyflawni cwrs hyfforddi perthnasol fel y pennwyd gan y Llywydd.

26A.39       Rhaid i bob aelod o Bwyllgor Bil Preifat, yng nghyfarfod cyntaf y pwyllgor hwnnw, gytuno i weithredu’n ddiduedd, yn rhinwedd swydd yr Aelod hwnnw fel aelod o’r pwyllgor hwnnw, a seilio penderfyniadau ar y dystiolaeth a’r wybodaeth arall a ddarperir i’r pwyllgor hwnnw yn unig.

26A.40       Rhaid i aelodau Pwyllgor Bil Preifat, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol, fod yn bresennol yn holl gyfarfodydd y Pwyllgor Bil Preifat.

26A.41       Ni chaiff aelod o Bwyllgor Bil Preifat gymryd rhan mewn unrhyw drafodion ar y Bil Preifat oni bai:

(i)        bod yr holl dystiolaeth sy’n ymwneud â’r Bil Preifat hwnnw a roddwyd ar lafar yn ystod trafodion y pwyllgor wedi’i rhoi yng ngŵydd yr Aelod, neu

(ii)      gyda chytundeb yr hyrwyddwr ac unrhyw wrthwynebydd y mae’r dystiolaeth yn ymwneud ag ef, fod yr Aelod hwnnw wedi gweld recordiad neu wedi darllen trawsgrifiad o’r holl dystiolaeth nas rhoddwyd yng ngŵydd yr Aelod. 

26A.42       Nid yw Rheolau Sefydlog 17.12, 17.17 na 17.48 yn gymwys i Bwyllgor Bil Preifat.

26A.43       Nid yw Rheol Sefydlog 17.49 yn gymwys i Bwyllgor Bil Preifat, ac eithrio wrth i’r pwyllgor ystyried trafodion ar welliannau.

Yr Ystyriaeth Gychwynnol

26A.44       Pan fydd y cyfnod gwrthwynebu a bennir yn Rheol Sefydlog 26A.16(iii) wedi dod i ben, rhaid i’r Pwyllgor Bil Preifat a sefydlwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26A.32 (“y pwyllgor”), ystyried a ddylai’r Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat a chyflwyno adroddiad ar hynny.

26A.45       Wrth ystyried a ddylai Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat, rhaid i’r pwyllgor ystyried:

(i)        a yw’r dogfennau sy’n cyd-fynd â’r Bil ac a osodwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 26A.13 i 15, ym marn y pwyllgor, yn ddigonol i ganiatáu gwaith craffu priodol ar y Bil;

(ii)      a gynhaliodd yr hyrwyddwr ymgynghori digonol cyn i’r Bil gael ei gyflwyno;

(iii)     a yw darpariaethau’r Bil yn peri ei fod yn briodol i’w ystyried fel Bil Preifat yn unol â Rheol Sefydlog 26A, gan roi sylw penodol i’r canlynol:

(a)       i ba raddau y mae ei ddarpariaethau yn effeithio ar faterion o bolisi cyhoeddus;

(b)      i ba raddau y mae ei ddarpariaethau yn diwygio neu’n diddymu deddfwriaeth arall;

(c)       maint yr ardal y mae’n effeithio arni;

(d)      nifer a natur y buddiannau y mae’n effeithio arnynt.

26A.46       Os yw’n ymddangos i’r pwyllgor nad yw’r dogfennau sy’n cyd-fynd â’r Bil yn ddigonol i alluogi’r pwyllgor i gyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 26A.44, caiff y pwyllgor, cyn cyflwyno adroddiad ynghylch a ddylai’r Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat, ganiatáu unrhyw gyfnod rhesymol y mae’r pwyllgor yn credu ei fod yn briodol i’r hyrwyddwr ddarparu unrhyw wybodaeth arall sydd ym marn y pwyllgor yn angenrheidiol (“dogfennau ategol ychwanegol”).

26A.47       Rhaid i unrhyw ddogfennau ategol ychwanegol gael eu gosod.

26A.48       Ar ôl i’r pwyllgor gyflwyno’i adroddiad, caiff y Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig bod y Senedd yn cytuno i’r Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat.

26A.49       Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.48, mae’r Bil yn symud ymlaen i Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

26A.50       Os gwrthodir cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.48, mae’r  Bil yn methu.

26A.51       Mae’r Ystyriaeth Gychwynnol ar ben pan fydd y Senedd wedi cytuno y dylai’r Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat neu pan fydd y Bil yn methu fel rhan o’r Ystyriaeth Gychwynnol.

Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

26A.52       Mae Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i’r Ystyriaeth Gychwynnol ddod i ben.

26A.53       Rhaid i’r trafodion adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor gael eu hystyried gan y Pwyllgor Bil Preifat a sefydlwyd o dan Reol Sefydlog 26A.32.

26A.54       Adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, rhaid i’r pwyllgor:

(i)        ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil Preifat a chyflwyno adroddiad arnynt;

(ii)      ystyried unrhyw wrthwynebiadau derbyniadwy, heblaw unrhyw wrthwynebiad nad oes iddo, ym marn y pwyllgor, sail o sylwedd a chyflwyno adroddiad arnynt; a

(iii)     ystyried manylion y Bil Preifat yn unol â Rheolau Sefydlog 26A.65 i 26A.80 (gan gynnwys unrhyw welliannau derbyniadwy).

26A.55       Mae gan y personau a ganlyn hawl i gael eu gwrando gerbron y pwyllgor yn bersonol, neu i gael eu cynrychioli:

(i)        yr hyrwyddwr;

(ii)      unrhyw wrthwynebydd (yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26A.62) sydd wedi cyflwyno gwrthwynebiad derbyniadwy y mae’r pwyllgor o’r farn bod iddo sail o sylwedd;

(iii)     aelod o’r llywodraeth;

a chânt gymryd rhan yn y trafodion yn unol ag unrhyw ddyfarniadau gan y Cadeirydd.

26A.56       Pan fydd Pwyllgor a sefydlwyd i ystyried Bil Preifat yn ystyried bod hynny'n briodol, caiff benodi asesydd, neu aseswyr, i ystyried gwrthwynebiadau.

26A.57       Caiff yr asesydd, neu’r aseswyr, gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Bil Preifat ynghylch:

i)      a oes sail o sylwedd ar gyfer gwrthwynebiadau derbyniadwy;

ii)     argymhellion ar gyfer grwpio gwrthwynebiadau;

iii)    dethol tystion ac a ddylid gofyn am dystiolaeth gan y tystion hynny ar lafar neu'n ysgrifenedig;

a chaiff gyflawni unrhyw swyddogaethau eraill yng nghyfnod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor y penderfynir arnynt gan y Pwyllgor.

26A.58       Caiff y Cadeirydd, wrth ddyfarnu ar sut y caiff gwrthwynebydd (neu berson arall) gymryd rhan yn y trafodion, gymryd i ystyriaeth natur y gwrthwynebiad neu’r sylwadau eraill ac i ba raddau y mae natur y cyfraniad hwnnw yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r pwyllgor i ystyried y gwrthwynebiad a chyflwyno adroddiad arno.  

26A.59       Caiff y Pwyllgor wahodd unrhyw bersonau eraill y mae’n barnu eu bod yn briodol i roi tystiolaeth.

26A.60       Rhaid i'r Pwyllgor Bil Preifat ystyried rhinweddau'r gwrthwynebiadau yng nghyd-destun–

(i)     unrhyw dystiolaeth a gyflwynir iddo; neu

(ii)    unrhyw adroddiad a gaiff ei baratoi gan unrhyw asesydd neu aseswyr a benodir yn unol â Rheol Sefydlog 26A.56.

26A.61       Caiff y Pwyllgor Bil Preifat dderbyn neu wrthod–

(i)     unrhyw wrthwynebiad yn ei gyfanrwydd neu unrhyw ran ohono;

(ii)    adroddiad asesydd yn ei gyfanrwydd neu unrhyw ran ohono.

26A.62       Os yw’r pwyllgor o’r farn bod dau neu fwy o wrthwynebiadau yr un fath neu’n debyg i’w gilydd, caiff grwpio’r gwrthwynebiadau hynny gyda’i gilydd a dewis un neu ragor o wrthwynebwyr o’r grŵp hwnnw i roi tystiolaeth ac i gymryd rhan fel arall mewn perthynas â’r gwrthwynebiadau hynny.

26A.63       Os yw’r pwyllgor, wrth baratoi ei adroddiad o dan Reol Sefydlog 26A.54(i) a (ii), yn bwriadu argymell newid yn y Bil Preifat a phe bai’r newid hwnnw, o’i wneud, ym marn pwyllgor, yn effeithio ar fuddiannau’r personau eraill y cyfeirir atynt yn Rheol Sefydlog 26A.64, caiff y Pwyllgor gymryd unrhyw gamau y mae’n barnu eu bod yn briodol er mwyn sicrhau y caiff y personau eraill hynny gyfle rhesymol i gyflwyno sylwadau i’r pwyllgor mewn perthynas â’r argymhelliad hwnnw.

26A.64       At ddibenion Rheol Sefydlog 26A.63, ystyr “personau eraill” yw:

(i)        personau nad effeithiwyd ar eu buddiannau gan y Bil Preifat fel y’i cyflwynwyd ond y byddid yn effeithio ar eu buddiannau pe câi’r newidiadau arfaethedig eu gwneud yn y Bil Preifat, neu

(ii)      gwrthwynebwyr presennol y byddid yn effeithio ar eu buddiannau i raddau helaethach neu mewn ffyrdd newydd pe câi’r newidiadau arfaethedig eu gwneud yn y Bil Preifat, gan arwain at seiliau newydd o sylwedd dros wrthwynebu. 

26A.65       Caniateir i Fil Preifat gael ei ddiwygio yn ystod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

26A.66       Rhaid i 25 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng y diwrnod y gosodir yr adroddiad o dan Reol Sefydlog 26A.54(i) a (ii) a dyddiad y cyfarfod cyntaf y bydd y pwyllgor yn ystyried manylion y Bil Preifat ynddo yn unol â Rheol Sefydlog 26A.54(iii).

26A.67       Heb fod yn hwyrach na phum diwrnod gwaith ar ôl i adroddiad y pwyllgor gael ei osod, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig na ddylai’r Bil Preifat fynd ymhellach.

26A.68       Os na chyflwynir cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.67, neu os cyflwynir cynnig o'r fath ond fe'i gwrthodir, bernir bod y Senedd wedi cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Preifat a rhaid i’r pwyllgor fynd rhagddo i waredu gwelliannau i’r Bil Preifat, yn unol â Rheol Sefydlog 26A.54(iii).

26A.69       Rhaid trefnu bod amser ar gael i gynnig a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 26A.67 gael ei drafod o fewn 10 diwrnod gwaith i ddyddiad cyflwyno’r cynnig (heb gyfrif diwrnodau gwaith mewn wythnos pan nad yw’r Senedd yn eistedd).

26A.70       Os derbynnir cynnig a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 26A.67, mae’r Bil Preifat yn methu.

26A.71       Caniateir i welliannau i’w hystyried yn ystod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor gael eu cyflwyno heb fod yn gynharach na’r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl y diwrnod y gosododd y pwyllgor ei adroddiad o dan Reol Sefydlog 26A.54(i) a (ii).

26A.72       O dan amgylchiadau eithriadol, caiff Cadeirydd y pwyllgor dderbyn gwelliant yn ystod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor y rhoddwyd llai o hysbysiad ohono na’r hyn sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 26A.118. Cyfeirir at welliant o’r fath fel “gwelliant hwyr”.

26A.73       Mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Preifat, oni bai bod y pwyllgor wedi penderfynu fel arall.

26A.74       Dim ond Aelod sy’n aelod o’r pwyllgor a gaiff gymryd rhan yn nhrafodion y pwyllgor hwnnw at y dibenion a ganlyn:

(i)        cynnig gwelliant neu ofyn am gytundeb i dynnu gwelliant yn ôl; neu

(ii)      pleidleisio.

26A.75       Caniateir i welliant gan Aelod nad yw’n aelod o’r Pwyllgor gael ei gynnig gan aelod o’r pwyllgor.

26A.76       Os cyflwynir gwelliant i adran o’r Bil Preifat neu atodlen iddo, pan fydd y gwelliant olaf i’r adran honno neu’r atodlen honno wedi’i waredu, bernir bod y pwyllgor wedi cytuno ar yr adran honno neu’r atodlen honno fel y’i diwygiwyd, neu fel arall, at ddibenion trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

26A.77       Os na chyflwynir gwelliant i adran o’r Bil Preifat neu atodlen iddo, bernir bod y pwyllgor wedi cytuno ar yr adran honno neu’r atodlen honno at ddibenion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

26A.78       Mae Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ar ben pan fydd y gwelliant olaf wedi’i waredu neu pan fernir bod yr adran neu’r atodlen olaf wedi’i chytuno, pa un bynnag yw’r olaf.

26A.79       Os caiff Bil Preifat ei ddiwygio adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor rhaid i’r hyrwyddwr baratoi Memorandwm Esboniadol diwygiedig, oni bai bod y pwyllgor yn penderfynu nad oes angen Memorandwm Esboniadol diwygiedig.

26A.80       Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol diwygiedig a gaiff ei baratoi o dan Reol Sefydlog 26A.79 gael ei osod o leiaf bum diwrnod gwaith cyn dyddiad cyfarfod cyntaf y Senedd sy’n ystyried trafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

Ystyriaeth Fanwl y Senedd

26A.81       Mae Ystyriaeth Fanwl y Senedd yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ddod i ben.

26A.82       Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng y diwrnod y mae Ystyriaeth Fanwl y Senedd yn dechrau a dyddiad cyfarfod cyntaf y Senedd sy’n ystyried trafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

26A.83       Rhaid i Ystyriaeth Fanwl y Senedd gael ei hystyried gan y Senedd mewn cyfarfod llawn.

26A.84       Caniateir i Fil Preifat gael ei ddiwygio adeg Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

26A.85       Caniateir i welliannau i’w hystyried adeg Ystyriaeth Fanwl y Senedd gael eu cyflwyno gan unrhyw Aelod o’r diwrnod cyntaf y bydd y cyfnod yn dechrau.

26A.86       Caiff y Llywydd ddethol y gwelliannau hynny yr ymdrinnir â hwy adeg Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

26A.87       Mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Preifat, oni bai bod y Senedd wedi penderfynu fel arall drwy gynnig gan y Pwyllgor Busnes.

26A.88       Drwy gynnig heb hysbysiad gan y Pwyllgor Busnes, caiff y Senedd gytuno ar un neu fwy o derfynau amser sydd i fod yn gymwys mewn dadleuon ar welliannau (fel y maent wedi’u grwpio gan y Llywydd).

26A.89       Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.88, rhaid i’r dadleuon ar y grwpiau hynny o welliannau gael eu gorffen erbyn y terfynau amser a bennwyd yn y cynnig, ac eithrio i’r graddau y mae’r Llywydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol:

(i)        am fod peidio â chynnig gwelliant wedi arwain at newid trefn trafod y grwpiau; neu

(ii)      i atal unrhyw ddadl ar grŵp o welliannau sydd eisoes wedi dechrau pan gyrhaeddir y terfyn amser rhag cael ei chwtogi’n afresymol.

26A.90       Dim ond os ydynt, yn ychwanegol at y meini prawf yn Rheol Sefydlog 26A.120, wedi’u bwriadu ar gyfer y canlynol:

(i)        egluro geiriad darpariaeth yn y Bil Preifat (gan gynnwys dileu anghysondebau yn y testunau Cymraeg a Saesneg neu rhyngddynt), neu

(ii)      rhoi eu heffaith i ymrwymiadau a roddwyd ar ran yr hyrwyddwr adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, neu

(iii)     rhoi eu heffaith i unrhyw argymhellion a wnaed gan y pwyllgor yn ei adroddiad o dan Reol Sefydlog 26A.54(i) a (ii),

y mae gwelliannau adeg Ystyriaeth Fanwl y Senedd yn dderbyniadwy.

26A.91       Os cyflwynir gwelliant i adran o’r Bil Preifat neu atodlen iddo, pan fydd y gwelliant olaf i’r adran honno neu’r atodlen honno wedi’i waredu, bernir bod y Senedd wedi cytuno ar yr adran honno neu’r atodlen honno fel y’i diwygiwyd, neu fel arall, at ddibenion Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

26A.92       Os na chyflwynir gwelliant i adran neu atodlen, bernir bod y Senedd wedi cytuno ar yr adran honno neu’r atodlen honno at ddibenion trafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

26A.93       Mae Ystyriaeth Fanwl y Senedd ar ben pan fydd y gwelliant olaf wedi’i waredu neu pan fernir bod yr adran neu’r atodlen olaf wedi’i chytuno, pa un bynnag yw'r olaf.

Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor

26A.94       Pan fydd yr holl welliannau a ddetholwyd yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd wedi eu gwaredu yn unol â Rheol Sefydlog 26A.93, caiff unrhyw Aelod, gyda chytundeb y Llywydd, gynnig heb hysbysiad fod unrhyw ran o'r Bil Preifat a bennir yn y cynnig yn cael ei gyfeirio'n ôl at y Pwyllgor Bil Preifat ar gyfer Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor.

26A.95       Mae Rheolau Sefydlog 26A.65 a 26A.71 hyd at 26A.80 yn gymwys i Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor. Dylid dehongli cyfeiriadau at "Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor" yn gyfeiriadau at "Cyfnod Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor" yn unol â hynny.

26A.96       Yng nghyfnod Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor caiff y pwyllgor wahodd unrhyw bersonau eraill y mae’n barnu eu bod yn briodol i roi tystiolaeth.

26A.97       Mae Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl derbyn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.94.

26A.98       Caniateir i welliannau i’w hystyried yn ystod Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor gael eu cyflwyno heb fod yn gynharach na’r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl y diwrnod y dechreuodd Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor.

26A.99       Yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26A.120, mae gwelliannau yng nghyfnod Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor yn dderbyniadwy dim ond os ydynt yn welliannau i'r darpariaethau a gyfeiriwyd yn ôl at y Pwyllgor Bil Preifat, neu os ydynt yn welliannau y byddai eu hangen o ganlyniad i dderbyn unrhyw welliannau a gyflwynwyd yng nghyfnod Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor.

Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd

26A.100   Pan fydd Ystyriaeth Fanwl y Senedd ar ben yn unol â Rheol Sefydlog 26A.93, neu pan fydd Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor ar ben yn unol â Rheol Sefydlog 26A.78 os cafodd ei chynnal, caiff unrhyw Aelod, heb hysbysiad, gynnig bod y Senedd yn ystyried gwelliannau mewn Cyfnod Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd. Caniateir trafod cynnig o’r fath ond ni chaniateir ei ddiwygio.

26A.100A Mae Cyfnod Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd yn dechrau ar y diwrnod gwaith  cyntaf ar ôl i’r Senedd dderbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.100.

26A.101   Mae Rheolau Sefydlog 26A.82 i 26A.93 yn gymwys i drafodion Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd. Dylid dehongli cyfeiriadau at "Ystyriaeth Fanwl y Senedd" yn gyfeiriadau at "Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd".

Y Cyfnod Terfynol

26A.102   Rhaid i Gyfnod Terfynol Bil Preifat gael ei gymryd gan y Senedd mewn cyfarfod llawn.

26A.103   Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26A.107, caiff unrhyw Aelod, heb fod yn gynharach na phum diwrnod gwaith ar ôl cwblhau Ystyriaeth Fanwl y Senedd, neu Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor neu Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd os cawsant eu cynnal, gyflwyno cynnig bod y Bil Preifat yn cael ei basio.

26A.104   Rhaid cyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.103 o leiaf un diwrnod gwaith cyn y caiff ei drafod.

26A.105   Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26A.107 a 26A.107A, yn union ar ôl cwblhau Ystyriaeth Fanwl y Senedd, neu Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd os caiff ei chynnal, caiff unrhyw Aelod, gyda chytundeb y Llywydd, gynnig heb hysbysiad fod y Bil Preifat yn cael ei basio.

26A.106   Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig y dylai Bil Preifat gael ei basio.

26A.107   Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Preifat yn cael ei basio oni bai bod testun y Bil Preifat ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

26A.107A Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Preifat yn cael ei basio nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn  unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

26A.107B Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil ei basio oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Senedd.

26A.107C Rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynnig bod Bil Preifat yn cael ei basio.

26A.108   Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 12.31(ii) mewn unrhyw drafodion Cyfnod Terfynol.

Ailystyried Biliau Preifat a Basiwyd

26A.109   Yn unol ag adran 113 o’r Ddeddf, ar ôl i'r Bil Preifat gael ei basio, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Senedd ailystyried y Bil Preifat, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo:

(i)        os oes cwestiwn ynglŷn â'r Bil Preifat wedi'i gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 o'r Ddeddf; a

(ii)      os oes cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol (o fewn ystyr adran 113(1)(b) o'r Ddeddf) wedi'i wneud gan y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â'r cyfeiriad hwnnw; a

(iii)     os nad yw'r naill gyfeiriad na'r llall wedi'i benderfynu neu wedi'i waredu fel arall.

26.109A Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.109 gan y Senedd, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Cwnsler Cyffredinol a'r Twrnai Cyffredinol am y ffaith honno.

26.109B Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.109, bydd y Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl tynnu'r cyfeiriad a wnaed mewn perthynas â'r Bil o dan adran 112 yn ôl yn dilyn cais am dynnu'r cyfeiriad yn ôl o dan adran 113(2)b o'r Ddeddf.

26A.110   Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Senedd ailystyried y Bil Preifat: 

(i)        os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir mewn perthynas â’r Bil o dan adran 112 o’r Ddeddf na fyddai'r Bil Preifat neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd;

(ii)      os gwneir gorchymyn mewn perthynas â'r Bil Preifat o dan adran 114 o'r Ddeddf; neu

(iii)     os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir o dan adran 111B(2)b o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil Preifat a basiwyd gan y Senedd, fod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig. 

26A.111   Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.110, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i’r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Senedd.

26A.112   Mae Rheolau Sefydlog 26A.82 i 26A.93 a 26A.100 i 26A.101 yn gymwys i drafodion y Cyfnod Ailystyried. Dylid dehongli cyfeiriadau at "Ystyriaeth Fanwl y Senedd" ac “Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd” yn gyfeiriadau at “y Cyfnod Ailystyried” a “y Cyfnod Ailystyried pellach” yn unol â hynny.

26A.113   Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Preifat yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26A.120, ac ym marn y Llywydd, wedi'u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy'n destun y canlynol:

(i)        y cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol;   

(ii)      penderfyniad y Goruchaf Lys; neu

(iii)     y Gorchymyn o dan adran 114 o'r Ddeddf.

26A.114   Oni bai bod y Senedd wedi penderfynu, drwy gynnig gan y Pwyllgor Busnes, ym mha drefn y mae'r gwelliannau i gael eu gwaredu, rhaid eu gwaredu yn y drefn y mae'r darpariaethau y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Preifat.

26A.115   Ar ôl i'r holl welliannau gael eu gwaredu yn nhrafodion y Cyfnod Ailystyried, ac yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26A.115A, caiff unrhyw Aelod gynnig heb hysbysiad fod y Senedd yn cymeradwyo Bil Preifat a ailystyriwyd. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o'r fath a rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig.

26A.115A Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Preifat a ailystyriwyd yn cael ei gymeradwyo nes y bydd y   Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

26A.115B  Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil Preifat ar ôl y cyfnod ailystyried, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil Preifat hwnnw ei gymeradwyo oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Senedd.

Ailystyried Biliau Preifat a Wrthodwyd

26A.115C Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig bod y Senedd yn ailystyried y Bil Preifat os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir o dan adran 111B(2)a o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil Preifat a wrthodwyd gan y Senedd, nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y Bil Preifat sy'n destun y cyfeiriad yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

26A.115D Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.115C, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Senedd. 

26A.115E Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Preifat a ailystyriwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26A.115C.

26A.115F Yn y Cyfnod Ailystyried yn unol â Rheol Sefydlog 26.115C, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i gymeradwyo'r Bil Preifat. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o'r fath a rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig.

26A.115G Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.115F nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil Preifat, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

Gwelliannau i Filiau Preifat

26A.116   Mae Rheolau Sefydlog 26A.117 i 26A.125 yn gymwys i welliannau yn ystod trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, trafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd a thrafodion y Cyfnod Ailystyried.

26A.117   Rhaid i’r Llywydd benderfynu ar ffurf briodol gwelliannau i Fil Preifat.

26A.118   Ni chaniateir ystyried gwelliant, ac eithrio gwelliant hwyr, oni bai ei fod wedi’i gyflwyno o leiaf bum diwrnod gwaith cyn iddo gael ei ystyried.

26A.119   Caiff unrhyw Aelod ychwanegu ei enw i welliant (ac eithrio gwelliant hwyr) drwy hysbysu’r Clerc ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd y diwrnod gwaith cyn bod y gwelliant i fod i gael ei ystyried.

26A.120   Nid yw gwelliant yn dderbyniadwy:

(i)        os nad yw ar ei ffurf briodol yn unol â Rheol Sefydlog 26A.117;

(ii)      os nad yw’n berthnasol i’r Bil Preifat neu i ddarpariaethau’r Bil Preifat y byddai’n ei ddiwygio;

(iii)     os yw’n anghyson â’r egwyddorion cyffredinol fel yr adroddwyd arnynt gan y pwyllgor ac fel y bernir y cytunwyd arnynt gan y Senedd; neu

(iv)     os yw’n anghyson â phenderfyniad sydd eisoes wedi’i wneud yn y cyfnod pryd y mae’r gwelliant yn cael ei gynnig.

26A.121   Caniateir cyflwyno gwelliant i welliant ac, o’i ddethol, rhaid iddo gael ei waredu cyn y gwelliant y byddai’n ei ddiwygio, a rhaid i Reolau Sefydlog 26A.117 i 26A.125 fod yn gymwys yn unol â hynny.

26A.122   Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26A.74, caniateir i welliant (ac eithrio gwelliant hwyr) gael ei dynnu'n ôl gan yr Aelod a’i cyflwynodd ar unrhyw adeg cyn y diwrnod y mae’n cael ei ystyried ond dim ond gyda chytundeb unfrydol unrhyw Aelodau sydd wedi ychwanegu eu henwau i’r gwelliant. Os na sicrheir cytundeb o’r fath, daw’r gwelliant yn welliant yn enw’r Aelod cyntaf a ychwanegodd ei enw i’r gwelliant ac nad yw’n cytuno i’r gwelliant gael ei dynnu'n ôl.

26A.123   Caiff Cadeirydd y pwyllgor neu’r Llywydd, yn ôl fel y digwydd, grwpio gwelliannau at ddibenion dadleuon fel y gwêl yn dda. Ni chaniateir i welliant a drafodwyd fel rhan o grŵp gael ei drafod eto pan ddaw’n amser ei waredu.

26A.124   Os na fydd Aelod a gyflwynodd welliant yn cynnig y gwelliant pan ddaw’n amser trafod y gwelliant hwnnw, caniateir i’r gwelliant gael ei gynnig:

(i)        yn y pwyllgor adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, gan aelod o’r pwyllgor; neu

(ii)      yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd, neu yn nhrafodion y Cyfnod Ailystyried, gan unrhyw Aelod arall.

26A.125   Caniateir i welliant sydd wedi’i gynnig gael ei dynnu'n ôl gan yr Aelod a’i cynigiodd, ond dim ond:

(i)        yn y pwyllgor adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, os na fydd aelod o’r pwyllgor yn gwrthwynebu; neu

(ii)      yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd, neu yn nhrafodion y Cyfnod Ailystyried, os na fydd Aelod yn gwrthwynebu.

Newid Hyrwyddwr

26A.126   Mae Rheolau Sefydlog 26A.127 i 26A.132 yn gymwys pan na fydd yr hyrwyddwr, cyn i Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ddod i ben, mwyach yn dymuno neu yn gallu sicrhau’r pwerau neu’r manteision a roddir gan y Bil hwnnw, a bod unigolyn, corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig o bersonau (“yr hyrwyddwr newydd”) yn dymuno sicrhau’r pwerau neu’r manteision hynny.

26A.127   Rhaid i’r hyrwyddwr newydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, osod memorandwm sy’n nodi’r rhesymau dros newid hyrwyddwr ac amgylchiadau newid hyrwyddwr.

26A.128   Rhaid i’r pwyllgor, gan gymryd i ystyriaeth y memorandwm a osodir o dan Reol Sefydlog 26A.127 ac unrhyw wybodaeth arall gan yr hyrwyddwr newydd y mae’r pwyllgor yn gofyn amdani, ystyried goblygiadau newid hyrwyddwr ar gyfer hawliau a buddiannau’r gwrthwynebwyr, personau eraill ac ar gyfer cynnydd y Bil Preifat.

26A.129   Caiff y pwyllgor, os yw o’r farn bod hynny’n briodol er mwyn amddiffyn hawliau neu fuddiannau gwrthwynebwyr neu bersonau eraill, neu er mwyn sicrhau gwaith craffu priodol ar y Bil Preifat:

(i)        ei gwneud yn ofynnol i’r hyrwyddwr newydd osod dogfennau ategol ychwanegol;

(ii)      ei gwneud yn ofynnol i’r hyrwyddwr newydd roi unrhyw ymrwymiadau y mae’r pwyllgor o’r farn eu bod yn briodol;

(iii)     ei gwneud yn ofynnol i’r trafodion ar y Bil Preifat adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, neu i ran o’r trafodion hynny, ddechrau eto;

(iv)     cyflwyno adroddiad i’r Senedd ar oblygiadau’r newid hyrwyddwr, gydag argymhelliad na ddylai’r Bil Preifat fynd rhagddo gyda'r hyrwyddwr newydd.

26A.130   Rhaid i adroddiad o dan Reol Sefydlog 26A.129(iv) gael ei ystyried gan y Senedd drwy gynnig gan Gadeirydd y pwyllgor.

26A.131   Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.130, mae’r Bil Preifat yn methu.

26A.132   Os gwrthodir cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.130, rhaid i’r pwyllgor neu’r Senedd barhau i ystyried y Bil Preifat.

Cydsyniad Ei Mawrhydi a Dug Cernyw

26A.133   Os yw Bil Preifat yn cynnwys darpariaeth, neu’n cael ei ddiwygio i gynnwys unrhyw ddarpariaeth a fyddai, pe bai’r Bil Preifat yn Fil ar gyfer Deddf Senedd y Deyrnas Unedig, yn gofyn cydsyniad Ei Mawrhydi neu gydsyniad Dug Cernyw, rhaid i’r Senedd beidio â thrafod y cwestiwn a ddylai’r Bil Preifat gael ei basio (neu ei gymeradwyo yn dilyn y Cyfnod Ailystyried) oni bai bod y cydsyniad hwnnw ar gyfer y ddarpariaeth honno wedi’i ddynodi gan aelod o’r llywodraeth mewn cyfarfod o’r Senedd.

Penderfyniadau Ariannol

26A.134   Rhaid i’r Llywydd benderfynu ym mhob achos a oes angen penderfyniad ariannol ar gyfer Bil Preifat o dan Reolau Sefydlog 26A.135 i 26A.140.

26A.135   Os yw Bil Preifat yn cynnwys darpariaeth:

(i)        sy’n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru; neu

(ii)      y byddai ei heffaith debygol yn arwain at:

(a)       cynnydd arwyddocaol yn y gwariant a godir ar y Gronfa honno;

(b)      gwariant arwyddocaol sy’n daladwy o’r Gronfa honno ar wasanaeth neu ddiben newydd; neu

(c)       cynnydd arwyddocaol yn y gwariant sy’n daladwy o’r Gronfa honno ar wasanaeth neu ddiben presennol,

ni chaniateir cymryd dim trafodion ar y Bil Preifat mewn unrhyw Gyfnod ar ôl i’r Pwyllgor Bil Preifat gyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 26A.54(i) a (ii) oni bai bod y Senedd wedi cytuno, drwy benderfyniad ariannol, y caniateir i’r gwariant neu’r cynnydd yn y gwariant gael ei godi ar y Gronfa honno neu, yn ôl fel y digwydd, ei dalu ohoni.

26A.136   Os yw:

(i)        Bil Preifat yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n gosod neu’n cynyddu (neu sy’n rhoi pŵer i osod neu i gynyddu) unrhyw dâl, neu fel arall yn ei gwneud yn ofynnol (neu’n rhoi pŵer i’w gwneud yn ofynnol) i unrhyw daliad gael ei wneud; a

(ii)      yn ofynnol, gan neu o dan adran 120(1) o’r Ddeddf, i’r person y mae’r tâl neu’r taliad yn daladwy iddo dalu symiau a dderbynnir i Gronfa Gyfunol Cymru (neu os byddai’n ofynnol gwneud hynny heblaw am unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan adran 120(2)),

ni chaniateir cymryd dim trafodion ar y Bil Preifat mewn unrhyw Gyfnod ar ôl i’r Pwyllgor Bil Preifat gyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 26A.54(i) a (ii) oni bai bod y Senedd, drwy benderfyniad ariannol, wedi cytuno â’r tâl, y cynnydd neu’r taliad.

26A.137   Mewn perthynas â Rheol Sefydlog 26A.136:

(i)        bydd yn gymwys dim ond os yw’r tâl, y cynnydd yn y tâl neu’r      taliad yn arwyddocaol; a

(ii)      ni fydd yn gymwys os yw’r tâl, y cynnydd yn y tâl neu’r taliad:

(a)       yn ymwneud â darparu nwyddau ac yn rhesymol o’i gymharu â’r nwyddau a ddarperir; neu

(b)      wedi’i gyfeirio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at adennill cost darparu unrhyw wasanaeth y mae’r tâl yn cael ei osod ar ei gyfer neu y mae’n ofynnol gwneud y taliad ar ei gyfer.

26A.138   Os byddai gwelliant (neu welliannau) i Fil Preifat, o’i dderbyn (neu o’u derbyn), yn golygu y byddai angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil Preifat na fyddai ei angen fel arall, ni chaniateir cymryd dim trafodion ar y gwelliant (neu’r gwelliannau) oni bai bod y Senedd wedi derbyn cynnig ar gyfer penderfyniad ariannol o’r fath.

26A.139   Dim ond aelod o’r llywodraeth a gaiff wneud cynnig ar gyfer penderfyniad ariannol. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o’r fath.

26A.140   Oni bai:

(i)        bod hysbysiad ynglŷn â chynnig ar gyfer unrhyw benderfyniad ariannol y gofynnir amdano mewn perthynas â Bil Preifat gan Reolau Sefydlog 26A.135 neu 26A.136 yn cael ei gyflwyno o fewn chwe mis ar ôl y dyddiad y mae’r Pwyllgor Bil Preifat wedi cyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 26A.54(i) a (ii); a

(ii)      bod y cynnig yn cael ei dderbyn,

mae’r Bil Preifat yn methu.

Hysbysu ynghylch Cydsyniad Brenhinol i Ddeddfau Preifat y Senedd

26A.141   Rhaid i’r Clerc hysbysu’r Senedd ynglŷn â’r dyddiad y bydd Deddf Breifat y Senedd yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

Biliau Preifat yn Methu, yn Cael eu Gwrthod neu’n Cael eu Tynnu’n ôl

26A.142   Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26A.115C, os bydd Bil Preifat yn methu neu’n cael ei wrthod gan y Senedd, rhaid peidio â chymryd dim trafodion pellach ar y Bil Preifat hwnnw a rhaid peidio â chyflwyno Bil Preifat sydd, ym marn y Llywydd, yn yr un telerau neu delerau tebyg, yn yr un Senedd o fewn y cyfnod o chwe mis ar ôl y dyddiad y methodd y Bil Preifat neu y cafodd ei wrthod.

26A.143   Mae Bil Preifat yn methu os nad yw wedi’i basio neu wedi’i gymeradwyo gan y Senedd cyn diwedd y Senedd y’i cyflwynwyd ynddo.

26A.144   Pan fydd Bil Preifat yn methu o dan Reol Sefydlog 26A.143, caiff yr hyrwyddwr gyflwyno Bil Preifat yn yr un telerau yn y Senedd nesaf. Rhaid i destun y Bil Preifat a gaiff ei gyflwyno fod yr un fath â'r fersiwn a oedd yn cael ei hystyried gan y Senedd flaenorol ar ddyddiad diddymu’r Senedd

26A.145   Rhaid i'r dogfennau i gyd-fynd â'r Bil yn y Senedd flaenorol y cawsant eu cyhoeddi neu eu gosod yn unol â Rheol Sefydlog 15 hyd at ddyddiad diddymu’r Senedd gael eu defnyddio at ddibenion y Bil Preifat pan fo'n cael ei ailgyflwyno yn y Senedd nesaf.

26A.146   Dim ond yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad cyfarfod cyntaf y Senedd nesaf ac yn dod i ben ar y degfed diwrnod gwaith ar hugain ar ôl y dyddiad hwnnw y caiff hyrwyddwr gyflwyno Bil Preifat o dan Reol Sefydlog 26A.144.

26A.147   Rhaid i unrhyw wrthwynebiadau a gyflwynwyd yn ystod y Senedd flaenorol gael eu trin fel gwrthwynebiadau i'r Bil Preifat a gyflwynir yn y Senedd nesaf a rhaid i unrhyw benderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Bil Preifat yn ystod y Senedd flaenorol mewn perthynas â'r gwrthwynebiadau hynny fod yn gymwys. Rhaid peidio â chael unrhyw gyfnod gwrthwynebu pellach ar gyfer Bil Preifat a gyflwynir yn y Senedd nesaf yn ychwanegol at y cyfnod gwrthwynebu a gafwyd ar gyfer y Bil Preifat yn y Senedd flaenorol.

26A.148   Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26A.149, os nad oedd y Cyfnod yr oedd y Bil Preifat ynddo ar ddyddiad diddymu'r Senedd ar ben, rhaid i drafodion y Bil Preifat a gyflwynir yn y Senedd nesaf fel arfer gychwyn ar ddechrau'r Cyfnod.

26A.149   Caiff y trafodion gychwyn yn ddiweddarach yn ystod Cyfnod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor os yw'r hyrwyddwr a phob person a roddodd dystiolaeth lafar i'r Pwyllgor Bil Preifat a sefydlwyd yn y Senedd flaenorol naill ai:

(i)        yn rhoi'r dystiolaeth honno ar lafar i'r Pwyllgor Bil Preifat a sefydlir yn y Senedd nesaf ("y Pwyllgor newydd"); neu

(ii)      yn cytuno y caiff aelodau'r Pwyllgor newydd weld recordiad neu ddarllen trawsgrifiad o'r holl dystiolaeth a roddwyd yn lle hynny.

26A.150   Pan fydd asesydd wedi'i benodi ond heb gyflwyno adroddiad cyn i'r Senedd gael ei ddiddymu, rhaid i'r Pwyllgor Bil Preifat a sefydlir yn y Senedd nesaf ystyried adroddiad yr asesydd.

26A.151   Caniateir i Fil Preifat gael ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg gan yr hyrwyddwr.


 

26B      RHEOL SEFYDLOG 26B – Deddfau Hybrid y Senedd

Biliau Hybrid

26B.1      At ddibenion Rheol Sefydlog 26B, mae Bil Hybrid yn Fil Cyhoeddus a gyflwynir gan aelod o Lywodraeth Cymru sy'n effeithio ar fuddiant preifat penodol unigolyn neu gorff yn wahanol i’r ffordd y mae’n effeithio ar fuddiannau preifat unigolion neu gyrff eraill yn yr un categori neu ddosbarth.

26B.2      Mae Bil Hybrid y mae Rheol Sefydlog 26B.2 yn gymwys iddo yn Fil sy'n ceisio awdurdodi neu hwyluso unrhyw waith adeiladu neu awdurdodi prynu’n orfodol unrhyw ystâd neu fuddiant mewn tir neu dros dir. 

Ffurf Biliau Hybrid a Sut i’w Cyflwyno

26B.3      Caniateir i Fil Hybrid gael ei gyflwyno ar ddiwrnod gwaith mewn wythnos eistedd.

26B.4      Rhaid i Fil Hybrid gael ei gyflwyno drwy gael ei osod gan yr Aelod sy'n gyfrifol.

26B.5      Rhaid peidio â gosod Bil Hybrid oni bai ei fod ar y ffurf briodol yn unol ag unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Llywydd.

26B.6      Pan gyflwynir Bil Hybrid, rhaid cael datganiad Cymraeg a Saesneg gan y Llywydd i gyd-fynd ag ef a rhaid i’r datganiad hwnnw:

(i)     nodi a fyddai darpariaethau’r Bil, ym marn y Llywydd, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd; a

(ii)    nodi unrhyw ddarpariaethau na fyddent, ym marn y Llywydd, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a’r rhesymau dros y farn honno.

26B.7      Rhaid i Fil Hybrid gael ei gyflwyno yn Gymraeg a Saesneg ac eithrio os nad yw gwneud hynny yn unol ag unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 26B.5.

26B.8      Rhaid i Fil Hybrid y mae Rheol Sefydlog 26B.2 yn gymwys iddo beidio â chael ei gyflwyno oni bai bod yr Aelod sy’n gyfrifol wedi cyflawni unrhyw ymgynghoriad neu hysbysiad sy'n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth, ac wedi cydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol eraill, ynghyd ag unrhyw ofynion ymgynghori neu hysbysu ychwanegol a nodir mewn unrhyw benderfyniad neu benderfyniadau a wnaed gan y Llywydd.

Dogfennau i Gyd-fynd â Bil Hybrid

26B.9      Ar yr un pryd ag y bydd yr Aelod sy’n gyfrifol yn cyflwyno Bil Hybrid, rhaid iddo hefyd osod Memorandwm Esboniadol, yn Gymraeg a Saesneg, y mae’n rhaid iddo:

(i)     datgan y byddai darpariaethau’r Bil Hybrid, yn ei farn ef, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd;

(ii)    nodi’r rhesymau pam y mae darpariaethau’r Bil yn ei gwneud yn briodol iddo fynd rhagddo fel Bil Hybrid, gan roi sylw penodol i’r meini prawf yn Rheol Sefydlog 26B.43;

(iii)   nodi amcanion y Bil Hybrid;

(iv)   nodi a gafodd ffyrdd eraill o wireddu’r amcanion eu hystyried ac, os felly, pam y cafodd yr ymagwedd a gymerir yn y Bil Hybrid ei mabwysiadu;

(v)    nodi’r ymgynghori a gafwyd ar y canlynol:

(a)    amcanion y Bil Hybrid a’r ffyrdd o’u gwireddu; a

(b)   manylion y Bil Hybrid, a

(c)    Bil drafft, naill ai yn llawn neu’n rhannol (ac os yn rhannol, pa rannau);

(vi)   nodi crynodeb o ddeilliant yr ymgynghori hwnnw, gan gynnwys sut a pham y  mae unrhyw Fil drafft wedi cael ei ddiwygio;

(vii)  os na chyhoeddwyd y Bil, neu ran o'r Bil, yn flaenorol fel drafft, datgan y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw;

(viii) crynhoi yn wrthrychol yr hyn y bwriedir i bob un o ddarpariaethau’r Bil Hybrid ei wneud (i’r graddau y mae angen esbonio hynny neu y mae angen cyflwyno sylwadau ar hynny) a rhoi’r wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i esbonio effaith y Bil;

(ix)   yn achos Bil nad yw Rheol Sefydlog 26B.2 yn gymwys iddo, nodi'r amcangyfrifon gorau o'r canlynol:

(a)    y costau gweinyddol gros, y costau cydymffurfio gros a’r costau gros eraill y byddai darpariaethau’r Bil yn arwain atynt;

(b)    yr arbedion gweinyddol y byddai'r Bil yn arwain atynt;

(c)    costau gweinyddol net darpariaethau'r Bil;

(d)    dros ba gyfnodau amser y disgwylid i’r holl gostau ac arbedion hynny godi; ac

(e)    ar bwy y byddai’r costau’n syrthio;

(x)    nodi unrhyw fanteision ac anfanteision amgylcheddol a chymdeithasol sy'n deillio o'r Bil na ellir eu mesur yn ariannol;

(xi)   os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, nodi mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath:

(a)    y person neu’r corff y rhoddir y pŵer iddo ac ym mha fodd y mae’r pŵer i gael ei arfer;

(b)   pam y bernir ei bod yn briodol dirprwyo’r pŵer; ac

(c)    gweithdrefn y Senedd (os oes un) y mae’r is-ddeddfwriaeth a wnaed neu sydd i’w gwneud wrth arfer y pŵer i ddod oddi tani, a pham y barnwyd ei bod yn briodol ei gosod o dan y weithdrefn honno (ac nid ei gosod o dan unrhyw weithdrefn arall);

(xii) os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy'n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru, ymgorffori adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol sy’n nodi ei farn ef ar a yw’r tâl yn briodol neu beidio; a

(xiii)   nodi'r effaith bosibl (os o gwbl) ar y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr yn sgil darpariaethau'r Bil ("asesiad effaith ar gyfiawnder"), yn unol ag adran 110A o'r Ddeddf.

26B.10    Yn achos Bil Hybrid y mae Rheol Sefydlog 26B.2 yn gymwys iddo, rhaid i'r Memorandwm Esboniadol hefyd gynnwys:

(i)     manylion llawn am sut y cydymffurfiwyd â'r gofynion a nodir yn Rheol Sefydlog 26B.8;

(ii)    Datganiad Amcangyfrif o Dreuliau a Chyllid sy'n nodi amcangyfrif o gyfanswm cost y prosiect a gynigir yn y Bil Hybrid a'r ffynonellau cyllid a ragwelir er mwyn talu am gost y prosiect ac unrhyw fanylion ariannol eraill y penderfynir arnynt gan y Llywydd;

(iii)   y cyfryw fapiau, cynlluniau, trawsluniau a llyfrau o gyfeiriadau ag sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth neu gan unrhyw benderfyniad neu benderfyniadau a wneir gan y Llywydd; a

(iv)   Datganiad Amgylcheddol sy'n nodi’r cyfryw wybodaeth ag sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth, a gan unrhyw benderfyniad neu benderfyniadau a wneir gan y Llywydd, am yr effaith amgylcheddol y rhagwelir y bydd y Bil yn ei chael.

26B.11    Rhaid i'r Memorandwm Esboniadol i'r Bil ddatgan lle ynddo yn union y gellir dod o hyd i bob un o ofynion Rheol Sefydlog 26B.9 a Rheol Sefydlog 26B.10, os yn berthnasol, drwy gyfrwng mynegai neu mewn rhyw ffordd arall.

26B.12    Pan fo darpariaethau'r Bil yn deillio o ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol, boed at ddibenion diwygio neu gydgrynhoi, rhaid darparu tabl tarddiadau i gyd-fynd â'r Memorandwm Esboniadol er mwyn esbonio'n glir beth yw'r berthynas rhwng y Bil a'r fframwaith cyfreithiol presennol.

26B.13    Pan fo'r Bil yn cynnig diwygio deddfwriaeth sylfaenol bresennol yn sylweddol, rhaid darparu atodlen i gyd-fynd â'r Memorandwm Esboniadol, yn nodi geiriad deddfwriaeth bresennol sy’n cael ei diwygio gan y Bil, ac yn nodi’n eglur sut y caiff y geiriad hwnnw ei ddiwygio gan y Bil.

26B.14    Pan osodir Memorandwm Esboniadol yn unol â Rheol Sefydlog 26B.9, rhaid cael Datganiad gan yr Aelod sy'n gyfrifol i gyd-fynd ag ef a rhaid i'r datganiad hwnnw nodi:

(i)     yn achos Bil Hybrid sy’n cynnwys darpariaeth a fydd yn effeithio ar eiddo, ystâd neu fuddiant mewn tir, neu ar hawliau neu ddyletswyddau contractiol eraill unigolyn neu gorff mewn modd sy’n wahanol i’r ffordd y mae’n effeithio ar fuddiannau preifat unigolion neu gyrff eraill yn yr un categori neu ddosbarth, fanylion unrhyw hysbysiad ynglŷn â’r ddarpariaeth arfaethedig a roddwyd gan yr Aelod sy'n gyfrifol i unrhyw bersonau neu ddosbarthiadau o berson yr effeithir ar ei eiddo, ei ystâd neu fuddiant mewn tir, neu ar ei hawliau neu ei ddyletswyddau contractiol eraill a manylion unrhyw ymateb a gafwyd;

(ii)    yn achos Bil Hybrid sy’n cynnwys darpariaeth i roi pwerau i unrhyw gorff corfforaethol neu unrhyw gymdeithas anghorfforedig o bersonau, neu i ddiwygio’u cyfansoddiad, fanylion unrhyw hysbysiad ynglŷn â’r ddarpariaeth arfaethedig a roddwyd gan yr Aelod sy'n gyfrifol i’r corff corfforaethol neu’r gymdeithas anghorfforedig o bersonau a manylion unrhyw ymateb a gafwyd;

(iii)   datganiad yn rhestru'r mangreoedd lle y caniateir archwilio neu brynu unrhyw ddogfennau ategol sy'n berthnasol i'r Bil Hybrid, ond nad ydynt yn ddogfennau ategol a gyhoeddir gan y Senedd;

(iv)   ymrwymiad i anfon copi o'r Bil Hybrid a'r holl ddogfennau ategol perthnasol i'r mangreoedd y cyfeirir atynt yn Rheol Sefydlog 26B.14(c) ac, yn achos Bil Hybrid y mae Rheol Sefydlog 26B.2 yn gymwys iddo, at y rhai y mae'n ofynnol ymgynghori â hwy neu eu hysbysu yn unol â Rheol Sefydlog 26B.8.

(v)    ymrwymiad i dalu unrhyw gostau y gall y Comisiwn benderfynu arnynt ac y gall y Comisiwn eu hysgwyddo yn ystod hynt y Bil Hybrid mewn perthynas â phenodi a defnyddio asesydd yn unol â Rheol Sefydlog 26B.54 a 26B.55.

(vi)   os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy'n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru, ymgorffori adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol sy’n nodi ei farn ef ar a yw’r tâl yn briodol neu beidio.

Hysbysiad bod Bil Hybrid wedi’i gyflwyno

26B.15    Cyn gynted ag y bydd Bil Hybrid wedi’i gyflwyno, rhaid i’r Aelod sy'n  gyfrifol gyhoeddi hysbysiad sy’n datgan:

(i)     effaith gyffredinol y Bil Hybrid;

(ii)    y gall y Bil Hybrid a'r holl ddogfennaeth ategol gael eu harchwilio yn y Senedd ac mewn un neu ragor o fannau yng Nghymru gan gynnwys, yn achos Bil Hybrid sy’n effeithio ar un ardal yn unig yng Nghymru, fan yn yr ardal honno;

(iii)   y caiff personau sy’n credu y byddai’r Bil Hybrid yn effeithio’n andwyol ar eu buddiannau wneud gwrthwynebiad i’r Llywydd yn ystod y cyfnod o 40 diwrnod gwaith sy’n dechrau ar y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad gyntaf mewn papur newydd (“y cyfnod gwrthwynebu”);

(iv)   sut i gyflwyno gwrthwynebiad a’r wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y gwrthwynebiad hwnnw, gan roi sylw i Reol Sefydlog 26B.21;

(v)    y caiff gwrthwynebiad ofyn naill ai i’r Bil Hybrid beidio â chael ei gymeradwyo neu i newidiadau gael eu gwneud i’r Bil Hybrid cyn iddo gael ei gymeradwyo;

(vi)   bod rhaid i’r person sy’n gwneud gwrthwynebiad gydymffurfio ag unrhyw benderfyniad neu benderfyniadau a wneir gan y Llywydd ynghylch gwneud gwrthwynebiad.

26B.16    Wrth gyfrifo'r cyfnod gwrthwynebu o dan Reol Sefydlog 26B.15(iii), ni roddir ystyriaeth i unrhyw gyfnod sy'n dechrau ar ddiwrnod diddymu'r Senedd ac yn gorffen ar ddyddiad ailgyflwyno Bil Hybrid yn y Senedd nesaf.

26B.17    Rhaid i hysbysiad o dan Reol Sefydlog 26B.15 gael ei gyhoeddi:

(i)     mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg ledled Cymru (neu, os yw’r Bil Hybrid yn effeithio ar un ardal yn unig yng Nghymru, ledled yr ardal honno); a

(ii)    drwy ba fodd arall bynnag sy’n briodol, yn unol ag unrhyw benderfyniad neu benderfyniadau a wneir gan y Llywydd, i’w ddwyn i sylw’r rhai y mae’r Bil Hybrid yn debyg o effeithio ar eu buddiannau.

26B.18    Cyn gynted ag y bydd yr Aelod sy'n gyfrifol wedi cydymffurfio â gofynion Rheol Sefydlog 26B.15, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o’r ffaith honno i’r Llywydd, gan roi manylion y canlynol:

(i)     sut y cydymffurfiwyd â’r gofynion hynny; a

(ii)    y trefniadau a wnaeth yr Aelod sy'n gyfrifol i sicrhau y gallai’r Bil Hybrid gael ei archwilio (heblaw yn y Senedd) yn unol â Rheol Sefydlog 26B.15(ii).

Gwrthwynebu

26B.19    Caiff person unigol, corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig o bersonau sydd o’r farn y byddai Bil Hybrid a gyflwynid yn y Senedd yn effeithio’n andwyol ar eu buddiannau (“gwrthwynebydd”) wneud gwrthwynebiad i’r Llywydd mewn ysgrifen, yn unol â hysbysiad a roddir o dan Reol Sefydlog 26B.15, yn ystod y cyfnod gwrthwynebu a bennir yn Rheol Sefydlog 26B.15(iii).

26B.20    Rhaid i’r Llywydd ddyfarnu a yw gwrthwynebiad yn dderbyniadwy.

26B.21    Dim ond:

(i)     os yw’n cydymffurfio ag unrhyw benderfyniad neu benderfyniadau a wneir gan y Llywydd ynglŷn â gwneud gwrthwynebiad;

(ii)    os yw’n nodi natur y gwrthwynebiad;

(iii)   os yw’n nodi’r darpariaethau yn y Bil Hybrid sy’n arwain at y gwrthwynebiad;

(iv)   os yw’n pennu sut y byddai’r Bil Hybrid yn effeithio’n andwyol ar fuddiannau’r gwrthwynebydd y bydd gwrthwynebiad yn dderbyniadwy.

26B.22    Rhaid i’r Llywydd roi gwybod i’r gwrthwynebydd am ei benderfyniad o dan Reol Sefydlog 26B.20 ac, os dyfernir nad yw gwrthwynebiad yn dderbyniadwy, rhaid i’r Llywydd roi rhesymau i’r gwrthwynebydd dros y penderfyniad hwnnw.

26B.23    Ar ôl i’r cyfnod gwrthwynebu ddod i ben, rhaid i’r Clerc gyhoeddi pob gwrthwynebiad derbyniadwy.

26B.24    Os caiff y Llywydd wrthwynebiad ar ôl i’r cyfnod gwrthwynebu ddod i ben ond cyn y cyfarfod cyntaf ar gyfer Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, ac os ceir gyda’r gwrthwynebiad hwnnw ddatganiad gan y gwrthwynebydd sy’n esbonio’r oedi cyn cyflwyno’r gwrthwynebiad, rhaid i’r Llywydd benderfynu a yw wedi’i fodloni:

(i)     bod y gwrthwynebiad yn dderbyniadwy, yn unol â Rheol Sefydlog 26B.21;

(ii)    bod gan y gwrthwynebydd reswm da dros beidio â gwneud y gwrthwynebiad o fewn y cyfnod gwrthwynebu;

(iii)   bod y gwrthwynebydd wedi gwneud y gwrthwynebiad cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben; a

(iv)   na fyddai’n afresymol ystyried y gwrthwynebiad hwnnw o gofio hawliau a buddiannau’r gwrthwynebwyr a Llywodraeth Cymru.

26B.25    Os yw’r Llywydd wedi’i fodloni felly:

(i)     rhaid iddo roi gwybod i’r gwrthwynebydd am ei benderfyniad;

(ii)    rhaid i’r Clerc gyhoeddi’r gwrthwynebiad; a

(iii)   rhaid i’r pwyllgor a sefydlir yn unol â Rheol Sefydlog 26B.30 roi ystyriaeth i’r gwrthwynebiad.

26B.26    Os nad yw’r Llywydd wedi’i fodloni felly, rhaid iddo:

(i)     rhoi gwybod i’r gwrthwynebydd am ei benderfyniad, a;

(ii)    rhoi rhesymau dros y penderfyniad hwnnw i’r gwrthwynebydd.

26B.27    Caniateir i wrthwynebiad gael ei dynnu’n ôl gan y gwrthwynebydd, yn unol ag unrhyw benderfyniad a wneir gan y Llywydd.

Datganiadau mewn perthynas ag ymgynghori

26B.28    Caiff unrhyw berson yr ymgynghorwyd ag ef neu unrhyw berson a hysbyswyd yn unol â Rheol Sefydlog 26B.8, yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, ddwyn unrhyw ddiffyg yn y broses ymgynghori neu hysbysu i sylw'r Llywydd drwy gyflwyno datganiad ysgrifenedig.

26B.29    Ni chaniateir trin datganiad o'r fath fel gwrthwynebiad o dan Reol Sefydlog 26B.19 ond caiff Pwyllgor Bil Hybrid ei ystyried yn unol â Rheol Sefydlog 26B.43(ii).

Pwyllgorau Biliau Hybrid

26B.30    Pan fydd Bil Hybrid wedi’i gyflwyno, rhaid i'r Senedd ystyried cynnig i sefydlu Pwyllgor Bil Hybrid, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5.

26B.31    Mae Rheolau Sefydlog 17.3 a 17.7 yn gymwys i Bwyllgor Bil Hybrid ac eithrio bod rhaid iddo gynnwys dim llai na phedwar o aelodau.

26B.32    Rhaid i unrhyw Aelod y mae ganddo, neu y mae’n disgwyl y bydd ganddo, neu hyd y gŵyr yr Aelod, y mae gan ei bartner neu y mae gan unrhyw blentyn dibynnol iddo, neu y mae’n disgwyl y bydd ganddo, fuddiant y mae’n ofynnol ei gofrestru o dan Reol Sefydlog 2 y gellid barnu ei fod yn rhagfarnu ystyriaeth ddiduedd ar Fil Hybrid, beidio â bod yn aelod o’r pwyllgor a sefydlir i ystyried y Bil hwnnw.

26B.33    Rhaid i unrhyw Aelod y cynigir ei enw i fod yn aelod o Bwyllgor Bil Hybrid roi gwybod i’r Pwyllgor Busnes am unrhyw fuddiant o’r math y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26B.32 a hefyd am unrhyw fuddiant personol, etholaethol neu ranbarthol perthnasol arall sydd ganddo neu, hyd y gŵyr yr Aelod, sydd gan aelod o'i deulu, neu y mae’n disgwyl y bydd ganddo, y gallai eraill ystyried yn rhesymol ei fod yn rhagfarnu ystyriaeth ddiduedd ar y Bil Hybrid.

26B.34    At ddibenion Rheol Sefydlog 26B.32, mae ystyron “partner” a “plentyn dibynnol” fel y’u diffiniwyd ym mharagraff 4 o’r Atodiad i Reol Sefydlog 2.

26B.35    Rhaid i unrhyw wybodaeth a roddir yn unol â Rheol Sefydlog 26B.32 ynglŷn ag Aelod y cynigir ei enw i fod yn aelod o Bwyllgor Bil Hybrid gael ei gyhoeddi yr un pryd â’r cynnig i sefydlu’r pwyllgor hwnnw.

26B.36    Rhaid i bob aelod o Bwyllgor Bil Hybrid, cyn cyfarfod cyntaf y pwyllgor hwnnw, fod wedi cyflawni cwrs hyfforddi perthnasol fel y pennwyd gan y Llywydd.

26B.37    Rhaid i bob aelod o Bwyllgor Bil Hybrid, yng nghyfarfod cyntaf y pwyllgor hwnnw, gytuno i weithredu’n ddiduedd, yn rhinwedd swydd yr Aelod hwnnw fel aelod o’r pwyllgor hwnnw, a seilio penderfyniadau ar y dystiolaeth a’r wybodaeth arall a ddarperir i’r pwyllgor hwnnw yn unig.

26B.38    Rhaid i aelodau Pwyllgor Bil Hybrid, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol, fod yn bresennol yn holl gyfarfodydd y Pwyllgor Bil Hybrid.

26B.39    Ni chaiff aelod o Bwyllgor Bil Hybrid gymryd rhan mewn unrhyw drafodion ar y Bil Hybrid oni bai:

(i)     bod yr holl dystiolaeth sy’n ymwneud â’r Bil Hybrid hwnnw a roddwyd ar lafar yn ystod trafodion y pwyllgor wedi’i rhoi yng ngŵydd yr Aelod, neu

(ii)    gyda chytundeb yr Aelod sy'n gyfrifol ac unrhyw wrthwynebydd y mae’r dystiolaeth yn ymwneud ag ef, fod yr Aelod hwnnw wedi gweld recordiad neu wedi darllen trawsgrifiad o’r holl dystiolaeth nas rhoddwyd yng ngŵydd yr Aelod.

26B.40    Nid yw Rheolau Sefydlog 17.12, 17.17 na 17.48 yn gymwys i Bwyllgor Bil Hybrid.

26B.41    Nid yw Rheol Sefydlog 17.49 yn gymwys i Bwyllgor Bil Hybrid, ac eithrio wrth i’r pwyllgor ystyried trafodion ar welliannau.

Yr Ystyriaeth Gychwynnol

26B.42    Pan fydd y cyfnod gwrthwynebu a bennir yn Rheol Sefydlog 26B.15(iii) wedi dod i ben, rhaid i'r Pwyllgor Bil Hybrid a sefydlwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26B.30 (“y pwyllgor”), ystyried a ddylai’r Bil fynd rhagddo fel Bil Hybrid a chyflwyno adroddiad ar hynny.

26B.43    Wrth ystyried a ddylai Bil fynd rhagddo fel Bil Hybrid, rhaid i'r pwyllgor ystyried:

(i)     a yw’r dogfennau sy’n cyd-fynd â’r Bil ac a osodwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 26B.9 i 26B.14, ym marn y pwyllgor, yn ddigonol i ganiatáu gwaith craffu priodol ar y Bil;

(ii)    a gynhaliodd yr Aelod sy'n gyfrifol ymgynghori digonol cyn i’r Bil gael ei gyflwyno;

(iii)   a yw darpariaethau’r Bil yn peri ei fod yn briodol i’w ystyried fel Bil Hybrid yn unol â Rheol Sefydlog 26B, gan roi sylw penodol i’r canlynol:

(a)    i ba raddau y mae ei ddarpariaethau yn effeithio ar faterion o bolisi cyhoeddus;

(b)   i ba raddau y mae ei ddarpariaethau yn diwygio neu’n diddymu deddfwriaeth arall;

(c)    maint yr ardal y mae’n effeithio arni;

(d)   nifer a natur y buddiannau y mae’n effeithio arnynt.

26B.44    Os yw’n ymddangos i’r pwyllgor nad yw’r dogfennau sy’n cyd-fynd â’r Bil yn ddigonol i alluogi’r pwyllgor i gyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 26B.42, caiff y pwyllgor, cyn cyflwyno adroddiad ynghylch a ddylai’r Bil fynd rhagddo fel Bil Hybrid, ganiatáu unrhyw gyfnod rhesymol y mae’r pwyllgor yn credu ei fod yn briodol i’r Aelod sy'n gyfrifol ddarparu unrhyw wybodaeth arall sydd ym marn y pwyllgor yn angenrheidiol (“dogfennau ategol ychwanegol”).

26B.45    Rhaid i unrhyw ddogfennau ategol ychwanegol gael eu gosod.

26B.46    Ar ôl i’r pwyllgor gyflwyno’i adroddiad, caiff yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil Hybrid gyflwyno cynnig bod y Senedd yn cytuno i’r Bil fynd rhagddo fel Bil Hybrid.

26B.47    Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.46, mae’r Bil yn symud ymlaen i Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

26B.48    Os gwrthodir cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.46, mae’r Bil yn methu.

26B.49    Mae’r Ystyriaeth Gychwynnol ar ben pan fydd y Senedd wedi cytuno y dylai’r Bil fynd rhagddo fel Bil Hybrid neu pan fydd y Bil yn methu fel rhan o’r Ystyriaeth Gychwynnol.

Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

26B.50    Mae Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i’r Ystyriaeth Gychwynnol ddod i ben.

26B.51    Rhaid i’r trafodion adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor gael eu hystyried gan y Pwyllgor Bil Hybrid a sefydlwyd o dan Reol Sefydlog 26B.30.

26B.52    Adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, rhaid i’r pwyllgor:

(i)     ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil Hybrid a chyflwyno adroddiad arnynt;

(ii)    ystyried unrhyw wrthwynebiadau derbyniadwy, heblaw unrhyw wrthwynebiad nad oes iddo, ym marn y pwyllgor, sail o sylwedd a chyflwyno adroddiad arnynt;

(iii)   lle y bo'n briodol, ystyried a chyflwyno adroddiad ar unrhyw ddarpariaeth sy'n rhoi'r pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth a nodir yn y Memorandwm Esboniadol i'r Bil; a

(iv)   ystyried manylion y Bil Hybrid yn unol â Rheolau Sefydlog 26B.63 i 26B.78 (gan gynnwys unrhyw welliannau derbyniadwy).

26B.53    Mae gan y personau a ganlyn hawl i gael eu gwrando gerbron y pwyllgor yn bersonol, neu i gael eu cynrychioli:

(i)     yr Aelod sy'n gyfrifol ac unrhyw aelod arall o'r llywodraeth;

(ii)    unrhyw wrthwynebydd (yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26B.60) sydd wedi cyflwyno gwrthwynebiad derbyniadwy y mae’r pwyllgor o’r farn bod iddo sail o sylwedd;

               a chânt gymryd rhan yn y trafodion yn unol ag unrhyw ddyfarniadau gan y Cadeirydd.

Penodi asesydd i ystyried gwrthwynebiadau

26B.54    Pan fydd Pwyllgor a sefydlwyd i ystyried Bil Hybrid yn ystyried bod hynny'n briodol, caiff benodi asesydd, neu aseswyr, i ystyried gwrthwynebiadau.

26B.55    Caiff yr asesydd, neu aseswyr, gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Bil Hybrid ynghylch:

i)      a oes sail o sylwedd ar gyfer gwrthwynebiadau derbyniadwy;

ii)     argymhellion ar gyfer grwpio gwrthwynebiadau;

iii)    dethol tystion ac a ddylid gofyn am dystiolaeth gan y tystion hynny ar lafar neu'n ysgrifenedig;

a chaiff gyflawni unrhyw swyddogaethau eraill yng nghyfnod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor y penderfynir arnynt gan y Pwyllgor.

26B.56    Caiff y Cadeirydd, wrth ddyfarnu ar sut y caiff gwrthwynebydd (neu berson arall) gymryd rhan yn y trafodion, ystyried natur y gwrthwynebiad neu’r sylwadau eraill ac i ba raddau y mae natur y cyfraniad hwnnw yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r pwyllgor i ystyried y gwrthwynebiad a chyflwyno adroddiad arno.

26B.57    Caiff y Pwyllgor wahodd unrhyw bersonau eraill y mae’n barnu eu bod yn briodol i roi tystiolaeth.

26B.58    Rhaid i'r Pwyllgor Bil Hybrid ystyried rhinweddau'r gwrthwynebiadau yng nghyd-destun:

(i)     unrhyw dystiolaeth a gyflwynir iddo; neu

(ii)    unrhyw adroddiad a gaiff ei baratoi gan unrhyw asesydd neu aseswyr a benodir yn unol â Rheol Sefydlog 26B.54.

26B.59    Caiff y Pwyllgor Bil Hybrid dderbyn neu wrthod–

(i)     unrhyw wrthwynebiad yn ei gyfanrwydd neu unrhyw ran ohono;

(ii)    adroddiad asesydd yn ei gyfanrwydd neu unrhyw ran ohono.

26B.60    Os yw’r pwyllgor o’r farn bod dau neu fwy o wrthwynebiadau yr un fath neu’n debyg i’w gilydd, caiff grwpio’r gwrthwynebiadau hynny gyda’i gilydd a dewis un neu ragor o wrthwynebwyr o’r grŵp hwnnw i roi tystiolaeth ac i gymryd rhan fel arall mewn perthynas â’r gwrthwynebiadau hynny.

26B.61    Os yw’r pwyllgor, wrth baratoi ei adroddiad o dan Reol Sefydlog 26B.52(i), (ii) a (iii), yn bwriadu argymell newid yn y Bil Hybrid a phe bai’r newid hwnnw, o’i wneud, ym marn pwyllgor, yn effeithio ar fuddiannau’r personau eraill y cyfeirir atynt yn Rheol Sefydlog 26B.62, caiff y Pwyllgor gymryd unrhyw gamau y mae’n barnu eu bod yn briodol er mwyn sicrhau y caiff y personau eraill hynny gyfle rhesymol i gyflwyno sylwadau i’r pwyllgor mewn perthynas â’r argymhelliad hwnnw.

26B.62  At ddibenion Rheol Sefydlog 26B.61, ystyr “personau eraill” yw:

(i)     personau nad effeithiwyd ar eu buddiannau gan y Bil Hybrid fel y’i cyflwynwyd ond y byddid yn effeithio ar eu buddiannau pe câi’r newidiadau arfaethedig eu gwneud yn y Bil Hybrid, neu

(ii)    gwrthwynebwyr presennol y byddid yn effeithio ar eu buddiannau i raddau helaethach neu mewn ffyrdd newydd pe câi’r newidiadau arfaethedig eu gwneud yn y Bil Hybrid, gan arwain at seiliau newydd o sylwedd dros wrthwynebu.

26B.63    Caniateir i Fil Hybrid gael ei ddiwygio yn ystod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

26B.64    Rhaid i 25 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng y diwrnod y gosodir yr adroddiad o dan Reol Sefydlog 26B.52(i), (ii) a (iii) a dyddiad y cyfarfod cyntaf y bydd y pwyllgor yn ystyried manylion y Bil Hybrid ynddo yn unol â Rheol Sefydlog 26B.52(iv).

26B.65    Heb fod yn hwyrach na phum diwrnod gwaith ar ôl i adroddiad y pwyllgor gael ei osod, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig na ddylai’r Bil Hybrid fynd ymhellach.

26B.66    Os na chyflwynir cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.65, neu os cyflwynir cynnig o'r fath ond fe'i gwrthodir, bernir bod y Senedd wedi cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Hybrid a rhaid i’r pwyllgor fynd rhagddo i waredu gwelliannau i’r Bil Hybrid, yn unol â Rheol Sefydlog 26B.52(iv).

26B.67    Rhaid trefnu bod amser ar gael i gynnig a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 26B.65 gael ei drafod o fewn 10 diwrnod gwaith i ddyddiad cyflwyno’r cynnig (heb gyfrif diwrnodau gwaith mewn wythnos pan nad yw’r Senedd yn eistedd).

26B.68    Os derbynnir cynnig a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 26B.65, mae’r Bil Hybrid yn methu.

26B.69    Caniateir i welliannau i’w hystyried yn ystod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor gael eu cyflwyno heb fod yn gynharach na’r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl y diwrnod y gosododd y pwyllgor ei adroddiad o dan Reol Sefydlog 26B.52(i), (ii) a (iii).

26B.70    O dan amgylchiadau eithriadol, caiff Cadeirydd y pwyllgor dderbyn gwelliant yn ystod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor y rhoddwyd llai o hysbysiad ohono na’r hyn sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 26B.120. Cyfeirir at welliant o’r fath fel “gwelliant hwyr”.

26B.71    Mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Hybrid, oni bai bod y pwyllgor wedi penderfynu fel arall.

26B.72    Dim ond Aelod sy’n aelod o’r pwyllgor a gaiff gymryd rhan yn nhrafodion y pwyllgor hwnnw at y dibenion a ganlyn:

(i)     cynnig gwelliant neu ofyn am gytundeb i dynnu gwelliant yn ôl; neu

(ii)    pleidleisio.

26B.73    Caniateir i welliant gan Aelod nad yw’n aelod o’r Pwyllgor gael ei gynnig gan aelod o’r pwyllgor.

26B.74    Os cyflwynir gwelliant i adran o’r Bil Hybrid neu atodlen iddo, pan fydd y gwelliant olaf i’r adran honno neu’r atodlen honno wedi’i waredu, bernir bod y pwyllgor wedi cytuno ar yr adran honno neu’r atodlen honno fel y’i diwygiwyd, neu fel arall, at ddibenion trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

26B.75    Os na chyflwynir gwelliant i adran o’r Bil Hybrid neu atodlen iddo, bernir bod y pwyllgor wedi cytuno ar yr adran honno neu’r atodlen honno at ddibenion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

26B.76    Mae Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ar ben pan fydd y gwelliant olaf wedi’i waredu neu pan fernir bod yr adran neu’r atodlen olaf wedi’i chytuno, pa un bynnag yw’r olaf.

26B.77    Os caiff Bil Hybrid ei ddiwygio yn ystod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, rhaid i’r Aelod sy’n gyfrifol amdano baratoi Memorandwm Esboniadol diwygiedig, oni bai bod y pwyllgor yn penderfynu nad oes angen Memorandwm Esboniadol diwygiedig.

26B.78    Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol diwygiedig a gaiff ei baratoi o dan Reol Sefydlog 26B.77 gael ei osod o leiaf bum diwrnod gwaith cyn dyddiad cyfarfod cyntaf y Senedd sy’n ystyried trafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

Ystyriaeth Fanwl y Senedd

26B.79    Mae Ystyriaeth Fanwl y Senedd yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ddod i ben.

26B.80    Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng y diwrnod y mae Ystyriaeth Fanwl y Senedd yn dechrau a dyddiad cyfarfod cyntaf y Senedd sy’n ystyried trafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

26B.81    Rhaid i Ystyriaeth Fanwl y Senedd gael ei hystyried gan y Senedd mewn cyfarfod llawn.

26B.82    Caniateir i Fil Hybrid gael ei ddiwygio adeg Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

26B.83    Caniateir i welliannau i’w hystyried adeg Ystyriaeth Fanwl y Senedd gael eu cyflwyno gan unrhyw Aelod o’r diwrnod cyntaf y bydd y cyfnod yn dechrau.

26B.84    Caiff y Llywydd ddethol y gwelliannau hynny yr ymdrinnir â hwy adeg Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

26B.85    Mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Hybrid, oni bai bod y Senedd wedi penderfynu fel arall drwy gynnig a gyflwynir gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y Llywodraeth.

26B.86    Drwy gynnig heb hysbysiad a gyflwynir gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y Llywodraeth, caiff y Senedd gytuno ar un neu fwy o derfynau amser sydd i fod yn gymwys mewn dadleuon ar welliannau (fel y maent wedi’u grwpio gan y Llywydd).

26B.87    Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.86, rhaid i’r dadleuon ar y grwpiau hynny o welliannau gael eu gorffen erbyn y terfynau amser a bennwyd yn y cynnig, ac eithrio i’r graddau y mae’r Llywydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol:

(i)     am fod peidio â chynnig gwelliant wedi arwain at newid trefn trafod y grwpiau; neu

(ii)    i atal unrhyw ddadl ar grŵp o welliannau sydd eisoes wedi dechrau pan gyrhaeddir y terfyn amser rhag cael ei chwtogi’n afresymol.

26B.88    Dim ond os ydynt, yn ychwanegol at y meini prawf yn Rheol Sefydlog 26B.122, wedi’u bwriadu ar gyfer y canlynol:

(i)     egluro geiriad darpariaeth yn y Bil Hybrid (gan gynnwys dileu anghysondebau yn y testunau Cymraeg a Saesneg neu rhyngddynt), neu

(ii)    rhoi eu heffaith i ymrwymiadau a roddwyd ar ran yr Aelod sy'n gyfrifol adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, neu

(iii)     rhoi eu heffaith i unrhyw argymhellion a wnaed gan y pwyllgor yn ei adroddiad o dan Reol Sefydlog 26B.52(i) a (ii),

y mae gwelliannau adeg Ystyriaeth Fanwl y Senedd yn dderbyniadwy.

26B.89    Os cyflwynir gwelliant i adran o’r Bil Hybrid neu atodlen iddo, pan fydd y gwelliant olaf i’r adran honno neu’r atodlen honno wedi’i waredu, bernir bod y Senedd wedi cytuno ar yr adran honno neu’r atodlen honno fel y’i diwygiwyd, neu fel arall, at ddibenion Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

26B.90    Os na chyflwynir gwelliant i adran neu atodlen, bernir bod y Senedd wedi cytuno ar yr adran honno neu’r atodlen honno at ddibenion trafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

26B.91    Mae Ystyriaeth Fanwl y Senedd ar ben pan fydd y gwelliant olaf wedi’i waredu neu pan fernir bod yr adran neu’r atodlen olaf wedi’i chytuno, pa un bynnag yw'r olaf.

Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor

26B.92  Pan fydd yr holl welliannau a ddetholwyd yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd wedi eu gwaredu yn unol â Rheol Sefydlog 26B.91, caiff unrhyw Aelod, gyda chytundeb y Llywydd, gynnig heb hysbysiad fod unrhyw ran o'r Bil Hybrid a bennir yn y cynnig yn cael ei gyfeirio'n ôl at y Pwyllgor Bil Hybrid ar gyfer Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor.

26B.93    Mae Rheolau Sefydlog 26B.63 a 26B.69 hyd at 26B.78 yn gymwys i Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor. Dylid dehongli cyfeiriadau at "Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor" yn gyfeiriadau at "Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor" yn unol â hynny.

26B.94    Mae Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl derbyn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.92.

26B.95    Yng nghyfnod Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor caiff y pwyllgor wahodd unrhyw bersonau eraill y mae’n barnu eu bod yn briodol i roi tystiolaeth.

26B.96    Caniateir i welliannau i’w hystyried yn ystod Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor gael eu cyflwyno heb fod yn gynharach na’r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl y diwrnod y dechreuodd Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor.

26B.97    Yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26B.122, dim ond os ydynt yn welliannau i'r darpariaethau a gyfeiriwyd yn ôl at y Pwyllgor Bil Hybrid, neu os ydynt yn welliannau y byddai eu hangen o ganlyniad i dderbyn unrhyw welliannau a gyflwynwyd yng nghyfnod Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor, y mae gwelliannau yng nghyfnod Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor yn dderbyniadwy.

Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd

26B.98    Pan fydd Ystyriaeth Fanwl y Senedd ar ben yn unol â Rheol Sefydlog 26B.91, neu pan fydd Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor ar ben yn unol â Rheol Sefydlog 26B.76 os cafodd ei chynnal, caiff unrhyw Aelod sy'n gyfrifol, heb hysbysiad, gynnig bod y Senedd yn ystyried gwelliannau mewn Cyfnod Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd. Caniateir trafod cynnig o’r fath ond ni chaniateir ei ddiwygio.

26B.99    Mae Cyfnod Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i’r Senedd dderbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.98.

26B.100  Mae Rheolau Sefydlog 26B.80 i 26B.91 yn gymwys i drafodion Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd. Dylid dehongli cyfeiriadau at "Ystyriaeth Fanwl y Senedd" yn gyfeiriadau at "Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd", a dylid dehongli cyfeiriadau at "Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor" yn gyfeiriadau at "Ystyriaeth Fanwl y Senedd" yn unol â hynny.

Y Cyfnod Terfynol

26B.101  Rhaid i Gyfnod Terfynol Bil Hybrid gael ei gymryd gan y Senedd mewn cyfarfod llawn.

26B.102  Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26B.106, caiff unrhyw Aelod, heb fod yn gynharach na phum diwrnod gwaith ar ôl cwblhau Ystyriaeth Fanwl y Senedd, neu Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor neu Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd os cawsant eu cynnal, gyflwyno cynnig bod y Bil Hybrid yn cael ei basio.

26B.103  Rhaid cyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.102 o leiaf un diwrnod gwaith cyn y caiff ei drafod.

26B.104  Yn ddarostyngedig i Reolay Sefydlog 26B.106 a 26B.106A, yn union ar ôl cwblhau Ystyriaeth Fanwl y Senedd, neu Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd os caiff ei chynnal, caiff unrhyw Aelod, gyda chytundeb y Llywydd, gynnig heb hysbysiad fod y Bil Hybrid yn cael ei basio.

26B.105  Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig y dylai Bil Hybrid gael ei basio.

26B.106  Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Hybrid yn cael ei basio oni bai bod testun y Bil Hybrid ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

26B.106A Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Hybrid yn cael ei basio nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

26B.106B Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil ei basio oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Senedd.

26B.106C Rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynnig bod Bil Hybrid yn cael ei basio.

26B.107  Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 12.31(ii) mewn unrhyw drafodion Cyfnod Terfynol.

Ailystyried Biliau Hybrid a Basiwyd

26B.108  Yn unol ag adran 113 o’r Ddeddf, ar ôl i'r Bil Hybrid gael ei basio, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Senedd ailystyried y Bil Hybrid, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo:

(i)     os oes cwestiwn ynglŷn â'r Bil Hybrid wedi'i gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 o'r Ddeddf;

(ii)    os oes cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol (o fewn ystyr adran 113(1)(b) o'r Ddeddf) wedi'i wneud gan y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â'r cyfeiriad hwnnw; a

(iii)   os nad yw'r naill gyfeiriad na'r llall wedi'i benderfynu neu wedi'i waredu fel arall.

26B.109 Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.108 gan y Senedd, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Cwnsler Cyffredinol a'r Twrnai Cyffredinol am y ffaith honno.

26B.110 Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.108, bydd y Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl tynnu'r cyfeiriad a wnaed mewn perthynas â'r Bil o dan adran 112 yn ôl yn dilyn cais am dynnu'r cyfeiriad yn ôl o dan adran 113(2)b o'r Ddeddf.

26B.111 Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Senedd ailystyried y Bil Hybrid:

(i)     os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir mewn perthynas â’r Bil o dan adran 112 o’r Ddeddf na fyddai'r Bil Hybrid neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd;

(ii)    os gwneir gorchymyn mewn perthynas â'r Bil Hybrid o dan adran 114 o'r Ddeddf; neu

(iii)   os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir o dan adran 111B(2)b o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil Hybrid a basiwyd gan y Senedd, bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

26B.112  Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.111, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i’r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Senedd.

26B.113  Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng dechrau'r Cyfnod Ailystyried a dyddiad cyfarfod cyntaf y Senedd sy'n ystyried trafodion y Cyfnod Ailystyried.

26B.114  Rhaid i'r trafodion yn y Cyfnod Ailystyried gael eu hystyried gan y Senedd mewn cyfarfod llawn.

26B.115  Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Hybrid yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26B.122, ac ym marn y Llywydd, wedi'u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy'n destun y canlynol:

(i)     y cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol;

(ii)    penderfyniad y Goruchaf Lys; neu

(iii)   y Gorchymyn o dan adran 114 o'r Ddeddf.

26B.116  Oni bai bod y Senedd wedi penderfynu, drwy gynnig gan y Pwyllgor Busnes, ym mha drefn y mae'r gwelliannau i gael eu gwaredu, rhaid eu gwaredu yn y drefn y mae'r darpariaethau y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Hybrid.

26B.117  Ar ôl gwaredu'r holl welliannau yn nhrafodion y Cyfnod Ailystyried, ac yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26B.117B, caiff unrhyw Aelod gynnig heb hysbysiad fod y Senedd yn cymeradwyo Bil Hybrid a ailystyriwyd. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o'r fath a rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig.

26B.117A Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Hybrid a ailystyriwyd yn cael ei gymeradwyo nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

26B.117B Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil Hybrid ar ôl y cyfnod ailystyried, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil Hybrid hwnnw ei gymeradwyo oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Senedd.

Ailystyried Biliau Hybrid a wrthodwyd

26B.117C Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig bod y Senedd yn ailystyried y Bil Hybrid os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir o dan adran 111B(2)a o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil Hybrid a wrthodwyd gan y Senedd, nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y Bil Hybrid sy'n destun y cyfeiriad yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

26B.117D Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.117C, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Senedd. 

26B.117E Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Hybrid a ailystyriwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26B.117C.

26B.117F Yn y Cyfnod Ailystyried yn unol â Rheol Sefydlog 26B.117C, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i gymeradwyo'r Bil Hybrid. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o'r fath a rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig.

26B.117G Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.117F nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil Hybrid, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

Gwelliannau i Filiau Hybrid

26B.118 Mae Rheolau Sefydlog 26B.119 i 26B.127 yn gymwys i welliannau yn ystod trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, trafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd a thrafodion y Cyfnod Ailystyried.

26B.119  Rhaid i’r Llywydd benderfynu ar ffurf briodol gwelliannau i Fil Hybrid.

26B.120  Ni chaniateir ystyried gwelliant, ac eithrio gwelliant hwyr, oni bai ei fod wedi’i gyflwyno o leiaf bum diwrnod gwaith cyn iddo gael ei ystyried.

26B.121 Caiff unrhyw Aelod ychwanegu ei enw i welliant (ac eithrio gwelliant hwyr) drwy hysbysu’r Clerc ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd y diwrnod gwaith cyn bod y gwelliant i fod i gael ei ystyried.

26B.122  Nid yw gwelliant yn dderbyniadwy:

(i)     os nad yw ar ei ffurf briodol yn unol â Rheol Sefydlog 26B.119;

(ii)    os nad yw’n berthnasol i’r Bil Hybrid neu ddarpariaethau’r Bil Hybrid y byddai’n ei ddiwygio;

(iii)   os yw’n anghyson â’r egwyddorion cyffredinol fel yr adroddwyd arnynt gan y pwyllgor ac fel y bernir y cytunwyd arnynt gan y Senedd; neu

(iv)   os yw’n anghyson â phenderfyniad sydd eisoes wedi’i wneud yn y cyfnod pryd y mae’r gwelliant yn cael ei gynnig.

26B.123  Caniateir cyflwyno gwelliant i welliant ac, o’i ddethol, rhaid iddo gael ei waredu cyn y gwelliant y byddai’n ei ddiwygio, a rhaid i Reolau Sefydlog 26B.119 i 26B.127 fod yn gymwys yn unol â hynny.

26B.124  Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26B.72, caniateir i welliant (ac eithrio gwelliant hwyr) gael ei dynnu'n ôl gan yr Aelod a’i cyflwynodd ar unrhyw adeg cyn y diwrnod y mae’n cael ei ystyried ond dim ond gyda chytundeb unfrydol unrhyw Aelodau sydd wedi ychwanegu eu henwau i’r gwelliant. Os na sicrheir cytundeb o’r fath, daw’r gwelliant yn welliant yn enw’r Aelod cyntaf a ychwanegodd ei enw i’r gwelliant ac nad yw’n cytuno i’r gwelliant gael ei dynnu'n ôl.

26B.125  Caiff Cadeirydd y pwyllgor neu’r Llywydd, yn ôl fel y digwydd, grwpio gwelliannau at ddibenion dadleuon fel y gwêl yn dda. Ni chaniateir i welliant a drafodwyd fel rhan o grŵp gael ei drafod eto pan ddaw’n amser ei waredu.

26B.126  Os na fydd Aelod a gyflwynodd welliant yn cynnig y gwelliant pan ddaw’n amser trafod y gwelliant hwnnw, caniateir i’r gwelliant gael ei gynnig:

(i)        yn y pwyllgor adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, gan aelod o’r pwyllgor; neu

(ii)       yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd, neu yn nhrafodion y Cyfnod Ailystyried, gan unrhyw Aelod arall.

26B.127  Caniateir i welliant sydd wedi’i gynnig gael ei dynnu'n ôl gan yr Aelod a’i cynigiodd, ond dim ond:

(i)     yn y pwyllgor adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, os na fydd aelod o’r pwyllgor yn gwrthwynebu; neu

(ii)    yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd, neu yn nhrafodion y Cyfnod Ailystyried, os na fydd Aelod yn gwrthwynebu.

Cydsyniad Ei Mawrhydi a Dug Cernyw

26B.128  Os yw Bil Hybrid yn cynnwys darpariaeth, neu’n cael ei ddiwygio i gynnwys unrhyw ddarpariaeth a fyddai, pe bai’r Bil Hybrid yn Fil ar gyfer Deddf Senedd y Deyrnas Unedig, yn gofyn cydsyniad Ei Mawrhydi neu gydsyniad Dug Cernyw, rhaid i’r Senedd beidio â thrafod y cwestiwn a ddylai’r Bil Hybrid gael ei basio (neu ei gymeradwyo yn dilyn y Cyfnod Ailystyried) oni bai bod y cydsyniad hwnnw ar gyfer y ddarpariaeth honno wedi’i ddynodi gan aelod o’r llywodraeth mewn cyfarfod o’r Senedd.

Penderfyniadau Ariannol

26B.129  Rhaid i’r Llywydd benderfynu ym mhob achos a oes angen penderfyniad ar gyfer Bil Hybrid o dan Reolau Sefydlog 26B.130 i 26B.135.

26B.130  Os yw Bil Hybrid yn cynnwys darpariaeth:

(i)     sy'n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru, neu

(ii)    y byddai ei heffaith debygol yn arwain at:

(a)    cynnydd arwyddocaol yn y gwariant a godir ar y Gronfa honno;

(b)   gwariant arwyddocaol sy’n daladwy o’r Gronfa honno ar wasanaeth neu ddiben newydd; neu

(c)    cynnydd arwyddocaol yn y gwariant sy'n daladwy o'r Gronfa honno ar wasanaeth neu ddiben presennol,

ni chaniateir cymryd dim trafodion ar y Bil Hybrid mewn unrhyw Gyfnod ar ôl i’r Pwyllgor Bil Hybrid gyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 26B.52(i), (ii) a (iii) oni bai bod y Senedd wedi cytuno, drwy benderfyniad ariannol, y caniateir i’r gwariant neu’r cynnydd yn y gwariant gael ei godi ar y Gronfa honno neu, yn ôl fel y digwydd, ei dalu ohoni.

26B.131  Os yw:

(i)     Bil Hybrid yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n gosod neu’n cynyddu (neu sy’n rhoi pŵer i osod neu i gynyddu) unrhyw dâl, neu fel arall yn ei gwneud yn ofynnol (neu’n rhoi pŵer i’w gwneud yn ofynnol) i unrhyw daliad gael ei wneud; a

(ii)    yn ofynnol, gan neu o dan adran 120(1) o’r Ddeddf, i’r person y mae’r tâl neu’r taliad yn daladwy iddo dalu symiau a dderbynnir i Gronfa Gyfunol Cymru (neu os byddai’n ofynnol gwneud hynny heblaw am unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan adran 120(2)),

ni chaniateir cymryd dim trafodion ar y Bil Hybrid mewn unrhyw Gyfnod ar ôl i’r Pwyllgor Bil Hybrid gyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 26B.52(i), (ii) a (iii) oni bai bod y Senedd, drwy benderfyniad ariannol, wedi cytuno â’r tâl, y cynnydd neu’r taliad.

26B.132  Mewn perthynas â Rheol Sefydlog 26B.131:

(i)     bydd yn gymwys dim ond os yw’r tâl, y cynnydd yn y tâl neu’r taliad yn arwyddocaol; a

(ii)    ni fydd yn gymwys os yw’r tâl, y cynnydd yn y tâl neu’r taliad:

(a)    yn ymwneud â darparu nwyddau ac yn rhesymol o’i gymharu â’r nwyddau a ddarperir; neu

(b)   wedi’i gyfeirio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at adennill cost darparu unrhyw wasanaeth y mae’r tâl yn cael ei osod ar ei gyfer neu y mae’n ofynnol gwneud y taliad ar ei gyfer.

26B.133  Os byddai gwelliant (neu welliannau) i Fil Hybrid, o’i dderbyn (neu o’u derbyn), yn golygu y byddai angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil Hybrid hwnnw na fyddai ei angen fel arall, ni chaniateir cymryd dim trafodion ar y gwelliant (neu’r gwelliannau) oni bai bod y Senedd wedi derbyn cynnig ar gyfer penderfyniad ariannol o’r fath.

26B.134  Dim ond aelod o’r llywodraeth a gaiff wneud cynnig ar gyfer penderfyniad ariannol. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o’r fath.

26B.135  Oni bai:

(i)     bod hysbysiad ynglŷn â chynnig ar gyfer unrhyw benderfyniad ariannol y gofynnir amdano mewn perthynas â Bil Hybrid gan Reol Sefydlog 26B.130 neu 26B.131 yn cael ei gyflwyno o fewn chwe mis i'r dyddiad i'r Pwyllgor Bil Hybrid gyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 26B.52(i), (ii) a (iii); a

(ii)    bod y cynnig yn cael ei dderbyn,

               mae’r Bil Hybrid yn methu.

Hysbysu ynghylch Cydsyniad Brenhinol i Ddeddfau Hybrid y Senedd

26B.136  Rhaid i’r Clerc hysbysu’r Senedd ynglŷn â’r dyddiad y bydd Deddf Hybrid y Senedd yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

Biliau Hybrid yn Methu, yn Cael eu Gwrthod neu’n Cael eu Tynnu’n ôl

26B.137  Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26B.117C, os bydd Bil Hybrid yn methu neu’n cael ei wrthod gan y Senedd, rhaid peidio â chymryd dim trafodion pellach ar y Bil Hybrid hwnnw a rhaid peidio â chyflwyno Bil Hybrid sydd, ym marn y Llywydd, yn yr un telerau neu delerau tebyg, yn yr un Senedd o fewn y cyfnod o chwe mis ar ôl y dyddiad y methodd y Bil Hybrid neu y cafodd ei wrthod.

26B.138  Mae Bil Hybrid yn methu os nad yw wedi’i basio neu wedi’i gymeradwyo gan y Senedd cyn diwedd y Senedd y’i cyflwynwyd ynddo.

26B.139  Pan fydd Bil Hybrid yn methu o dan Reol Sefydlog 26B.138, caiff aelod o’r Llywodraeth gyflwyno Bil Hybrid yn yr un telerau yn y Senedd nesaf.  Rhaid i destun y Bil Hybrid a gaiff ei gyflwyno fod yr un fath â'r fersiwn a oedd yn cael ei hystyried gan y Senedd flaenorol ar ddyddiad diddymu’r Senedd.

26B.140  Rhaid i'r dogfennau i gyd-fynd â'r Bil yn y Senedd flaenorol y cawsant eu cyhoeddi neu eu gosod yn unol â Rheol Sefydlog 15 hyd at ddyddiad diddymu’r Senedd gael eu defnyddio at ddibenion y Bil Hybrid pan fo'n cael ei ailgyflwyno yn y Senedd nesaf.

26B.141  Dim ond yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad cyfarfod cyntaf y Senedd nesaf ac yn dod i ben ar y degfed diwrnod gwaith ar hugain ar ôl y dyddiad hwnnw y caniateir cyflwyno Bil Hybrid o dan Reol Sefydlog 26B.139.

26B.142  Rhaid i unrhyw wrthwynebiadau a gyflwynwyd yn ystod y Senedd flaenorol gael eu trin fel gwrthwynebiadau i'r Bil Hybrid a gyflwynir yn y Senedd nesaf a rhaid i unrhyw benderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Bil Hybrid yn ystod y Senedd flaenorol mewn perthynas â'r gwrthwynebiadau hynny fod yn gymwys. Rhaid peidio â chael unrhyw gyfnod gwrthwynebu pellach ar gyfer Bil Hybrid a gyflwynir yn y Senedd nesaf yn ychwanegol at y cyfnod gwrthwynebu a gafwyd ar gyfer y Bil Hybrid yn y Senedd flaenorol.

26B.143  Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26B.144, os nad oedd y Cyfnod yr oedd y Bil Hybrid ynddo ar ddyddiad diddymu'r Senedd ar ben, rhaid i drafodion y Bil Hybrid a gyflwynir yn y Senedd nesaf fel arfer gychwyn ar ddechrau'r Cyfnod. 

26B.144  Caiff y trafodion gychwyn yn ddiweddarach yn ystod Cyfnod Ystyriaeth Fanwl os yw'r Aelod sy'n gyfrifol a phob person a roddodd dystiolaeth lafar i'r Pwyllgor Bil Hybrid a sefydlwyd yn y Senedd flaenorol naill ai:

(i)     yn rhoi'r dystiolaeth honno ar lafar i'r Pwyllgor Bil Hybrid a sefydlir yn y Senedd nesaf ("y Pwyllgor newydd"); neu 

(ii)    yn cytuno y caiff aelodau'r Pwyllgor newydd weld recordiad neu ddarllen trawsgrifiad o'r holl dystiolaeth a roddwyd yn lle hynny.

26B.145  Pan fydd asesydd wedi'i benodi ond heb gyflwyno adroddiad cyn i'r Senedd gael ei diddymu, rhaid i'r Pwyllgor Bil Hybrid a sefydlir yn y Senedd nesaf ystyried adroddiad yr asesydd.

26B.146  Caniateir i Fil Hybrid gael ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg gan yr Aelod sy’n gyfrifol amdano ond rhaid peidio â’i dynnu'n ôl ar ôl i'r Ystyriaeth Gychwynnol gael ei chwblhau ac eithrio gyda chytundeb y Senedd.


 

27. RHEOL SEFYDLOG 27 – Is-ddeddfwriaeth (ac eithrio Is-ddeddfwriaeth sy’n Ddarostyngedig i Weithdrefn  Arbennig y Senedd)

Memoranda Esboniadol

27.1              Rhaid cael Memorandwm Esboniadol i gyd-fynd ag unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Senedd a rhaid i’r Memorandwm Esboniadol gynnwys unrhyw Asesiad Effaith Reoliadol a baratoir mewn perthynas â’r offeryn.

27.1A      Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Senedd y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn gymwys iddo gynnwys y datganiad a'r rhesymeg sy'n ofynnol gan baragraff 4(3) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. 

27.1B      Yn achos unrhyw Orchymyn drafft yn y Cyfrin Gyngor i'w wneud o dan adran 116C o'r Ddeddf, rhaid i'r Memorandwm Esboniadol gynnwys y wybodaeth a ganlyn:

(i)     yr effaith y byddai'r Gorchymyn drafft yn ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd;

(ii)    esboniad ynghylch pam mae'r Gorchymyn drafft yn briodol;

(iii)   amcanion polisi datganoli'r dreth; a

(iv)   manylion unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd a chrynodeb o ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw.

Cynnig ar gyfer Dirymu (Gweithdrefn Penderfyniad Negyddol)

27.2              Yn achos unrhyw offeryn statudol:

(i)        sy’n agored i gael ei ddirymu yn unol â phenderfyniad gan y Senedd; neu

(ii)      sy’n cael ei osod ar ffurf drafft ond nad yw’n gallu cael ei wneud os caiff y drafft ei anghymeradwyo,

caiff y Senedd, heb fod yn hwyrach na 40 diwrnod ar ôl i’r offeryn gael ei osod, benderfynu i ddirymu’r offeryn neu, yn ôl fel y digwydd, i anghymeradwyo’r drafft.

27.3              Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig sydd i’w benderfynu o dan Reol Sefydlog 27.2.

27.4              Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig sydd i’w benderfynu o dan Reol Sefydlog 27.2.

Cynnig ar gyfer Cymeradwyo (Gweithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol)

27.5              Yn achos unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Senedd nad yw, oni bai bod y Senedd yn ei gymeradwyo drwy gynnig, yn gallu:

(i)        cael ei wneud;

(ii)      dod i rym; neu

(iii)     parhau mewn grym ar ôl y cyfnod a bennwyd yn y deddfiad sy'n rhoi'r pŵer i wneud yr offeryn,

caiff unrhyw aelod o'r llywodraeth gyflwyno cynnig o dan Reol 27.5 i gymeradwyo'r offeryn neu'r offeryn drafft.

27.6              Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o dan Reol Sefydlog 27.5.  

27.6A      Yn achos Gorchymyn drafft yn y Cyfrin Gyngor i'w wneud o dan adran 116C o'r Ddeddf, nid yw Rheol Sefydlog 27.6 yn gymwys, ond ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig o dan Reol Sefydlog 27.5 os na fyddai'n glir, ar sail penderfyniad gan y Senedd i gymeradwyo'r cynnig fel y'i diwygiwyd gan welliant o'r fath fod y Senedd wedi cymeradwyo'r Gorchymyn drafft.

27.7              Ni chaniateir ystyried cynnig o dan Reol Sefydlog 27.5 yn y cyfarfod llawn nes y bydd naill ai:

(i)        y pwyllgor sy'n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheolau Sefydlog 21.2, 21.3 a 27.8A (lle y bo’n berthnasol) ac unrhyw bwyllgor arall, sydd wedi rhoi'r hysbysiad a grybwyllir yn Rheol Sefydlog 27.8, wedi cyflwyno adroddiad ar yr offeryn neu'r drafft; neu

(ii)      20 diwrnod wedi mynd heibio ers i'r offeryn neu'r offeryn drafft gael ei osod;

pa un bynnag yw'r cyntaf.

27.7A      Os bydd y deddfiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r offeryn statudol neu'r offeryn statudol drafft gael ei osod gerbron y Senedd yn pennu amserlen mewn perthynas ag ystyriaeth y Senedd o'r offeryn statudol neu'r offeryn statudol drafft, ni fydd Rheol Sefydlog 27.7 yn gymwys.

27.7B      Yn achos Gorchymyn drafft yn y Cyfrin Gyngor i'w wneud o dan adran 116C o'r Ddeddf, nid yw Rheol Sefydlog 27.7 yn gymwys, ac ni chaniateir ystyried cynnig o dan Reol Sefydlog 27.5 yn y Cyfarfod Llawn nes y bydd naill ai:

(i)     y pwyllgor sy'n gyfrifol am y swyddogaethau a nodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3 ac unrhyw bwyllgor arall, sydd wedi rhoi'r hysbysiad a grybwyllir yn Rheol Sefydlog 27.8, wedi cyflwyno adroddiad ar yr offeryn drafft; neu

(ii)    40 diwrnod wedi mynd heibio ers i'r offeryn neu'r offeryn drafft gael ei osod;

pa un bynnag yw’r cyntaf.

27.8              Os bydd unrhyw bwyllgor, ac eithrio’r pwyllgor sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3, yn bwriadu cyflwyno adroddiad ar offeryn neu offeryn drafft y mae Rheol Sefydlog 27.5 yn gymwys iddo, rhaid iddo roi hysbysiad i’r llywodraeth ei fod yn bwriadu gwneud hynny heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl i’r offeryn neu’r drafft gael ei osod.

27.8A      Caiff y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19 ystyried unrhyw offeryn neu offeryn drafft sy’n ymwneud â threthi datganoledig y mae Rheol Sefydlog 27.5 yn gymwys iddo , yn ogystal â’r pwyllgor sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a nodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3.  Nid yw Rheol Sefydlog 27.8 yn gymwys i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19 mewn perthynas ag unrhyw gyfryw offeryn neu offeryn drafft.

27.9              Os bydd unrhyw bwyllgor yn ystyried unrhyw offeryn neu offeryn drafft y mae Rheol Sefydlog 27.5 yn gymwys iddo, caiff yr aelod o’r llywodraeth a’i gosododd (neu aelod arall o’r llywodraeth a enwebir gan Brif Weinidog Cymru i fod yn gyfrifol amdano) fod yn bresennol yn y pwyllgor a chymryd rhan yn nhrafodion y pwyllgor sy’n ymwneud â’r offeryn neu’r drafft ond ni chaiff bleidleisio.

Offerynnau Statudol Drafft y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn gymwys iddynt

27.9A      Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod unrhyw offeryn statudol drafft y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn gymwys iddo.

27.9B      Os:

(i)     cyflwynodd y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 21.3B adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 21.4B gydag argymhelliad mai'r weithdrefn gadarnhaol yw'r weithdrefn briodol ar gyfer offeryn; a

(ii)    bod Gweinidogion Cymru o'r farn serch hynny mai'r weithdrefn briodol ar gyfer yr offeryn yw'r weithdrefn penderfyniad negyddol;

rhaid i’r Memorandwm Esboniadol a osodir yn unol â Rheol Sefydlog 27.1 esbonio pam nad yw Gweinidogion Cymru yn derbyn argymhelliad y pwyllgor.

Peidio â Diwygio Offerynnau

27.10          Ni chaniateir diwygio offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae Rheolau Sefydlog 27.2 neu 27.5 yn gymwys iddo.

Tynnu Offerynnau yn ôl

27.11          Caniateir i offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodwyd gerbron y Senedd gael ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg gan yr aelod o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am yr offeryn hwnnw.

Cyfrifo Dyddiau

27.12          Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o ddyddiau at ddibenion Rheol Sefydlog 27, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Senedd wedi’i ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

Cynigion Eraill mewn Perthynas ag Offerynnau neu Offerynnau Drafft

27.13          Nid yw Rheolau Sefydlog 27.1 i 27.9 yn rhagfarnu hawl unrhyw Aelod i gyflwyno unrhyw gynnig arall mewn perthynas ag offeryn neu offeryn drafft.

Cymhwyso’r Rheol Sefydlog at Is-ddeddfwriaeth Arall

27.14          Mae Rheolau Sefydlog 27.1 i 27.13 yn gymwys hefyd, gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol, i unrhyw is-ddeddfwriaeth arall (ac eithrio is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i Weithdrefn Arbennig y Senedd o dan Reol Sefydlog 28) ar ffurf adroddiad, canllawiau, cod ymarfer neu ddogfen arall y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddynt:

(i)        cael eu gosod gerbron y Senedd, a

(ii)      bod yn ddarostyngedig i unrhyw un o weithdrefnau’r Senedd sydd â’r un effaith neu effaith gyfatebol i’r rhai a grybwyllir yn Rheol Sefydlog 27.2 neu 27.5.


 

28. RHEOL SEFYDLOG 28 – Gweithdrefn Arbennig y Senedd

28.1              Mae Rheol Sefydlog 28 yn gymwys i sut mae Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol yn arfer unrhyw bŵer i wneud neu i gadarnhau is-ddeddfwriaeth sydd, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad, yn destun gweithdrefn arbennig y Senedd.

28.2              Rhaid peidio â chymryd bod deiseb a gyflwynir yn unol â Rheol Sefydlog 28 yn ddeiseb sy’n dod o fewn Rheol Sefydlog 23 ac, at ddibenion Rheolau Sefydlog 28, y “deisebydd” neu’r “gwrth-ddeisebydd” yw’r person sy’n cyflwyno’r ddeiseb neu’r wrth-ddeiseb yn y drefn honno.

28.3              Ni chaniateir i unrhyw is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd gael ei gwneud neu ei chadarnhau oni bai ei bod wedi’i gosod gerbron y Senedd a’i bod wedi cydymffurfio â Rheolau Sefydlog 28.4 i 28.26.

28.4              Ni chaniateir i is-ddeddfwriaeth y mae Rheol Sefydlog 28 yn gymwys iddi gael ei gosod gerbron y Senedd nes y cydymffurfiwyd â gofynion y deddfiad galluogi (os oes gofynion o’r fath) mewn perthynas â’r canlynol:

(i)        cyhoeddi neu gyflwyno hysbysiadau;

(ii)      ystyried gwrthwynebiadau;

(iii)     cynnal ymchwiliadau neu drafodion eraill cyn i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud neu ei chadarnhau,

ac nes y bydd yr aelod o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am yr is-ddeddfwriaeth wedi ardystio y cydymffurfiwyd â hwy.

28.5              Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 28.4, caiff yr aelod o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am yr is-ddeddfwriaeth osod drafft ohoni gerbron y Senedd a rhaid iddo roi hysbysiad cyhoeddus ynglŷn â hawl unrhyw berson i gyflwyno deiseb i’r Senedd yn erbyn ei gwneud neu ei chadarnhau.

28.6              Rhaid i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi o leiaf unwaith mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r is-ddeddfwriaeth ddrafft yn ymwneud â hi. Rhaid i’r hysbysiad ddatgan:

(i)        effaith gyffredinol yr is-ddeddfwriaeth ddrafft a lle y gall gael ei harchwilio yn y Senedd ac mewn man yn yr ardal y mae’n ymwneud â hi;

(ii)      y caniateir i ddeisebau gael eu cyflwyno i’r Llywydd yn erbyn yr is-ddeddfwriaeth ddrafft o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith sy’n dechrau ar y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad gyntaf mewn papur newydd;

(iii)     y caiff deiseb naill ai gofyn i ddiwygiadau penodol gael eu gwneud i’r is-ddeddfwriaeth ddrafft cyn iddi gael ei gwneud (gan bennu’r diwygiadau y gofynnir amdanynt), neu ofyn iddi beidio â chael ei gwneud; a

(iv)     bod yn rhaid i’r deisebydd roi sylw i unrhyw ganllawiau ysgrifenedig a gyhoeddir gan y Llywydd ar y mater hwn.

28.7              Y Llywydd sydd i fod yn gyfrifol am dderbyn deisebau.

28.8              Os na ddaw deiseb i law o fewn y cyfnod a bennwyd yn Rheol Sefydlog 28.6(ii), rhaid i’r Llywydd gyflwyno adroddiad yn unol â hynny i’r Senedd cyn gynted â phosibl.

28.9              Os bydd y Llywydd yn cyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 28.8, caiff yr aelod o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am yr is-ddeddfwriaeth ei gwneud neu ei chadarnhau.

28.10          Rhaid i’r Llywydd ystyried unrhyw ddeiseb sy’n dod i law a rhoi gwybod i’r Senedd am ei chynnwys a nifer y llofnodion arni cyn gynted â phosibl ar ôl i’r cyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad cyhoeddus ddod i ben.

28.11          Mae gan ddeisebydd sail wreiddiol dros wrthwynebu os byddai’r is-ddeddfwriaeth yn effeithio ar ei eiddo neu ei fuddiannau. Mae gan ddeisebydd sy’n gymdeithas amwynder neu’n gorff tebyg sail wreiddiol o’r fath dros wrthwynebu os byddai’r is-ddeddfwriaeth yn effeithio ar fuddiant y mae’n ei gynrychioli.

28.12          Os yw’r Llywydd o’r farn nad yw unrhyw ddeiseb sy’n dod i law yn datgelu sail wreiddiol dros wrthwynebu’r is-ddeddfwriaeth (neu ran ohoni), rhaid i’r Llywydd hysbysu’r deisebydd yn unol â hynny a chaniatáu i’r deisebydd gyflwyno sylwadau iddo.

28.13          Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau o’r fath, os daw’r Llywydd i’r casgliad bod deiseb:

(i)        yn datgelu sail wreiddiol dros wrthwynebu’r is-ddeddfwriaeth (neu ran ohoni); neu

(ii)      heb ddatgelu sail wreiddiol o’r fath dros wrthwynebu,

rhaid i’r Llywydd gyflwyno adroddiad ar y ffaith honno i’r Senedd cyn gynted â phosibl a hysbysu’r deisebydd yn unol â hynny.

28.14          Mewn achos sy’n dod o fewn Rheol Sefydlog 28.13(i), rhaid i adroddiad y Llywydd ddatgan bod yn rhaid i’r ddeiseb gael ei hystyried gan y Senedd.

28.15          Mewn achos sy’n dod o fewn Rheol Sefydlog 28.13(ii), caiff yr aelod o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am yr is-ddeddfwriaeth ei gwneud neu ei chadarnhau.

28.16          Mewn achos sy’n dod o fewn Rheol Sefydlog 28.13(i) ac os yw’r ddeiseb yn gofyn i ddiwygiadau gael eu gwneud i’r is-ddeddfwriaeth, caiff y Llywydd benderfynu y byddai’r diwygiadau y gofynnwyd amdanynt, ym marn y Llywydd, yn effeithio ar fuddiannau personau eraill.

28.17          Os bydd y Llywydd yn penderfynu o dan Reol Sefydlog 28.16 fod y ddeiseb yn gofyn am unrhyw ddiwygiad o’r fath, rhaid i’r Llywydd:

(i)        cynnwys yn ei adroddiad i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 28.13 ei benderfyniad o dan Reol Sefydlog 28.16;

(ii)      rhoi gwybod i’r deisebydd am ei benderfyniad o dan Reol Sefydlog 28.16; a

(iii)     gwahodd gwrth-ddeisebau.

28.18          Os caiff gwrth-ddeisebau eu gwahodd yn unol â Rheol Sefydlog 28.17(iii), mae darpariaethau Rheolau Sefydlog 28.6 i 28.15 yn gymwys i’r gwrth-ddeisebau hynny fel y maent yn gymwys i ddeisebau.

28.19          Os bydd y Llywydd yn cyflwyno adroddiad i’r Senedd fod yn rhaid i ddeiseb gael ei hystyried gan y Senedd, rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyfeirio deiseb o’r fath (ac unrhyw wrth-ddeiseb) at bwyllgor sydd i’w sefydlu yn unol â Rheol Sefydlog 16.5 i ystyried y ddeiseb (a’r wrth-ddeiseb) ac i gyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 28.22.

28.20          Nid yw Rheolau Sefydlog 17.12 (Aelod yn peidio â bod yn aelod o bwyllgor os yw’n ymuno â grŵp gwleidyddol neu’n ymadael ag ef), 17.48 (dirprwyo yng nghyfarfodydd pwyllgorau) a 17.49 (Aelodau nad ydynt yn aelodau o’r pwyllgor yn cymryd rhan mewn cyfarfod pwyllgor) yn gymwys i bwyllgor a sefydlir o dan Reol Sefydlog 28.19.

28.21          Mae gan y deisebydd, unrhyw wrth-ddeisebydd, yr aelod o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am yr is-ddeddfwriaeth ac unrhyw geisydd am yr is-deddfwriaeth hawl i gael eu gwrando gerbron y pwyllgor naill ai yn bersonol neu drwy gael eu cynrychioli.

28.22          Rhaid i’r pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Senedd gydag argymhelliad y dylai’r is-ddeddfwriaeth:

(i)        peidio â chael ei gwneud neu ei chadarnhau;

(ii)      cael ei gwneud neu ei chadarnhau heb ei diwygio; neu

(iii)     cael ei gwneud neu ei chadarnhau gydag unrhyw ddiwygiadau sy’n hwylus ym marn y pwyllgor er mwyn rhoi ar waith yn llwyr neu’n rhannol unrhyw ddeiseb (neu wrth-ddeiseb) a chydag unrhyw ddiwygiadau canlyniadol, os oes rhai, sy’n briodol ym marn y pwyllgor.

28.23          Os bydd y pwyllgor yn adrodd na ddylai’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud neu ei chadarnhau, ni chaniateir cymryd rhagor o drafodion ynglŷn â hi, ond nid yw hyn yn atal aelod o’r llywodraeth rhag gosod rhagor o is-ddeddfwriaeth ddrafft gerbron y Senedd.

28.24          Os bydd y pwyllgor yn adrodd y dylai’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud neu ei chadarnhau heb ei diwygio, caiff yr aelod o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am yr is-ddeddfwriaeth ei gwneud neu ei chadarnhau.

28.25          Os bydd y pwyllgor yn adrodd y dylai’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud neu ei chadarnhau gyda diwygiadau, caniateir iddi gael ei gwneud neu ei chadarnhau gyda’r diwygiadau hynny.

28.26          Os bydd yr aelod o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am yr is-ddeddfwriaeth o’r farn nad yw’n hwylus ei gwneud neu ei chadarnhau fel y cynigiwyd ei diwygio, naill ai mae’n rhaid iddi gael ei thynnu'n ôl (heb ragfarnu gosod rhagor o is-ddeddfwriaeth ddrafft gerbron y Senedd) neu caiff yr aelod o’r llywodraeth sy’n gyfrifol amdani gyflwyno cynnig y dylai’r Senedd gytuno iddi gael ei gwneud neu ei chadarnhau heb y diwygiadau a argymhellwyd gan y pwyllgor.


 

29. RHEOL SEFYDLOG 29 – Cydsyniad mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU

Biliau Senedd y DU sy’n Gwneud Darpariaeth y mae Angen Cydsyniad y Senedd ar ei chyfer

29.1              Yn Rheol Sefydlog 29, ystyr “Bil perthnasol” yw Bil sy'n cael ei ystyried yn Senedd y DU ac sy'n gwneud darpariaeth (“darpariaeth berthnasol”) mewn perthynas â Chymru:

(i)        at unrhyw ddiben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd (ac eithrio darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, dros dro, atodol neu ddarpariaethau arbed sy'n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd); neu

(ii)      sy'n addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

29.2              Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod memorandwm (“memorandwmcydsyniad deddfwriaethol”) mewn perthynas â'r canlynol:

(i)        unrhyw Fil gan Lywodraeth y DU sy'n Fil perthnasol pan y'i cyflwynir i'r Tŷ cyntaf, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl ei gyflwyno;

(ii)      unrhyw Fil Aelod Preifat yn Senedd y DU a oedd yn Fil perthnasol pan y'i cyflwynwyd ac sy'n dal yn Fil perthnasol ar ôl y cyfnod diwygio cyntaf yn y Tŷ y'i cyflwynwyd ynddo, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl iddo gwblhau'r cyfnod hwnnw; 

(iii)     unrhyw Fil a gyflwynir yn Senedd y DU sydd (neu a fyddai), yn rhinwedd gwelliannau:

(a)       a dderbynnir; neu

(b)      a gyflwynir gan un o Weinidogion y Goron neu a gyhoeddir gydag enw un o Weinidogion y Goron yn eu cefnogi,

yn y naill Dy neu'r llall, yn gwneud darpariaeth berthnasol am y tro cyntaf neu y tu hwnt i derfynau unrhyw gydsyniad a roddwyd o'r blaen gan y Senedd, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl i'r gwelliannau gael eu cyflwyno neu eu derbyn.

29.2A      Rhaid i unrhyw aelod, ac eithrio aelod o'r llywodraeth, sy'n bwriadu cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â Bil perthnasol osod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn gyntaf, ond rhaid iddo beidio â gwneud hynny fel rheol nes bod aelod o'r llywodraeth wedi gosod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil hwnnw.

29.2B      Rhaid i’r Llywydd osod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas ag unrhyw Fil Preifat y DU sy’n Fil perthnasol pan y’i cyflwynir i’r Tŷ cyntaf, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl ei gyflwyno.

29.2C      Rhaid i unrhyw aelod, ac eithrio’r Llywydd, sy’n bwriadu cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Preifat perthnasol osod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn gyntaf, ond rhaid iddo beidio â gwneud hynny fel rheol nes bod y Llywydd wedi gosod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Preifat hwnnw.

29.3              Rhaid i femorandwm cydsyniad deddfwriaethol:

(i)        crynhoi amcanion polisi'r Bil;

(ii)      pennu i ba raddau y mae (neu y byddai) y Bil yn gwneud darpariaeth berthnasol;

(iii)     esbonio a fernir ei bod yn briodol i'r ddarpariaeth honno gael ei gwneud ac iddi gael ei gwneud drwy gyfrwng y Bil;

(iv)     os yw'r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth berthnasol sy'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth, nodi gweithdrefn  y Senedd (os oes un) y mae'r is-ddeddfwriaeth sydd i'w gwneud wrth arfer y pŵer i ddod oddi tani; a

(v)       os gosodwyd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol eisoes mewn perthynas â'r un darpariaethau yn yr un Bil, nodi sut a pham y mae'r memorandwm newydd yn wahanol i'r memorandwm blaenorol.

29.3A      Nid yw Rheol Sefydlog 29.3(iii) yn gymwys i femorandwm a osodir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 29.2B.

29.4              Rhaid i'r Pwyllgor Busnes:

(i)        fel rheol gyfeirio unrhyw femorandwm cydsyniad deddfwriaethol at bwyllgor neu bwyllgorau i'w ystyried; a

(ii)      sefydlu a chyhoeddi amserlen i'r pwyllgor neu'r pwyllgorau ystyried y memorandwm a chyflwyno adroddiad arno.

29.5              [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad y Senedd ar 01 Mai 2013]

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol

29.6              Ar ôl i femorandwm cydsyniad deddfwriaethol gael ei osod, caiff unrhyw aelod, yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 29.2A a 29.2C, gyflwyno cynnig (“cynnig cydsyniad deddfwriaethol”) sy'n gofyn i'r Senedd gytuno i ddarpariaeth berthnasol gael ei chynnwys mewn Bil perthnasol.

29.7              Rhaid i gynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd wedi'i gyflwyno gael ei ystyried gan y Senedd.

29.8              Pan gaiff memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ei gyfeirio gan y Pwyllgor Busnes i'w ystyried gan bwyllgor neu bwyllgorau yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, ni chaniateir trafod cynnig cydsyniad deddfwriaethol cysylltiedig naill ai:

(i)        nes bod y pwyllgor neu’r pwyllgorau wedi cyflwyno adroddiad arno yn unol â Rheol Sefydlog 29.4; neu

(ii)      nes y dyddiad cau erbyn pryd y mae'n ofynnol i bwyllgor gyflwyno adroddiad arno yn unol â Rheol Sefydlog 29.4.


 

30. RHEOL SEFYDLOG 30 – Hysbysu mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU

Biliau Senedd y DU sy’n Gwneud Darpariaeth y mae Angen Hysbysu’r Senedd yn ei chylch

30.1              Yn Rheol Sefydlog 30, ystyr “Bil perthnasol” yw Bil sy'n cael ei ystyried yn Senedd y DU ac sy'n gwneud darpariaeth (“darpariaeth berthnasol”) mewn perthynas â Chymru (ac eithrio darpariaeth sy'n ddarpariaeth berthnasol o fewn ystyr Rheol Sefydlog 29.1) sy'n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru neu'r Cwnsler Cyffredinol (ac eithrio darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, dros dro, atodol neu ddarpariaethau arbed sy'n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd), neu, hyd y gŵyr y Llywodraeth, y Senedd neu Gomisiwn y Senedd.

Datganiadau Ysgrifenedig mewn Perthynas â Biliau Perthnasol Senedd y DU

30.2              Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod datganiad ysgrifenedig mewn perthynas â:

(i)        unrhyw Fil gan Lywodraeth y DU sy'n Fil perthnasol pan y'i cyflwynir i'r Tŷ cyntaf, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl ei gyflwyno;

(ii)      unrhyw Fil Aelod Preifat yn Senedd y DU a oedd yn Fil perthnasol pan y'i cyflwynwyd ac sy'n dal yn Fil perthnasol ar ôl y cyfnod diwygio cyntaf yn y Tŷ y'i cyflwynwyd ynddo, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl iddo gwblhau'r cyfnod hwnnw; 

(iii)     unrhyw Fil a gyflwynir yn Senedd y DU sydd (neu a fyddai), yn rhinwedd gwelliannau:

(a)       a dderbynnir; neu

(b)      a gyflwynir gan un o Weinidogion y Goron neu a gyhoeddir gydag enw un o Weinidogion y Goron yn eu cefnogi,

yn y naill Dŷ neu'r llall, yn gwneud darpariaeth berthnasol, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl i'r gwelliannau gael eu cyflwyno neu eu derbyn.

30.3              Rhaid i'r datganiad ysgrifenedig:

(i)        crynhoi amcanion polisi'r Bil;

(ii)      pennu i ba raddau y mae (neu y byddai) y Bil yn gwneud darpariaeth berthnasol; a

(iii)     esbonio a fernir ei bod yn briodol i'r ddarpariaeth honno gael ei gwneud ac iddi gael ei gwneud drwy gyfrwng y Bil.


 

30A.       RHEOL SEFYDLOG 30A - Cydsyniad mewn Perthynas ag Offerynnau Statudol a Wneir gan Weinidogion y DU

Is-ddeddfwriaeth a Wneir gan Weinidogion y DU sy’n Gwneud Darpariaeth y mae Angen Cydsyniad y Senedd ar ei chyfer

 

30A.1      Yn Rheol Sefydlog 30A, ystyr “offeryn statudol perthnasol” yw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y bydd Gweinidogion y DU yn ei osod gerbron Senedd y DU sy’n gwneud darpariaeth (“darpariaeth berthnasol”) mewn perthynas â Chymru sy’n diwygio deddfwriaeth sylfaenol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd (ac eithrio darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, dros dro, atodol neu ddarpariaethau arbed sy’n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd).

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

30A.2      Rhaid i aelod o’r llywodraeth osod memorandwm (“memorandwm cydsyniad offeryn statudol”) mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol perthnasol y bydd Gweinidogion y DU yn ei osod gerbron Senedd y DU, a hynny dim mwy na thri diwrnod fel rheol ar ôl ei osod gerbron Senedd y DU.

30A.3      Rhaid i unrhyw aelod, ac eithrio aelod o’r llywodraeth, sy’n bwriadu cyflwyno cynnig cydsyniad offeryn statudol mewn perthynas ag offeryn statudol perthnasol osod memorandwm cydsyniad offeryn statudol yn gyntaf, ond rhaid iddo beidio â gwneud hynny fel rheol nes bod aelod o’r llywodraeth wedi gosod memorandwm cydsyniad offeryn statudol mewn perthynas â’r offeryn statudol hwnnw.

30A.4      Rhaid i femorandwm cydsyniad offeryn statudol:

(iii)     crynhoi amcan yr offeryn statudol;  

(iv)     pennu i ba raddau y mae (neu y byddai) yr offeryn statudol yn gwneud darpariaeth berthnasol;         

(v)       esbonio a fernir ei bod yn briodol i’r ddarpariaeth honno gael ei gwneud ac iddi gael ei gwneud drwy gyfrwng yr offeryn statudol;

(vi)     os gosodwyd memorandwm cydsyniad offeryn statudol eisoes mewn perthynas â’r un darpariaethau yn yr un offeryn statudol, nodi sut a pham y mae’r memorandwm newydd yn wahanol i’r memorandwm blaenorol.

30A.5      Ar yr un pryd ag y bydd yn gosod memorandwm cydsyniad offeryn statudol, rhaid i’r llywodraeth osod yr offeryn statudol neu’r offeryn statudol drafft ac unrhyw ddeunydd ategol, gan gynnwys Memoranda Esboniadol ac Asesiadau Effaith Reoliadol, a gaiff eu paratoi gan Weinidogion y DU.

30A.6      Caiff y pwyllgor sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheol Sefydlog 21.7 (y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 30A fel “y pwyllgor cyfrifol”) ystyried unrhyw femorandwm cydsyniad offeryn statudol.

30A.7      Caiff y pwyllgor cyfrifol wahodd pwyllgorau eraill hefyd i ystyried memorandwm.

30A.8      Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol ac unrhyw bwyllgor arall sy’n ystyried y memorandwm gyflwyno adroddiad i’r Senedd cyn pen 35 diwrnod ar ôl i’r memorandwm gael ei osod, oni bai bod y Pwyllgor Busnes yn sefydlu ac yn cyhoeddi amserlen wahanol sy’n ymestyn y cyfnod hwn.

30A.9      Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o ddyddiau at ddibenion Rheol Sefydlog 30A.8, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Senedd wedi’i ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

30A.10    Ar ôl i femorandwm cydsyniad offeryn statudol gael ei osod, caiff unrhyw aelod, yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 30A.3, gyflwyno cynnig (“cynnig cydsyniad offeryn statudol”) sy’n gofyn i’r Senedd gytuno i ddarpariaeth berthnasol gael ei chynnwys mewn offeryn statudol perthnasol.

30A.11    Rhaid i gynnig cydsyniad offeryn statudol sydd wedi’i gyflwyno gael ei ystyried gan y Senedd.

30A.12    Ni chaniateir trafod cynnig cydsyniad offeryn statudol nes bod y pwyllgor cyfrifol ac unrhyw bwyllgor arall sy’n ystyried y memorandwm cydsyniad offeryn statudol wedi cyflwyno adroddiad arno, neu nes bod y terfyn amser perthnasol ar gyfer cyflwyno adroddiad wedi mynd heibio, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.8.

Cydymffurfio â Deddfau Seneddol

30A.13    Os yw’r gweithdrefnau ar gyfer sicrhau cydsyniad y Senedd i offeryn statudol wedi’u nodi mewn Deddf Seneddol, caiff y Pwyllgor Busnes addasu’r weithdrefn a nodir yn Rheol Sefydlog 30A yn ôl yr angen, er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf  berthnasol.


 

30B.     RHEOL SEFYDLOG 30B – Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU o dan y Ddeddf sy'n cyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru dros dro

Rheoliadau a wneir gan un o Weinidogion y Goron o dan adrannau 109A ac 80(8) o'r Ddeddf

30B.1      Yn Rheol Sefydlog 30B, ystyr "rheoliadau drafft perthnasol" yw rheoliadau drafft y mae un o Weinidogion y Goron yn cynnig eu gosod gerbron Senedd y DU, yn unol ag adran 109A neu 80(8) o'r Ddeddf.

30B.2      Rhaid i Weinidogion Cymru osod rheoliadau drafft perthnasol gerbron y Senedd heb fod yn hwyrach nag un diwrnod gwaith ar ôl iddynt gael copi ohonynt yn unol ag adran 109A(6)(a) neu 80(8F)(a) o'r Ddeddf.

Memorandwm Penderfyniad Cydsynio

30B.3      Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod memorandwm ("memorandwm penderfyniad cydsynio") mewn perthynas ag unrhyw reoliadau drafft perthnasol heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl i gopi o'r rheoliadau drafft perthnasol gael ei ddarparu i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 109A(6)(a) neu 80(8F)(a) o'r Ddeddf.

30B.4      Rhaid i femorandwm penderfyniad cydsynio:

(i)     crynhoi effaith y rheoliadau drafft perthnasol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu swyddogaethau Gweinidogion Cymru;

(ii)    gwneud argymhellion o ran a ddylai'r rheoliadau drafft perthnasol gael eu cymeradwyo wedi hynny gan Weinidogion y DU;

(iii) esbonio'r rhesymau dros yr argymhelliad a wnaed yn (ii).

30B.5      Rhaid i'r Pwyllgor Busnes gyfeirio unrhyw femorandwm penderfyniad cydsynio at bwyllgor neu bwyllgorau i'w ystyried.

Cynnig Penderfyniad Cydsynio

30B.6      Ar ôl gosod memorandwm penderfyniad cydsynio, a heb fod yn hwyrach na 33 diwrnod ar ôl i Weinidogion Cymru gael copi o’r rheoliadau drafft perthnasol yn unol ag adran 109A(6)(a) neu 80(8F)(a) o’r Ddeddf, rhaid i aelod o'r llywodraeth osod cynnig ("cynnig penderfyniad cydsynio") ar gyfer penderfyniad naill ai'n rhoi neu'n gwrthod cydsyniad y Senedd i osod y rheoliadau drafft perthnasol gerbron Senedd y DU.

30B.7      Rhaid i'r Senedd ystyried cynnig penderfyniad cydsynio sydd wedi'i gyflwyno.

30B.8      Ni chaniateir i gynnig penderfyniad cydsynio gael ei drafod nes y bydd naill ai:

(i)    y pwyllgor neu'r pwyllgorau wedi cyflwyno adroddiad ar y memorandwm penderfyniad cydsynio cysylltiedig; neu

(ii)    33 diwrnod wedi mynd heibio ers i Weinidogion Cymru gael copi o'r rheoliadau drafft perthnasol yn unol ag adran 109A(6)(a) neu 80(8F)(a) o'r Ddeddf.

Cyfrifo Dyddiau

30B.9      Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o ddyddiau at ddibenion Rheol Sefydlog 30A, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Senedd wedi’i ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

Datganiadau Ysgrifenedig

30B.10    Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod gerbron y Cynullaid unrhyw ddatganiad ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru i Weinidog y Goron fel a grybwyllwyd yn adran 157ZA(2)(b)(ii) o'r Ddeddf, a hynny heb fod yn hwyrach nag un diwrnod gwaith fel rheol ar ôl darparu'r datganiad.

Adroddiadau mewn Cysylltiad â Chyfyngiadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir

30B.11    Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod gerbron y Senedd gopi o unrhyw adroddiad a ddarperir i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 4(4) o Ran 2 o Atodlen 3 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 heb fod yn hwyrach nag un diwrnod gwaith ar ôl i'r adroddiad ddod i law.

30B.12    Mewn perthynas ag unrhyw reoliadau drafft a fyddai, os cânt eu cymeradwyo gan Senedd y DU, yn dirymu cyfyngiadau cyfraith yr UE a ddargedwir a osodir ar y Senedd neu Weinidogion Cymru o dan adran 109A neu 80(8) o'r Ddeddf, rhaid i aelod o'r llywodraeth osod gerbron y Senedd ddatganiad yn esbonio'r effaith y byddai'r rheoliadau drafft yn ei chael ar gymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl i'r rheoliadau drafft gael eu gosod gerbron Senedd y DU.


 

30C.     RHEOL SEFYDLOG 30C - Hysbysu mewn perthynas ag Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 na chânt eu gosod gerbron y Senedd.

Offerynnau Statudol y mae angen hysbysu'r Senedd yn eu cylch

30C.1      Yn Rheol Sefydlog 30C, ystyr "offeryn statudol perthnasol" yw offeryn statudol, neu offeryn statudol drafft, a wnaed, neu sydd i'w gwneud, gan Weinidog y DU sy'n gweithredu ar ei ben ei hun o dan adrannau 8, 9 neu 23 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 neu Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, sy'n cynnwys darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.

Datganiadau Ysgrifenedig mewn perthynas ag Offerynnau Statudol Perthnasol

30C.2      Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod datganiad ysgrifenedig yn rhoi hysbysiad o unrhyw offeryn statudol perthnasol, fel arfer o fewn tri diwrnod gwaith ar ôl ei osod gerbron Senedd y DU.

30C.3      Rhaid i'r datganiad ysgrifenedig:

(i)     crynhoi diben yr offeryn statudol;   

(ii)    nodi unrhyw effaith y caiff yr offeryn statudol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a / neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru; a

(iv)     pan fo Gweinidogion Cymru wedi cydsynio i Weinidogion y DU wneud yr offerynnau statudol perthnasol, esbonio'r rhesymau pam y rhoddwyd cydsyniad.

 


 

31. RHEOL SEFYDLOG 31 – Adroddiadau ar y Trafodion

31.1              Rhaid i’r Comisiwn wneud trefniadau, yn unol â gofynion adran 31(6) o’r Ddeddf, lle y bo’n gymwys, ar gyfer:

(i)        cadw cofnod o benderfyniadau’r Senedd, gan gynnwys penderfyniadau pwyllgorau ac is-bwyllgorau;

(ii)      cofnodi trafodion y Senedd, gan gynnwys trafodion pwyllgorau ac is-bwyllgorau a gynhelir yn gyhoeddus; a

(iii)     cyhoeddi’r cofnod hwnnw o benderfyniadau ac adroddiad ar y trafodion.


 

32. RHEOL SEFYDLOG 32 – Ymddygiad y Cyhoedd

32.1              Caiff y Llywydd wneud rheolau a fydd yn pennu’r amodau y mae’n rhaid i aelodau’r cyhoedd a fydd yn bresennol yn nhrafodion y Senedd neu’n cymryd rhan ynddynt gydymffurfio â hwy.

32.2              Caiff y Llywydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw aelod o’r cyhoedd gael ei wahardd o drafodion y Senedd os yw’n ymddwyn yn anystywallt neu’n groes i’r drefn, neu os yw’n ymyrryd fel arall â chynnal busnes y Senedd yn y modd priodol.

32.3              Mae gan gadeirydd pwyllgor bwerau cyfatebol i bwerau’r Llywydd o dan Reol Sefydlog 32.2 os yw’r aelod o’r cyhoedd yn bresennol yn unrhyw un o drafodion y pwyllgor hwnnw neu’n cymryd rhan ynddynt.


 

33. RHEOL SEFYDLOG 33 – Ail-wneud y Rheolau Sefydlog, eu Diwygio a’u Hatal Dros Dro

Ail-wneud y Rheolau Sefydlog a’u Diwygio

33.1              Rhaid i’r Pwyllgor Busnes, o fewn amser rhesymol, ystyried unrhyw gynnig a wneir iddo gan o leiaf chwe Aelod ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, a chyflwyno adroddiad ar y cynnig hwnnw (a chaiff unrhyw ddiwygiad o’r fath fod yn ddiwygiad ar unrhyw Reol Sefydlog neu ran o Reol Sefydlog).

33.2              Rhaid i gynnig ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu ddiwygio’r Rheolau Sefydlog gael ei gyflwyno a’i gynnig mewn cyfarfod llawn gan y Pwyllgor Busnes.

33.3              Os caiff penderfyniad i ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog ei basio drwy bleidlais, nid yw’n dod i rym oni bai bod o leiaf ddwy ran o dair o’r Aelodau sy’n pleidleisio yn cefnogi’r cynnig.

33.4              Daw penderfyniad i ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu i ddiwygio’r Rheolau sefydlog i rym ar unwaith oni bai bod y penderfyniad yn darparu fel arall.

33.5              Caiff penderfyniad i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog ddarparu bod unrhyw Reol Sefydlog, neu unrhyw ddiwygiad iddi, yn un dros dro (a phennu pa mor hir y bydd yn parhau).

Atal y Rheolau Sefydlog Dros Dro

33.6              Caniateir i unrhyw Reol Sefydlog neu unrhyw ran ohoni gael ei hatal dros dro at ddiben neu ddibenion penodol ac mewn perthynas â diwrnod penodol drwy gynnig a gyflwynir gan unrhyw Aelod.

33.7              Os caiff cynnig i atal Rheol Sefydlog neu ran ohoni dros dro ei basio drwy bleidlais, nid yw’n dod i rym oni bai bod o leiaf ddwy ran o dair o’r Aelodau sy’n pleidleisio yn cefnogi’r cynnig.

33.8              Rhaid i gynnig o dan Reol Sefydlog 33.6 gael ei gyflwyno nid llai nag un diwrnod gwaith cyn ei fod i gael ei ystyried gan y Senedd, ond caiff y Llywydd ganiatáu i gynnig o’r fath gael ei wneud heb hysbysiad os yw’n fodlon na fyddai gwneud hynny yn gamddefnydd ar weithdrefnau’r Senedd nac yn amharu ar hawliau lleiafrifoedd yn y Senedd.

33.9              Rhaid hysbysu’r Aelodau ar unwaith cyn gynted ag y caiff cynnig o dan Reol Sefydlog 33.6 ei gyflwyno.